Consultation outcome

Government response to consultation and summary of public responses (Welsh, accessible)

Updated 2 October 2023

Ymgynghoriad ar gynigion deddfwriaeth newydd ar gyfer cyllyll i fynd i鈥檙 afael 芒 defnyddio cyllyll twca ac eitemau llafn eraill mewn troseddau

Ymateb y llywodraeth

Cyhoeddwyd: 30 Awst 2023

Crynodeb gweithredol

1. Ar 18 Ebrill 2023, lansiodd y Swyddfa Gartref ymgynghoriad ar 鈥榞ynigion deddfwriaeth newydd ar gyfer cyllyll i fynd i鈥檙 afael 芒 defnyddio cyllyll twca ac eitemau llafn eraill mewn troseddau鈥. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 6 Mehefin 2023. Mae鈥檙 adroddiad hwn yn crynhoi barn yr ymatebwyr am y cynigion, ymateb y llywodraeth a鈥檙 camau nesaf.

2. Roedd yr ymgynghoriad yn holi barn am newidiadau arfaethedig i鈥檙 gyfraith ar gyllyll, gan gynnwys cyllyll twca ac eitemau llafn eraill mewn troseddau. Roedd yr ymgynghoriad yn holi barn am y cynigion canlynol:

i. Cynnig 1: Cyflwyno gwaharddiad wedi鈥檌 dargedu at fathau arbennig o gyllyll twca a chyllyll mawr sy鈥檔 ymddangos i fod wedi eu dylunio i edrych yn fygythiol heb unrhyw bwrpas ymarferol.

ii. Cynnig 2: A ddylid rhoi pwerau ychwanegol i鈥檙 heddlu i atafaelu, cadw a dinistrio eitemau llafn o hyd arbennig sydd ym meddiant pobl yn gyfreithlon os yw鈥檙 heddlu鈥檔 eu canfod yn gyfreithlon ar eiddo preifat ac mae ganddynt le rhesymol i amau bod yr eitem(au) yn debygol o gael eu defnyddio mewn trosedd.

iii. Cynnig 3: A oes angen cynyddu鈥檙 uchafswm cosb am fewnforio, gweithgynhyrchu, gwerthu a chyflenwi arfau ymosodol sydd wedi eu gwahardd (a141 Deddf Cyfiawnder Troseddol 1988 ac a1 Deddf Cyfyngu ar Arfau Ymosodol 1959) a鈥檙 drosedd o werthu eitemau llafn i rai dan 18 oed (a141A Deddf Cyfiawnder Troseddol 1988) i ddwy flynedd, i adlewyrchu difrifoldeb y troseddau hyn.

iv. Cynnig 4: A ddylai鈥檙 System Cyfiawnder Troseddol drin yn fwy difrifol achosion o fod ym meddiant yn gyhoeddus o gyllyll ac arfau ymosodol wedi eu gwahardd.

v. Cynnig 5: A oes angen trosedd ar wah芒n o fod ym meddiant eitemau llafn gyda鈥檙 bwriad o anafu neu achosi ofn trais gydag uchafswm cosb uwch na鈥檙 trosedd presennol o fod ym meddiant arf ymosodol o dan a1 PCA 1953.

3. Datblygwyd y cynigion hyn i fynd i鈥檙 afael 芒 defnyddio cyllyll twca mewn troseddau鈥檔 dilyn pryderon gan Gyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu (NPCC) bod y broblem ar gynnydd ar y strydoedd. Wrth drafod 芒鈥檙 heddlu, ni leisiwyd pryder penodol am gleddyfau, ac mewn trafodaeth 芒鈥檙 NPCC, fe wnaethom gytuno ar gyfer yr ymgynghoriad hwn i ganolbwyntio ar gyllyll 鈥榮ombi鈥 a chyllyll twca. Fodd bynnag, byddwn yn parhau i adolygu hyn pe bai angen gweithredol i ni ehangu鈥檙 gwaharddiad i gynnwys cleddyfau ac eitemau llafn neu arfau ymosodol eraill.

4. Roedd yr ymgynghoriad ar agor i鈥檙 cyhoedd. Ysgrifennwyd at dros 150 o randdeiliaid yn uniongyrchol i wahodd eu mewnbwn, gan godi ymwybyddiaeth o鈥檙 ymgynghoriad drwy鈥檙 cyfryngau, y Senedd ac amrywiol grwpiau rhanddeiliaid. Cyn ac yn ystod yr ymgynghoriad, mi fuom yn siarad 芒 phartneriaid yn y system cyfiawnder troseddol a busnesau a sefydliadau y byddai鈥檙 cynigion yn effeithio鈥檔 uniongyrchol arnynt. Gwrandawyd yn fanwl ar farn pobl y mae troseddau cyllyll a鈥檜 heffaith ddychrynllyd wedi effeithio鈥檔 uniongyrchol arnynt.Roedd hyn er mwyn gallu ystyried ystod eang o farn ar gyfer datblygu polisi.

5. Mae鈥檙 cynigion yn ymwneud 芒 materion datganoledig, sydd ond yn berthnasol i Gymru a Lloegr. Byddai unrhyw gynigion deddfwriaeth a ystyrir i fod yn angenrheidiol yn berthnasol i Gymru a Lloegr yn unig, ond byddwn yn gweithio鈥檔 agos 芒鈥檙 gwledydd datganoledig ar sut y gallai cynigion penodol fod yn berthnasol neu effeithio ar yr Alban a Gogledd Iwerddon.

6. Derbyniwyd cyfanswm o 2,544 ymateb i鈥檙 ymgynghoriad. Nid oedd pawb wedi ateb pob cwestiwn; felly mae鈥檙 ffigurau鈥檔 seiliedig ar yr atebion a dderbyniwyd i bob cwestiwn drwy鈥檙 arolwg ar-lein ac e-bost. Mae鈥檙 ymatebion i gyd wedi eu dadansoddi a鈥檜 hystyried yn llawn wrth baratoi鈥檙 ymateb hwn gan y llywodraeth. Hoffem ddiolch i bawb a gymrodd amser i ymateb.

7. Gallai pobl ymateb i鈥檙 ymgynghoriad naill ai drwy arolwg ar-lein ar gov.uk neu drwy e-bostio blwch post yr ymgynghoriad yn machetes-knives- consultation@homeoffice.gov.uk. Derbyniwyd y mwyafrif llethol o鈥檙 ymatebion ar-lein ond roedd rhai aelodau o鈥檙 cyhoedd, heddluoedd a rhai sy鈥檔 gweithio yn y diwydiant wedi ymateb drwy e-bost.

8. Dadansoddwyd nifer yr ymatebion a dderbyniwyd drwy bob cyfrwng fel a ganlyn:

  • Arolwg ar-lein: 2,393 (94%)

  • E-bost: 151 (6%)

9. O鈥檙 2,544 ymateb a dderbyniwyd, cyflwynwyd tua 42 ar ran sefydliadau gyda鈥檙 gweddill wedi dod gan aelodau鈥檙 cyhoedd, gan gynnwys ymarferwyr yn ymateb fel unigolion.

10. Roedd yr ymatebwyr yn cynnwys busnesau, elusennau, sefydliadau鈥檔 gweithio gyda phlant mewn perygl, anturiaethwyr awyr agored, casglwyr, cymdeithasau garddio, amgueddfeydd ac asiantaethau gorfodaeth.

11. Mae鈥檙 llywodraeth wedi dadansoddi鈥檙 ymatebion i gyd, a grynhoir yn y ddogfen hon. Roedd y rhan fwyaf o鈥檙 ymatebion o blaid y cynigion. Fodd bynnag, roedd nifer wedi codi pryderon ynghylch cynigion 1 a 2 a byddwn yn trafod y rhain yn fanwl nes ymlaen yn y ddogfen.

12. Cododd nifer o them芒u allweddol, gan gynnwys:

i. Pryderon y byddai gwahardd rhai mathau o gyllyll a chyllyll twca鈥檔 cael effaith negyddol ar angen cyfreithlon pobl i fod ym meddiant a defnyddio cyllyll. Roedd y rhai a oedd yn erbyn y gwaharddiad yn credu y dylai deddfwriaeth a chamau鈥檙 llywodraeth ganolbwyntio ar dargedu troseddwyr yn lle cyflwyno mesurau a fyddai鈥檔 effeithio ar bawb ac a allai amharu ar ddefnydd cyfreithlon.

ii. Cynigiodd rai鈥檙 farn na ddylai unrhyw gyfyngiadau ar gyllyll twca amharu ar weithgareddau cyfreithlon rhai sydd eisiau defnyddio cyllyll twca fel offer gwaith ond y byddent o blaid gwaharddiad pe bai鈥檙 ddeddfwriaeth yn canolbwyntio鈥檔 glir dim ond ar gyllyll twca sy鈥檔 鈥榶mddangos i fod wedi eu dylunio i edrych yn fygythiol ac nid fel offer amaethyddol neu offer i鈥檞 defnyddio yn yr awyr agored鈥.

iii. Lleisiodd rai, gan gynnwys casglwyr a grwpiau 鈥榓il-greu golygfa鈥, bryderon y byddai eitemau o ddiddordeb hanesyddol yn cael eu gwahardd fel canlyniad anfwriadol i wahardd rhai mathau o gyllyll twca a chyllyll awyr agored mawr, gan awgrymu y dylai鈥檙 ddeddfwriaeth gynnwys amddiffyniad ar gyfer eitemau o bwys neu ddiddordeb hanesyddol. Awgrymodd rai hefyd y dylid eithrio eitemau wedi eu saern茂o鈥檔 draddodiadol 芒 llaw, tebyg i鈥檙 amddiffyniad presennol ar gyfer cleddyfau gyda llafnau crwm neu ar dro.

iv. Pryderon y gallai p诺er yr heddlu i atafaelu eitemau llafn a gedwir yn gyfreithlon ar eiddo preifat arwain at i鈥檙 heddlu gymryd meddiant ar hap o eiddo preifat gan ddinasyddion sy鈥檔 ufudd i鈥檙 gyfraith.

v. Awgrymodd rai, gan gynnwys ymarferwyr sy鈥檔 gweithio gyda phobl ifanc, y gallai cynigion 3-5 effeithio鈥檔 negyddol ar bobl ifanc sydd efallai鈥檔 cario cyllyll yn gyhoeddus er mwyn amddiffyn eu hunain neu oherwydd eu bod yn cael eu lled-orfodi i gario鈥檙 eitem.

13. Trafodwn y them芒u hyn yn fwy manwl yn yr adrannau canlynol sy鈥檔 ystyried yr ymatebion i bob un o鈥檙 cynigion yn ymgynghoriad y llywodraeth.

14. Mae鈥檙 llywodraeth yn ddiolchgar am bob ymateb ac wedi ystyried pob barn, safbwynt a thystiolaeth yn ofalus. Mae鈥檙 ymatebion wedi goleuo鈥檙 mesurau arfaethedig a bydd y llywodraeth yn mynd ati i gyflwyno deddfwriaeth ar gyfer y cynigion canlynol pan fydd amser seneddol yn caniat谩u.

i. Gwahardd rhai mathau o gyllyll twca a chyllyll sy鈥檔 ymddangos i fod wedi cael eu dylunio nid fel offer gwaith ond i edrych yn fygythiol ac addas i鈥檙 pwrpas o ymladd.

ii. P诺er newydd i鈥檙 heddlu i atafaelu, cadw a dinistrio eitemau llafn a gedwir yn gyfreithlon ar eiddo preifat os yw鈥檙 heddlu yn yr eiddo鈥檔 gyfreithlon ac mae ganddynt le rhesymol i amau y defnyddir yr eitem mewn trosedd.

iii. Cynyddu鈥檙 uchafswm cosb am y trosedd o fewnforio, gweithgynhyrchu, gwerthu a chyflenwi arfau peryglus ac wedi eu gwahardd, a gwerthu cyllyll i rai dan 18 oed, i ddwy flynedd.

iv. Trosedd newydd o fod ym meddiant eitemau llafn gyda鈥檙 bwriad o beryglu bywyd neu achosi ofn trais.

15. Hefyd, bydd y llywodraeth yn gofyn i鈥檙 Cyngor Dedfrydu ystyried diwygio鈥檙 Canllawiau Dedfrydu ar fod ym meddiant eitemau llafn ac arfau ymosodol fel y byddai bod ym meddiant arf wedi鈥檌 wahardd yn cael ei drin yn fwy difrifol na bod ym meddiant arf heb fod wedi鈥檌 wahardd.

16. Byddwn yn parhau i drafod 芒 phartneriaid allweddol wrth i ni ddatblygu a gweithredu unrhyw newidiadau deddfwriaeth.

Ymatebion i鈥檙 Ymgynghoriad

Cwestiwn 1: Ydych chi鈥檔 cytuno y dylai鈥檙 llywodraeth gymryd camau pellach i fynd i鈥檙 afael 芒 throseddau cyllyll, ac yn enwedig defnyddio cyllyll twca a chyllyll mawr eraill mewn troseddau?

1. Gofynnwyd i ymatebwyr dicio un o鈥檙 ymatebion canlynol gan egluro鈥檙 rheswm am eu hateb. Yr ymatebion a roddwyd oedd:

  • Ydw

  • Nac ydw

2. O鈥檙 2,388 a atebodd y cwestiwn hwn, roedd 53% yn cytuno y dylai鈥檙 llywodraeth gymryd camau pellach i fynd i鈥檙 afael 芒 throseddau cyllyll, yn enwedig defnyddio cyllyll twca a chyllyll mawr eraill. Roedd y 47% arall yn anghytuno bod angen cymryd camau pellach.

3. O鈥檙 rhai a atebodd 鈥楴ac ydw鈥 i鈥檙 cwestiwn, eu prif bryderon oedd na fyddai newid y gyfraith yn cael fawr ddim effaith ar droseddau cyllyll neu y byddai gwneud mwy i geisio datrys troseddau cyllyll yn cael effaith niweidiol ar rai sydd angen defnyddio cyllyll yn gyfreithlon.

Cynnig 1 - Gwahardd rhai mathau o gyllyll twca a chyllyll sy鈥檔 awgrymu nad oes unrhyw ddefnydd ymarferol iddynt ac sy鈥檔 ymddangos i fod wedi cael eu dylunio i edrych yn fygythiol ac addas i鈥檙 pwrpas o ymladd.

Cwestiwn 2: Ydych chi鈥檔 cytuno 芒鈥檙 cynnig?

4. Fe wnaethom holi barn am ychwanegu rhai mathau o gyllyll a chyllyll twca at y rhestr o arfau sydd wedi eu gwahardd o dan a141 CJA 1988. Gofynnwyd i鈥檙 ymatebwyr dicio un o鈥檙 atebion canlynol gan egluro鈥檙 rheswm am eu hateb. Yr ymatebion a roddwyd oedd:

  • Ydw

  • Nac ydw

5. Roedd cyfanswm o 2,443 o atebion i鈥檙 cwestiwn hwn.

6. O鈥檙 rhai a atebodd y cwestiwn hwn, roedd 893 (37%) yn cytuno 芒鈥檙 cynnig i wahardd rhai mathau o gyllyll a chyllyll twca sy鈥檔 ymddangos i fod wedi eu dylunio i edrych yn fygythiol ac addas ar gyfer ymladd, gyda 1,550 (63%) yn nodi nad oeddent yn cytuno a鈥檙 cynnig.

7. Y rheswm mwyaf cyffredin dros beidio 芒 bod o blaid y cynnig oedd y byddai鈥檔 effeithio ar bobl oedd angen defnyddio cyllyll a chyllyll twca鈥檔 gyfreithlon at ddibenion gwaith a hamdden. Roedd rhai鈥檔 poeni na fyddent yn gallu defnyddio cyllyll twca mewn amgylcheddau gwledig lle na fyddai鈥檔 ymarferol na鈥檔 ddymunol defnyddio offeryn p诺er arall yn eu lle. Roedd eraill yn poeni y byddai鈥檙 gwaharddiad yn effeithio ar anturiaethwyr awyr agored wrth wneud gweithgareddau lle鈥檙 oedd angen arf twca i glirio clwt o dir ar gyfer gwersylla, ayyb.

8. Roedd ymatebwyr hefyd yn ansicr pa mor effeithiol fyddai鈥檙 newid hwn i wella鈥檙 broblem o droseddau cyllyll gan fynegi barn y dylai鈥檙 llywodraeth ganolbwyntio ei hymdrechion ar rai sy鈥檔 defnyddio cyllyll fel arfau, yn lle ar fesurau fydd yn effeithio ar y boblogaeth ehangach.

9. Roedd nifer helaeth o ymatebwyr hefyd yn dadlau y byddai ychwanegu鈥檙 math yma o gyllyll at y rhestr o arfau ymosodol yn agored i ddehongliad; roeddent felly鈥檔 pwysleisio鈥檔 gryf bod angen bod yn glir ar y diffiniadau a鈥檙 disgrifiadau o鈥檙 math o gyllyll a chyllyll twca y mae鈥檙 llywodraeth yn bwriadu eu gwahardd.

10. Roedd sylwadau gan rai a atebodd 鈥榶dw鈥 i鈥檙 cwestiwn yn cynnwys y farn nad oes dim angen neu fawr ddim angen i bobl fod yn berchen ar y cyllyll a ddisgrifir yn yr ymgynghoriad. Roedd eraill o鈥檙 farn bod modd dod o hyd i, a defnyddio, cyllyll eraill.

Cwestiwn 3: Gan edrych ar y nodweddion cyffredin sy鈥檔 perthyn i鈥檙 cyllyll a chyllyll twca y cynigiwn eu gwahardd, ydych chi鈥檔 cytuno y dylai unrhyw ddisgrifiad cyfreithiol gyfeirio at:

a) Bod yr eitem yn cynnwys ymylon torri llyfn a danheddog

b) Bod yr eitem yn cynnwys mwy nag un twll

c) Bod yr eitem o hyd arbennig

d) Unrhyw nodweddion eraill y dylid eu cynnwys yn y disgrifiad cyfreithiol.

11. Holwyd barn pobl am y tair nodwedd a ddisgrifir uchod yn rhannau a), b) ac c) y cwestiwn hwn. Mae鈥檙 nodweddion hyn, sy鈥檔 gyffredin mewn cyllyll 鈥榮ombi鈥, yn ymddangos i fod yn ddeniadol i rai sydd eisiau defnyddio arf twca fel arf ymosodol yn lle offeryn gwaith 鈥 nifer o ymylon torri sy鈥檔 cyfuno ymylon llyfn a danheddog, tyllau a siapiau sy鈥檔 debycach i gyllell ffantasi na chyllell waith. Roedd rhai sy鈥檔 gweithio yn y diwydiant yn dadlau bod y nodweddion hyn yn eu gwneud yn anaddas i鈥檙 amrywiol ddibenion ymarferol a chyfreithlon y dyluniwyd cyllyll twca ar eu cyfer.

a) Bod yr eitem yn cynnwys ymylon torri llyfn a danheddog

12. Gofynnwyd i ymatebwyr dicio un o鈥檙 atebion canlynol gan egluro鈥檙 rheswm am eu hateb. Yr ymatebion a roddwyd oedd:

  • Ydw

  • Nac ydw

13. Roedd cyfanswm o 2,386 o atebion i鈥檙 cwestiwn hwn.

14. O鈥檙 rhai a atebodd y cwestiwn hwn, nid oedd y rhan fwyaf (68%) yn meddwl y dylai disgrifiad cyfreithiol gyfeirio at yr eitem yn cynnwys ymylon torri llyfn a danheddog. Roedd y 32% arall yn cytuno y dylai diffiniad gynnwys ymylon torri llyfn a danheddog.

15. Roedd ymatebwyr a oedd yn erbyn cynnwys y nodwedd yma yn y disgrifiad o鈥檙 cyllyll y cynigiwn eu gwahardd yn dadlau bod angen ymylon llyfn a danheddog yn y rhan fwyaf o gyllyll a chyllyll twca awyr agored a bod y ddwy fath o ymyl yn cael eu cynnwys am reswm da, er enghraifft i dorri canghennau neu weiren. Ar y llaw arall, dadleuai鈥檙 rhai o blaid fod angen i unrhyw ddiffiniad cyfreithiol fod mor benodol 芒 phosib.

16. Roedd nifer fach o atebion ar-lein (125) a atebodd 鈥榶dw鈥 neu 鈥榥ac ydw鈥 i鈥檙 cwestiwn hwn yn ymddangos i fod wedi dehongli bod y cwestiwn yn gofyn a ddylai fod gan lafn ymyl lefn neu ddanheddog.

b) Bod yr eitem yn cynnwys mwy nag un twll

17. Gofynnwyd i ymatebwyr dicio un o鈥檙 atebion canlynol gan egluro鈥檙 rheswm am eu hateb. Yr ymatebion a roddwyd oedd:

  • Ydw

  • Nac ydw

18. Roedd cyfanswm o 2,330 o atebion i鈥檙 cwestiwn hwn.

19. O鈥檙 rhai a atebodd ar-lein i鈥檙 cwestiwn hwn, meddyliai 70% na ddylai unrhyw ddisgrifiad cyfreithiol gyfeirio at yr eitem fel bod 芒 mwy nag un twll. Roedd y 30% arall yn cytuno y dylai diffiniad gynnwys nifer o dyllau.

20. Roedd y rhai nad oedd yn teimlo y dylai disgrifiad gynnwys nodwedd gyda mwy nag un twll yn dadlau y byddai鈥檔 effeithio ar ddefnyddio cyllyll yn gyfreithlon. Roedd enghreifftiau o ddefnydd cyfreithlon yn cynnwys tyllau yn y llafn i leihau pwysau鈥檙 gyllell, i鈥檞 gwneud yn haws i鈥檞 chario. Dywedodd lawer hefyd nad oeddent yn meddwl bod ffocws ar nifer y tyllau鈥檔 effeithiol i ddatrys y broblem o droseddau cyllyll.

21. Dadleuai rai sy鈥檔 gweithio yn y diwydiant mai mwya鈥檔 byd o dyllau sydd yn y llafn, y lleiaf effeithiol yw fel offeryn gwaith a鈥檙 lleiaf tebygol y byddai gan arf twca a ddyluniwyd fel offeryn gwaith nifer o dyllau. Roedd tua 5% o鈥檙 rhai a atebodd 鈥榶dw鈥 a 21% o鈥檙 rhai a atebodd 鈥榥ac ydw鈥 i鈥檙 cwestiwn hwn yn ymddangos i naill ai rannu鈥檙 farn yma neu鈥檔 ansicr pa wahaniaeth yr oedd nifer benodol o dyllau鈥檔 ei wneud i lafn ac felly鈥檔 ansicr pam y dylid ei gynnwys fel nodwedd.

22. Dywedodd rai bod angen bod yn glir ynghylch ble y byddai鈥檙 tyllau yn y gyllell, a fyddai鈥檔 cynnwys tyllau yn y carn a / neu yn y llafn.

c) Bod yr eitem o hyd arbennig

23. Gofynnwyd i ymatebwyr dicio un o鈥檙 atebion canlynol gan egluro鈥檙 rheswm am eu hateb. Yr ymatebion a roddwyd oedd:

  • Ydw

  • Nac ydw

24. Roedd cyfanswm o 2,353 o atebion i鈥檙 cwestiwn hwn.

25. O鈥檙 rhai a atebodd y cwestiwn hwn, nid oedd 73% yn cytuno y dylai unrhyw ddisgrifiad cyfreithiol gyfeirio at fod yr eitem o hyd arbennig.

26. Un pryder a leisiwyd gan 27% o鈥檙 rhai a atebodd 鈥榥a鈥 i鈥檙 cwestiwn hwn oedd y byddai鈥檔 effeithio鈥檔 andwyol ar rai sydd 芒 rheswm cyfreithlon dros ddefnyddio鈥檙 cyllyll hyn. Rheswm arall a roddodd 26% o鈥檙 rhai a atebodd 鈥榥a鈥 oedd y byddai cynnwys hyd yn y disgrifiad yn aneffeithiol i ddatrys troseddau cyllyll.

27. Roedd y rhai nad oedd yn cytuno ar gynnwys hyd fel nodwedd yn y disgrifiad yn dadlau mai hira鈥檔 byd oedd y gyllell, yr anoddaf y byddai i鈥檞 chuddio; felly鈥檙 lleiaf tebygol y byddai鈥檙 eitem yn cael ei defnyddio mewn troseddau. Roedd eraill yn erbyn ffocws ar hyd am reswm hollol wahanol: roeddent yn meddwl y gellid defnyddio eitemau o unrhyw hyd mewn troseddau ac, felly, y dylai鈥檙 llywodraeth fynd yn bellach ac ystyried cyfyngu ar eitemau o unrhyw hyd.

d) A oes unrhyw nodweddion eraill y dylid eu cynnwys yn y disgrifiad cyfreithiol?

28. Roeddem eisiau rhoi cyfle i鈥檙 ymatebwyr rannu unrhyw nodweddion eraill y teimlent oedd angen eu cynnwys yn y disgrifiad cyfreithiol. Roedd hwn yn gwestiwn testun rhydd.

29. Roedd cyfanswm o 1,394 o atebion i鈥檙 cwestiwn hwn.

30. O鈥檙 rhai a atebodd y cwestiwn, awgrymodd 127 nodwedd arall, gyda 127 o atebion pellach yn gwneud awgrymiadau ar y polisi. Ni ystyriwyd bod atebion eraill a gafwyd yn cynnig nodwedd wahanol y gallai鈥檙 llywodraeth ystyried ei chynnwys mewn unrhyw ddisgrifiad.

31. Roedd y nodweddion eraill a awgrymwyd yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i: lliw鈥檙 llafn, pigau ar y carn, ongl neu si芒p y llafn, pwysau鈥檙 llafn, deunydd y llafn a llafn wedi鈥檌 wneud i edrych fel rhywbeth arall.

Cwestiwn 4: Gan edrych ar hyd y mathau o gyllyll a chyllyll twca y cynigiwn eu gwahardd, gwahoddwn farn am beth ddylai鈥檙 lleiafswm hyd fod:

a) 8鈥 (20.32cm)

b) 9鈥 (22.86cm)

c) 10鈥 (25.4 cm)

d) Unrhyw hyd arall?

32. Roedd hwn yn gwestiwn amlddewis a gallai鈥檙 ymatebwyr ddewis un opsiwn.

Roedd cyfanswm o 1,847 o atebion i鈥檙 cwestiwn hwn.

33. O鈥檙 rhai a atebodd:

  • dewisodd 22% opsiwn a;

  • dewisodd 1% opsiwn b;

  • dewisodd 5% opsiwn c; a

  • dewisodd 72% opsiwn d.

34. O鈥檙 rhai a ddewisodd opsiwn 鈥榙鈥, dywedodd 23% na ddylid cael lleiafswm hyd ac felly na ddylai鈥檙 llywodraeth nodi hyd fel nodwedd yn y disgrifiad.

35. Gwnaed cyfanswm o 129 o awgrymiadau ar gyfer 鈥榟yd arall鈥. Roedd y rhain yn amrywio o gyn fyrred 芒 1cm i 2,000 modfedd. Gwnaed nifer fach o awgrymiadau rhwng 2 a 5 modfedd ac felly hefyd rhwng 12 a 24 modfedd.

Cwestiwn 5: Hoffem ddeall a oes angen, a beth yw鈥檙 angen presennol yn y DU am gyllyll twca a chyllyll awyr agored mawr.

36. Nid yw鈥檙 llywodraeth yn ystyried gwahardd cyllyll twca gyda defnyddiau cyfreithlon fel amaethyddiaeth ayyb. Roeddem felly鈥檔 ceisio deall beth yr ystod lawn o ddefnyddiau cyfreithlon.

37. Roedd cyfanswm o 2,104 o atebion i鈥檙 cwestiwn hwn.

38. Yn fyr, tynnwyd sylw at y defnyddiau cyfreithlon canlynol: amaeth, coedwigaeth, gwersylla, crefft y gwyllt, garddio, pysgota, deifio, saethu a chadwraeth, clirio afonydd ayyb a chasglu cyllyll o ddiddordeb arbennig neu gyllyll hynafol.

Ymateb y llywodraeth

39. Safiad y llywodraeth ar hyn yw bod angen gwneud mwy i ddatrys y defnydd o gyllyll twca a chyllyll 鈥榮ombi鈥 mewn troseddau. Ar 么l ystyried yr atebion yn fanwl, bydd y llywodraeth yn cynnig cyflwyno gwaharddiad ar rai mathau o gyllyll mawr sy鈥檔 ymddangos i fod yn apelio at rai sydd eisiau eu defnyddio fel arfau ymosodol 鈥 er enghraifft cyllyll 鈥榮ombi鈥 neu fathau penodol o gyllyll twca.

40. Noda鈥檙 llywodraeth fod rhai wedi dadlau y dylai unrhyw ddiffiniad fod yn eang ac nid yn rhy benodol. Fodd bynnag, rhaid i ni roi eglurder i asiantaethau gorfodaeth, gwerthwyr, mewnforwyr a pherchnogion yn gyffredinol i鈥檞 helpu i asesu a yw eitem sydd eisoes yn eu meddiant, yn ystyried cael yn eu meddiant, neu ei gweithgynhyrchu a gwerthu, yn gyfreithlon neu wedi鈥檌 gwahardd. Hefyd, ni all unrhyw ddiffiniad cyfreithlon fod mor eang fel bo鈥檔 cynnwys eitemau llafn sydd y tu allan i sg么p y gwaharddiad hwn.

41. Mae鈥檙 llywodraeth ar hyn o bryd yn ystyried disgrifiad o鈥檙 eitemau y dymunwn eu gwahardd. Ar 么l cael adborth gan ymatebwyr, rydym yn edrych ar y nodweddion canlynol:

  • Ymylon torri 鈥 llyfn a danheddog

  • Blaen pigog miniog

  • Hyd y llafn

  • Tyllau yn y llafn

  • Nodweddion eraill 鈥 pigau, ymwthiadau, bachau

42. Ymyl dorri lefn / ddanheddog: Roedd llawer yn poeni y byddai鈥檙 disgrifiad o鈥檙 cyllyll twca a鈥檙 cyllyll y cynigiwn eu gwahardd yn cynnwys ymyl ddanheddog. Roeddent yn poeni y gallai cyllyll ag un ymyl ddanheddog, fel cyllyll bara a rhai cyllyll caws, gael eu gwahardd. Ein meddwl ar hyn o bryd yw er mwyn i eitemau llafn gael eu gwahardd o dan ein cynigion, byddai鈥檔 rhaid iddynt fod ag ymyl lefn a danheddog, yn ogystal 芒 rhai o鈥檙 nodweddion eraill yn y disgrifiad.

43. Mwy nag un twll: Yn 么l yr arbenigwyr diwydiant a ymatebodd, mae un twll yn aml yn nodwedd o gyllyll awyr agored a rhai mathau o gyllyll twca, a bod y twll yno er mwyn gallu hongian y gyllell. Rydym felly wedi cynnwys 鈥榤wy nag un twll鈥 yn y disgrifiad gyda鈥檙 bwriad o osgoi cynnwys cyllyll a chyllyll twca a ddefnyddir yn gyffredin, ac a ddyluniwyd, fel offer gwaith.

44. Hyd: Roedd y rhan fwyaf a atebodd y cwestiwn hwn yn dadlau y gallai cyllyll o unrhyw hyd fod yn beryglus o鈥檜 defnyddio fel arfau ymosodol ac na ddylai hyd fod yn berthnasol i鈥檙 disgrifiad o gyllyll twca a chyllyll y dymunwn eu gwahardd, oherwydd byddai nodi unrhyw hyd yn cyfyngu ar effaith y ddeddfwriaeth ac ar bwerau鈥檙 heddlu i atafaelu鈥檙 eitemau.

45. Credwn fod angen i ni nodi isafswm hyd ar gyfer eitemau i鈥檞 hatafaelu o dan y gwaharddiad er mwyn osgoi canlyniadau anfwriadol, fel gwahardd cyllyll gwaith sydd eu hangen ar gyfer tasgau pob dydd. Ein bwriad yw nodi鈥檙 hyd hwn fel 8 modfedd oherwydd dyma鈥檙 hyd byrraf a鈥檙 ail opsiwn a ffafrir fwyaf gan yr ymatebwyr.

46. Nodweddion eraill: Rydym wedi ystyried yr awgrymiadau a wnaed ar gyfer nodweddion ychwanegol, fel lliw, deunydd a phwysau. Awgrymodd rai y dylid cynnwys geiriau a delweddau sy鈥檔 ysgogi trais. Fodd bynnag, credwn fod y nodweddion y cynigiwn iddynt fod yn y disgrifiad yn taro鈥檙 cydbwysedd iawn rhwng cynnwys ystod ehangach o ddyluniadau ond heb fod yn rhy benodol, ac ar yr un pryd yn rhoi eglurder i werthwyr, perchnogion, prynwyr, asiantaethau gorfodaeth a鈥檙 llysoedd ar adnabod yn ddigamsyniol a yw eitem wedi鈥檌 gwahardd neu beidio.

47. Mae鈥檙 llywodraeth hefyd yn ystyried a ddylid cynnwys amddiffyniad ar gyfer eitemau o bwys hanesyddol.

48. Isod rhoddwn enghreifftiau o鈥檙 mathau o gyllyll yr ystyriwn eu cynnwys o fewn sg么p y gwaharddiad.

Cyllell dwca 鈥榮ombi鈥 20鈥 / 50cm.

Cyllell dwca 鈥榓nialwch鈥 17.3鈥 / 44cm.

Cyllell hela 鈥榝fantasi鈥 15鈥 / 38cm.

Cyllell 鈥榝fantasi鈥 10.5鈥 / 26.5cm.

Cyllell dwca-kukri hybrid 9.5鈥 / 24.13cm.

Cyllell 鈥楻ambo鈥 9鈥 / 22.86 cm.

Cyllell dwca 鈥楥ytlas鈥 18鈥 / 45.72cm.

49. Isod rhoddir enghreifftiau o鈥檙 math o lafnau na fwriadwn eu cynnwys yn sg么p y gwaharddiad. Soniwyd am y llafnau hyn gan rai a oedd yn poeni y gallai鈥檙 gwaharddiad gynnwys yr offer gwaith cyfreithlon hyn.

Cyllyll twca gyda blaenau aflem yn bennaf.

Bilygau a phladuron gydag un ymyl dorri

Llifau llaw a chyllyll gydag un math o ymyl dorri 鈥 llyfn neu ddanheddog

Maguro Bocho (cyllell diwna)

Llifau a chyllyll dwy handlen, hyd yn oed os oes ganddynt ddau fath o ymyl dorri neu dyllau yn y llafn

50. Mae鈥檙 llywodraeth yn ffyddiog y bydd y manylebau hyn yn gadael i鈥檙 rhan fwyaf o bobl sy鈥檔 defnyddio cyllyll twca fel offer gwaith am resymau cyfreithlon barhau i wneud hynny, ac y bydd rhai sy鈥檔 defnyddio cyllyll sy鈥檔 cael eu cynnwys yn y gwaharddiad am resymau cyfreithlon yn gallu dod o hyd i opsiynau eraill sy鈥檔 addas.

51. Byddwn yn parhau i adolygu鈥檙 rhestr o arfau ymosodol a waherddir, gan gynnwys a oes angen gweithredol i ni ehangu鈥檙 gwaharddiad yn y dyfodol i gynnwys rhai cleddyfau ac eitemau llafn neu arfau ymosodol eraill.

Cynnig 2 鈥 Y p诺er i atafaelu a chadw / dinistrio rhai mathau o eitemau llafn a gedwir ar eiddo preifat os yw鈥檙 heddlu yn yr eiddo preifat yn gyfreithlon a gyda lle rhesymol i amau y gallent gael eu defnyddio mewn troseddau difrifol.

Cwestiwn 6: Ydych chi鈥檔 cytuno bod y p诺er newydd arfaethedig yn angenrheidiol a chymesur?

52. Gofynnwyd i ymatebwyr dicio un o鈥檙 atebion canlynol gan egluro鈥檙 rheswm am eu hateb. Yr ymatebion a roddwyd oedd:

  • Ydw

  • Nac ydw

53. Roedd cyfanswm o 2,379 o atebion i鈥檙 cwestiwn hwn.

54. O鈥檙 atebion a gawsom i鈥檙 cwestiwn hwn, roedd 58% yn anghytuno 芒鈥檙 cynnig a 42% yn cytuno bod y p诺er newydd arfaethedig yn angenrheidiol a chymesur.

55. Y prif bryderon a leisiwyd oedd y gallai鈥檙 p诺er fod yn agored i ddehongliad ac y gallai鈥檙 heddlu ei ddefnyddio鈥檔 fympwyol neu鈥檔 anghywir, a鈥檙 posibilrwydd y gallai effeithio ar bobl sy鈥檔 defnyddio cyllyll yn gyfreithlon.

56. Roedd atebion eraill o blaid p诺er a allai helpu i atal troseddau yn y dyfodol a gwarchod dioddefwyr trais neu droseddu yn y dyfodol. Nodwyd hefyd y gallai鈥檙 p诺er fod yn ddefnyddiol iawn mewn sefyllfaoedd cam-drin domestig lle y mae risg sylweddol ond, ar hyn o bryd, dim pwerau i atafaelu arfau.

57. Roedd yr atebion hefyd yn awgrymu bod angen cael hawl i unioni cam i herio penderfyniad yr heddlu (gwnaed sylwadau pellach ar y pwynt hwn wrth ateb C8).

Cwestiwn 7: Gwahoddwn farn ynghylch a ddylai鈥檙 pwerau gynnwys unrhyw gyllell ar eiddo preifat neu ddim ond cyllyll o hyd arbennig.

a) Unrhyw gyllell ar eiddo preifat

b) Cyllyll o hyd arbennig

58. Roedd hwn yn gwestiwn aml-ddewis a gallai鈥檙 ymatebwyr ddewis un opsiwn. Derbyniwyd cyfanswm o 1,548 o ymateb i鈥檙 cwestiwn hwn, gyda 996 yn dewis peidio ag ateb y cwestiwn.

  • dewisodd 32% opsiwn a;

  • dewisodd 29% opsiwn b; a

  • ni ddewisodd 39% unrhyw opsiwn.

59. Roedd rhai ymatebwyr, gan gynnwys rhai a ddewisodd opsiwn 鈥榓鈥 neu 鈥榖鈥, yn meddwl y dylid cael trydydd opsiwn i gynnwys y farn nad oedd yr ymatebwr yn cytuno gyda鈥檙 un o鈥檙 ddau opsiwn ac na ddylai鈥檙 cynnig gynnwys unrhyw gyllell.

60. Roedd rhai a ddewisodd opsiwn 鈥榓鈥 wedi gwneud sylwadau y byddai defnyddio鈥檙 p诺er i atafaelu unrhyw gyllell yn cynnwys unrhyw gyllell y gellid ei defnyddio mewn trosedd gan osgoi unrhyw fannau gwan o ran hyd y gyllell.

61. Roedd rhai a ddewisodd opsiwn 鈥榖鈥 wedi gwneud sylwadau pe bai鈥檙 p诺er yn cael ei ddefnyddio i atafaelu pob cyllell, y byddai鈥檔 cynnwys cyllyll cegin.

Cwestiwn 8: Gwahoddwn farn gan ymatebwyr ynghylch a ddylid cael hawl i apelio i鈥檙 llysoedd er mwyn adennill eitem a atafaelwyd neu a ddylai鈥檙 hawl i unioni cam fod drwy broses gwynion yr heddlu鈥檔 unig.

62. Gofynnwyd am farn pobl ynghylch a ddylid cael hawl i apelio i鈥檙 llysoedd neu hawl i unioni cam er mwyn adennill eitem a atafaelwyd gan yr heddlu.

63. Roedd cyfanswm o 1,933 wedi ateb y cwestiwn hwn. Yr ymateb mwyaf cyffredin oedd cytundeb y dylid cael hawl i apelio. Yr ail ymateb mwyaf cyffredin oedd gan rai a gytunodd y dylai fod gan bobl hawl i apelio, ond nid oeddent yn glir beth a fyddai鈥檙 opsiwn gorau ganddynt o wneud hyn. Dywedodd 107 o鈥檙 ymatebwyr yn gwbl glir eu bod yn meddwl y dylai鈥檙 hawl i unioni cam fod drwy broses gwynion yr heddlu鈥檔 unig.

64. Lleisiwyd pryderon a oedd gan y llysoedd gapasiti i ddelio ag apeliadau o鈥檙 fath.

Ymateb y llywodraeth

65. Mae鈥檙 llywodraeth eisiau sicrhau bod gan yr heddlu鈥檙 pwerau angenrheidiol i dorri lawr ar droseddau cyllyll. Fodd bynnag, fel y gwelwn o astudiaethau achos 1-3 yn y ddogfen ymgynghori, ar hyn o bryd os yw鈥檙 heddlu鈥檔 dod o hyd i gyllell dwca neu eitem gyfreithlon arall gyda llafn yng nghartref rhywun a gyda lle rhesymol i amau y defnyddir yr eitem mewn trais neu drosedd difrifol, nid oes ganddynt unrhyw bwerau os na chredir fod yr eitem yn dystiolaeth mewn ymchwiliad troseddol.

66. Bydd y llywodraeth felly鈥檔 cynnig cyflwyno pwerau newydd i鈥檙 heddlu i atafaelu, cadw a dinistrio eitemau llafn a gedwir yn gyfreithlon ar eiddo preifat os yw鈥檙 heddlu yn yr eiddo鈥檔 gyfreithlon ac mae ganddynt le rhesymol i amau y bydd yr eitem(au) yn debygol o gael eu defnyddio mewn trais neu drosedd difrifol.

67. Mae鈥檙 llywodraeth yn glir y gellid ond defnyddio鈥檙 p诺er hwn os yw鈥檙 heddlu yn yr eiddo preifat yn gyfreithlon ac y gellid ond atafaelu unrhyw eitem gyda llafn os oes gan yr heddlu le rhesymol i amau y gellid defnyddio鈥檙 eitem mewn trais neu drosedd difrifol. Byddai鈥檙 cyfrifoldeb yn llwyr ar yr heddlu i gyfiawnhau eu hamheuaeth bod yr eitem yn debygol o gael ei defnyddio mewn trosedd. Lleisiwyd nifer o鈥檙 pryderon gan ymatebwyr a oedd yn rhagdybio y byddai鈥檙 heddlu鈥檔 cael pwerau i fynd i mewn i eiddo i chwilio am eitemau llafn y gellid eu defnyddio mewn trosedd. Nid hynny鈥檙 ydym yn ei gynnig. Byddai鈥檙 heddlu ond yn gallu defnyddio鈥檙 p诺er hwn os oeddent eisoes yn yr eiddo鈥檔 gyfreithlon, er enghraifft os oedd ganddynt eisoes b诺er i fynd i鈥檙 eiddo mewn cysylltiad 芒 throsedd.

68. Mae鈥檙 llywodraeth yn cynnig y dylid ymdrin ag unrhyw wrthwynebiadau i atafaelu o dan y p诺er hwn drwy broses gwynion fewnol yr heddlu gan yr heddlu perthnasol neu Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC). Os yw鈥檙 achwynydd yn anghytuno 芒 phenderfyniad yr heddlu neu鈥檙 IOPC, byddai鈥檔 bosib apelio i lys.

69. Byddwn yn parhau i ddatblygu鈥檙 cynnig hwn gan ystyried y pryderon a leisiwyd, ac yn deddfu pan fydd amser seneddol yn caniat谩u.

Cynnig 3 鈥 Cynyddu鈥檙 uchafswm cosb am y troseddau o werthu, ayyb, arfau ymosodol peryglus ac wedi eu gwahardd, a gwerthu cyllyll i rai dan 18 oed, i 2 flynedd.

Cwestiwn 9: Ydych chi鈥檔 meddwl bod y troseddau o werthu cyllyll i rai dan 18 oed, a gwerthu arfau ymosodol wedi eu gwahardd, mor ddifrifol fel y dylai鈥檙 uchafswm cosb fod yn ddwy flynedd?

70. Fe wnaethom holi barn yr ymatebwyr am gynyddu鈥檙 uchafswm cosb am y trosedd o werthu cyllyll, a gwerthu arfau ymosodol peryglus wedi eu gwahardd, i bobl dan 18 oed, i 2 flynedd. Gofynnwyd i ymatebwyr dicio un o鈥檙 atebion canlynol gan egluro鈥檙 rheswm am eu hateb. Yr ymatebion a roddwyd oedd:

  • Ydw

  • Nac ydw

71. Roedd cyfanswm o 2,348 o atebion i鈥檙 cwestiwn hwn.

72. Roedd y mwyafrif (59%) yn cytuno 芒鈥檙 cynnig hwn.

73. Roedd nifer o ymatebwyr a feddyliai nad oedd yr uchafswm cosb o ddwy flynedd yn ddigon ac y dylai鈥檙 uchafswm cosb fod yn fwy.

74. Dywedodd rai na ddylid cosbi rhai sy鈥檔 gwerthu cyllyll a gwneud y gwiriadau angenrheidiol os yw鈥檙 person sy鈥檔 prynu鈥檙 gyllell yn defnyddio ID rhywun arall neu ID ffug.

75. Awgrymodd rai, gan gynnwys ymarferwyr sy鈥檔 gweithio gyda phobl ifanc, y gallai鈥檙 cynnig hwn effeithio鈥檔 negyddol ar bobl ifanc sydd efallai鈥檔 cario cyllyll yn gyhoeddus er mwyn amddiffyn eu hunain neu oherwydd eu bod yn cael eu lled-orfodi i gario鈥檙 eitem.

Ymateb y llywodraeth

76. Pwrpas y mesur hwn yw cynyddu鈥檙 uchafswm cosb am yr achosion mwyaf difrifol o werthu cyllyll i rai dan 18 oed. Ni fwriedir i鈥檙 mesur hwn gael ei ddefnyddio i gyhuddo gwerthwyr a gymrodd bob cam rhesymol i gadarnhau oed y person, a heb unrhyw reswm i gredu bod yr unigolyn dan 18 oed. Mae鈥檙 gyfraith bresennol eisoes yn cynnwys amddiffyniad 鈥榙iwydrwydd dyladwy鈥 os yw鈥檙 gwerthwr yn gallu dangos eu bod wedi cymryd pob cam rhesymol i gadarnhau oed.

77. Bydd y mesur hefyd yn dod 芒鈥檙 trosedd o fewn cylch gwaith pwerau PACE, sy鈥檔 allweddol fel bo鈥檙 heddlu鈥檔 gallu ymchwilio i rai o鈥檙 troseddau mwyaf difrifol, er enghraifft rhai sy鈥檔 gwerthu cyllyll yn breifat i rai dan 18 oed, neu sy鈥檔 gwerthu arfau wedi eu gwahardd drwy鈥檙 cyfryngau cymdeithasol neu apiau negeseua personol.

78. Nodwn y pryderon a leisiodd rai y gallai pobl ifanc fregus gael eu lled-orfodi i gario a chyflenwi cyllyll ac y gallai鈥檙 cynnig hwn effeithio arnynt yn negyddol. Fodd bynnag, bydd y llysoedd bob amser yn ystyried pob achos yn unigol gan ystyried yr amgylchiadau a ffactorau lliniaru fel oed, diffyg aeddfedrwydd a bod y person yn fregus.

79. Mae鈥檙 llywodraeth yn glir ei bod yn anghyfreithlon cario cyllyll i bwrpas hunanamddiffyn. O dan Ddeddf Atal Troseddu 1953, mae鈥檔 drosedd cario arfau peryglus mewn lle cyhoeddus heb awdurdod cyfreithiol neu esgus rhesymol. Mae cario cyllell yn debygol o ddenu troseddau cyllyll mewn cymunedau lleol, yn lle cymell yn erbyn troseddau o鈥檙 fath, gan roi pobl ifanc mewn perygl o ganlyniad.

80. Bydd y llywodraeth yn cynnig cynyddu鈥檙 uchafswm cosb am fewnforio, gweithgynhyrchu, gwerthu a chyflenwi arfau ymosodol wedi eu gwahardd, a鈥檙 trosedd o werthu eitemau llafn i ran dan 18 oed, i ddwy flynedd pan fydd amser seneddol yn caniat谩u.

Cynnig 4: A ddylai鈥檙 System Cyfiawnder Troseddol drin yn fwy difrifol achosion o fod ym meddiant yn gyhoeddus o gyllyll ac arfau ymosodol sydd wedi eu gwahardd.

Cwestiwn 10: A ddylai鈥檙 System Cyfiawnder Troseddol drin yn fwy difrifol pobl sydd ym meddiant yn gyhoeddus o gyllyll ac arfau ymosodol sydd wedi eu gwahardd?

81. Gofynnwyd am farn ymatebwyr ynghylch a ddylid trin yn fwy difrifol achosion o fod ym meddiant yn gyhoeddus o gyllell wedi鈥檌 gwahardd. Gofynnwyd i ymatebwyr dicio un o鈥檙 atebion canlynol gan egluro鈥檙 rheswm am eu hateb. Yr ymatebion a roddwyd oedd:

  • Ydw

  • Nac ydw

82. Roedd cyfanswm o 2,333 o atebion i鈥檙 cwestiwn hwn.

83. Roedd y mwyafrif (65%) yn cytuno 芒鈥檙 cynnig hwn, gyda sylwadau gan rai鈥檔 s么n am yr effaith hollol andwyol y mae troseddau cyllyll yn ei gael ar fywydau a chymunedau ac y bydd y newid hwn yn adlewyrchu difrifoldeb y trosedd yn well.

84. Awgrymodd rai, gan gynnwys ymarferwyr sy鈥檔 gweithio gyda phobl ifanc, y gallai鈥檙 cynnig hwn effeithio鈥檔 negyddol ar bobl ifanc sydd efallai鈥檔 cario cyllyll yn gyhoeddus er mwyn amddiffyn eu hunain neu oherwydd eu bod yn cael eu lled-orfodi i gario鈥檙 eitem.

Ymateb y llywodraeth

85. Nodwn y pryderon a leisiwyd bod gan y cynnig hwn botensial i effeithio ar bobl fregus a allai gael eu lled-orfodi i gario cyllyll. Lleisiwyd pryderon tebyg am gynnig 3. Bydd y llysoedd bob amser yn ystyried pob achos yn unigol gan ystyried ffactorau lliniaru fel oed, diffyg aeddfedrwydd a bod y person yn fregus.

86. Mae鈥檙 llywodraeth yn glir ei bod yn anghyfreithlon cario cyllyll i bwrpas hunan-amddiffyn. O dan Ddeddf Atal Troseddu 1953, mae鈥檔 drosedd cario arfau peryglus mewn lle cyhoeddus heb awdurdod cyfreithiol neu esgus rhesymol. Mae cario cyllell yn debygol o ddenu troseddau cyllyll mewn cymunedau lleol, yn lle cymell yn erbyn troseddau o鈥檙 fath, gan roi pobl ifanc mewn perygl o ganlyniad.

87. Bydd y llywodraeth yn gofyn i鈥檙 Cyngor Dedfrydu ystyried diwygio鈥檙 canllawiau dedfrydu ar fod ym meddiant o eitemau llafn / arfau ymosodol i drin bod ym meddiant o arf wedi鈥檌 wahardd yn gyhoeddus yn fwy difrifol.

Cynnig 5 - Trosedd newydd o fod ym meddiant eitemau llafn gyda鈥檙 bwriad o beryglu bywyd neu achosi ofn trais.

Cwestiwn 11: Ydych chi鈥檔 cytuno 芒鈥檙 cynnig?

88. Gofynnwyd i ymatebwyr a oeddent yn meddwl y dylai鈥檙 llywodraeth gyflwyno trosedd newydd o fod ym meddiant eitemau llafn gyda鈥檙 bwriad o beryglu bywyd neu achosi ofn trais. Gofynnwyd i ymatebwyr dicio un o鈥檙 atebion canlynol gan egluro鈥檙 rheswm am eu hateb. Yr ymatebion a roddwyd oedd:

  • Ydw

  • Nac ydw

89. Roedd cyfanswm o 2,361 o atebion i鈥檙 cwestiwn hwn.

90. Roedd y mwyafrif (64%) a atebodd y cwestiwn yn cytuno 芒鈥檙 cynnig hwn. Roedd rhai a oedd o blaid y cynnig hwn yn dadlau nad yw鈥檙 gyfraith bresennol yn cydnabod pa mor ddifrifol yw cario cyllell gyda鈥檙 bwriad o godi ofn a鈥檌 bod yn fwy tebygol y gallai鈥檙 sefyllfa waethygu gan arwain at niwed neu fygythiad i fywyd. Pwysleisiodd ymatebwyr fod angen gweithredu cyn i鈥檙 digwyddiad o fygwth person arall ddigwydd.

91. Roedd rhai鈥檔 cytuno 芒鈥檙 cynnig ond gan rannu鈥檙 farn eu bod yn meddwl y byddai鈥檔 anodd profi bwriad i beryglu bywyd neu achosi ofn trais wrth gario eitem llafn.

92. Roedd rhai hefyd o鈥檙 farn bod y gyfraith bresennol eisoes yn darparu ar gyfer hyn; roedd y mwyafrif a wnaeth y sylwadau hyn wedi dewis 鈥榥ac ydw鈥 fel ateb i鈥檙 cwestiwn hwn.

93. Awgrymodd rai, gan gynnwys ymarferwyr sy鈥檔 gweithio gyda phobl ifanc, y gallai鈥檙 cynnig hwn effeithio鈥檔 negyddol ar bobl ifanc sydd efallai鈥檔 cario cyllyll yn gyhoeddus er mwyn amddiffyn eu hunain neu oherwydd eu bod yn cael eu lled-orfodi i gario鈥檙 eitem.

Ymateb y llywodraeth

94. Bydd y llywodraeth yn cynnig cyflwyno trosedd ar wah芒n o fod ym meddiant eitemau llafn gyda鈥檙 bwriad o anafu neu achosi ofn trais gydag uchafswm cosb uwch na鈥檙 trosedd presennol o fod ym meddiant arf ymosodol, pan fydd amser seneddol yn caniat谩u.

95. Credwn fod bwlch yn y gyfraith ar gyllyll rhwng bod ym meddiant syml o gyllell, a bod ym meddiant a bygwth person arall. Mae鈥檙 cynnig hwn yn adlewyrchu鈥檙 gyfraith bresennol ar arfau tanio sydd wedi鈥檌 gweithredu鈥檔 effeithiol gan erlynwyr. Rydym yn disgwyl i鈥檙 cynnig hwn helpu鈥檙 heddlu i fynd i鈥檙 afael 芒 thrais cyn i鈥檙 niwed ddigwydd a lle y mae tystiolaeth, er enghraifft ar y cyfryngau cymdeithasol, o ymddygiad gwawdio neu fygythiol.

96. Nodwn y pryderon a leisiwyd bod gan y cynnig hwn botensial i effeithio ar bobl fregus a allai gael eu lled-orfodi i gario cyllyll. Bydd y llysoedd bob amser yn ystyried pob achos yn unigol ac yn ystyried ffactorau lliniaru fel oed, diffyg aeddfedrwydd a bod y person yn fregus.

97. Mae鈥檙 llywodraeth yn glir ei bod yn anghyfreithlon cario cyllyll i bwrpas hunan-amddiffyn. O dan Ddeddf Atal Troseddu 1953, mae鈥檔 drosedd cario arfau peryglus mewn lle cyhoeddus heb awdurdod cyfreithiol neu esgus rhesymol. Mae cario cyllell yn debygol o ddenu troseddau cyllyll mewn cymunedau lleol, yn lle cymell yn erbyn troseddau o鈥檙 fath, gan roi pobl ifanc mewn perygl o ganlyniad.

Busnes a Masnach

98. Roedd cwestiynau eraill yr ymgynghoriad yn casglu gwybodaeth gan y sector busnes a masnach yn ogystal 芒 barn pobl am nodweddion a warchodir. Defnyddir yr atebion i鈥檙 cwestiynau hyn i ddiweddaru鈥檙 asesiadau effaith perthnasol.

99. Mae鈥檙 llywodraeth wedi nodi鈥檙 pryderon a leisiwyd a bydd yn ystyried goblygiadau llawn y cynigion hyn mewn Asesiad o鈥檙 Effaith ar Gydraddoldeb. Mae ein dadansoddiad yn awgrymu y gallai鈥檙 cynigion hyn effeithio mwy ar bobl gyda rhai nodweddion a warchodir nag eraill, ond ystyriwn fod modd lliniaru unrhyw effeithiau negyddol yn foddhaol neu eu cyfiawnhau鈥檔 wrthrychol fel ffordd gymesur o gyflawni鈥檙 nod cyfreithlon o geisio datrys troseddu difrifol.

Methodoleg Ddadansoddi鈥檙 Ymgynghoriad

  • Roedd geiriad y cwestiynau a ddisgrifir yn y ddogfen hon yr un fath ag yng nghwestiynau鈥檙 ymgynghoriad llawn ar gov.uk.

  • Rydym wedi dadansoddi鈥檙 ymatebion a bu鈥檔 rhaid i ni hefyd lunio barn am ba ohebiaeth oedd yn cael ei chyfri鈥檔 ymateb ffurfiol. Penderfynwyd peidio 芒 chynnwys ymatebion anghyflawn / rhannol i鈥檙 arolwg ar-lein ar y sail nad oedd yr ymatebwr wedi cyflwyno鈥檙 data鈥檔 ffurfiol ac efallai heb fwriadu i鈥檞 ymateb gael ei ddarllen.

  • Cafodd data o鈥檙 ymatebion i鈥檙 cwestiynau meintiol (caeedig) (hynny yw, rhai a oedd yn gwahodd ymatebwyr i ddewis ateb) ei dynnu allan a鈥檌 ddadansoddi. Cafodd pob ymateb ansoddol hefyd (hynny yw, ymatebion i gwestiynau agored neu os oedd ymatebwr wedi cyflwyno llythyr neu e-bost yn lle ateb cwestiynau penodol) hefyd eu logio a鈥檜 dadansoddi. Gwnaed hyn drwy godio鈥檙 ymatebion er mwyn adnabod them芒u a oedd yn codi鈥檔 aml. Mae鈥檙 canfyddiadau wedi eu hadrodd yn y ddogfen hon.

  • Mae elfen o oddrychedd wrth godio atebion ansoddol ac mae hyn wedi鈥檌 leihau drwy weithredu mesurau sicrhau ansawdd ychwanegol.

  • Derbyniwyd nifer o ymatebion manwl i鈥檙 ymgynghoriad oedd ddim yn cadw at y strwythur ffurfiol a鈥檙 cwestiynau a ofynnwyd. Cafodd y rhain eu bwydo i ymateb y llywodraeth.

  • Mae鈥檙 canrannau i gyd wedi eu cyfrifo i鈥檙 rhif cyfan agosaf.

  • Roedd gwahanol gwestiynau wedi derbyn nifer wahanol o ymatebion. Mae鈥檙 ffigurau felly鈥檔 seiliedig ar yr ymatebion ysgrifenedig i bob cwestiwn.

  • Roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys rhai cwestiynau aml-ddewis a rhai testun rhydd. Rydym wedi cynnwys yr ymatebion mwyaf cyffredin i鈥檙 cwestiynau testun rhydd.

  • Roedd llawer o鈥檙 ymatebion testun rhydd yn gwneud mwy nag un pwynt. Er enghraifft, roedd llawer o鈥檙 ymatebion testun rhydd yn nodi nifer o fanteision, neu nifer o broblemau. Gallai鈥檙 canrannau ar gyfer faint o ymatebion oedd yn mynegi pob barn felly adio i fwy na 100%.

Os oes gennych unrhyw g诺yn neu sylw am broses yr ymgynghoriad, dylech gysylltu 芒鈥檙 Swyddfa Gartref yn y cyfeiriad uchod.