Rhoi gwybod am farwolaeth heb gyfeirnod Dywedwch Wrthym Unwaith

Cysylltwch â’r sefydliadau canlynol os nad ydych yn medru defnyddio’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English)

Cyllid a Thollau EF (CThEF)

Cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF, a fydd yn cyfrifo a yw’r swm cywir o dreth wedi’i thalu gan y person a fu farw. Byddant yn rhoi gwybod i chi ynghylch y canlynol:

  • pa dreth sydd angen iddynt ei chasglu neu ei had-dalu
  • p’un a oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar ran y person – er enghraifft pan fydd yr ystâd yn parhau i gael incwm

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF pwy sy’n delio ag arian, eiddo a meddiannau’r person a fu farw (ysgutor neu weinyddwr yr ystâd). Yn ogystal, gallwch awdurdodi rhywun arall i weithredu ar eich rhan (er enghraifft, asiant neu gyfreithiwr).

Gall Treth Etifeddiant fod yn ddyledus ar ystâd person ar ôl iddo farw.

Mae’n bosibl y gallwch gael cyngor treth yn rhad ac am ddim os ydych ar incwm isel.

Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG)

Cysylltwch â’r Swyddfa Cyfraniadau YG (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn canslo taliadau YG person os oeddent yn hunangyflogedig neu yn talu YG gwirfoddol.

Swyddfa Budd-dal Plant

Cysylltwch â’r Swyddfa Budd-dal Plant os yw plentyn neu’r rhiant yn marw. Mae’n rhaid i chi wneud hyn cyn pen 8 wythnos o’r farwolaeth.

Yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)

Cysylltwch â’r gwasanaeth profedigaeth er mwyn canslo buddiannau a hawliau’r unigolyn, gan gynnwys ei Bensiwn y Wladwriaeth. Byddant yn gwirio os ydych yn gymwys i gael cymorth gyda chostau’r angladd, neu unrhyw fuddiannau eraill.

Gwasanaeth Profedigaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau
Ffôn: 0800 151 2012
Ffôn testun: 0800 731 0464
(os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 151 2012
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – dysgwch sut i
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am hyd at 6pm
Yn y Gymraeg: 0800 731 0453
Ffôn testun Cymraeg: 0800 731 0456
Dysgwch am gostau galwadau

Os oedd y person a fu farw yn byw dramor ar y pryd, cysylltwch â’r Ganolfan Pensiynau Rhyngwladol (yn agor tudalen Saesneg) yn lle.

Pensiynau personol, pensiynau gweithle a phensiynau’r lluoedd arfog

Bydd yr hyn y mae angen i chi ei wneud er mwyn rhoi’r gorau i daliadau pensiwn yn dibynnu ar y math o bensiwn.

Defnyddiwch y gwasanaeth Olrhain Pensiwn er mwyn dod o hyd i fanylion ynghylch pensiwn gweithle neu bensiwn personol yr unigolyn.

Cysylltwch â Chyn-filwyr y DU (yn agor tudalen Saesneg) os oedd gan yr unigolyn bensiwn gyda’r lluoedd arfog.

Cerbydau a thrwyddedau gyrru

Cysylltwch ag Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) os oedd gan yr unigolyn drwydded yrru, neu os oedd yn berchen ar gerbyd.

Swyddfa Basbort EF (HMPO)

Llenwch y ffurflen ‘What to do with a passport when the passport holder has died ?’ (yn agor tudalen Saesneg), a’i hanfon at y cyfeiriad a ddangosir ar y ffurflen.

Nawdd Cymdeithasol yr Alban

Cysylltwch â Nawdd Cymdeithasol yr Alban er mwyn canslo buddiannau a hawliau’r unigolyn gan Lywodraeth yr Alban, er enghraifft Taliadau Plant yr Alban. Byddant yn gallu gwirio os ydych yn gymwys i gael cymorth gyda chostau angladd.

Rhadffôn: 0800 182 2222
Rhif ffôn (os ydych y tu allan i’r DU): +44 (0)1382 931 000 – bydd costau yn berthnasol, ond gallwch ofyn iddynt roi galwad yn ôl i chi
ar gyfer y rhai sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am hyd at 6pm
Dysgwch am gostau galwadau

Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC)

Cysylltwch â’r SLC os oedd yr unigolyn yn gwneud ad-daliadau benthyciad Myfyriwr iddynt.