Cyfamod y Gymdeithas Sifil: Y Cynllun i Wneud i Waith Dalu
Cydweithredu cynnar a chynhwysol 芒 rhanddeiliaid.
O鈥檙 diwrnod cyntaf yn y swydd, mae鈥檙 Llywodraeth wedi nodi ei hymrwymiad i greu swyddi sy鈥檔 rhoi diogelwch, yn trin gweithwyr yn deg, ac yn talu cyflog dechau. I helpu i gyflawni hyn, ymrwymodd y Llywodraeth i barhau i weithio鈥檔 agos mewn partneriaeth 芒 busnes ac undebau llafur a hynny ar lefel y gweinidogion a鈥檙 swyddogion. Mae鈥檙 gwaith teirochrog yma wedi鈥檌 ymgorffori yn y gwaith o gyflawni鈥檙 Cynllun i Wneud i Waith Dalu ac fel rhan o ddatblygiad Bil Hawliau Cyflogaeth nodedig y Llywodraeth.
Mae鈥檙 ffordd yma o weithio wedi cynnwys nifer o sesiynau ymgysylltu i glywed barn onest ac amrywiol o amryw o safbwyntiau a chefndiroedd. Mae鈥檙 ddirnadaeth a鈥檙 adborth arbenigol a manwl a gafwyd o鈥檙 gwaith teirochrog wedi bod yn amhrisiadwy wrth bennu鈥檙 manylion cywir ar draws y Cynllun i Wneud i Waith Dalu a鈥檙 Bil Hawliau Cyflogaeth. O hawliau newydd ar oriau gwarantedig, i d芒l salwch, ac i amddiffyn rhag diswyddo annheg, mae cynrychiolwyr undebau llafur a busnes wedi cymryd rhan weithredol i lywio datblygiad y polisi a byddan nhw鈥檔 parhau 芒鈥檜 cyfranogiad yn ystod y gweithredu.
Mae鈥檙 dull cydweithredol yma wedi sicrhau bod datblygu鈥檙 Cynllun i Wneud i Waith Dalu a鈥檙 Bil Hawliau Cyflogaeth wedi elwa o arbenigedd a safbwyntiau ymarferol cynrychiolwyr cyflogwyr a chyflogeion. Mae Gweinidogion a Chyfarwyddiaeth Hawliau Cyflogaeth y DBT wedi ymgysylltu 芒 mwy na 190 o randdeiliaid; gan sicrhau bod y Llywodraeth yn ymgysylltu鈥檔 eang ac yn ddwfn. Bydd y polis茂au sy鈥檔 deillio o hynny yn rhoi鈥檙 uwchraddiad mwyaf mewn hawliau gweithwyr mewn cenhedlaeth.
Y gwersi allweddol
Mae cydweithredu cynnar a helaeth 芒鈥檙 rhanddeiliaid allweddol yn hanfodol ar gyfer datblygu deddfwriaeth cyflogaeth effeithiol sy鈥檔 ennyn derbyniad da. Dylai鈥檙 dull yma gael ei barhau trwy gydol y gwaith datblygu polisi. Mae ymgorffori gwaith teirochrog yn meithrin dealltwriaeth fwy cynhwysfawr o鈥檙 materion ac yn helpu i liniaru canlyniadau anfwriadol.