Case study

Cyfamod y Gymdeithas Sifil: Trawsnewid y GIG

Cydweithredu yn llunio iechyd pobl ar gyfer y dyfodol.

Trwy ddeialog agored a phartneriaethau 芒鈥檙 gymdeithas sifil, mae Cenhadaeth Iechyd llywodraeth y Deyrnas Unedig wrthi鈥檔 adeiladu Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yn Lloegr sy鈥檔 addas at y dyfodol.

Gosododd yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol strategaeth ymgysylltu gynhwysfawr ar waith i lywio datblygiad y Cynllun Iechyd 10 Mlynedd, sy鈥檔 troi鈥檙 miloedd o fewnwelediadau a gasglwyd yn gynllun gweithredu clir. Gall y gymdeithas sifil chwarae rhan hanfodol wrth ategu鈥檙 tair sifft sylfaenol: o鈥檙 ysbyty i鈥檙 gymuned, o analog i ddigidol ac o driniaeth i atal.

Mae鈥檙 Cynllun Iechyd 10 Mlynedd yn cynnwys nod penodol o sicrhau mai鈥檙 GIG yw鈥檙 partner gorau posibl a鈥檙 darparwr gofal iechyd cyhoeddus mwyaf cydweithredol yn y byd. Drwy arloesi o鈥檙 gwaelod i fyny ac ar lawr gwlad y byddwn ni鈥檔 gwneud y cynnydd mwyaf posibl. Ochr yn ochr 芒 gosod strategaeth, bydd gan y Cynllun nod penodol o harneisio partneriaethau 芒 buddsoddwyr, diwydiant, llywodraeth leol, cyflogwyr, busnesau bach a chanolig, mudiadau gwirfoddol ac undebau llafur. Bydd dyfnhau鈥檙 berthynas 芒 phartneriaid yn y gymdeithas sifil yn helpu i gyflawni nodau鈥檙 Cynllun Iechyd 10 Mlynedd, gan gynnwys trwy feithrin model 鈥淕wasanaeth Iechyd Cymdogaeth鈥.

Yr uchelgais yw defnyddio nifer o ddarparwyr 鈥 yn y GIG, y sector gwirfoddol, y sector annibynnol a mentrau cymdeithasol. Lle mae arloesedd mor gyflym yn digwydd heddiw o ran sut y gellir trawsnewid gwasanaethau trwy ddatblygiadau mewn gwyddoniaeth a thechnoleg, mae鈥檙 llywodraeth am ehangu eco-system y darparwyr. Er enghraifft, mae yna botensial enfawr i ystod eang o ddarparwyr gynnig gwerth gwirioneddol yn y Gwasanaeth Iechyd Cymdogaeth. Y nod sydd gennym yw sefydlu Canolfan Iechyd Cymdogaeth ym mhob cymuned, sef 鈥榮iop un stop鈥 ar gyfer gofal i gleifion a鈥檙 man y bydd timau aml-ddisgyblaeth yn gweithredu ohono. Bydd Canolfannau Iechyd Cymdogaeth yn cydleoli gwasanaethau鈥檙 GIG, yr awdurdodau lleol a鈥檙 sector gwirfoddol i helpu i greu arlwy sy鈥檔 ateb anghenion y boblogaeth yn holistig.

Updates to this page

Published 17 July 2025