Government response to call for evidence: violence and abuse toward shop staff (Welsh translation) (accessible version)
Updated 9 August 2021
Rhagair y Gweinidog
Mae鈥檙 Llywodraeth hon yn cydnabod y gall y cam-drin a鈥檙 trais corfforol a wynebir gan staff siop gael effaith fawr ar eu hiechyd, nid yn unig yn gorfforol ond yn feddyliol ac emosiynol. Mae siopau yn rhan ganolog o鈥檔 cymunedau a chymdogaethau, ac yn y misoedd diwethaf yn fwy nag erioed yn ystod y pandemig coronafeirws. Yn syth ar 么l i鈥檙 Llywodraeth gyflwyno mesurau i reoli lledaeniad y feirws, gweithiodd staff siop yn ddiflino i fwydo鈥檙 genedl, wrth weithredu mesurau ymbellhau cymdeithasol i gadw鈥檙 cyhoedd yn ddiogel. Wrth i gyfyngiadau lacio, a mwy o siopau a busnesau ailagor, maent wedi parhau i wneud yn si诺r y gall pobl siopa鈥檔 ddiogel i helpu i gael yr economi i symud unwaith eto. Hoffwn ddiolch iddynt am eu gwaith caled a phwysleisio pa mor bwysig yw hi fod y rheiny sy鈥檔 gweithio mewn siopau yn rhydd rhag ofni trais neu fygythion.
Mae鈥檙 Alwad am Dystiolaeth wedi bod yn gam pwysig wrth adeiladu ein dealltwriaeth o鈥檙 broblem. Mae wedi rhoi cyfle i bart茂on perthnasol leisio eu barn ac rwy鈥檔 ddiolchgar i bawb a gymerodd yr amser i ymateb. Mae鈥檙 gwaith caled, angerdd ac agwedd benderfynol i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 broblem hon yn glir ac rwy鈥檔 hyderus y gallwn drwy gydweithio, fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 problemau sy鈥檔 codi yn yr ymatebion. Daeth yr ymgynghoriad i ben ym mis Mehefin 2019, ac felly mae鈥檙 ymatebion yn adlewyrchu profiadau manwerthwyr a gweithwyr siop cyn y pandemig. Yng nghyfarfod diweddar y Gr诺p Llywio Trosedd Manwerthu Cenedlaethol, dywedodd manwerthwyr wrthyf eu bod wedi dioddef cynnydd yn yr achosion o gam-drin tuag at eu staff yn ystod y prynu brys ym mis Mawrth, ac yn ystod y misoedd dilynol tra mae鈥檙 mesurau ymbellhau cymdeithasol wedi bod yn eu lle. Mae hyn yn golygu ei bod yn bwysicach fyth i gyhoeddi ymateb y Llywodraeth a dechrau mynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 math hwn o drosedd.
Yng ngoleuni鈥檙 ymatebion a gafwyd i鈥檙 Alwad am Dystiolaeth, rwy鈥檔 glir mai dim ond dechrau鈥檙 broses yw hyn. Rwy鈥檔 gweithio gyda鈥檙 Gr诺p Llywio Trosedd Manwerthu Cenedlaethol (NRCSG), yr ydym yn ei gyd-gadeirio gyda Chonsortiwm Manwerthu Prydain, i ddatblygu a chyflwyno rhaglen o waith i hybu llai o gam-drin a thrais. Mae鈥檙 gr诺p hwn yn dwyn ynghyd sefydliadau masnach, partneriaid gorfodi, y Llywodraeth ac eraill i greu cyd-ddealltwriaeth o鈥檙 broblem a chydweithio i ddod o hyd i ddatrysiadau. Mae鈥檙 ymatebion i鈥檙 Alwad am Dystiolaeth wedi amlygu bod yna rai problemau allweddol, a dim ond drwy鈥檙 Llywodraeth yn gweithio gyda鈥檙 sector y gellir mynd i鈥檙 afael 芒 nhw. Rwy鈥檔 falch o ddweud ein bod eisoes wedi dechrau ar y gwaith pwysig hwn. Wrth i鈥檙 gwaith hwnnw fynd rhagddo, byddwn hefyd yn ystyried unrhyw wersi a phrofiadau newydd gan fanwerthwyr yn ystod y pandemig coronafeirws.
Rwy鈥檔 bryderus yn arbennig o glywed nad yw unigolion yn rhoi gwybod am droseddau manwerthu, gan eu bod yn eu hystyried fel rhan o鈥檜 swydd neu oherwydd nad oes ganddynt yr hyder yn yr ymateb y byddent yn ei gael petaent yn rhoi gwybod. Rhaid i hyn newid: mae鈥檙 Llywodraeth yn disgwyl i鈥檙 holl droseddau gael eu hadrodd i鈥檙 heddlu ac iddynt gael eu hymchwilio yn unol 芒 hynny. Mae鈥檔 annerbyniol bod pobl sydd wedi dioddef trais naill ai ddim yn hyderus yn eu heddlu lleol, neu鈥檔 gyndyn o adrodd am droseddau a gyflawnir yn eu herbyn gan eu cyflogwyr.
Rwyf hefyd yn awyddus i wella ymateb y system cyfiawnder troseddol i droseddau yn erbyn staff siop a sicrhau bod dioddefwyr yn teimlo eu bod yn cael eu clywed a鈥檜 cefnogi. I gyflawni hyn, rhaid i ni sicrhau bod y dulliau a鈥檙 mecanweithiau ar gyfer adrodd troseddau o鈥檙 fath, yn gyson a bod yr ystod lawn o ganlyniadau cyfiawnder troseddol yn cael eu defnyddio鈥檔 effeithiol. Mae hyn yn mynnu bod y Llywodraeth, busnesau, yr heddlu a phartneriaid eraill yn cydweithio i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 problemau hyn.
Edrychaf ymlaen at weld effaith y gwaith hwn.
Kit Malthouse AS
Gweinidog dros Drosedd a Phlismona
1. Cefndir
1. Ar 5 Ebrill 2019, lansiodd y Llywodraeth Alwad am Dystiolaeth ar y broblem o drais a cham-drin tuag at staff siop. Cyhoeddwyd yr Alwad am Dystiolaeth yn dilyn dadleuon yn ystod hynt Deddf Arfau Ymosodol 2019, yn benodol mewn perthynas 芒鈥檙 mater p鈥檜n a ddylai ymosod ar aelod o staff siop gael ei gyfrif fel trosedd. Cr毛wyd model ar gyfer trosedd o鈥檙 fath dan Ddeddf Ymosodiadau ar Weithwyr y Gwasanaethau Brys (Troseddau) 2018. Dadleuodd y rheiny o blaid cyflwyno trosedd newydd, fod staff siop yn aml ar flaen y gad o ran ymdrechion i orfodi鈥檙 gyfraith. Er i鈥檙 ddadl ddigwydd yng nghyd-destun creu trosedd newydd o werthu sylwedd cyrydol i unigolyn dan 18 oed, mae gan y ddadl dros gyflwyno trosedd o ymosod ar weithiwr siop gymhwysiad posib i鈥檙 gweithgarwch a wna gweithwyr siop wrth orfodi cyfyngiadau ar ystod o nwyddau sydd 芒 chyfyngiadau oed arnynt. Daeth yr Alwad am Dystiolaeth i ben ar 28 Mehefin 2019 ac estynnwyd gwahoddiad am sylwadau gan aelodau o鈥檙 cyhoedd, y rheiny鈥檔 gweithio yn y sector, busnesau, yr heddlu a phart茂on eraill sydd 芒 diddordeb.
2. Nod yr Alwad am Dystiolaeth oedd galluogi鈥檙 Llywodraeth i ddeall gwir raddfa鈥檙 broblem o drais a cham-drin tuag at siop staff, y mesurau a all helpu i atal y troseddau hyn a鈥檙 raddfa y mae deddfwriaeth bresennol yn cael ei defnyddio i fynd i鈥檙 afael 芒 nhw, ac adnabod enghreifftiau o arferion da.
3. Canolbwyntiodd ar drais a cham-drin tuag at yr holl staff sy鈥檔 gweithio mewn lleoliad manwerthu (yn cynnwys, er enghraifft, y rheiny鈥檔 gweithio mewn allfeydd manwerthu megis gorsafoedd tr锚n, canol trefi a chanolfannau siopa) a gyflawnir gan aelodau o鈥檙 cyhoedd. Er bod y broblem o drais ac ymosodiadau a gyflawnir yn erbyn y rheiny yn y gwaith yn ymestyn y tu hwnt i staff siop ac y gall effeithio ar ystod o bobl yn darparu gwasanaeth i鈥檙 cyhoedd, prif ffocws yr Alwad hon am Dystiolaeth oedd digwyddiadau mewn lleoliad manwerthu, gan adlewyrchu鈥檙 adroddiadau am ddigwyddiadau cynyddol tuag at staff siop yn y blynyddoedd diweddar.
4. Roedd yr Alwad am Dystiolaeth yn ceisio gwybodaeth mewn ymateb i 22 cwestiwn yn erbyn pedwar maes:
a) cyffredinolrwydd a data;
b) atal a chefnogaeth;
c) gorfodi a鈥檙 system cyfiawnder troseddol; ac
d) arferion gorau.
Mae鈥檙 ymateb hwn i鈥檙 Alwad am Dystiolaeth yn crynhoi鈥檙 ymatebion yn erbyn pob un o鈥檙 pedwar maes. Cynhwysir rhestr o鈥檙 ymatebwyr yn Atodiad A.
2. Crynodeb o鈥檙 ymatebion
5. Derbyniodd y Swyddfa Gartref gyfanswm o 800 o brif ymatebion, er yr oedd rhai o鈥檙 rhain wedi鈥檜 llywio gan ymgynghori ehangach, yn cynnwys gydag aelodau o sefydliadau penodol a phart茂on eraill sydd 芒 diddordeb. Rydym yn amcangyfrif bod bron i 3,500 o unigolion, busnesau a sefydliadau eraill, megis elusennau a chyrff masnach, wedi ymgysylltu 芒鈥檙 Alwad am Dystiolaeth i ryw raddau. Yn ogystal, darparodd rhai ymatebwyr gofnodion dienw ac erthyglau papur newydd yn manylu digwyddiadau penodol yn cynnwys gweithwyr siop, a oedd yn amrywio o fygythiadau ar lafar i ladrad arfog. Digwyddodd y rhain mewn ystod o ardaloedd ac ar draws ystod o leoliadau, yn cynnwys parciau manwerthu a siopau cyfleustra gorsafoedd petrol.
6. Mae鈥檙 ymatebion o鈥檙 Alwad am Dystiolaeth yn disgyn o fewn tair prif thema: -
a) Y lefel a鈥檙 raddfa o gam-drin a wynebwyd gan y rheiny鈥檔 gweithio yn y sector. Roedd y mwyafrif o鈥檙 ymatebwyr yn credu bod trais a cham-drin tuag at staff siop wedi cynyddu yn y blynyddoedd diweddar. Roedd ymatebwyr yn credu bod y cynnydd o ganlyniad i: -
- gynnydd mewn lladrata o siopau a pharodrwydd cynyddol ymysg troseddwyr i ddefnyddio trais a cham-drin pan maent yn cael eu herio gan staff;
- cynnydd mewn camddefnyddio alcohol a chyffuriau ymysg troseddwyr; a,
- lleihad yn nifer y swyddogion diogelwch sy鈥檔 gweithio ar safleoedd.
Nododd nifer o ymatebwyr eu bod hefyd wedi profi bygythiadau ac ymosodiadau lle defnyddiwyd gwrthrych miniog.
b) Colli ymddiriedaeth yn yr ymateb i鈥檙 troseddau hyn, gan yr heddlu, y system cyfiawnder troseddol ehangach a chyflogwyr. Dywedodd nifer fawr o ymatebwyr na wnaethant roi gwybod i鈥檙 heddlu am ddigwyddiadau. Ymhlith y rhesymau dros beidio 芒 rhoi gwybod i鈥檙 heddlu am ddigwyddiadau oedd: -
- diffyg ymateb gan yr heddlu i ddigwyddiad blaenorol;
- cyflogwyr yn annog eu gweithlu i beidio 芒 rhoi gwybod am ddigwyddiadau;
- digwyddiadau ddim yn cael eu hystyried yn ddigon difrifol i roi gwybod amdanynt i鈥檙 heddlu gan y gweithwyr a鈥檙 cyflogwyr; ac,
- ymdeimlad cyffredinol bod cam-drin yn 鈥榬han o鈥檙 swydd鈥.
c) Ymateb annigonol gan y System Cyfiawnder Troseddol. Er mai鈥檙 prif fater i lawer oedd yr angen i greu trosedd newydd, nid dyma鈥檙 unig fater a godwyd gan yr ymatebwyr. Ymhlith y materion eraill a godwyd oedd:
- pryder yngl欧n ag a oedd yr adnoddau sifil dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2014 yn ddigonol i fynd i鈥檙 afael ag aflonyddwch, neu ymddygiad a all ddychryn a chodi gofidiau ac atal aildroseddu;
- diffyg dealltwriaeth o sut all, neu gyfle ar gyfer, dioddefwyr egluro sut maent wedi cael eu heffeithio gan y troseddau a gyflawnwyd yn eu herbyn naill ai drwy Ddatganiad Personol Dioddefwr neu Ddatganiad o Effaith ar Fusnes; a
- chred nad oedd dioddefwyr yn mynd i allu cael cyfiawnder am y troseddau a gyflawnwyd yn eu herbyn.
3. Adran Un: Cyffredinolrwydd a Data
7. Roedd adran un o鈥檙 Alwad am Dystiolaeth yn ceisio gwybodaeth i鈥檔 helpu i lenwi bylchau yn ein dealltwriaeth o鈥檙 broblem ac i lunio darlun cywirach o natur y trais a鈥檙 cam-drin tuag at staff. Anogwyd ymatebwyr i ganolbwyntio ar wybodaeth mewn perthynas 芒 digwyddiadau sy鈥檔 digwydd yng Nghymru a Lloegr.
8. Roedd adran un yn ceisio gwybodaeth mewn ymateb i bum prif gwestiwn. Roedd y cwestiynau hynny yn canolbwyntio ar: raddfa鈥檙 broblem; natur y broblem; effaith y lleoliad daearyddol; sut mae sefydliadau yn cofnodi digwyddiadau; ac effaith bosib ar staff.
Crynodeb o鈥檙 ymatebion
a) Graddfa鈥檙 broblem
9. Roedd y mwyafrif o鈥檙 ymatebwyr yn credu bod trais a cham-drin tuag at staff siop wedi cynyddu yn y blynyddoedd diweddar. Y rheswm mwyaf cyffredin a roddwyd am y cynnydd oedd o ganlyniad i gynnydd ym mharodrwydd unigolion i droi at drais, yn enwedig pan maent yn cael eu herio am ladrata o siop neu eu hamau o ladrata o siop. Adroddodd ymatebwyr fod lladratwyr o siopau yn fwy penderfynol o ddwyn eitemau, o bosib o ganlyniad i ddibyniaeth ar gyffuriau a/ neu alcohol, ac, o ganlyniad, yn fwy tebygol o ymosod ar weithwyr siop os c芒nt eu dal.
10.Roedd ymatebwyr yn teimlo bod diffyg atalfeydd i鈥檙 rheiny sy鈥檔 benderfynol o gyflawni troseddau yn erbyn busnes. Cynigwyd sawl rheswm dros pam y gallai hyn fod yn wir, yn cynnwys pwysau cynyddol ar heddlu llai, ac ymateb araf, neu ar brydiau, diffyg ymateb yr heddlu i adroddiadau am droseddau yn erbyn busnesau. Roedd ymatebwyr hefyd yn bryderus bod adroddiadau鈥檙 heddlu yn y wasg am y lefel o flaenoriaeth a fyddai鈥檔 cael ei rhoi i droseddau a gyflawnir yn erbyn busnesau yn creu awyrgylch lle mae troseddwyr yn wynebu llai o risgiau. Roedd ymatebwyr hefyd yn bryderus bod y newidiadau a gyflwynwyd gan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trosedd a Phlismona 2014, lle rhoddwyd y pwerau i鈥檙 heddlu erlyn troseddwyr am ladrata o siop lle鈥檙 oedd cyfanswm gwerth y nwyddau a gafodd eu dwyn yn llai na 拢200, wedi rhoi鈥檙 argraff na fyddai troseddau o鈥檙 fath yn cael eu hymchwilio iddynt gan yr heddlu mwyach.
11.Yn ogystal, roedd ymatebwyr hefyd yn credu bod y cynnydd mewn trais ac ymosodiadau yn rhan o broblem ehangach yn ymwneud 芒 safle staff siop. Awgrymodd rhai ymatebwyr fod y farn bod 鈥榶 cwsmer bob amser yn iawn鈥 wedi creu amgylchedd lle鈥檙 oedd rhai cwsmeriaid yn llai parchus tuag at weithwyr siop nag yr oeddent wedi bod yn y gorffennol. Awgrymodd ymatebwyr hefyd fod rheolwyr hefyd yn llai parod i herio ymddygiad annerbyniol gan gwsmeriaid. Amlygodd ymatebwyr fod anghydfodau gyda chwsmeriaid, megis y rheiny鈥檔 deillio o amseroedd aros i gael eu gweini, yn ogystal 芒 materion yn ymwneud ag ad-dalu a dychwelyd nwyddau, hefyd wedi cyfrannu at drais a cham-drin.
b) Natur y broblem
12.Rhoddodd ymatebwyr nifer fawr o enghreifftiau o鈥檙 mathau o ymddygiad yr oeddent yn eu hwynebu yn y gwaith. Yr enghreifftiau a nodwyd amlaf oedd trais neu gam-drin a godai yng nghyd-destun atal lladrata o siop. Roedd problemau eraill a nodwyd yn aml yn cynnwys ymosodiadau, neu fygwth ymosod, yn cynnwys arf.
13.Rhoddodd ymatebwyr hefyd dystiolaeth o ddigwyddiadau lle鈥檙 oedd ymosodiad a/neu anaf wedi digwydd yng nghyd-destun gwrthod gweini cwsmer, naill ai oherwydd eu bod dan oed, neu鈥檔 feddw.
14.Rhoddodd ymatebwyr hefyd wybodaeth am ystod eang o fathau eraill o ymddygiad a digwyddiadau a ddioddefwyd ganddynt;
- Ymddygiad gwrthgymdeithasol, fel rheol yn cael ei gyflawni gan bobl ifanc;
- Gweithgarwch troseddol wedi鈥檌 drefnu gan gangiau neu grwpiau o unigolion;
- Cam-drin hiliol;
- Lladrata arfog;
- Difrod troseddol;
- Aflonyddu rhywiol;
- Poeri;
- Brathu; a,
- Gweithredoedd treisgar, neu fygwth cyflawni gweithredoedd treisgar, yn cynnwys defnyddio, neu fygwth defnyddio, arf;
c) Effaith daearyddiaeth
15.Er i dros hanner yr ymatebwyr gytuno bod y broblem hon yn effeithio ar eu safleoedd yn gyfartal, aeth sawl ymatebwr ymlaen i nodi bod ardaloeddd dinesig a chanol dinasoedd yn fwy tebygol o gael eu heffeithio nag ardaloedd gwledig. Cysylltodd ymatebwyr hyn 芒 chymhelliant i droseddu yn wahanol mewn strydoedd mawr dinesig, gyda dibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol yn aml yn ffactor.
16. Cysylltodd ymatebwyr trais a cham-drin yn digwydd mewn ardaloedd gwledig gydag amseroedd ymateb arafach a diffyg presenoldeb gweledol gan yr heddlu. Awgrymodd rhai ymatebwyr fod gwahaniaethau yn y troseddau a gyflawnir yn erbyn gweithwyr siop yn dibynnu ar p鈥檜n a oeddent yn gweithio mewn ardaloedd dinesig neu wledig, gyda鈥檙 rheiny mewn ardaloedd dinesig yn fwy tebygol o ddioddef trais, gyda鈥檙 rheiny mewn ardaloedd gwledig yn fwy tebygol o ddioddef cam-drin ar lafar, yn cynnwys cam-drin hiliol.
d) Problemau o ran sut mae sefydliadau yn cofnodi trais a cham-drin
17. Thema gyffredin drwy鈥檙 ymatebion oedd y diffyg cefnogaeth a gafodd gweithwyr siop gan eu cyflogwr. Adroddodd unigolion eu bod wedi cael gorchymyn i 鈥榖arhau 芒鈥檜 swydd鈥 ar 么l adrodd achosion o gam-drin ar lafar a diwylliant lle鈥檙 oedd rheolwyr yn tueddu i ochri 芒 chwsmeriaid yn hytrach na gweithwyr, o bosib o ganlyniad i gredu bod y cwsmer 鈥榖ob amser yn iawn鈥. Roedd rhai ymatebwyr hefyd yn teimlo bod rheolwyr yn tueddu i ganolbwyntio ar enw da鈥檙 siop a ddim bob amser yn herio ymddygiad annerbyniol gan gwsmeriaid.
18.Roedd diffyg cefnogaeth gan reolwyr hefyd yn cyfrannu at ddiffyg adrodd gan weithwyr. Ymhlith y ffactorau eraill pam nad oedd achosion wedi cael eu hadrodd oedd diffyg amser, yn ogystal 芒 diffyg ymateb gan yr heddlu, gyda rhai ymatebwyr yn teimlo os nad oedd yr heddlu鈥檔 ymateb yn gadarnhaol i achos, yna roedd yn anhebygol fod y rheolwyr am wneud hynny.
19.Pan adroddwyd am ddigwyddiadau, ac eithrio ffonio 999 neu 101, gwnaed hynny mewn amrywiaeth o ffyrdd, a oedd yn cynnwys recordiadau a wnaed gan CCTV, adroddiadau a roddwyd i iechyd a diogelwch neu AD, cofnod papur a gedwid gan fusnesau, galwad neu e-bost i鈥檙 brif swyddfa neu鈥檙 adran ddiogelwch ganolog neu gofnod ar system gyfrifiadurol.
e) Effaith trais a cham-drin ar weithwyr siop
20.Rhestrodd dros hanner yr ymatebwyr oblygiadau ariannol sylweddol o ganlyniad i drais a cham-drin i鈥檞 sefydliad. Roedd hyn yn cynnwys canlyniad uniongyrchol colli stoc, buddsoddi鈥檔 ofynnol i wella diogelwch ac offer a mesurau ataliol, trosiant staff uchel neu staff yn gorfod cymryd amser i ffwrdd yn sgil digwyddiadau, yn ogystal 芒 difrod i enw da鈥檙 sefydliad gan effeithio ar fusnes.
21.Rhestrwyd effaith emosiynol ar staff, yn enwedig ar eu hiechyd a llesiant, hefyd fel effeithiau allweddol o ganlyniad i drais a cham-drin, gyda staff yn gorfod cymryd amser i ffwrdd o鈥檙 gwaith, ceisio cwnsela neu鈥檔 teimlo鈥檔 ofnus neu鈥檔 bryderus i ddod i鈥檙 gwaith.
4. Adran Dau: Atal a Chefnogaeth
22.Roedd adran dau o鈥檙 Alwad am Dystiolaeth yn ceisio gwybodaeth i helpu i ddeall sut y gellir atal digwyddiadau, yn cynnwys mewn perthynas 芒鈥檙 hyfforddiant a鈥檙 gefnogaeth a ddarperir i staff.
23.Roedd adran dau yn ceisio gwybodaeth mewn ymateb i dri phrif gwestiwn. Roedd y cwestiynau hynny yn canolbwyntio ar fesurau ataliol yr oedd busnesau wedi鈥檜 defnyddio neu ystyried eu defnyddio; awgrymiadau am unrhyw ddatrysiadau anneddfwriaethol y gallai鈥檙 Llywodraeth/ busnesau/ yr heddlu/ eraill eu rhoi ar waith i godi ymwybyddiaeth; a gwybodaeth am unrhyw hyfforddiant/ arweiniad/ cefnogaeth a ddarperir i staff yngl欧n 芒 sut i ddelio 芒 digwyddiadau posib neu wirioneddol o drais a cham-drin.
Crynodeb o鈥檙 ymatebion
24.Rhestrodd ymatebwyr sawl mesur ataliol yr oeddent wedi鈥檜 defnyddio, yn cynnwys CCTV, casys arddangos sigarennau wedi鈥檜 cloi, tagio eitemau, a buddsoddi mewn s锚ffs. Cyfeiriodd rhai sefydliadau at gytundebau rhannu data, naill ai gyda鈥檙 heddlu neu gydag Ardaloedd Gwella Busnes lleol yn cefnogi mentrau atal troseddau lleol.
25.Darparwyd rhai enghreifftiau o hyfforddiant staff, yn benodol ar ddiogelwch, gwasanaeth cwsmer, a datrys anghydfod, yn arbennig mewn perthynas 芒 delio 芒 chwsmeriaid a oedd naill ai鈥檔 feddw neu wedi cymryd cyffuriau.
26.Darparwyd hyfforddiant mewnol mewn rhai achosion, er yr oedd yn aml yn canolbwyntio ar reoli anghydfod ac osgoi gwrthdaro. Nid oedd rhai ymatebwyr yn ymwybodol o, neu heb dderbyn, hyfforddiant nac arweiniad gan eu cyflogwyr, a gyfrannodd fwy at yr ymdeimlad ymhlith gweithwyr fod disgwyl iddynt oddef cam-drin.
27.Roedd amrywiaeth o fesurau a gafodd eu hawgrymu i鈥檙 Llywodraeth/ busnesau/ yr heddlu eu gweithredu mewn ymateb i鈥檙 broblem o drais a cham-drin tuag at weithwyr siop. I鈥檙 Llywodraeth, roedd y rhain yn cynnwys buddsoddi yn yr heddlu neu wasanaethau cyhoeddus eraill; i gyflogwyr, roedd awgrymiadau yn cynnwys cyflogi mwy o staff diogelwch, mesurau diogelwch gwell a mwy amlwg y tu mewn i鈥檙 adeilad a therfyn ar weithio ar eich pen eich hun mewn siopau. O ystyried y cefndir i鈥檙 Alwad am Dystiolaeth, galwodd nifer o ymatebwyr hefyd am nifer o newidiadau i鈥檙 gyfraith i greu arf ataliol mwy effeithiol i鈥檙 rheiny a all ymosod ar weithwyr siop, neu eu cam-drin.
5. Adran Tri: Gorfodi a鈥檙 System Cyfiawnder Troseddol
28.Roedd adran tri o鈥檙 Alwad am Dystiolaeth yn ceisio gwybodaeth i helpu i ddatblygu dealltwriaeth y Llywodraeth o adrodd am ddigwyddiadau, defnydd o鈥檙 fframwaith deddfwriaethol cyfredol, ac ymateb gan yr heddlu a鈥檙 system cyfiawnder troseddol ehangach i alluogi鈥檙 Llywodraeth i ddeall p鈥檜n a oes unrhyw fylchau mewn deddfwriaeth gyfredol ac ystyried yr achos dros ddiwygio.
29.Roedd adran tri yn ceisio gwybodaeth mewn ymateb i un ar ddeg prif gwestiwn. Roedd y cwestiynau hynny yn canolbwyntio ar p鈥檜n a oedd dioddefwyr wedi adrodd am ddigwyddiadau i鈥檙 heddlu a鈥檜 profiad o ddelio 芒鈥檙 system cyfiawnder troseddol; y rhwystrau i adrodd am ddigwyddiadau; a ph鈥檜n a oedd unigolion, neu fusnesau, wedi cael cyfle i amlygu effaith troseddu. Roedd y cwestiynau hefyd yn ceisio gwybodaeth am y ffordd yr ymdriniwyd 芒 thrais neu gam-drin yn erbyn gweithwyr siop dan ddeddfwriaeth gyfredol, yn cynnwys Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trosedd a Phlismona 2014.
Crynodeb o鈥檙 ymatebion
30.Dywedodd y mwyafrif o鈥檙 staff siop a ymatebodd eu bod wedi dioddef trais a cham-drin. Dywedodd y mwyafrif o鈥檙 gr诺p hwn eu bod wedi adrodd am y digwyddiad i鈥檞 rheolwr neu oruchwyliwr.
31.O鈥檙 ymatebwyr a oedd wedi adrodd am ddigwyddiad o drais neu gam-drin, nid oedd mwy na hanner yn hapus gyda鈥檙 ymateb a gawsant. Fel y crybwyllwyd uchod, roedd cred gyffredinol bod ymateb yr heddlu yn annigonol a arweiniodd at ddiffyg parodrwydd ar ran rheolwyr i weithredu. O ganlyniad, byddai gweithwyr siop yn gweld troseddwyr, yn cynnwys aildroseddwyr, yn dychwelyd i siopau lle鈥檙 oeddent wedi bod yn rhan o ddigwydiadau yn erbyn staff yn y gorffennol. Arweiniodd aildroseddwyr at rai ymatebwyr yn gweithio yn y sector yn dod i鈥檙 casgliad bod hawliau鈥檙 cwsmer yn bwysicach i reolwyr a goruchwylwyr na lles eu staff. Roedd troseddwyr yn dychwelyd yn atal unigolion rhag gwneud adroddiadau yn y dyfodol oherwydd nid oeddent yn credu y byddai eu hadroddiadau yn cael eu gweithredu arnynt.
32.Darparodd rhai ymatebwyr fanylion eu profiad o ymgysylltu 芒鈥檙 system cyfiawnder troseddol. Adroddodd rhai eu bod wedi cael cyngor gan yr heddlu i beidio ag adrodd am f芒n-ladrad gan na fyddai llysoedd yn delio 芒 digwyddiadau o鈥檙 fath. Lle鈥檙 oedd hyn wedi digwydd, dywedodd ymatebwyr fod hyn wedi鈥檜 hatal rhag adrodd am ddigwyddiadau eraill. Adroddodd rhai busnesau eu bod hefyd yn bryderus am effaith bosib adrodd am ddigwyddiadau i鈥檙 heddlu, yn benodol y rheiny gyda thrwyddedau alcohol, a oedd yn bryderus y byddai adrodd am ddigwyddiadau yn rheolaidd ar eu safle neu鈥檔 agos ato, yn arwain at eu trwydded yn cael ei hadolygu.
33.Fodd bynnag, ni wnaeth llai na hanner yr ymatebwyr adrodd am y digwyddiad oherwydd diffyg tystiolaeth, neu eu bod yn derbyn cam-drin fel rhan o鈥檜 swydd. Adroddodd rhai ymatebwyr hefyd ofn na fyddent yn cael eu cymryd o ddifrif gan eu rheolwyr neu oruchwylwyr neu, mewn rhai achosion eithafol, y byddent hwy eu hunain yn destun gweithredu cosbol gan eu cyflogwr gan y byddai adrodd am ddigwyddiadau yn achosi niwed i enw da鈥檙 sefydliad. Mewn achosion eithafol o鈥檙 fath, ni wnaethpwyd yn glir p鈥檜n a oedd y digwyddiad dan sylw yn ymosodiad neu鈥檔 ffurf arall ar gam-drin.
34.Dywedodd ymatebwyr hefyd nad oeddent yn teimlo eu bod yn cael digon o gyfle i dynnu sylw at effaith unrhyw ddigwyddiad wedi iddynt adrodd amdano. Roedd hyn yn wir am ddioddefwyr unigol, gyda dros hanner yr ymatebwyr yn dweud na chawsant gynnig y cyfle i wneud datganiad o effaith ar y dioddefwr, a busnesau, lle dywedodd sawl ymatebwr nad oeddent yn ymwybodol o Ddatganiadau o Effaith ar Fusnes.
35.Roedd dros hanner yr ymatebwyr yn ymwybodol o bwerau dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 y gellid eu defnyddio i ddelio 芒 throseddwyr. Fodd bynnag, nid oeddent yn teimlo bod y pwerau yn ddigonol i ddelio 芒 rhai o鈥檙 problemau yr oeddent hwy, neu eu gweithwyr, yn eu hwynebu.
6. Adran Pedwar: Arferion Gorau
36.Roedd adran olaf yr Alwad am Dystiolaeth yn gwahodd ymatebwyr i rannu arferion da neu orau i fynd i鈥檙 afael 芒 digwyddiadau. Ceisiwyd arferion da i helpu i sefydlu beth sy鈥檔 gweithio, ac ystyried datrysiadau anneddfwriaethol posib.
Crynodeb o鈥檙 ymatebion
37.Gweithio mewn partneriaeth rhwng yr heddlu a busnesau, megis drwy fentrau megis Pubwatch neu Shopwatch oedd yr enghraifft o arferion da y cyfeiriwyd ati amlaf. Roedd enghreifftiau eraill yn cynnwys gwaith rhwng yr heddlu a chwmni yn arbenigo mewn arloesi technolegol ar gyfer diogelwch, yn cynnwys CCTV, a oedd wedi arwain at oddeutu 150 o arestiadau am 1,500 o droseddau unigol. Lle鈥檙 oedd erlyniadau wedi dilyn, roedd cyfradd gollfarnu o 100%.
38.Amlygodd ymatebwyr hefyd y Ganolfan Trosedd Busnes Cenedlaethol fel ffynhonnell werthfawr o wybodaeth, arweiniad ar arferion gorau a phwynt cyswllt i鈥檙 gymuned fusnes i godi eu pryderon am drais a cham-drin manwerthu.
39.Yn olaf, cyfeiriodd rhai ymatebwyr hefyd at Ddatrysiadau Trosedd Busnes Cenedlaethol, sefydliad aelodaeth sy鈥檔 darparu dull i fanwerthwyr rannu gwybodaeth am droseddwyr gweithredol fel y gellir gosod offer ataliol, neu roi gwybod i staff am y risgiau i鈥檞 busnes. Un enghraifft o waith y mae Datrysiadau Trosedd Busnes Cenedlaethol wedi鈥檌 wneud i鈥檞 aelodau yw cyflwyno gwaharddeb sifil yn erbyn nifer o aildroseddwyr a throseddwyr treisgar am leiafswm o ddwy flynedd, gan atal y troseddwyr hyn rhag achosi rhagor o ddifrod i fusnesau.
7. Ymateb y Llywodraeth
40.Mae鈥檙 Llywodraeth yn cydnabod y gall y cam-drin a鈥檙 trais a wynebir gan staff siop gael effaith fawr, nid yn unig yn gorfforol ond yn feddyliol ac emosiynol. Yr Alwad am Dystiolaeth oedd y cam cyntaf wrth ddatblygu dealltwriaeth well o鈥檙 broblem i helpu i lywio鈥檙 gwaith o ddatblygu ymateb effeithiol. Cynhyrchodd yr Alwad am Dystiolaeth lefel uchel o ddiddordeb a hoffai鈥檙 Llywodraeth ddiolch i鈥檙 holl rai a gymerodd ran. Mae鈥檙 dystiolaeth a鈥檙 sylwadau a gafwyd wedi bod yn amhrisiadwy wrth ddatblygu dealltwriaeth gryfach o鈥檙 broblem. Er bod darlun clir yn dod i鈥檙 amlwg, dim ond dechrau鈥檙 broses yw hyn, ac mae rhaglen barhaus o waith yn ofynnol i sicrhau ein bod yn datblygu ac yn darparu ymateb sy鈥檔 seiliedig ar dystiolaeth i鈥檙 troseddau hyn.
41.Cynhaliwyd yr Alwad am Dystiolaeth yng nghyd-destun dadl yngl欧n ag a ddylid newid y gyfraith i greu trosedd newydd o ymosod ar weithiwr siop, ar batrwm y drosedd o ymosod ar weithiwr gwasanaethau brys a gr毛wyd gan Ddeddf Ymosodiadau ar Weithwyr y Gwasanaethau Brys (Troseddau) 2018. Awgrymodd y rheiny o blaid trosedd newydd, ei bod yn ofynnol i rwystro troseddwyr posib a sicrhau ymateb cyfiawnder troseddol effeithiol i鈥檙 troseddau hyn pan maent yn digwydd. Er bod y Llywodraeth yn cydnabod y cymhelliannau y tu 么l i鈥檙 awgrym hwn, nid yw鈥檔 ystyried bod yr achos yn glir eto dros newid y gyfraith.
42.Wrth wneud penderfyniadau dyfarnu, rhaid i鈥檙 llysoedd ddilyn unrhyw ganllawiau dyfarnu perthnasol, a gynhyrchir gan y Cyngor Dyfarnu annibynnol. Mae Overarching Principles: Seriousness Guideline and Assault Guideline, yn ei gwneud yn ofynnol i鈥檙 llys drin y ffaith bod trosedd wedi鈥檌 chyflawni yn erbyn y rheiny鈥檔 gweithio yn y sector cyhoeddus neu鈥檔 darparu gwasanaeth i鈥檙 cyhoedd fel ffactor gwaethygol, gan wneud y drosedd yn fwy difrifol. Cynhyrchodd y Cyngor eglurhad estynedig yn 2019 a wnaeth hi鈥檔 glir bod y ffactor hwn 鈥測n berthnasol p鈥檜n a yw鈥檙 dioddefwr yn weithiwr cyhoeddus neu breifat neu鈥檔 ymddwyn yn wirfoddol鈥. Cyhoeddodd y Cyngor Dyfarnu ganllawiau dros dro hefyd ar gyfer dyfarnwyr ym mis Ebrill 2020, yng nghyd-destun y pandemig Covid-19. Mae鈥檙 canllawiau dros dro yn egluro wrth ddyfarnu troseddau ymosodiad cyffredin yn cynnwys bygythiadau neu weithgarwch yn ymwneud 芒 throsglwyddo Covid-19 (er enghraifft, ymosodiadau yn cynnwys poeri neu besychu), dylai鈥檙 llysoedd drin hyn fel nodwedd waethygol o鈥檙 drosedd. Mae鈥檙 Cyngor Dyfarnu yn adolygu ei ganllawiau ar ymosodiad ac mae ymgynghoriad ar ganllawiau diwygiedig yn mynd rhagddo. O ran y ddeddfwriaeth bresennol y gellir ei chymhwyso i drais a cham-drin a gyflawnir yn erbyn gweithwyr siop, mae鈥檙 Llywodraeth yn ystyried y gweithredu hwn yn ddigonol.
43.Yn ogystal, ac fel yr amlinellir yn yr adrannau uchod, adroddodd ymatebwyr i鈥檙 Alwad am Dystiolaeth ddiffyg ymddiriedaeth gyffredinol yn y ffordd yr ymdriniwyd 芒鈥檙 troseddau hyn, naill ai gan yr heddlu neu eu cyflogwr. Yn rhy aml, roedd yr ymateb i weithwyr siop yn annigonol, gan arwain at unigolion yn penderfynu peidio ag adrodd am ddigwyddiadau eraill. Cred y Llywodraeth fod y broblem hon yn un sy鈥檔 mynnu gweithredu mwy brys na newid yn y gyfraith.
44.I fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 problemau a godwyd gan yr ymatebion i鈥檙 Alwad am Dystiolaeth, bydd y Llywodraeth yn datblygu rhaglen o waith a fydd yn mynd i鈥檙 afael 芒 phob un o鈥檙 tair thema a nodir ym mharagraff 6 yr ymateb hwn. Wrth ddatblygu鈥檙 gwaith hwnnw, bydd y Llywodraeth yn anelu at:
a. gynyddu ei dealltwriaeth a mynd i鈥檙 afael ag ysgogwyr trais a cham-drin yn erbyn gweithwyr siop;
b. anfon neges glir na oddefir troseddau o鈥檙 fath ac y dylid eu cofnodi pryd bynnag a lle bynnag y maent yn digwydd; a,
c. darparu cefnogaeth effeithiol i鈥檙 gweithwyr siop hynny sy鈥檔 dioddef trais a cham-drin.
a) Cynyddu dealltwriaeth y Llywodraeth a mynd i鈥檙 afael ag ysgogwyr trais a cham-drin yn erbyn gweithwyr siop.
45.Awgrymodd adborth gan ymatebwyr y gall cyffuriau chwarae rhan allweddol yn y trais a ddioddefir gan staff siop. Yn benodol, awgrymodd ymatebwyr y gall y rheiny sy鈥檔 defnyddio cyffuriau fod yn fwy parod i ddefnyddio trais pan maent yn cael eu herio am ladrata o siop. I ddarparu ymateb effeithiol, mae鈥檔 bwysig ein bod yn adeiladu dealltwriaeth well o ba r么l mae cyffuriau, yn ogystal ag alcohol a ffactorau eraill, yn ei chwarae wrth hybu trais a cham-drin tuag at weithwyr siop. Byddwn felly yn gweithio鈥檔 agos ag aelodau o鈥檙 Gr诺p Llywio Trosedd Manwerthu Cenedlaethol i ddatblygu鈥檙 sylfaen dystiolaeth ymhellach.
46.Mae鈥檙 Llywodraeth yn cydnabod bod cyffuriau yn chwarae rhan sylweddol mewn nifer fawr o droseddau a gyflawnir. Dyna pam y comisiynodd y Swyddfa Gartref adolygiad annibynnol mawr, dan arweiniad Y Fonesig Carol Black, i archwilio鈥檙 ffyrdd y mae cyffuriau yn hybu trais difrifol, y niwed yr achosant a鈥檙 ffyrdd gorau i atal cymryd cyffuriau. Cyhoeddwyd canfyddiadau鈥檙 adolygiad ar 27 Chwefror. Bydd adolygiad pellach, a gomisiynwyd gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, dan arweiniad Y Fonesig Carol Black yn canolbwyntio ar atal, triniaeth ac adfer. Bydd yn adeiladu ar waith y Fonesig Carol i sicrhau bod pobl fregus gyda phroblemau camddefnyddio sylweddol yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i wella a thrawsnewid eu bywydau. Bydd yn edrych ar driniaeth yn y gymuned ac yn y carchar, a sut mae gwasanaethau triniaeth yn gweithio gyda gwasanaethau ehangach sy鈥檔 galluogi person gyda dibyniaeth ar gyffuriau i gyflawni a chynnal adferiad, yn cynnwys iechyd meddwl, tai, cyflogaeth, a鈥檙 system cyfiawnder troseddol.
47.Yn ogystal, mae gwaith gwerthfawr yn cael ei wneud dan arweiniad aelodau鈥檙 NRCSG yn edrych ar gyfleoedd o amgylch triniaeth cyffuriau wedi鈥檌 thargedu i geisio mynd i鈥檙 afael ag anghenion troseddwyr cyson. Bydd y Llywodraeth yn gweithio鈥檔 agos 芒鈥檙 aelodau hynny dros y flwyddyn i ddod i ddeall yn well effaith y gwaith a wnant i fynd i鈥檙 afael ag anghenion troseddwyr cyson, ac os ydynt yn llwyddiannus, sut y gellir atgynhyrchu鈥檙 hyn a wnant mewn rhannau eraill o鈥檙 wlad.
b) Anfon neges glir na oddefir troseddau o鈥檙 fath ac y dylid eu cofnodi pryd bynnag a
lle bynnag y maent yn digwydd
48.Dywedodd nifer fawr o ymatebwyr na wnaethant roi gwybod i鈥檙 heddlu am ddigwyddiadau. Mae鈥檙 Llywodraeth yn glir lle mae鈥檙 troseddau hyn yn digwydd, y dylid eu hadrodd i鈥檙 heddlu fel y gellir ymchwilio iddynt yn briodol.
49.Fel bod gweithwyr siop sy鈥檔 dioddef trais neu gam-drin yn teimlo鈥檔 hyderus i ddod ymlaen ac adrodd am ddigwyddiadau naill ai i鈥檙 heddlu neu eu cyflogwr, bydd y Llywodraeth yn gweithio gyda鈥檙 NRSCG i ddatblygu cyfathrebiadau i weithwyr a chyflogwyr i wneud hi鈥檔 glir na oddefir trais na cham-drin yn erbyn gweithwyr siop. Byddwn yn cymryd i ystyriaeth arferion gorau o sectorau gwahanol ac yn gwneud defnydd o aelodaeth NRSCG i ddatblygu a phrofi negesu cyn cefnogi unrhyw gyflwyniad cenedlaethol.
50.Mae鈥檙 Llywodraeth yn ymwybodol o arferion da, o ran annog staff i adrodd am ddigwyddiadau, yn ogystal 芒 rhoi鈥檙 gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i ddelio ag effaith trais a cham-drin. Gan weithio gyda phartneriaid drwy鈥檙 NRCSG, bydd y Llywodraeth yn datblygu canllaw arferion gorau sy鈥檔 anelu at gefnogi staff wrth adrodd am y troseddau hyn pan maent yn digwydd i sicrhau y gellir cyflawni ymateb addas.
51.Yn ogystal, bydd y Llywodraeth yn gweithio gyda鈥檙 NRCSG a鈥檙 Ganolfan Trosedd Busnes Cenedlaethol i edrych ar rwystrau i rannu data effeithiol rhwng busnesau a鈥檙 heddlu i sicrhau y gellir defnyddio gwybodaeth i ddeall y broblem yn well, gan gynnwys safleoedd sy鈥檔 gwerthu alcohol ddim yn teimlo dan anfantais, yn benodol mewn perthynas ag olrhain troseddwyr cyson.
52.Yn olaf, mae鈥檔 hanfodol nad ydym yn creu rhwystrau anfwriadol i adrodd, felly byddwn yn gweithio gyda鈥檙 NRCSG i ddeall beth all fod yn atal busnesau rhag adrodd am droseddau.
c) Darparu cefnogaeth effeithiol i鈥檙 gweithwyr siop hynny sy鈥檔 dioddef trais a cham-drin
53.Un o鈥檙 prif resymau dros ddiffyg adrodd oedd ymdeimlad na fyddai yna ymateb cyfiawnder troseddol priodol. Mae eisoes ystod eang o droseddau y gall person gael ei gyhuddo ohonynt y gellir eu cyflawni yn erbyn gweithiwr siop. Mae鈥檙 rhain yn cynnwys, er enghraifft, lladrata, byrgleriaeth ac ymosodiad, sydd ag uchafswm cosbau gwahanol, fel y pennir gan y Senedd, i adlewyrchu difrifoldeb y troseddau. Mae鈥檙 rhain yn cynnwys carchar am oes am y troseddau ymosod mwyaf difrifol neu fyrgleriaeth waethygedig.
Ymateb yr heddlu i gam-drin a thrais tuag at weithwyr siop
54.Prif Gwnstabliaid a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddau, fel arweinwyr gweithredol a chynrychiolwyr etholedig lleol, sydd i benderfynu sut orau i ymateb i droseddau unigol a blaenoriaethau troseddau lleol. I helpu i sicrhau bod gan yr heddlu鈥檙 adnoddau sydd eu hangen arnynt, mae鈥檙 Llywodraeth yn recriwtio 20,000 o swyddogion dros y tair blynedd nesaf. Bydd 拢750 miliwn yn cael ei ddarparu i gefnogi lluoedd i recriwtio 6,000 o swyddogion ychwanegol erbyn diwedd Mawrth 2021 ar draws 43 llu yng Nghymru a Lloegr fel rhan o ymgyrch i gynyddu eu rhengoedd. Yn ogystal, mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cael 拢85 n17 miliwn yn rhagor i sicrhau y gall y system cyfiawnder troseddol gefnogi gwaith y swyddogion ychwanegol hyn.
55.Fodd bynnag, fel y dengys yr ymatebion i鈥檙 Alwad am Dystiolaeth, mae lefelau adrodd yn isel ac efallai nad yw blaenoriaethu lleol yn adlewyrchu鈥檙 lefel o angen lleol yn ddigonol. Bydd y Gweinidog dros Drosedd a Phlismona felly yn ysgrifennu at bob Comisiynydd yr Heddlu a Throseddau a Phrif Gwnstabl yn amlygu鈥檙 broblem hon ac yn gofyn iddynt i barhau i weithio鈥檔 agos 芒 busnesau lleol i ddeall graddfa鈥檙 broblem yn lleol a datblygu ymatebion priodol iddi.
56.Cododd ymatebwyr bryderon am effeithiolrwydd Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trosedd a Phlismona 2014. Roedd a176 o鈥檙 Ddeddf, a noda fod dwyn nwyddau gwerth hyd at 拢200 o siopau yn drosedd ddiannod ond bai fod y diffynydd, os yw鈥檔 oedolyn, yn dewis sefyll ei brawf yn Llys y Goron, yn destun pryder neilltuol. Lle cyflawnir trosedd ddiannod, gellir ymdrin 芒鈥檙 achos fel erlyniad dan arweiniad yr heddlu. Roedd rhai ymatebwyr yn ystyried bod y newid hwn yn y gyfraith wedi creu ymdeimlad ymhlith troseddwyr na fyddai鈥檙 heddlu yn ymdrin 芒 lladrata o siop, lle mae gwerth y nwyddau a ddygir o dan 拢200. Roedd rhai ymatebwyr hefyd yn teimlo bod hyn yn ffactor cyfrannol y tu 么l i haerllugrwydd cynyddol ymhlith troseddwyr.
57.Gall a dylai troseddau lladrata o siop sy鈥檔 cynnwys dwyn nwyddau o hyd at 拢200, gael eu canlyn fel trosedd gan yr heddlu o hyd. Nid yw a176 yn effeithio ar allu Gwasanaeth Erlyn y Goron i erlyn person am ddwyn o siop, neu ar bwerau鈥檙 llysoedd i gosbi troseddwyr. Gall troseddwr sy鈥檔 cael ei gyhuddo o ddwyn yn Llys Ynadon wynebu cosb o hyd at chwe mis o garchar am drosedd sengl o hyd.
58.I sicrhau bod hyn yn glir, bydd y Gweinidog dros Drosedd a Phlismon yn ysgrifennu at Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddau a Phrif Gwnstabliaid yn amlinellu y dylid erlyn dwyn nwyddau gwerth hyd at 拢200 o siop fel trosedd ac felly ni ddylai gyfyngu ar allu鈥檙 heddlu i arestio neu erlyn rhywun yn y ffordd y teimlant sydd fwyaf priodol.
59.Bydd y Llywodraeth hefyd yn edrych ar y broblem o effeithiolrwydd a176 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trosedd a Phlismona 2014 fel rhan o graffu ar 么l deddfu鈥檙 Ddeddf.
Dedfrydu
60.Mae鈥檙 Llywodraeth hon o ddifrif am atal troseddu ac amddiffyn y cyhoedd rhag ei oblygiadau trychinebus. Dyna pam y cyhoeddasom gyfreithiau dedfrydu newydd yn Araith y Frenhines. Bydd y ddeddfwriaeth yn cynnwys cynigion wedi鈥檜 targedu at y troseddwyr mwyaf difrifol i sicrhau bod eu cosb yn adlewyrchu difrifoldeb eu trosedd.
61.Gwyddom fod gan droseddwyr cyson, gan gynnwys lladron, anghenion lluosog a chymhleth yn gyffredinol sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檜 hymddygiad troseddu. Bydd y ddeddfwriaeth felly hefyd yn cynnwys cynigion ar gyfer cosbau cymunedol sy鈥檔 cynnig lefel briodol o gosb, fel y gall y cyhoedd ymddiried ynddynt, wrth fynd i鈥檙 afael ag ysgogwyr sy鈥檔 sail i droseddu a mynd i鈥檙 afael 芒 phroblemau megis iechyd meddwl a bod yn gaeth i gyffuriau neu alcohol.
62.Mae鈥檙 Llywodraeth yn bwriadu cyhoeddi Papur Gwyn cyn deddfu ar ddedfrydu. Bydd hyn yn cynnwys cynigion ar gyfer dedfrydau cymunedol mwy llym.
Cefnogi Dioddefwyr
63.Mae鈥檙 ymatebion i鈥檙 Alwad am Dystiolaeth hefyd yn amlygu ymdeimlad bod gweithwyr siop sy鈥檔 dioddef troseddau yn teimlo bod diffyg cyfleoedd iddynt egluro eu heffaith. Mae鈥檙 Llywodraeth wedi cyhoeddi canllawiau ar Ddatganiad Personol Dioddefwr, sy鈥檔 rhoi cyfle i ddioddefwyr egluro sut mae鈥檙 drosedd wedi effeithio arnynt, yn gorfforol, emosiynol, seicolegol, ariannol ac mewn unrhyw ffordd arall, ac ar y defnydd o Ddatganiadau o Effaith ar Fusnes, sy鈥檔 rhoi cyfle i ddioddefwyr ddweud wrth y llysoedd am yr effaith mae鈥檙 drosedd wedi鈥檌 chael ar eu busnes, yn cynnwys unrhyw oblygiadau ariannol neu i enw da鈥檙 sefydliad.
64.I sicrhau bod y rhain yn cael eu defnyddio鈥檔 effeithiol, bydd y Gweinidog dros Drosedd a Phlismona yn ysgrifennu at bob Prif Gwnstabl yn eu hatgoffa o鈥檙 angen i roi cyfle i鈥檙 dioddefwyr ddefnyddio naill ai un neu鈥檙 ddau ddatganiad. Bydd hyn yn sicrhau bod asiantaethau cyfiawnder troseddol yn defnyddio鈥檙 wybodaeth i ddod i farn gadarn yngl欧n 芒 pha gamau y dylid eu cymryd yn erbyn troseddwr, yn ogystal 芒 gwneud penderfyniadau ar y cymorth a鈥檙 gwasanaethau y gall troseddwyr fod eu hangen.
65.Yn fwy eang, mae鈥檙 Llywodraeth yn cymryd camau i wella cymorth i bob dioddefwr trosedd, yn cynnwys gweithwyr siop. Mae鈥檔 ymgynghori ar God Ymddygiad diwygiedig i Ddioddefwyr Troseddau (Cod Dioddefwyr) i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檌 gymhlethdod, hygyrchedd a diweddaru hawliau dioddefwyr fel eu bod yn fwy adlewyrchol o鈥檜 hanghenion.
66.Bydd ymgynghoriad ar Gyfraith Dioddefwyr, yn gwarantu hawliau dioddefwyr, yn dilyn yn fuan ar 么l yr ymgynghoriad ar God Dioddefwyr. Bydd y Llywodraeth yn ystyried deddfu i sicrhau lle mae asiantaethau wedi methu 芒 rhoi eu hawliau i ddioddefwyr, eu bod yn cael eu gwneud yn atebol. Bydd y gyfraith yn cryfhau pwerau鈥檙 Comisiynydd Dioddefwyr, sydd eisoes yn llais pwerus dros ddioddefwyr.
67.Mae鈥檔 glir bod gwaith i鈥檞 wneud o hyd ond mae hefyd yn amlwg bod cefnogaeth sylweddol gan y rheiny a ymatebodd i鈥檙 ymgynghoriad, a鈥檙 rheiny y maent yn eu cynrychioli ac sy鈥檔 fodlon gwneud mwy i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 problemau a gododd yn sgil yr ymateb i鈥檙 Alwad am Dystiolaeth. Mae鈥檙 Llywodraeth wedi ymrwymo i weithio gyda鈥檙 sector i sicrhau yr ymdrinnir 芒鈥檙 problemau hyn, fel bod gweithwyr siop yn teimlo鈥檔 ddiogel yn eu gweithleoedd, a bod eu busnesau yn ffynnu a bod y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu鈥檔 teimlo鈥檔 ddiogel.
Atodiad A - Crynodeb o鈥檙 gweithredoedd
1. Bydd y Llywodraeth yn gweithio鈥檔 agos ag aelodau鈥檙 Gr诺p Llywio Trosedd Manwerthu Cenedlaethol i ddatblygu ymhellach y sylfaen dystiolaeth o ran y r么l mae cyffuriau, yn ogystal ag alcohol a ffactorau eraill, yn ei chwarae yn hybu trais a cham-drin tuag at weithwyr siop (paragraff 45).
2. Bydd y Llywodraeth yn gweithio鈥檔 agos ag aelodau鈥檙 NRCSG dros y flwyddyn i ddod i ddeall yn well effaith y gwaith a wnant i fynd i鈥檙 afael ag anghenion troseddwyr cyson, ac os ydynt yn llwyddiannus, sut y gellir atgynhyrchu鈥檙 hyn a wnant mewn rhannau eraill o鈥檙 wlad (paragraff 47).
3. Bydd y Llywodraeth yn gweithio gyda鈥檙 NRSCG i ddatblygu cyfathrebiadau i weithwyr a chyflogwyr i wneud hi鈥檔 glir na oddefir trais na cham-drin yn erbyn gweithwyr siop. Byddwn yn cymryd i ystyriaeth arferion gorau o sectorau gwahanol ac yn gwneud defnydd o aelodaeth NRSCG i ddatblygu a phrofi negesu cyn cefnogi unrhyw gyflwyniad cenedlaethol (paragraff 49).
4. Bydd y Llywodraeth, gan weithio gyda phartneriaid drwy鈥檙 NRCSG, yn datblygu canllaw arferion gorau sy鈥檔 anelu at gefnogi staff wrth adrodd am y troseddau hyn pan maent yn digwydd i sicrhau y gellir cyflawni ymateb addas (paragraff 50).
5. Bydd y Llywodraeth yn gweithio gyda鈥檙 NRCSG a鈥檙 Ganolfan Trosedd Busnes Cenedlaethol i edrych ar rwystrau i rannu data effeithiol rhwng busnesau a鈥檙 heddlu i sicrhau y gellir defnyddio gwybodaeth i ddeall y broblem yn well, gan gynnwys safleoedd sy鈥檔 gwerthu alcohol ddim yn teimlo dan anfantais, yn benodol mewn perthynas ag olrhain troseddwyr cyson (paragraff 51).
6. Bydd y Llywodraeth yn gweithio gyda鈥檙 NRCSG i ddeall beth all fod yn atal busnesau rhag adrodd am droseddau (paragraff 52).
7. Bydd y Gweinidog dros Drosedd a Phlismona yn ysgrifennu at bob Comisiynydd yr Heddlu a Throseddau a Phrif Gwnstabl yn amlygu鈥檙 broblem o drais a chamdrin tuag at weithwyr siop ac yn gofyn iddynt i barhau i weithio鈥檔 agos 芒 busnesau lleol i ddeall graddfa鈥檙 broblem yn lleol a datblygu ymatebion priodol iddi (paragraff 55).
8. Bydd y Gweinidog dros Drosedd a Phlismona yn ysgrifennu at Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddau a Phrif Gwnstabliaid yn amlinellu y dylid erlyn dwyn nwyddau gwerth hyd at 拢200 o siop fel trosedd ac felly ni ddylai gyfyngu ar allu鈥檙 heddlu i arestio neu erlyn rhywun yn y ffordd y teimlant sydd fwyaf priodol (paragraff 58)
9. Bydd y Llywodraeth hefyd yn edrych ar y broblem o effeithiolrwydd a176 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trosedd a Phlismona 2014 fel rhan o graffu ar 么l deddfu鈥檙 Ddeddf (paragraff 59).
10. Bydd y Llywodraeth yn cyflwyno deddfwriaeth ar gyfer cosbau cymunedol sy鈥檔 cynnig lefel briodol o gosb, fel y gall y cyhoedd ymddiried ynddynt, wrth fynd i鈥檙 afael ag ysgogwyr sy鈥檔 sail i droseddu a mynd i鈥檙 afael 芒 phroblemau megis iechyd meddwl a bod yn gaeth i gyffuriau neu alcohol (paragraff 61).
11. Mae鈥檙 Llywodraeth yn bwriadu cyhoeddi Papur Gwyn cyn deddfu ar ddedfrydu, a fydd yn cynnwys cynigion am ddedfrydau cymunedol mwy llym (paragraff 62).
12. Bydd y Gweinidog dros Drosedd a Phlismona yn ysgrifennu at bob Prif Gwnstabl yn eu hatgoffa o鈥檙 angen i roi cyfle i鈥檙 dioddefwyr ddefnyddio naill ai un neu鈥檙 ddau ddatganiad (paragraff 64).
13. Bydd y Llywodraeth yn ystyried deddfu i sicrhau lle mae asiantaethau wedi methu 芒 rhoi eu hawliau i ddioddefwyr, eu bod yn cael eu gwneud yn atebol. Bydd y gyfraith hefyd yn cryfhau pwerau鈥檙 Comisiynydd Dioddefwyr, sydd eisoes yn llais pwerus dros ddioddefwyr (paragraff 66).
Atodiad B 鈥 Rhestr o鈥檙 ymatebwyr
- Age Check Certification Scheme
- Cymdeithas Siopau Cyfleustra Cyf
- Cymdeithas Cwrw a Thafarndai Prydain
- Consortiwm Manwerthu Prydain
- Arolygiaeth CCTV
- Cymdeithas Manwerthu Elusennol
- City, University of London
- Siopau Cyfleustra
- Cooperative
- Heart of London Business Alliance
- Janine Green ASB
- JD fashion group plc.
- Cymdeithas Genedlaethol Partneriaethau Trosedd Busnes
- Ffederasiwn Cenedlaethol Manwerthwyr Annibynnol
- National Pubwatch
- One Stop Stores Limited
- Cymdeithas Amddiffyn y Fferyllwyr
- Savills
- Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol
- UNSAIN
Cafwyd ymatebion gan aelodau鈥檙 cyhoedd hefyd yn uniongyrchol neu drwy sefydliadau y maent yn aelodau ohonynt.