Cyfamod y Gymdeithas Sifil: Cynllunio Lle Medrwn M么n
Cydweithio fel cynghrair.
Mae Cynllunio Lle Medrwn M么n yn grymuso cymunedau Ynys M么n drwy gynghreiriau cymunedol i fynd ati i lunio gwasanaethau lleol. O鈥檙 blaen, roedd darpariaeth gwasanaethau traddodiadol o鈥檙 brig i lawr yn aml yn anwybyddu anghenion unigryw cymunedau. Roedd hyn yn creu rhwystr oedd yn atal dinasyddion rhag cyfranogi, gyda dinasyddion yn aml yn teimlo eu bod nhw heb gysylltiad 芒鈥檙 penderfyniadau oedd yn effeithio arnyn nhw. Cafodd cynllun Cynllunio Lle Medrwn M么n ei ddatblygu gyda Chyngor Sir Ynys M么n i helpu i ddod o hyd i ateb. Gyda chymorth cyllid gan Lywodraeth Cymru a thrwy ddefnyddio egwyddorion Cynllun Trydydd Sector Cymru, sefydlodd y rhaglen Gynghreiriau Cymunedol sy鈥檔 creu map o asedau cymunedol yn eu hardal, gan gynnwys cyfleusterau corfforol a鈥檙 sgiliau a鈥檙 profiadau lleol sydd ar gael. Bydden nhw鈥檔 gweithio wedyn gyda鈥檙 gwasanaethau statudol i ddatblygu gwasanaethau sydd wedi鈥檜 seilio ar asedau ac anghenion lleol.
Mae manteision Cynllunio Lle yn cynnwys cynnydd ym mhresenoldeb grwpiau cymunedol, defnyddio adeiladau cymunedol, a mwy o gyfleoedd i wirfoddoli. Mae Linc Cymunedol M么n, sef rhaglen presgripsiynu cymdeithasol i drigolion, wedi dod yn bwynt mynediad sengl ar gyfer gwasanaethau ymyrraeth ac atal cynnar i ddarparwyr statudol gan gynnwys y t卯m iechyd meddwl cymunedol, darparwyr cymorth tai, meddygon teulu, a鈥檙 heddlu lleol. Erbyn hyn mae un o鈥檙 Cynghreiriau Cymunedol, sef Cynghrair Seiriol, yn Sefydliad Elusennol Corfforedig sy鈥檔 cyflogi ei staff ei hun, yn rhedeg ei drafnidiaeth gymunedol ei hun ac yn cynhyrchu ei arian ei hun ar gyfer prosiectau ar raddfa fach dan arweiniad y gymuned. Mae hyn wedi gwella perthnasoedd rhwng y llywodraeth a鈥檙 gymdeithas sifil trwy hwyluso mwy o ymddiriedaeth a diwylliant o gyfrifoldeb cyffredin. Mae鈥檙 gwasanaethau, wedi鈥檜 datganoli ac wedi鈥檜 cadw, wedi dod yn fwy perthnasol a hygyrch, gan adeiladu gwydnwch cymunedol cryfach trwy gyfranogiad gweithredol. Mae partneriaid y sector cyhoeddus yn dal yn ymrwymo i gynllunio cymunedol ystyrlon, gyda Chynllunio Lle bellach wedi鈥檌 ysgrifennu鈥檔 uniongyrchol i mewn i ddisgrifiadau swydd a dyletswyddau swyddogion gweithredol Cyngor Ynys M么n ynghyd ag ymrwymiad i sicrhau bod holl adrannau鈥檙 cyngor yn ymwybodol o鈥檜 cyfrifoldebau i gynnal y ffordd yma o weithio.