Consultation outcome

Cynhaliaeth Plant: Gwella casglu a throsglwyddo taliadau – Ymateb y Llywodraeth i'r Ymgynghoriad

Updated 23 June 2025

1. Rhagair y Gweinidog 

Mae’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn un o’r pethau prin hynny: gwasanaeth cyhoeddus y mae’r rhan fwyaf o bobl yn gobeithio na fydd byth ei angen arnynt.  Ond pan fodd ei angen, mae’n gwneud gwaith hollbwysig wrth helpu i sicrhau bod plant yn cael y gefnogaeth ariannol sydd ei angen arnynt. Gall unrhyw deulu chwalu, ond ni ddylai plant syrthio i dlodi na mynd heb unrhyw beth oherwydd chwalfa yn y berthynas rhwng rhieni. Pan fydd hyn yn digwydd, mae angen y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant arnynt, ac nid yw’r system bresennol yn gweithio.

Cafodd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant ei ddiwygio ddiwethaf yn gynnar yn y 2010au i annog rhieni i wneud eu trefniadau eu hunain. Pe na bai hynny’n gweithio, eu dewis nesaf oedd defnyddio Talu Uniongyrchol, gwasanaeth lle mae’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn cyfrifo’r gynhaliaeth sy’n ddyledus, a rhieni’n talu ei gilydd yn uniongyrchol. Dim ond pe bai hynny’n methu y caniatawyd i rieni ddefnyddio’r gwasanaeth Casglu a Thalu llawn lle mae’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn casglu ac yn trosglwyddo’r arian sy’n ddyledus. Fodd bynnag, ers y diwygiadau hynny mae nifer y bobl sydd â threfniadau cynhaliaeth plant statudol wedi gostwng ac mae nifer y bobl heb drefniant wedi cynyddu sy’n golygu bod llai o blant yn elwa ar gynhaliaeth plant hanfodol.

Bydd y diwygiadau yr ydym yn eu cyhoeddi heddiw yn dileu Talu Uniongyrchol yn gyfan gwbl. Bydd hyn yn cynyddu nifer y trefniadau cynhaliaeth effeithiol rhwng rhieni, yn cael arian i lifo, yn codi miloedd o blant allan o dlodi, ac yn mynd i’r afael â diffyg cydymffurfio yn ein systemau mewn ffordd na allwn o dan y systemau presennol.

Mae ymchwil yn dweud wrthym mai dim ond 60% o rieni sydd â’r prif ofal o blant yn y gwasanaeth Talu Uniongyrchol sy’n cael yr holl gynhaliaeth plant sy’n ddyledus iddynt, a dim ond 40% ohonynt a ddywedodd eu bod yn ei chael bob amser ar amser. Nid yw hyn yn dderbyniol, yn enwedig gan ein bod yn gwybod bod rhieni sy’n defnyddio’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn tueddu i fod ar incwm is na’r rhai sy’n gwneud trefniadau preifat, felly mae’r arian sy’n newid dwylo hyd yn oed yn fwy allweddol. Bydd y newid hwn o fudd i blant, a dyna pam mai dyna’r peth iawn i’w wneud.

Mae tlodi yn creithio bywydau a chyfleoedd bywyd gormod o’n plant, gan gyfyngu ar eu rhagolygon ar gyfer y dyfodol a dal potensial economaidd y wlad hon yn ôl. Mae’r llywodraeth hon yn benderfynol o fynd i’r afael â’r sgandal hon. Bydd ein Strategaeth Tlodi Plant yn canolbwyntio ar drwsio achosion sylfaenol tlodi plant fel rhan o Gynllun ar gyfer Newid y llywodraeth. Mae diwygio’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn rhan o’r camau brys yr ydym yn eu cymryd i gefnogi’r strategaeth honno. Mae plant mewn teuluoedd sydd wedi gwahanu yn dlotach na’r rheini mewn teuluoedd nad ydynt wedi gwahanu ac mae’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod y plant hyn yn cael y cymorth ariannol sydd ei angen arnynt, gan weithio gyda theuluoedd sydd wedi gwahanu i sicrhau bod arian yn llifo i blant. Mae taliadau cynhaliaeth plant yn cadw tua 120,000 o blant allan o dlodi bob blwyddyn, ond mae angen i ni wneud yn well, a bwriadwn wneud hynny.

Rwy’n ddiolchgar i’r llywodraeth flaenorol am lansio’r ymgynghoriad Cynhaliaeth Plant: Gwella casglu a throsglwyddo taliadau. Estynnwyd y cyfnod ymgynghori er mwyn casglu cymaint o adborth â phosibl a hoffwn ddiolch i’r holl unigolion a sefydliadau rhanddeiliaid a roddodd o’u hamser i ymateb, gan roi mewnwelediad pwysig i’n cynigion.  Mae’r ymatebion yn rhychwantu amrywiaeth o safbwyntiau, gyda safbwyntiau’r rhieni hynny sy’n talu cynhaliaeth plant yn aml yn wahanol i’r rhai sy’n cael cynhaliaeth. Ond er bod safbwyntiau’n amrywio, gallwn i gyd gytuno ar un peth: y dylai plant gael y cymorth y mae ganddynt hawl iddo, a bod arnom angen Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant modern, effeithlon a gofalgar i helpu i wireddu hyn.

Mae uchelgais y llywodraeth hon ar gyfer y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn driphlyg. Rydym am ddarparu gwasanaeth teg y gellir ymddiried ynddo sy’n fwy hygyrch i rieni, yn enwedig y rheini sy’n fregus. Rydym am fynd i’r afael â diffyg cydymffurfio yn uniongyrchol drwy symud i un gwasanaeth symlach lle gallwn adnabod yn gyflym, a mynd i’r afael â thaliadau a fethwyd. Yn olaf, ac yn bwysicaf oll, rydym am godi mwy o blant allan o dlodi. 

Er mwyn gwneud hyn mae’n rhaid i ni helpu teuluoedd sydd wedi gwahanu i drefnu cynhaliaeth plant, boed hynny o fewn y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant, neu mewn trefniadau preifat sy’n seiliedig ar y teulu. Rydym yn benderfynol o gyflawni’r uchelgeisiau hyn, ac mae’r ymateb hwn yn nodi’r newidiadau a’r cymorth yr ydym yn eu rhoi ar waith i sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni.

Er mwyn adeiladu ymhellach ar ein cynlluniau uchelgeisiol i wella’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant, hoffwn hefyd gyhoeddi ein bwriad i ymgynghori ar y cyfrifiad Cynhaliaeth Plant. Mae dros 20 mlynedd ers i’r cyfrifiad hwn gael ei adolygu’n llawn, felly rydym am geisio barn rhieni a’r cyhoedd yn ehangach wrth i ni ei ail-lunio i sicrhau bod y cyfrifiad yn deg ac yn addas ar gyfer y dyfodol. Rydym yn bwriadu cyhoeddi’r ymgynghoriad hwn tua diwedd y flwyddyn. 

Fel y gweinidog sy’n gyfrifol am y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant, mae’n bleser gennyf gyhoeddi ymateb y Llywodraeth i’r ymgynghoriad pwysig hwn ac edrychaf ymlaen at barhau â’n gwaith tuag at roi diwygiadau ar waith.

Y Farwnes Sherlock OBE

Gweinidog Gwladol dros Waith a Phensiynau (yn Nhŷ’r Arglwyddi)