Case study

Cyfamod y Gymdeithas Sifil: Rhaglen Bregusrwydd Cynllun Preswylio鈥檔 Sefydlog yr UE (EUSS)

Trosoli data a thryloywder i bontio rhaniadau digidol dinasyddion bregus.

Gan fod Cynllun Preswylio鈥檔 Sefydlog yr UE wedi鈥檌 ddylunio ar sail digidol yn gyntaf, roedd yn creu heriau i ddinasyddion o鈥檙 UE sy鈥檔 agored i niwed yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys y rhai sy鈥檔 wynebu rhwystrau iaith, allg谩u digidol, problemau iechyd meddwl a digartrefedd. Roedd y materion hyn yn rhwystro pobl rhag gwneud cais am statws sefydlog a sicrhau statws sefydlog yn y Deyrnas Unedig. Er bod llawer o sefydliadau鈥檙 gymdeithas sifil (CSOs) mewn sefyllfa unigryw i gyrraedd a chefnogi鈥檙 unigolion hyn, doedd ganddyn nhw mo鈥檙 data cywir i weithio arno.

Mewn ymateb, lansiodd y llywodraeth raglen grant ar gyfer CSOs i wella鈥檙 broses o gasglu, a rhannu data ac i wella鈥檌 dryloywder. Roedd hyn yn caniat谩u gwell dulliau rhannu data rhwng y llywodraeth a derbynwyr y grantiau ar gyfer asesiadau uniongyrchol, gan sefydlu safonau tryloywder, a chynnig cefnogaeth i sefydliadau llai ym maes cydymffurfio 芒 rheolaeth data. Roedd y data a gasglwyd oddi wrth y gymdeithas sifil yn llywio newidiadau mewn polisi ac allgymorth, gan wella鈥檙 ddealltwriaeth o anghenion a chaniat谩u atebion cydweithredol, wedi鈥檜 seilio ar dystiolaeth.

Dyrannwyd dros 拢32.5 miliwn yn llwyddiannus i fwy na 70 o sefydliadau鈥檙 gymdeithas sifil, gan eu galluogi i roi cymorth hanfodol i fwy na 500,000 o ddinasyddion bregus na fydden nhw wedi gwneud cais i鈥檙 cynllun fel arall. Helpodd y fenter hanfodol yma unigolion i ddeall y cynllun, llenwi ceisiadau, a chael mynediad at wasanaethau cyfreithiol neu wasanaethau cyfieithu.

Helpodd y grantiau hefyd bedwar sefydliad cenedlaethol (un yr un yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon) a nifer o sefydliadau rhanbarthol, gan sicrhau mynediad at wasanaethau ledled y Deyrnas Unedig. Un enghraifft yw Citizens Advice Scotland, gyda 1,000 o gynghorwyr mewn 200 o leoliadau allgymorth yn rhoi cyngor ar Gynllun Preswylio鈥檔 Sefydlog yr UE (EUSS), gan gynnwys budd-daliadau, tai, a chymorth yngl欧n 芒 dyledion, gan wella lles cymunedol.

Mae鈥檙 camau nesaf yn cynnwys cymhwyso鈥檙 model yma at gynlluniau yn y dyfodol ac olrhain effeithiau hirdymor ar wydnwch cymunedol.

Updates to this page

Published 17 July 2025