Cyfamod y Gymdeithas Sifil: Cymunedau Cryfach Barnsley
Gwella ardaloedd lleol trwy gydgynhyrchu gyda chymunedau.
Yn 2013, symudodd Rhaglen Cymunedau Cryfach Cyngor Barnsley o ddarparu gwasanaethau traddodiadol i fodel partneriaeth gymunedol. Mae鈥檔 mynd ati i gynnwys cymunedau a sefydliadau鈥檙 gymdeithas sifil wrth ddylunio, darparu ac adolygu gwasanaethau trwy wneud penderfyniadau datganoledig.
Er mwyn targedu adnoddau yn y ffordd fwyaf cost-effeithiol i ateb anghenion lleol, cynyddodd y cyngor gyfranogiad cymunedol, gan symud o wneud pethau ar gyfer trigolion a grwpiau cymunedol i weithio gyda nhw.
Sefydlodd Cyngor Barnsley gynghreiriau ward, bob un gydag aelodau etholedig a chynrychiolwyr cymunedol, cyllideb ddatganoledig, a phwerau penderfynu. Roedd y cynghreiriau ward yn cynnwys trigolion a grwpiau lleol i lywio blaenoriaethau cyffredin lleol a dyraniad cyllidebau. Mae鈥檙 strategaethau maen nhw wedi鈥檜 cydgynllunio ar draws Barnsley wedi cynyddu鈥檙 ymrwymiad a鈥檙 cyfranogiad lleol. Cynhyrchwyd cynllun sbwriel a throseddau amgylcheddol ar gyfer 2024 i 2030 ar y cyd ag aelodau o鈥檙 gymuned a gwirfoddolwyr y mae eu profiadau wedi llywio鈥檙 strategaeth, gan feithrin perchnogaeth gyffredin.
Mae鈥檙 newid yma i weithio gyda鈥檙 gymuned leol yn golygu bod mwy o gymunedau yn cymryd rhan mewn penderfyniadau lleol, bod yna gynnydd yn yr oriau gwirfoddoli ac yn nifer y grwpiau lleol sy鈥檔 weithredol yn yr ardal. Mae鈥檙 pwerau i ddyrannu cyllidebau o fewn cynghreiriau ward wedi cefnogi ystod o brosiectau lleol, ac wedi grymuso cymunedau i ddod at ei gilydd, a theimlo鈥檔 unedig mewn ymdeimlad o falchder yn eu hardal.聽
Mae鈥檙 effaith gymunedol yma wedi cyfrannu at gydnabyddiaeth genedlaethol i Gyngor Barnsley, gan ennill teitl Cyngor y Flwyddyn gan y Local Government Chronicle a gwobr Awdurdod Lleol y Flwyddyn gan y Municipal Journal yn 2023, yr unig gyngor i ennill y ddwy wobr yn yr un flwyddyn.