Cyfamod y Gymdeithas Sifil: Labordy Canlyniadau Llywodraeth (GO Lab)
Labordy Canlyniadau Llywodraeth, Rhannu Data, a Gweithio mewn Partneriaeth (SoF).
Mae Labordy Canlyniadau Llywodraeth (GO Lab) yn ganolfan ymchwil a pholisi yn Ysgol Lywodraeth Blavatnik, Prifysgol Rhydychen, a sefydlwyd trwy bartneriaeth 芒 Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Cenhadaeth y GO Lab yw galluogi鈥檙 llywodraeth i bartneru鈥檔 fwy effeithiol 芒鈥檙 sectorau preifat a chymdeithasol i wella bywydau pobl. Mae鈥檙 GO Lab yn cynnig canolfan gydweithredol i wella proses ddysgu鈥檙 llywodraeth yn sgil comisiynu sydd wedi鈥檌 seilio ar ganlyniadau trwy ymchwil o鈥檙 radd flaenaf, curadu a rhannu data, ac ymgysylltu鈥檔 ymatebol 芒 pholis茂au.
Trwy fentrau fel INDIGO (y Rhwydwaith Rhyngwladol ar gyfer Data ar Effaith a Chanlyniadau Llywodraethau), mae gwaith y GO Lab yn dangos sut y gall penderfyniadau dan arweiniad data ategu perthnasoedd gweithio effeithiol ar draws sectorau. Mae INDIGO yn gydweithrediad data byd-eang sy鈥檔 rhannu data yn agored ac yn dryloyw am bartneriaethau sy鈥檔 canolbwyntio ar ganlyniadau. Mae menter INDIGO yn cynnwys cynnal cymuned o ymarferwyr, system ar gyfer rhannu data a setiau data agored sydd wedi鈥檜 cynllunio i wasanaethu fel nwyddau cyhoeddus, megis set ddata gynhwysfawr ar bartneriaethau canlyniadau cymdeithasol, a chanlyniadau a gyflawnir gan brosiectau鈥檙 Gronfa Cyfleoedd Bywyd.
Y gwersi allweddol
Mae rhannu data agored rhwng cyrff y gymdeithas sifil a chyrff cyhoeddus yn creu cronfa dystiolaeth gyffredin ac yn gwella cyd-ddealltwriaeth, gan rymuso鈥檙 gymdeithas sifil a rhanddeiliaid eraill yr un pryd i ddeall ac ymgysylltu 芒 mentrau鈥檙 llywodraeth yn well.