Cyfamod y Gymdeithas Sifil: Bwrdeistref Camden Llundain
Cyllid digyfyngiad a hirdymor.
Ers 2015, mae Bwrdeistref Camden yn Llundain yn gweithredu cynllun cymorth hirdymor i鈥檙 sector gwirfoddol, gan gynnwys cynnig grantiau saith mlynedd drwy鈥檙 Gronfa Partneriaid Cymunedol. Nod y dull hwn yw cynyddu sefydlogrwydd, caniat谩u cynllunio strategol, a lleihau鈥檙 fiwrocratiaeth sy鈥檔 gysylltiedig 芒 cheisiadau grant niferus.
Lansiodd y Cyngor raglen Cronfa Partneriaid Cymunedol saith mlynedd (2024 i 2031), gan ddarparu grantiau craidd i sefydliadau鈥檙 gymdeithas sifil leol sy鈥檔 cyflawni newid cymdeithasol arwyddocaol. Cafodd 38 o sefydliadau grantiau yn amrywio o 拢10,000 i 拢100,000 y flwyddyn, sef rhan o fuddsoddiad blynyddol ehangach o 拢4 miliwn. Mae鈥檙 cyllid aml-flwyddyn wedi cryfhau perthnasoedd yn sylweddol, gan feithrin amgylchedd cydweithredol sy鈥檔 canolbwyntio ar nodau cymunedol cyffredin. Roedd hyblygrwydd y cyllid yn fodd i sefydliadau drosoli cyllid arall ac addasu at anghenion sy鈥檔 esblygu. Wrth ddylunio鈥檙 rhaglen, cafodd y Cyngor eu harwain gan y Sefydliad Gweithredu Gwirfoddol (IVAR), a daeth yn un o鈥檙 asiantaethau cyhoeddus cyntaf i ymuno 芒鈥檙 fenter yma sy鈥檔 hybu鈥檙 arferion gorau mewn cyllid grantiau. Gan dynnu ar y gwersi a ddysgwyd o raglenni cyllido blaenorol a thrwy ymateb i newidiadau yn anghenion allanol cymunedau a sefydliadau ar lawr gwlad, mae Camden yn dal i ddatblygu ecosystem gyllido amrywiol i gefnogi mwy o sefydliadau ar wahanol gyfnodau datblygu.
Y gwersi allweddol
Mae鈥檙 dull yma wedi hybu mwy o gydweithredu, cyd-gymorth, a gweithio cydweithredol, gan symud perthnasoedd o鈥檙 trafodaethol i鈥檙 strategol, gan rymuso sefydliadau i gyflawni effaith gymunedol barhaol.