Case study

Cyfamod y Gymdeithas Sifil: Evaluation Support Scotland (ESS)

Gwella gwasanaethau trwy fesur effaith.

Mae Evaluation Support Scotland (ESS) yn elusen yn yr Alban sy鈥檔 helpu sefydliadau鈥檙 gymdeithas sifil, ymddiriedolwyr a chyllidwyr, i fesur a dangos eu heffaith trwy werthuso. Y nod yw defnyddio data a thystiolaeth yngl欧n ag effaith i lywio datblygiad polis茂au yn y dyfodol; cafodd ei greu ar 么l i ymchwil ganfod nad oedd gan lawer o sefydliadau a chyllidwyr y trydydd sector (gan gynnwys cyrff cyhoeddus) mo鈥檙 sgiliau a鈥檙 adnoddau i wneud gwerthusiadau ac i ddefnyddio鈥檙 ddirnadaeth i lywio penderfyniadau.

Mae ESS yn cael cyllid craidd gan Lywodraeth yr Alban i ddarparu gweithdai agored, cymorth wedi鈥檌 deilwra, modiwlau dysgu hunangyfeiriedig ar-lein am ddim, a chyfoeth o adnoddau ar-lein. Maen nhw hefyd wedi datblygu nifer o ganllawiau i gyllidwyr a sefydliadau, gan gynnwys , sy鈥檔 galluogi sefydliadau i gael mewnwelediadau mewn amser real, addasu eu gwaith a pharhau i ymateb i adborth gan gymunedau a dinasyddion. Cafodd partneriaeth ei chreu hefyd 芒 Llywodraeth yr Alban i ddatblygu , i wella鈥檙 berthynas rhwng rheolwyr grantiau a deiliaid grantiau, gan ddarparu cyngor ymarferol i gryfhau鈥檙 ddau barti.

Yn 2023, ariannwyd ESS gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol (TNLCF), mewn ymateb i gynllun gweithredu digartrefedd Llywodraeth yr Alban, i ganolbwyntio ar atal digartrefedd yn Glasgow a Chaeredin. Gyda chefnogaeth ESS, gallai sefydliadau dynnu sylw at effaith eu gwaith yn well a helpodd hyn i lywio鈥檙 broses o dargedu gweithgareddau yn y dyfodol.聽 Roedd hyn yn cynnwys sicrhau bod y rhai sy鈥檔 wynebu鈥檙 risg o fod yn ddigartref:

  • yn gallu cael mynediad at wasanaethau sy鈥檔 ateb eu hanghenion, gan gynnwys cymorth iechyd meddwl a gwasanaethau allgymorth ieuenctid

  • yn cael mwy o fynediad at lety mwy addas i鈥檞 hanghenion

  • yn cael mwy o ddylanwad ar y systemau sy鈥檔 effeithio arnyn nhw, trwy gynnwys profiadau byw o fewn polis茂au cymdeithasau tai

Mae gwaith ESS wedi helpu鈥檙 TNLCF i wneud penderfyniadau ynghylch cyllido prosiectau yn y dyfodol, ac wedi sicrhau bod ffrydiau cyllido鈥檙 dyfodol yn cael eu hysbysu am gymorth ac ymyriadau effeithiol oedd yn cael effaith go iawn ar y bobl y cawson nhw eu cynllunio i鈥檞 cefnogi.

Updates to this page

Published 17 July 2025