Call for evidence outcome

Strategaeth Mynd i'r Afael 芒 Thrais yn erbyn Menywod a Merched 2021-2024: Galwad y Llywodraeth am Dystiolaeth

Updated 21 July 2021

This was published under the 2019 to 2022 Johnson Conservative government

Applies to England and Wales

Mae鈥檙 Galwad hwn am Dystiolaeth yn cychwyn ar 10 Rhagfyr 2020

Mae鈥檙 Galwad hwn am Dystiolaeth yn dod i ben ar 19 Chwefror 2021

Trosolwg

Pwrpas

Ymgysylltu 芒 phobl sydd 芒 phrofiad byw o drais yn erbyn menywod a merched neu farnau arno, y rhai sydd ag arbenigedd mewn gweithio gyda dioddefwyr/goroeswyr, y rhai sy鈥檔 ymwneud 芒 gweithgareddau ataliol, wrth ddarparu gwasanaethau ac, yn fwy cyffredinol, y cymunedau a鈥檙 sefydliadau y mae鈥檙 troseddau hyn yn effeithio arnynt. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr proffesiynol perthnasol, megis y rhai sy鈥檔 gweithio ym maes gofal cymdeithasol, addysg, gorfodi鈥檙 gyfraith, llywodraeth leol, iechyd y cyhoedd a gofal iechyd.

Hyd

Deg wythnos

Ymholiadau (gan gynnwys ceisiadau am y papur mewn fformat arall) i

Strategaeth Trais yn erbyn Menywod a Merched - Galwad am Dystiolaeth
Y Swyddfa Gartref
Interpersonal Abuse Unit
Violence Against Women and Girls Team
5th Floor, Fry Building
2 Marsham Street
Llundain
SW1P 4DF

E-bost: VAWGStrategy2021@homeoffice.gov.uk

Sut i ymateb

Y ffordd hawsaf o ymateb a sicrhau bod eich barnau unigol yn cael eu hystyried yw ymateb i鈥檙 arolwg ar-lein sydd ar gael i鈥檙 cyhoedd yma:

Rhagair yr Ysgrifennydd Cartref

Fel Yr Ysgrifennydd Cartref, diogelwch pobl Prydain yw fy mhrif flaenoriaeth. Dyna pam yr wyf yn hollol glir bod rhaid i ni ddefnyddio pob offeryn posib i fynd i鈥檙 afael 芒 thrais yn erbyn menywod a merched. Nid oes gan y troseddau ffiaidd hyn le yn ein cymdeithas, ac rwyf yn benderfynol o weld mwy o gyflawnwyr yn cael eu dwyn o flaen eu gwell a鈥檙 holl ddioddefwyr a goroeswyr yn derbyn y cymorth y maent yn ei haeddu.

Mae gan droseddau sy鈥檔 effeithio鈥檔 anghymesur ar fenywod a merched, megis trais rhywiol, cam-drin domestig, priodas dan orfod a stelcio ganlyniadau dinistriol. Gallant gael effaith ddwys a hirhoedlog ar y rhai yr effeithir arnynt yn uniongyrchol yn ogystal ag ar gymunedau a chymdeithas gyfan. Credaf yn angerddol fod gennym gyfrifoldeb i helpu鈥檙 dioddefwyr a鈥檙 goroeswyr, a byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i sicrhau bod eu hanghenion wrth wraidd ein hymagwedd.

Rydym eisoes wedi cymryd nifer o gamau pwysig yn y maes hwn, gan gynnwys cryfhau鈥檙 gyfraith ar droseddau megis stelcio, priodas dan orfod ac anffurfio organau cenhedlu benywod.

Rydym hefyd wedi darparu cyllid sylweddol ar gyfer gwasanaethau rheng flaen hanfodol a sefydliadau cymorth, a mwy o ddiogelwch a chymorth i ddioddefwyr a鈥檙 rhai sydd mewn perygl trwy fesurau megis 鈥淐lare鈥檚 Law鈥, sy鈥檔 caniat谩u i fenywod wirio a oes gan eu partner hanes treisgar.

Nid ydym wedi stopio yno. Nid yw cartref yn lle diogel i bawb, a dyna pam mae ein Bil Cam-drin Domestig arloesol mor hanfodol. Bydd yn ategu ein hymateb ar bob lefel - gan gryfhau amddiffyniadau i ddioddefwyr, wrth sicrhau bod cyflawnwyr yn teimlo grym llawn y gyfraith.

I gydnabod y ffaith bod dynion a bechgyn yn profi troseddau sy鈥檔 dod o fewn y diffiniad o drais yn erbyn menywod a merched, yn 2019 fe wnaethom gyhoeddi鈥檙 Datganiad Sefyllfa Dioddefwyr Gwryw trawslywodraethol cyntaf erioed.

鈥 Ond, er gwaethaf y cynnydd rydym wedi鈥檌 wneud, rwy鈥檔 sicr bod rhagor i鈥檞 wneud. Tra bod dioddefwyr yn dioddef o鈥檙 troseddau ffiaidd hyn, rhaid i ni barhau i weithio鈥檔 ddiflino i wella ein hymagwedd. Mae鈥檔 dal yn wir y bydd 1 o bob 5 merch yn y DU yn dioddef ymosodiad rhywiol yn ystod ei hoes. A dros y deng mlynedd diwethaf rydym wedi gweld fathau mwy newydd o鈥檙 troseddau hyn yn dod i鈥檙 amlwg, megis seiber-fflachio a鈥檙 hyn a elwir yn 鈥榰pskirting鈥. Mae hyn yn gwbl annerbyniol, ac mae angen newid sylweddol yn ein hymateb.

Dyna pam y byddaf yn cyhoeddi Strategaeth newydd ar gyfer Trais yn erbyn Menywod a Merched y flwyddyn nesaf a pham fy mod yn cyhoeddi Galwad am Dystiolaeth uchelgeisiol a phellgyrhaeddol i鈥檞 llywio. Rwyf am i鈥檙 Strategaeth newydd ysgogi gwelliannau yn yr ymdrech i dargedu cyflawnwyr; sicrhau ein bod yn gwbl barod i ymateb i natur newidiol y troseddau hyn; ac, yn bwysicaf oll, rhoi dioddefwyr a goroeswyr wrth galon ein hymagwedd.

Er mwyn cyflawni鈥檙 uchelgais hon, mae angen i ni dynnu ar wybodaeth a phrofiad y cyhoedd. Mae hynny鈥檔 cynnwys y rhai sydd wedi cael eu heffeithio鈥檔 uniongyrchol, eu ffrindiau, eu teulu a鈥檜 cydweithwyr. Rydym hefyd yn awyddus i glywed gan sefydliadau sy鈥檔 darparu cymorth i ddioddefwyr a goroeswyr, gweithwyr proffesiynol rheng flaen, ac academyddion. Bydd Nimco Ali OBE, a benodais yn ddiweddar fel Cynghorydd Annibynnol y Llywodraeth ar Fynd i鈥檙 Afael 芒 Thrais yn erbyn Menywod a Merched, yn cefnogi鈥檙 Galwad hwn am Dystiolaeth ac yn sicrhau ein bod yn clywed gan bob rhan o gymdeithas.

Mae trais yn erbyn menywod a merched yn dal i fod yn rhy gyffredin ac, yn uniongyrchol neu鈥檔 anuniongyrchol, mae鈥檔 effeithio ar bob un ohonom. Rwyf yn gadarn yn fy mhenderfyniad i gael gwared ar y cyflawnwyr, wrth ddarparu pob cymorth posibl i ddioddefwyr. Mae鈥檔 hanfodol ein bod, trwy ein Strategaeth newydd, yn nodi ac yn rhoi atebion ymarferol ar waith sy鈥檔 gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl. Dyna mae dioddefwyr y troseddau ofnadwy hyn yn ei haeddu, a dyna sy鈥檔 rhaid i ni ei gyflenwi. Trwy ymateb i鈥檙 Galwad hwn am Dystiolaeth, gallwch sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed a chwarae rhan i鈥檔 helpu i gyflawni hynny.

Y Gwir Anrhydeddus Priti Patel AS

Ysgrifennydd Cartref

Crynodeb Gweithredol

Mae troseddau trais a cham-drin yn cael effaith ddwys a pharhaol ar gymdeithas. Gallant chwalu bywydau dioddefwyr, rhwygo teuluoedd, a niweidio cymunedau cyfan. Nid oes unrhyw set o droseddau yn gwneud hyn yn fwy na鈥檙 rhai sy鈥檔 dod o dan y diffiniad o drais yn erbyn menywod a merched.

Dyna pam mae mynd i鈥檙 afael 芒 thrais yn erbyn menywod a merched yn brif flaenoriaeth i鈥檙 Llywodraeth ac rydym yn benderfynol o gynyddu ein hymateb i atal y troseddau ffiaidd hyn a gwella canlyniadau i ddioddefwyr a goroeswyr.

Ein gweledigaeth yw sicrhau cymdeithas lle gall pobl fyw heb ofni camdriniaeth na thrais. Er mwyn cyflawni鈥檙 weledigaeth hon, byddwn yn parhau i adeiladu ar y sylfaen a osodwyd gan ein strategaethau trais yn erbyn menywod a merched yn 2010 a 2016 gan gydnabod effaith anghymesur y mathau hyn o droseddau a鈥檙 effaith gyfyngol y gall ei chael ar bobl o ran cyrraedd eu potensial llawn.

Er bod trais yn erbyn menywod a merched yn cyffwrdd yn uniongyrchol neu鈥檔 anuniongyrchol 芒 phob un ohonom, mae鈥檙 troseddau erchyll hyn yn parhau i fod yn llawer rhy gyffredin ac wedi鈥檜 cuddio yn ein cymdeithas. Mae trais yn erbyn menywod a merched yn fath o wahaniaethu ac yn groes i hawliau dynol. Ein cydgyfrifoldeb yw nodi a mynd i鈥檙 afael ag agweddau, patrymau ymddygiad ac arferion gormesol sy鈥檔 ceisio sicrhau p诺er a rheolaeth dros ddioddefwyr a goroeswyr y troseddau hyn.

Bu dau ailadroddiad o鈥檙 strategaeth trais yn erbyn menywod a merched ers 2010. Yn yr amser hwnnw, mae鈥檙 Llywodraeth wedi cyflwyno mesurau i fynd i鈥檙 afael ag ystod o droseddau gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) stelcio, treisio, cam-drin wedi鈥檌 seilio ar 鈥榓nnrhydedd鈥 fel y鈥檌 gelwir, anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM) yn ogystal 芒鈥檙 risgiau a鈥檙 niwed sy鈥檔 gysylltiedig 芒 phuteindra a gwaith rhyw. Er bod llawer wedi鈥檌 gyflawni dros y degawd diwethaf, mae mwy i鈥檞 wneud o hyd. Mae鈥檙 risgiau o drais yn erbyn menywod a merched a oedd yn bodoli ddeng mlynedd yn 么l yn dal i fodoli, ond mae cyflymder y newid cymdeithasol a thechnolegol yn golygu bod mathau newydd ac esblygol o droseddau yn erbyn menywod a merched yn dod i鈥檙 amlwg yn barhaus. Mae angen Strategaeth newydd ar gyfer Trais yn erbyn Menywod a Merched er mwyn sicrhau yr eir i鈥檙 afael 芒鈥檙 troseddau hyn yn effeithiol.

鈥 Rydym yn gwybod bod y troseddau hyn yn effeithio鈥檔 anghymesur ar fenywod a merched, ac ni fyddwn byth yn colli golwg ar yr effaith ddinistriol ac eang y gall trais yn erbyn menywod a merched ei chael. Ar yr un pryd, rydym hefyd wedi cyhoeddi鈥檙 Datganiad Sefyllfa Dioddefwyr Gwryw trawslywodraethol cyntaf er mwyn egluro a chryfhau ein hymateb i ddioddefwyr gwrywaidd cam-drin domestig, trais rhywiol, stelcio a鈥檙 hyn a elwir yn gam-drin wedi鈥檌 seilio ar 鈥榓nrhydedd鈥. Mae鈥檙 Llywodraeth hefyd yn cydnabod bod nifer sylweddol o ddynion a bechgyn yn profi troseddau ymosodol a threisgar sy鈥檔 cael eu dal o dan ymbar茅l trais yn erbyn menywod a merched. Yn yr un modd, rydym hefyd yn cydnabod y gall rhai o鈥檙 troseddau hyn gael eu cyflawni gan fenywod hefyd.

Mae鈥檙 pandemig COVID-19 wedi taflu goleuni ar y problemau presennol o gyrchu gwasanaethau yn hawdd ac yn gyflym ac, y straen ar wasanaethau cymorth ar draws y maes cyfan o niweidiau cudd. Mae鈥檔 hanfodol ein bod yn dysgu oddi wrth y gwendidau yn ein systemau a鈥檔 strwythurau y mae鈥檙 pandemig wedi鈥檜 hamlygu mor agored ac yn gweithredu arnynt. Rhaid i ni i gyd sicrhau y cedwir ymwybyddiaeth yn uchel ac yr anogir pob rhan o鈥檙 gymdeithas i chwarae eu rhan wrth fynd i鈥檙 afael 芒 thrais yn erbyn menywod a merched, boed yn ddarparwyr gwasanaeth, cyflogwyr, ysgolion, ffrindiau neu gymdogion.

Rydym yn cydnabod y gall troseddau ym maes trais yn erbyn menywod a merched hefyd gynnwys, neu fod yn gysylltiedig 芒, cham-drin domestig. Gall ymatebion i鈥檙 Galwad hwn am Dystiolaeth, wrth gwrs, gynnwys deunydd sy鈥檔 berthnasol i gam-drin domestig. Fodd bynnag, o ystyried y niwed a achosir, a鈥檙 cynnydd mewn cam-drin domestig a adroddwyd yn ystod cyfyngiadau cenedlaethol COVID-19, ymdrinnir 芒 hyn mewn Strategaeth ategol arall a fydd yn dilyn yn ddiweddarach yn 2021. Bydd y Strategaeth Cam-drin Domestig yn dilyn Cydsyniad Brenhinol y Bil Cam-drin Domestig pwysig, a phroses ymgynghori benodol ddilynol. Mae鈥檔 hanfodol ein bod yn dysgu oddi wrth y gwendidau yn ein systemau a鈥檔 strwythurau y mae鈥檙 pandemig wedi鈥檜 hamlygu mor agored ac yn gweithredu arnynt.

Mewn ymateb i鈥檙 dirywiad mewn atgyfeiriadau, cyhuddiadau, erlyniadau ac euogfarnau am achosion treisio a welsom yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi bod yn cynnal adolygiad i鈥檙 ymateb cyfiawnder troseddol i dreisio, a fydd yn adrodd gyda chynllun gweithredu. Bydd y Strategaeth newydd ar gyfer Trais yn erbyn Menywod a Merched hefyd yn ategu鈥檙 cynllun gweithredu hwn sydd ar ddod .

Rydym yn lansio鈥檙 Galwad hwn am Dystiolaeth er mwyn llywio鈥檙 Strategaeth newydd ar gyfer Trais yn erbyn Menywod a Merched - o ystyried mynychder trais yn erbyn menywod a merched, rydym yn cydnabod bod gan y cyhoedd, gan gynnwys dioddefwyr a goroeswyr, gyfoeth o wybodaeth a phrofiad ynghylch ac o鈥檙 troseddau hyn ac rydym yn awyddus i gael y wybodaeth hon yn uniongyrchol gan oroeswyr, dioddefwyr, tystion a鈥檙 rhai sy鈥檔 gweithio i鈥檞 cefnogi. 鈥 Cwmpas daearyddol y Galwad am Dystiolaeth yw Cymru a Lloegr, er ein bod yn croesawu ymatebion o rannau eraill o鈥檙 DU. Er bod llawer o agweddau ar ddarparu gwasanaethau ar gyfer trais yn erbyn menywod a merched wedi鈥檜 datganoli i Gymru, nid yw trosedd, plismona a chyfiawnder troseddol. O ystyried y meysydd lle mae materion yn croesi drosodd, ac i sicrhau bod y penderfyniadau a wneir o ganlyniad i鈥檙 Galwad hwn am Dystiolaeth yn effeithiol yng nghyd-destun Cymru, bydd y Swyddfa Gartref yn gweithio鈥檔 agos gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y Strategaeth yn effeithiol wrth fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 troseddau hyn a chefnogi dioddefwyr yng Nghymru a Lloegr.

Nod ac Amcanion

Nod y Galwad hwn am Dystiolaeth yw ein galluogi i ddeall gwir raddfa troseddau trais yn erbyn menywod a merched a鈥檜 heffaith, y mesurau a allai helpu i nodi ac atal y troseddau hyn, i ba raddau y mae鈥檙 ddeddfwriaeth a鈥檙 gwasanaethau cyfredol yn cael eu defnyddio鈥檔 effeithiol i fynd i鈥檙 afael 芒 nhw, a nodi enghreifftiau o arfer gorau.

Maint

Mae troseddau trais yn erbyn menywod a merched yn droseddau cudd ac felly mae ein dealltwriaeth o鈥檙 maint a鈥檙 mynychder yn gyfyngedig. Er enghraifft, rydym yn gwybod y gall trais yn erbyn menywod a merched effeithio ar unrhyw berson waeth beth yw eu cefndir, ethnigrwydd, crefydd, oedran neu ryw, ond ychydig o ddealltwriaeth sydd gennym o sut y gellir dadansoddi hyn ar gyfer pob math o drosedd. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd iawn nodi鈥檙 tueddiadau a鈥檙 ysgogwyr y tu 么l i drais yn erbyn menywod a merched.

Fodd bynnag, mae rhai tueddiadau eang y gellir eu nodi yn y data. Gan gymryd troseddau treisio ac ymosodiadau rhywiol fel enghraifft, gwyddom o鈥檙 Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr 2020, a gynhaliwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), am y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020, bod 2.2% o oedolion rhwng 16 a 59 oed wedi profi ymosodiad rhywiol (gan gynnwys troseddau wedi鈥檜 ceisio) yn ystod y flwyddyn ddiweddaraf. Roedd hwn yn ostyngiad sylweddol o鈥檌 gymharu 芒鈥檙 flwyddyn flaenorol (2.9%), wedi鈥檌 ysgogi gan y gostyngiad sylweddol mewn dinoethiad anweddus neu gyffwrdd rhywiol digroeso (2.5% yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2019 o鈥檌 gymharu ag 1.9% yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020).

Er mai dim ond cipolwg ar wir ffigur y treisio a ddigwyddodd, cofnodwyd mwy na 55,000 o ddigwyddiadau trais rhywiol gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr ym mhob un o鈥檙 ddwy flynedd ddiwethaf (ffigurau 2018/19 a 2019/20). Y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020 oedd y flwyddyn gyntaf ers 2012 heb unrhyw gynnydd mewn achosion, fodd bynnag, mae鈥檔 parhau i fod yn fwy na dwbl y ffigur ar gyfer 2013/14. Efallai y bydd y ffigurau hyn yn awgrymu ein bod yn gwella wrth gofnodi trais rhywiol, ac eto mae tystiolaeth hefyd gan wasanaethau cymorth i awgrymu nad yw鈥檙 mwyafrif o ddigwyddiadau trais rhywiol yn cael eu riportio na鈥檜 cofnodi yn yr ystadegau hyn. 鈥 Er bod arolwg yr ONS yn adlewyrchu cynnydd yn nifer yr achosion o droseddau ymosodiadau rhywiol o鈥檙 flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2014, dim ond ychydig o newid a ddangoswyd yn nifer y troseddau hyn a gofnodwyd gan yr heddlu o鈥檙 flwyddyn flaenorol (o 154,213 i 154,113 o droseddau). Y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020 oedd y flwyddyn gyntaf ers 2012 heb unrhyw gynnydd. Gallai hyn awgrymu bod dylanwad gwelliannau mewn arferion cofnodi ar gyfer y drosedd benodol hon yn lleihau. Ar gyfer is-set o heddluoedd sy鈥檔 darparu data i Hyb Data鈥檙 Swyddfa Gartref, roedd 23% o鈥檙 troseddau rhywiol a gofnodwyd gan yr heddlu yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020 yn droseddau nad oeddent yn ddiweddar (y rhai hynny a ddigwyddodd fwy na 12 mis cyn cael eu cofnodi gan yr heddlu) . Er bod troseddau nad ydynt yn ddiweddar yn cyfrannu鈥檔 bwysig at godiadau mewn troseddau rhywiol a gofnodwyd gan yr heddlu mewn blynyddoedd blaenorol, yn y flwyddyn ddiweddaraf, mae adroddiadau o droseddau nad ydynt yn ddiweddar wedi lleihau ac felly nid ydynt bellach yn cyfrannu at gynnydd cyffredinol mewn troseddau rhywiol.

Gwyddom, ers ysgrifennu鈥檙 Strategaeth flaenorol, fod trais yn erbyn menywod a merched wedi esblygu ac yn cwmpasu llawer mwy o ymddygiadau a mathau o droseddau. Rydym hefyd yn gwybod bod ein dealltwriaeth o gyffredinrwydd ac achosion y mathau mwy newydd hyn o drais yn erbyn menywod a merched yn gyfyngedig. Er enghraifft, rydym yn gwybod bod cam-drin ym maes gwneud oedau ar-lein trwy apiau gwneud oedau wedi dod yn broblem wirioneddol i bobl iau, gan niweidio parch ac o bosibl berthnasoedd yn y dyfodol, neu weithredu fel magl ar gyfer erledigaeth bellach. Ac eto nid oes gennym lawer o afael ar faint o bobl sy鈥檔 cael eu heffeithio na faint sydd angen neu sy鈥檔 ceisio cymorth. Nid yw troseddau megis seiber-fflachio, sydd hefyd yn bryder cynyddol i bobl ifanc, er eu bod o bosibl yn droseddol, o reidrwydd yn cael eu dal yn ddigonol neu鈥檔 gywir mewn data swyddogol, os o gwbl. Mae adroddiadau cynyddol hefyd o gam-drin a rhywiaeth eithafol yn dod i鈥檙 amlwg yn y fforymau ar-lein a phlatfformau cyfryngau cymdeithasol yn ogystal ag apiau newydd, er nad oes ffigurau cywir ar gyfer hyn ar gael eto.

Bydd y Galwad hwn am Dystiolaeth yn ceisio amlygu meysydd pryder ar y troseddau cudd hyn a darparu rhywfaint o gyd-destun i鈥檙 camau sy鈥檔 dod allan o鈥檙 Strategaeth.

Effaith

Nod allweddol y Galwad hwn am Dystiolaeth yw dal profiad byw y rhai y mae trais yn erbyn menywod a merched yn effeithio arnynt a deall sut y gallwn ddefnyddio profiadau a gwersi a ddysgwyd i wella ein hymateb i鈥檙 troseddau hyn. Os ydym am gynyddu ein hymateb i atal y troseddau ffiaidd hyn a gwella canlyniadau i ddioddefwyr a goroeswyr, mae鈥檔 hanfodol cael gwell dealltwriaeth o鈥檙 effaith.

Gall fod yn anodd mesur effaith trais yn erbyn menywod a merched, o ystyried ei natur gudd. Fodd bynnag, mae鈥檙 Swyddfa Gartref wedi amcangyfrif y bu costau economaidd a chymdeithasol cam-drin domestig mewn un flwyddyn (a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2017) oddeutu 拢66 biliwn, yn uwch nag unrhyw fath arall o drosedd unigol. Mae amcangyfrifon blaenorol ar gyfer treisio (y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2015) wedi amcangyfrif costau o 拢4.8 biliwn. Er bod llawer ohono鈥檔 parhau i fod yn gudd, mae鈥檔 amlwg bod y troseddau hyn yn cael effaith sylweddol ar y gymdeithas gyfan.

Atal a chymorth

Yn aml gall troseddau trais yn erbyn menywod a merched dderbyn cymorth anghyson neu hyd yn oed annigonol gan y system pan g芒nt eu riportio. Yn aml nhw yw鈥檙 troseddau mwyaf heriol ac anodd i arwain at erlyniadau鈥檔 llwyddiannus, ac mae鈥檙 dirywiad yn y nifer o euogfarnau treisio yn achos penodol, lle mae cyn lleied ag 1% o honiadau treisio bellach yn arwain at euogfarn a lle mae un o bob pedwar dioddefwr yn tynnu eu cefnogaeth i erlyniad yn 么l. Mae鈥檔 bwysig bod y duedd hon, a thueddiadau llai clir mewn mathau eraill o drais yn erbyn menywod a merched, yn cael eu deall yn llawn a鈥檜 trin er mwyn leihau effaith y troseddau hyn ar gymdeithas.

Rydym hefyd yn gwybod mai ond ychydig sydd ar gael o ran atal, yn arbennig ar gyfer y mathau mwyaf diweddar o drais yn erbyn menywod a merched. Prin yw鈥檙 dystiolaeth hefyd ar effeithiolrwydd rhaglenni cyflawnwyr ar gyfer llawer o droseddau trais yn erbyn menywod a merched. Fodd bynnag, mae rhai gwasanaethau ar waith i atal y troseddau hyn rhag digwydd a ddarperir gan arbenigwyr lleol, yn aml gyda chefnogaeth Llywodraeth ganolog. Er enghraifft, prosiectau i helpu menywod sy鈥檔 ymwneud 芒 gwaith rhyw, gr诺p sydd mewn perygl arbennig o drais yn erbyn menywod a merched, i gael eu cefnogi gyda chyngor a mesurau gweithredol i gadw eu hunain yn ddiogel. Mae ymagweddau 鈥榮ystem gyfan鈥, fel yr un a fabwysiadwyd yn Ne Cymru gyda chefnogaeth Cymorth Menywod Cymru ac asiantaethau partner eraill, hefyd wedi llwyddo i fynd i鈥檙 afael ag atal erledigaeth a darparu cymorth cofleidiol.

Mae gwasanaethau cymorth ar waith hefyd trwy linellau cymorth megis y rhai sy鈥檔 cael eu rhedeg gan Rape Crisis a鈥檙 Llinell Gymorth Revenge Porn. Rydym yn gwybod bod y gwasanaethau hanfodol hyn yn chwarae rhan allweddol wrth helpu pobl i ddod trwy brofiadau trawmatig. Gall eu gwaith hefyd helpu i amlygu, trwy gynyddu nifer y galwadau/cysylltiadau, pan fydd galw mawr yn digwydd ac felly pan fydd effaith y drosedd ar gymdeithas ar ei huchaf.

Defnyddio鈥檙 dystiolaeth

Bydd y dystiolaeth a gesglir trwy鈥檙 ymarfer hwn yn llywio cynnwys, gweithredoedd a chyfeiriad cyffredinol Strategaeth newydd ar gyfer Trais yn erbyn Menywod a Merched i redeg rhwng 2021 - 2024 sy鈥檔 cwmpasu hyd y Senedd hon. Bydd y Strategaeth hon yn diffinio gweledigaeth uchelgeisiol y Llywodraeth ar gyfer parhau 芒鈥檌 brwydr i fynd i鈥檙 afael 芒 cham-drin a thrais yn erbyn menywod a merched. Er mwyn gwneud y Strategaeth mor effeithiol ag y gall fod, rydym am gasglu ystod eang o wybodaeth. Rydym yn awyddus i glywed gan bobl sy鈥檔 gweithio ar drais yn erbyn menywod a merched neu droseddau sy鈥檔 gysylltiedig 芒 thrais yn erbyn menywod a merched, gan gynnwys cam-drin domestig, ac yn annog sefydliadau sydd 芒 chyfoeth o brofiad ac arbenigedd i ddarparu gwybodaeth fanwl am y materion y mae鈥檙 cyhoedd yn eu profi.

Rydym hefyd am glywed yn uniongyrchol gan ddioddefwyr/goroeswyr a鈥檙 rhai yr effeithir arnynt yn uniongyrchol neu鈥檔 anuniongyrchol gan drais yn erbyn menywod a merched. Rydym yn cydnabod bod pawb sy鈥檔 dioddef o ganlyniad i drais yn erbyn menywod a merched yn dod o amgylchiadau unigryw a bod ganddynt nodweddion unigryw a all effeithio ar eu profiad. Mae hyn yn cynnwys ffactorau oedran, ethnigrwydd, crefyddol ac anabledd a all lunio profiad rhywun o niwed a mynediad at wasanaethau cymorth. Rydym am i鈥檔 Strategaeth newydd adlewyrchu鈥檙 profiadau amrywiol hyn a mynd i鈥檙 afael 芒鈥檜 gwahanol anghenion. 鈥 ##Ein Hymagwedd

Rydym yn cynnig mabwysiadu ymagwedd dau linyn i ganiat谩u trafodaeth fanwl ond strwythuredig i fynd i鈥檙 afael 芒 rhai them芒u allweddol megis lleihau mynychder a difrifoldeb trais yn erbyn menywod a merched trwy fesur ataliol a chefnogol; gwella canlyniadau i ddioddefwyr/goroeswyr trwy drin y troseddau hyn yn well yn y system cyfiawnder troseddol; a nodi mathau newydd o drais yn erbyn menywod a merched fel y gellir mynd i鈥檙 afael 芒 nhw鈥檔 ddigonol.

Bydd y llinyn cyntaf yn cynnwys ymgysylltu鈥檔 uniongyrchol 芒 dioddefwyr a goroeswyr a chyda鈥檙 cyhoedd. Fel rhan o鈥檔 hail linyn, rydym yn awyddus i glywed gan y rhai sy鈥檔 cynrychioli dioddefwyr, y rhai sy鈥檔 helpu i ddelio 芒 thramgwyddwyr, ac eraill sydd 芒 throsolwg o faterion ym maes trais yn erbyn menywod a merched. Byddwn hefyd yn cynnal grwpiau ffocws manwl ac yn gwahodd aelodau o鈥檙 sector gwirfoddol, academyddion ac arbenigwyr ym maes trais yn erbyn menywod a merched a chyrff cyhoeddus. Gyda鈥檌 gilydd, byddai鈥檙 ddau ymagwedd hyn yn darparu tapestri cyfoethog o ddata a syniadau i ddod i gasgliadau a chamau gweithredu i gyflawni鈥檙 mesurau llwyddiant.

Bydd ymgysylltiad deng wythnos 芒鈥檙 cyhoedd yn ein helpu i gael ymdeimlad cliriach o sut mae鈥檙 troseddau hynny鈥檔 esblygu, deall pam nad yw troseddau鈥檔 cael eu riportio鈥檔 ddigonol, sicrhau bod ein hymateb yn cadw i fyny 芒 thechnoleg, ac i gysylltu 芒 phrofiad y dioddefwr.

Llinyn Cyntaf - Data ymarferol

Nod ffocws y rhan hon o鈥檙 Galwad am Dystiolaeth yw ymgysylltu鈥檔 uniongyrchol ag aelodau o鈥檙 cyhoedd er mwyn deall beth sy鈥檔 gweithio鈥檔 dda a beth y gallwn ei wneud yn well. Trwy ddefnyddio ystod o ymagweddau i roi cyhoeddusrwydd i鈥檔 Galwad am Dystiolaeth, rydym am estyn allan a chasglu tystiolaeth gan y cyhoedd, gan gynnwys pobl nad ydynt fel arfer yn ymgysylltu ag ymgyngoriadau鈥檙 Llywodraeth. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan bobl a allai deimlo nad ydynt wedi鈥檜 cynrychioli鈥檔 ddigonol mewn strategaethau blaenorol neu sy鈥檔 teimlo nad oedd eu hamgylchiadau鈥檔 cael eu cefnogi gan y gwasanaethau presennol. Mae鈥檙 arolygon yn agored i鈥檙 rhai 16 oed neu鈥檔 h欧n, er y bydd y broses ehangach yn darparu cyfleoedd i sicrhau bod profiadau ehangach plant a phobl ifanc yn cael eu hystyried.

Meysydd a Gwmpesir yn yr Arolwg Cyhoeddus

Er mwyn atal, nodi a mynd i鈥檙 afael 芒 thrais yn erbyn menywod a merched yn effeithiol, mae鈥檔 hanfodol bod barnau鈥檙 cyhoedd yn dylanwadu ar ein gwaith parhaus yn y maes hwn. Bydd cydran holiadur ar-lein o鈥檙 Galwad am Dystiolaeth yn anelu at gipio llais y cyhoedd a sut maent yn teimlo am y troseddau hyn.

Trais yn erbyn Menywod a Merched a鈥檙 Niwed Mae鈥檔 ei Achosi i Gymdeithas

Rydym yn cydnabod bod mathau o drais a nodwyd yn erbyn menywod a merched sydd wedi effeithio ar lawer o bobl o gefndiroedd amrywiol. Fodd bynnag, hoffem ddeall mwy am y troseddau hyn fel y gallwn ddeall yn well y gwir ddarlun mewn cymdeithas.

Hoffem i ymatebion i鈥檙 Galwad am Dystiolaeth amlinellu rhai o鈥檙 mathau o droseddau y mae ymatebwyr yn credu sy鈥檔 dod o dan y term 鈥榯rais yn erbyn menywod a merched鈥, ac i ddisgrifio鈥檙 niwed y maent yn ei achosi i ddioddefwyr a chymdeithas. Hoffem hefyd ddeall barn y cyhoedd ynghylch a yw鈥檙 troseddau hyn yn cynyddu o ran mynychder (yn unigol neu yn eu cyfanrwydd) a pha grwpiau sy鈥檔 cael eu heffeithio fwyaf.

Profiadau Uniongyrchol Trais yn erbyn Menywod a Merched

Mae gan bob unigolyn y mae trais yn erbyn menywod a merched yn effeithio arno brofiad unigryw y gallwn ddysgu ohono, trwy enghreifftiau o arfer da sydd wedi helpu pobl trwy eu trawma neu, yn anffodus, lle nad oedd cefnogaeth cystal ag y dylai fod.

Rydym yn ceisio barn dioddefwyr a goroeswyr yn uniongyrchol fel rhan o鈥檙 Galwad am Dystiolaeth hon, trwy arolwg y byddwn yn ei ddosbarthu trwy wasanaethau cymorth arbenigol. Bydd y sefydliadau hyn yn gallu darparu cefnogaeth uniongyrchol i鈥檙 rhai sy鈥檔 ymateb.

Mae croeso hefyd i ddioddefwyr a goroeswyr gwblhau鈥檙 arolwg cyhoeddus, pe baent yn teimlo鈥檔 gyffyrddus yn gwneud hynny.

Troseddau Trais yn Erbyn Menywod a Merched sydd yn esblygu ac yn dod i鈥檙 amlwg

Hoffem i ymatebion i鈥檙 Galwad am Dystiolaeth nodi mathau o droseddau trais yn erbyn menywod a merched sydd yn esblygu ac yn dod i鈥檙 amlwg. Bydd hyn yn ein galluogi i ystyried barnau鈥檙 cyhoedd ar yr hyn y mae ein hymatebwyr yn credu yw鈥檙 troseddau trais yn erbyn menywod a merched sydd yn dod i鈥檙 amlwg ac yn esblygu ac yn ein galluogi i ystyried y goblygiadau i lywio datblygiad y Strategaeth newydd ar gyfer Trais yn erbyn Menywod a Merched.

Dioddefwyr Gwryw

Er gwaethaf y ffaith bod y Strategaeth Terfynu Trais yn erbyn Menywod a Merched yn cipio鈥檙 holl ddioddefwyr, roedd angen y Datganiad Sefyllfa Dioddefwyr Gwryw, a gyhoeddwyd yn 2019, i archwilio鈥檙 heriau a鈥檙 rhwystrau penodol y mae dioddefwyr gwrywaidd yn eu profi o ran ceisio cymorth, ac mae鈥檔 amlygu adnoddau sy鈥檔 ddefnyddiol i gomisiynwyr lleol, wrth gynnal bod trais yn erbyn menywod a merched yn drosedd anghymesur o ran rhyw.

Mae yn ein hymrwymiad i ddynion sy鈥檔 dioddef o鈥檙 troseddau hyn yr hoffem gael ymatebion i鈥檙 Galwad am Dystiolaeth i ystyried yn well sut mae鈥檙 troseddau hyn yn effeithio ar ddioddefwyr gwryw. Dim ond trwy ddeall y materion allweddol y gallwn ni wir adlewyrchu profiadau dioddefwyr gwryw yn y Strategaeth newydd, a fydd yn ystyried yr ymagwedd, y driniaeth a鈥檙 cymorth sydd eu hangen ar y gr诺p hwn.

Ail Llinyn - Data Strategol

Ein hail linyn fydd casglu gwybodaeth strategol trwy gyflwyniadau a grwpiau ffocws gan academyddion ac arbenigwyr yn y maes hwn a鈥檙 rhai sy鈥檔 archwilio troseddau trais yn erbyn menywod a merched sydd yn dod i鈥檙 amlwg ac yn esblygu.

Bydd ein grwpiau ffocws yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) y meysydd dilynol:

  • Tramgwyddwyr a rheoli tramgwyddwyr
  • Treisio a thrais rhywiol
  • Stelcio ac aflonyddu (gan gynnwys aflonyddu cyhoeddus ac yn y gweithle) Dioddefwyr mudol a rhwymedigaethau rhyngwladol
  • Camdriniaeth 鈥榳edi鈥檌 seilio ar anrhydedd鈥 fel y鈥檌 gelwir, priodas dan orfod ac anffurfio organau cenhedlu benywod
  • Dioddefwyr/goroeswyr LGBTQ+
  • Dioddefwyr/goroeswyr Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig
  • Dioddefwyr/goroeswyr Byddar ac Anabl
  • Dioddefwyr/goroeswyr gwrywaidd
  • Niweidiau ar-lein a cham-drin wedi鈥檌 alluogi gan dechnoleg
  • Plant a phobl ifanc
  • Rhywiaeth eithafol
  • Dyletswydd gofal: cyflogwyr ac addysg
  • Puteindra a gwaith rhyw, camfanteisio masnachol, masnachu mewn pobl a chaethwasiaeth fodern
  • Cam-drin economaidd
  • Gweithio amlasiantaethol
  • Y System Cyfiawnder Troseddol Iechyd meddwl (gan gynnwys hunanladdiad a hunan-niweidio)
  • Comisiynu lleol - Datganiad Cenedlaethol Disgwyliadau

Cyflwyniadau ysgrifenedig

Byddwn yn ymgysylltu 芒 sefydliadau arbenigol sydd 芒 chyfoeth o brofiad a dealltwriaeth. Bydd y ffynhonnell werthfawr hon o wybodaeth yn cael ei hystyried yn ganolog wrth gasglu barnau鈥檙 sector am drais yn erbyn menywod a merched i鈥檔 helpu i ysgrifennu鈥檙 Strategaeth newydd.

Rydym hefyd yn croesawu cyflwyniadau gan academyddion ac eraill sydd 芒 diddordeb ac arbenigedd ym maes trais yn erbyn menywod a merched. Gall cyflwyniadau ysgrifenedig gynnwys cyfrannu data cyhoeddedig, ymchwil ac adroddiadau eraill sy鈥檔 berthnasol i drais yn erbyn menywod a merched.

Er mwyn cynorthwyo ein dealltwriaeth o gwmpas troseddau y dylid eu dosbarthu fel trais yn erbyn menywod a merched, byddwn yn gwahodd y sector i gymryd rhan yn y Galwad hwn am Dystiolaeth i ddarparu gwybodaeth bellach am droseddau mwy sefydledig ochr yn ochr 芒 data newydd ar fathau o drais yn erbyn menywod a merched sydd yn esblygu ac sydd newydd ddod i鈥檙 amlwg. Byddwn yn ystyried unrhyw fath o drosedd sy鈥檔 effeithio鈥檔 anghymesur ar fenywod a merched, ochr yn ochr ag edrych yn benodol ar drais rhywiol, ymosodiadau rhywiol, stelcio, cam-drin domestig, priodas dan orfod, cam-drin 鈥榳edi鈥檌 seilio ar anrhydedd鈥 fel y鈥檌 gelwir, rhannu delweddau personol heb gydsyniad, seiber-fflachio, anffurfio organau cenhedlu benywod, aflonyddu rhywiol, aflonyddu ar-lein ac eraill.

Rydym yn chwilio am gyflwyniadau i gynnwys cwmpas, graddfa a chyffredinrwydd y troseddau hyn, lle mae hynny鈥檔 bosibl. Gan arddangos mor glir 芒 phosibl pa mor fawr o broblem yw pob math o drosedd trais yn erbyn menywod a merched, neu pa mor dreiddiol yw鈥檙 troseddau hyn ar draws cymdeithas ac a oes grwpiau penodol sy鈥檔 cael eu heffeithio鈥檔 ddyfnach. Mae gennym ddiddordeb hefyd mewn gwybodaeth am y sbectrwm o fathau o droseddau sy鈥檔 effeithio ar grwpiau penodol, gan gynnwys y rhai 芒 gwendidau penodol.

Mae gwybodaeth am weithgareddau i gynorthwyo atal hefyd yn bwysig, gan helpu i ddiffinio ffyrdd y bydd y Strategaeth newydd yn atal pobl rhag dod yn ddioddefwyr yn y lle cyntaf. Bydd ymatebion sy鈥檔 darparu enghreifftiau o raglenni atal llwyddiannus a syniadau ar sut y gallent gael eu hehangu yn ein helpu i lunio gweithredoedd pellach gan y Llywodraeth i leihau niwed.

Yn gysylltiedig ag atal, ac yr un mor bwysig wrth atal troseddau, fyddai unrhyw dystiolaeth y gall arbenigwyr, sefydliadau ac elusennau ei darparu ar dramgwyddwyr. Bydd y Strategaeth newydd yn cynnwys gwaith o amgylch tramgwyddwyr, ac mae鈥檔 bwysig ein bod yn casglu cymaint o dystiolaeth ag y gallwn ar y sawl sy鈥檔 cyflawni鈥檙 troseddau hyn a鈥檙 hyn sy鈥檔 gweithio i鈥檞 helpu i stopio.鈥

Ni ellir ystyried bod unrhyw Strategaeth yn llwyddiant oni bai ei bod yn cyflenwi ar gyfer dioddefwyr, felly hoffem gyflwyno tystiolaeth i nodi gwasanaethau a chymorth i ddioddefwyr yn glir gan y rhai sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 gwaith hwn neu sydd 芒 gwybodaeth arbenigol amdano. Gallai amlygu arfer gorau yma ochr yn ochr 芒 rhaglenni atal, agor cyfleoedd i ehangu. Bydd nodi meysydd lle mae darpariaeth gwasanaeth yn annigonol neu hyd yn oed yn absennol yn helpu i nodi ffrydiau gwaith penodol i鈥檞 gwella.

Yn yr un modd, byddai cyflwyniadau sy鈥檔 ymwneud ag ymateb y system cyfiawnder troseddol a systemau arall i droseddau trais yn erbyn menywod a merched hefyd yn cael eu croesawu. Rydym yn gwybod, er bod gwelliannau wedi鈥檜 gwneud mewn sawl maes, bod llawer y gellir ei wneud o hyd i wella profiad y dioddefwr ac i sicrhau bod y gosb yn cyd-fynd 芒鈥檙 drosedd a bod y niwed i ddioddefwyr a鈥檜 teuluoedd yn cael ei leihau, yn arbennig o ran troseddu mynych.

Byddem hefyd yn awyddus i ddeall unrhyw faterion allweddol eraill ym maes trais yn erbyn menywod a merched yr hoffech eu hystyried ar gyfer y Strategaeth. Gallai hyn gynnwys gwybodaeth ynghylch rhyngweithio 芒 meysydd troseddu eraill neu feysydd lle gwelir troseddau trais yn erbyn menywod a merched yn dod i鈥檙 amlwg yn y dyfodol. Felly, rydym yn gwahodd cyflwyniadau ysgrifenedig i gwmpasu鈥檙 chwe maes hyn.

Sut i Ymateb

Y ffordd hawsaf o ymateb a sicrhau bod eich barn unigol yn cael ei hystyried yw ymateb i鈥檙 arolwg ar-lein sydd ar gael i鈥檙 cyhoedd yma

Rydym hefyd yn croesawu cyflwyniadau gan academyddion ac eraill sydd 芒 diddordeb ac arbenigedd ym maes trais yn erbyn menywod a merched. Gall cyflwyniadau ysgrifenedig gynnwys cyfraniad data cyhoeddedig, ymchwil ac adroddiadau eraill sy鈥檔 berthnasol i drais yn erbyn menywod a merched.

Gellir anfon cyflwyniadau ysgrifenedig at VAWGStrategy2021@homeoffice.gov.uk

Os na allwch chi neu鈥檙 bobl rydych chi鈥檔 eu cynorthwyo gwblhau arolwg ar-lein neu os hoffech gael fersiwn fwy hygyrch, neu iaith arall, mae fersiynau ychwanegol o鈥檙 arolwg ar gael. Cysylltwch 芒鈥檙 t卯m trwy鈥檙 cyfeiriad e-bost uchod neu trwy鈥檙 post yn:

Ymgynghoriad Strategaeth Trais yn erbyn Menywod a Merched 2020
Y Swyddfa Gartref
Interpersonal Abuse Unit
Violence Against Women and Girls Team
5th Floor, Fry Building
2 Marsham Street
Llundain
SW1P 4DF