Case study

Cyfamod y Gymdeithas Sifil: Cytundeb VCFSE

(Mentrau Gwirfoddol, Cymunedol, Crefyddol a Chymdeithasol) Manceinion Fwyaf (GM).

Cafodd ei lofnodi ym mis Tachwedd 2017 fel cytundeb cydweithredu rhwng cyrff cyhoeddus a鈥檙 gymdeithas sifil.

Sefydlwyd y Cytundeb gan Awdurdod Cyfun Manceinion Fwyaf a Phartneriaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol Manceinion Fwyaf gyda gr诺p o arweinwyr y gymdeithas sifil wedi鈥檜 lleoli ym Manceinion Fwyaf er mwyn adeiladu perthynas a fyddai鈥檔 cydnabod ac yn datgloi potensial llawn y gymdeithas sifil i fynd i鈥檙 afael ag anghydraddoldebau yn y ddinas-ranbarth er budd y cyhoedd.

Mae鈥檙 Cytundeb wedi helpu i godi proffil sefydliadau鈥檙 gymdeithas sifil gydag arweinwyr y sector cyhoeddus lleol gan fwrw goleuni ar y gwerth a鈥檙 arbenigedd y gallan nhw eu cynnig. Un bartneriaeth sy鈥檔 deillio o hynny yw Uned Lleihau Trais Manceinion Fwyaf (GMVRU) rhwng y llywodraeth, yr heddlu, iechyd, addysg, gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid, awdurdodau lleol, asiantaethau statudol eraill a鈥檙 gymdeithas sifil. Mae鈥檙 GMVRU wedi ymrwymo i arddel ymagwedd a arweinir gan y gymuned yn ei hymdrechion i atal trais. Mae鈥檙 dull yma yn cydnabod gwerth a chryfder sefydliadau鈥檙 gymdeithas sifil wrth weithio鈥檔 agos gyda chymunedau, i ddeall eu hanghenion, eu heriau a鈥檜 cryfderau mewn perthynas ag atal trais. Mae hefyd yn rhoi penderfyniadau yn nwylo cymunedau, gan gynnwys gosod blaenoriaethau a chytuno ar gyllid ar gyfer prosiectau ac ymyriadau sy鈥檔 anelu at ymgysylltu 芒 phlant, pobl ifanc a theuluoedd.

Mae mentrau鈥檙 VRU wedi cynnwys rhaglen StreetDoctors dan arweiniad y gymdeithas sifil, sy鈥檔 darparu sesiynau hyfforddi i bobl ifanc weithredu mewn argyfwng meddygol. Yn sgil hyn roedd 95% o鈥檙 bobl ifanc yn gwybod beth i鈥檞 wneud os byddai rhywun yn gwaedu neu鈥檔 anymwybodol, ac roedd 85% yn barod i weithredu mewn argyfwng meddygol.

Mae 聽yn awgrymu gwella gwelededd y Cytundeb ac ymgorffori ei egwyddorion ar draws sefydliadau鈥檙 sector cyhoeddus. Bydd hyn yn gwella cydnabyddiaeth o werth y gymdeithas sifil ar draws Manceinion Fwyaf, a thrwy hynny yn cefnogi mwy o gyfranogiad gan VCSEs a chynyddu lleisiau dinasyddion mewn gwaith ledled Manceinion Fwyaf.

Updates to this page

Published 17 July 2025