Arddangos platiau rhif

Printable version

1. Trosolwg

Rhaid i blatiau rhif (a elwir hefyd yn blatiau trwyddedu) ddangos eich rhif cofrestru yn gywir. Ni allwch aildrefnu llythrennau neu rifau, na’u newid fel eu bod yn anodd eu darllen.

Gallech gael dirwy o hyd at £1,000 a bydd eich cerbyd yn methu ei brawf MOT os byddwch yn gyrru gyda phlatiau rhif sydd wedi’u harddangos yn anghywir.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Cyflwynwyd y fformat rhif cofrestru cerbyd presennol yn 2001. Mae’n cynnwys:

  • 2 lythyren (mae’r rhain yn cyfeirio at y rhanbarth yn y wlad lle cafodd eich cerbyd ei gofrestru gyntaf)

  • 2 rif (mae’r rhain yn dweud wrthych pryd y’i cyhoeddwyd)

  • 3 llythyren wedi’u dewis ar hap

Gallwch gael platiau rhif sy’n gwrthsefyll lladrad - mae’r rhain yn ei gwneud yn anoddach i rywun eu tynnu o’ch cerbyd yn gyflym a’u hailddefnyddio. Gofynnwch i’ch deliwr ceir lleol neu gyflenwr platiau rhif cofrestru am ragor o wybodaeth.

Gallwch hefyd gael rhifau cofrestru personol.

2. Rheolau ar gyfer platiau rhif

Rhaid i’r platiau rhif ar eich cerbyd:

  • gael eu gwneud o ddeunydd adlewyrchol

  • arddangos nodau du ar gefndir gwyn (plât blaen)

  • arddangos nodau du ar gefndir melyn (plât cefn)
  • heb gael batrwm cefndir

  • cael eu marcio i ddangos pwy gyflenwodd y platiau rhif

  • cael eu marcio â rhif Safonol Prydeinig - dyma ‘BS AU 145e’ ar gyfer platiau a osodwyd ar ôl 1 Medi 2021

Ni ddylai’r nodau fod yn symudadwy nac yn adlewyrchol. Os cafodd eich platiau rhif eu gosod ar ôl 1 Medi 2021, rhaid iddynt hefyd fod yn un arlliw o ddu.

Gall eich platiau rhif hefyd:

Os ydych yn reidio beic modur neu feic modur tair olwyn

Rhaid i feiciau modur a beiciau modur tair olwyn a gofrestrwyd ar neu ar ôl 1 Medi 2001 arddangos plât rhif ar gefn y cerbyd yn unig.

Os ydych yn reidio beic modur neu feic modur tair olwyn a gofrestrwyd cyn 1 Medi 2001 gallwch hefyd arddangos plât rhif ar y blaen, ond nid oes rhaid ichi wneud hynny.

Dylai rhifau platiau rhif beiciau modur a beiciau modur tair olwyn fod ar 2 linell.

Tynnu ôl-gerbyd

Rhaid i’ch ôl-gerbyd arddangos yr un plât rhif â’r cerbyd rydych yn ei dynnu ag ef. Os ydych yn tynnu mwy nag un ôl-gerbyd, rhaid gosod y plât rhif ar yr ôl-gerbyd yn y cefn.

Mynd ag ôl-gerbydau masnachol neu drwm dramor

Os yw eich ôl-gerbyd angen cael ei gofrestru i fynd dramor, mae angen ichi osod y plât cofrestru ôl-gerbyd ar y cefn, yn ogystal â phlât rhif y cerbyd sy’n tynnu.

Gosodwch blât cofrestru’r ôl-gerbyd mor bell â phosibl oddi wrth plât rhif y cerbyd sy’n tynnu.

Os na allwch osod plât cofrestru’r ôl-gerbyd ar gefn eich ôl-gerbyd, gosodwch ef ar y ddwy ochr yn lle hynny. Gwnewch yn siŵr eu bod i’w gweld yn glir.

Bylchau rhwng llythrennau, a’u maint a’u harddull

Mae angen i’r nodau ar blât rhif fod o uchder a maint penodol.

Darllenwch daflen INF104W: rhifau cofrestru cerbyd a phlatiau rhif - mesur uchder a maint, am ragor o wybodaeth.

Os oes gennych ôl-gerbyd, darllenwch daflen INF291W: rhifau cofrestru ôl-gerbydau a phlatiau rhif.

3. Trefnu i blatiau rhif gael eu gwneud

Efallai y bydd angen ichi drefnu i blât rhif gael ei wneud os, er enghraifft:

  • yw’ch plât rhif wedi’i golli, ei ddifrodi neu ei ddwyn

  • rydych yn mewnforio car i’r DU

  • rydych wedi prynu rhif cofrestru personol

Dim ond gan gyflenwr platiau rhif cofrestredig y gallwch gael plât rhif i’w wneud.

Bydd angen i’r cyflenwr weld dogfennau gwreiddiol sy’n:

  • profi’ch enw a’ch cyfeiriad

  • dangos eich bod yn cael defnyddio’r rhif cofrestru

Dogfennau adnabod

Gallwch ddefnyddio’r canlynol i gadarnhau’ch enw a’ch cyfeiriad:

  • trwydded yrru

  • bil cyfleustodau, Treth Gyngor neu ardrethi o’r 6 mis diwethaf

  • cyfriflen banc neu gymdeithas adeiladu o’r 6 mis diwethaf

  • cerdyn adnabod cenedlaethol

Bydd y canlynol yn cadarnhau’ch enw yn unig:

  • pasbort - nid oes rhaid iddo gael ei gyhoeddi yn y DU

  • cerdyn debyd neu gredyd banc neu gymdeithas adeiladu

  • cerdyn gwarant yr heddlu

  • cerdyn adnabod y lluoedd arfog

Profi y gallwch ddefnyddio’r rhif cofrestru

Rhaid ichi ddod ag un o’r canlynol i ddangos bod gennych hawl i arddangos y rhif cofrestru:

  • tystysgrif gofrestru cerbyd (V5CW neu V5CNI)

  • slip ‘ceidwad newydd’ gwyrdd o’r V5CW neu V5CNI

  • tystysgrif hawl (V750W neu V750NI) i’r rhif

  • dogfen gadw (V778W)

  • nodyn atgoffa adnewyddu treth cerbyd neu HOS (V11W neu V11NI)

  • tystysgrif gofrestru dros dro (V379 neu V379NI)
  • tystysgrif awdurdodi platiau rhif (V948W) gyda stamp swyddogol gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA)

  • tystysgrif awdurdodi platiau rhif electronig (eV948W neu eV948/2W)

  • llythyr awdurdodi gan weithredwr fflyd (gan gynnwys cwmni prydlesu neu logi) yn dyfynnu’r cyfeirnod dogfen o’r dystysgrif gofrestru

  • os yw eich fflyd yn y cynllun ar-alw V5CW newydd (a elwir hefyd yn ‘ataliad V5CW’), PDF o fanylion y cerbyd o’r gwasanaeth gweld cofnod cerbyd          
  • tystysgrif gofrestru ôl-gerbyd y DU (VTRC)

4. Baneri, dynodwyr a sticeri

Gallwch arddangos un o’r baneri canlynol gyda llythrennau adnabod ar ochr chwith y plât rhif:

  • baner yr Undeb (a elwir hefyd yn Jac yr Undeb)
  • Croes San Siôr

  • Croes Sant Andreas - a elwir hefyd y Saltire

  • Draig Goch Cymru

Y llythrennau, neu’r dynodwyr cenedlaethol, y gallwch eu cael yw:

  • UNITED KINGDOM, United Kingdom neu UK

  • GREAT BRITAIN, Great Britain neu GB

  • CYMRU, Cymru, CYM neu Cym

  • ENGLAND, England, ENG, Eng

  • SCOTLAND, Scotland, SCO neu Sco

  • WALES neu Wales

Rhaid i’r faner fod uwchben y dynodwr. Ni allwch gael y faner na’r llythrennau ar ymyl y plât rhif, ac ni all y naill na’r llall fod yn fwy na 50 milimetr o led.

Sticeri ar gyfer gyrru y tu allan i’r DU

Efallai y bydd angen ichi arddangos sticer DU hirgrwn gwyn ar gefn eich cerbyd wrth yrru y tu allan i’r DU. Mae hyn yn dibynnu ar eich plât rhif a ble rydych yn mynd.

Nid oes angen sticer DU arnoch os oes gan eich plât rhif y dynodwr DU gyda baner yr Undeb (a elwir hefyd yn Jac yr Undeb).

Rhaid ichi arddangos sticer DU os oes gan eich plât rhif unrhyw un o’r rhain:

  • rhifau a llythrennau yn unig, dim baner na dynodwr

  • dynodwr GB gyda baner yr Undeb

  • baner yr Undeb Ewropeaidd

  • baner genedlaethol Cymru, Lloegr neu’r Alban

Mae sticeri DU wedi disodli’r hen sticeri GB hirgrwn gwyn. Os oes gennych sticer GB, gorchuddiwch neu tynnwch ef cyn gyrru y tu allan i’r DU.

Peidiwch â rhoi’r sticer ar eich plât rhif.

Gyrru yn Sbaen, Cyprus a Malta

Rhaid ichi arddangos sticer y DU i yrru yn Sbaen, Cyprus a Malta, ni waeth beth sydd ar eich plât rhif.

Gyrru yng Ngweriniaeth Iwerddon

Nid oes angen sticer DU arnoch i yrru yn Iwerddon waeth beth sydd ar eich plât rhif.