Closed consultation

Diogelu mannau addoli ymgynghoriad y llywodraeth (Welsh) (accessible version)

Updated 31 August 2021

This was published under the 2019 to 2022 Johnson Conservative government

Mae鈥檙 ymgynghoriad hwn yn cychwyn ar 15 Mawrth 2020 Mae鈥檙 ymgynghoriad hwn yn dod i ben am 23:59 ar 28 Mehefin 2020

Yngl欧n 芒鈥檙 ymgynghoriad hwn

I

Mae鈥檙 ymgynghoriad hwn yn agored i鈥檙 cyhoedd ac wedi ei dargedu at unigolion, busnesau a sefydliadau yng Nghymru a Lloegr sydd 芒 diddordeb yn niogelwch mannau addoli a lleoliadau eraill yn gysylltiedig 芒 ffydd, gan gynnwys ysgolion a chanolfannau cymunedol. Mae鈥檔 canolbwyntio ar ddeall pa arfer gorau sydd eisoes yn bodoli i ddiogelu mannau addoli a beth yn fwy ellid ei wneud yn y dyfodol.

Hyd

O 15 Mawrth 2020 hyd 28 Mehefin 2020

Sut i ymateb

Bydd yr ymgynghoriad ar agor hyd at 10 Mai 2020. Ni allwn dderbyn ymatebion ar 么l y dyddiad hwn. Pryd bynnag y bydd yn bosibl, anfonwch eich ymateb i鈥檙 ymgynghoriad ar-lein gan ddefnyddio鈥檙 ddolen ar dudalen we鈥檙 ymgynghoriad. Gallwch hefyd ymateb trwy鈥檙 post neu ofyn am fformatau gwahanol fel fersiwn prosesydd geiriau, Saesneg, neu fersiwn hygyrch. Gweler yr adran 鈥榊mateb i鈥檙 ymgynghoriad hwn鈥 o鈥檙 ddogfen hon am ragor o fanylion. NatCen Social Research sy鈥檔 gyfrifol am gasglu, prosesu a dadansoddi鈥檙 ymgynghoriad hwn. Am fanylion sut a pham yr ydym yn defnyddio鈥檙 wybodaeth a roddwch yn eich ymateb, a sut y byddwn yn gofalu amdani, gweler y 鈥楧dogfen Gwybodaeth Data鈥. Gellir gweld y ddogfen hon ar dudalen we鈥檙 ymgynghoriad

Papur ymateb

Bydd crynodeb o鈥檙 ymatebion i鈥檙 ymgynghoriad hwn yn cael ei gyhoeddi ar-lein yn.

Rhagair gan yr Ysgrifennydd Cartref

Mae鈥檙 Deyrnas Unedig yn mwynhau hanes balch o ryddid crefyddol. Ers canrifoedd, mae dilynwyr bron bob ffydd sydd ar gael wedi cyrraedd yma a chael hafan ddiogel lle gallant addoli mewn heddwch, heb ofni cael eu herlid.

Mae mannau addoli wedi cael eu cysylltu 芒 seintwar bob amser. Heddiw, maent yn ganolfannau cymdeithasol a chymunedol. Gallant gynnig bwyd, addysg a man i gysgu. Maent yn achubiaeth i鈥檙 rhai sy鈥檔 cael bywyd yn anodd ac angen cefnogaeth emosiynol. Maent yn rhan anhepgor o fywydau miliynau o bobl. Ond weithiau, mae鈥檙 tystion gweladwy yma i gred grefyddol yn dod yn dargedau i gasineb.

Bydd llawer yn cofio ychydig fisoedd cyntaf 2019 pan welwyd cyfres o ymosodiadau erchyll ar fannau addoli ar draws y byd. Llofruddiwyd 20 o bobl mewn cadeirlan Gatholig yn Ynysoedd y Philipinau. 51 mewn mosg yn Christchurch, Seland Newydd. Mwy na 250 mewn eglwysi yn Sri Lanka.

Yn ein gwlad ni, yr ymosodiad ar Fosg Finsbury Park oedd yr un amlycaf yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond ar draws y Deyrnas Unedig mae mannau addoli wedi cael eu targedu, o ymosodiadau llosgi bwriadol ar fosgiau i graffiti neo-Nats茂aidd ar synagogau.

Nid yw鈥檙 ymosodiadau yma yn mynd heb eu herio. Ochr yn ochr 芒鈥檔 hymdrechion plismona gwrthderfysgaeth eang, mae heddlu lleol, grwpiau cymunedol a ffydd yn gweithio鈥檔 galed i ddiogelu mannau addoli. Bydd cynllun Ariannu Diogelwch Amddiffynnol Mannau Addoli鈥檙 Llywodraeth yn darparu rhyw 拢1.6 miliwn o 2019-20 ar gyfer camau diogelu ffisegol ar gyfer mannau addoli. Bydd y ffigwr hwn yn cael ei ddyblu i 拢3.2 miliwn ar gyfer 2020-21.

Mewn cyfnodau o densiwn rhyngwladol a domestig, gall mannau addoli a鈥檙 addolwyr eu hunain deimlo yn agored i niwed yn aml. Mae ar bobl y gellir eu cysylltu yn weledol 芒 chrefydd benodol ofn dioddef ymosodiadau ar lafar neu hyd yn oed rai corfforol. Dyluniwyd mannau addoli i fod yn amlwg, ond mae鈥檙 amlygrwydd hwn yn eu gwneud yn dargedau clir i鈥檙 rhai sy鈥檔 dymuno gwneud niwed iddynt.

Y gwirionedd trist yw y bydd pobl sy鈥檔 dod at ei gilydd i addoli yn heddychlon yn dargedau o hyd i鈥檙 rhai sy鈥檔 defnyddio trais i ledaenu casineb ac ofn. Ond, i sawl ffydd, mae agor eu drysau a chroesawu dieithriaid yn gonglfaen i鈥檞 cred, ac yn mynegi鈥檙 dyngarwch na fydd fyth yn cael ei siglo na鈥檌 frawychu.

Blaenoriaeth y Llywodraeth yw gwarchod addoli agored a rhydd, gan gynnig pob amddiffyniad a allwn ni i arweinwyr ffydd a sefydliadau crefyddol. Rydym wedi lansio鈥檙 ymgynghoriad hwn i edrych ar beth sy鈥檔 cael ei wneud yn barod, pa mor dda y mae鈥檔 gweithio, a sut y gallwn gryfhau鈥檙 amddiffyniad yn y dyfodol.

Mae鈥檙 Deyrnas Unedig, yn ei hamrywiaeth ryfeddol, yn gryfach nag unrhyw ideoleg. Mae bod yn Brydeinig yn gyfystyr 芒 chael rhyddid llwyr i fynegi eich crefydd 鈥 a mannau addoli yw gwarchodleoedd y rhyddid hwnnw. Dylai鈥檙 rhai sy鈥檔 ceisio hau ofn, casineb a rhaniadau wybod, tra bydd ein mannau addoli yn dal i ffynnu, na fyddan nhw fyth yn ennill.

Y Gwir Anrhydeddus Priti Patel AS Ysgrifennydd Cartref

Cyflwyniad

Mae rhyddid i addoli yn gonglfaen i fywyd Prydain. Mae鈥檙 Llywodraeth yn ymroddedig i gefnogi ein grwpiau ffydd fel eu bod yn gallu addoli heb ofn na sarhad.

Mae鈥檙 adborth gan grwpiau ffydd yn awgrymu bod pryder cynyddol am ddiogelwch mannau addoli gan gynnwys, ond heb ei gyfyngu i eglwysi, mosgiau, gurdwaras, synagogau a themlau. Bu鈥檙 pryder hwn yn arbennig o gryf yn dilyn yr ymosodiadau terfysgol erchyll ar fosgiau yn Christchurch, Seland Newydd. Yn union ar 么l y digwyddiadau hyn, ymrwymodd yr Ysgrifennydd Cartref ar y pryd i ymgynghori ar beth yn fwy y gellid ac y dylid ei wneud i ddiogelu mannau addoli. Fe welwyd rhagor o ymosodiadau, gan gynnwys ar eglwysi yn Sri Lanka a synagog yn San Diego, gan ei gwneud yn fater brys i ddeall barn grwpiau ffydd am y mater, a pha gamau pellach y gellid eu cymryd i wella diogelwch. Amlygodd ymgais i ymosod ar synagog yn Halle, yr Almaen yn Hydref 2019 yn ystod diwrnod mwyaf sanctaidd y flwyddyn i鈥檙 Iddewon 鈥 Yom Kippur 鈥 bwysigrwydd camau diogelwch. Rhwystrodd y drysau oedd ar glo yr ymosodwr rhag mynd i mewn i鈥檙 adeilad ac achubodd fywydau 80 o bobl y tu mewn.

Wrth lansio鈥檙 ymgynghoriad hwn, rydym yn cydnabod nad yw unrhyw ddwy grefydd yr un fath ac mae鈥檙 gwahaniaethau hanesyddol, diwylliannol a diwinyddol hefyd yn siapio agweddau ac arferion o ran diogelwch. Rydym wedi clywed yn glir gan grwpiau ffydd bod angen cael cydbwysedd pwysig rhwng addoli yn agored a heb ofn a chael digon o gamau diogelwch i ddiogelu鈥檙 addolwyr.

Rydym am ddeall sut y gall mannau addoli gael eu diogelu yn well rhag cael eu targedu oherwydd eich ffydd. Byddai hyn yn cynnwys y mannau addoli eu hunain yn ogystal 芒鈥檙 bobl o鈥檜 mewn ac o鈥檜 cwmpas. Mae materion ehangach hefyd wrth gwrs am bobl yn cael eu targedu oherwydd eu ffydd grefyddol y tu allan i fannau addoli sy鈥檔 cael eu hystyried yn fanwl fel rhan o鈥檙 Cynllun Gweithredu Troseddau Casineb.

Mae鈥檙 ymgynghoriad hwn ar agor ar draws Cymru a Lloegr gan fod troseddau casineb yn fater sy鈥檔 cael ei drin gan y Gweinyddiaethau Datganoledig yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae鈥檔 bwysig cofio y dylai pawb, gan gynnwys y llywodraeth, heddlu, addolwyr a鈥檙 cyhoedd yn gyffredinol, chwarae r么l wrth ddiogelu mannau addoli. Pwysleisiodd yr adborth gan sefydliadau ffydd bwysigrwydd gweld yr heddlu yn gweithio鈥檔 glos gyda鈥檙 mannau addoli a phartneriaid lleol eraill. Mae鈥檙 Swyddfa Gartref hefyd wedi creu pecyn o gynlluniau a ddyluniwyd i daclo troseddau casineb sy鈥檔 targedu mannau addoli. Mae cynllun Ariannu Diogelwch Amddiffynnol Mannau Addoli, sydd ar ei bedwaredd flwyddyn erbyn hyn, yn darparu ar gyfer camau ffisegol gan gynnwys larymau, goleuadau, camer芒u cylch cyfyng a ffensys i fannau addoli. Dyblwyd yr arian oedd ar gael yn y bedwaredd flwyddyn o 拢800,000 i 拢1.6 miliwn yn dilyn yr ymosodiad yn Christchurch, a bydd yn cael ei ddyblu eto i 拢3.2 miliwn y flwyddyn nesaf (2020/21). Bydd y Swyddfa Gartref hefyd yn lansio rhaglen hyfforddi diogelwch newydd ar draws pob ffydd yn hwyrach ymlaen eleni, a fydd yn eistedd ochr yn ochr 芒鈥檙 Cynllun Ariannu Diogelwch Gwarchodol Mannau Addoli. Bydd hyn yn sicrhau bod arfer gorau wrth ddiogelu mannau addoli yn cael ei rannu a鈥檌 weithredu.

Mae grwpiau Iddewig hefyd yn cael cyllid (拢14 miliwn yn 2018-19) gan y llywodraeth i ddarparu diogelwch ychwanegol ar gyfer ysgolion ac adeiladau cymunedol, ac mae cyfran fach o hwn yn cael ei wario ar synagogau. Gweinyddir hwn trwy CST ac fe鈥檌 cr毛wyd i sicrhau diogelwch grwpiau Iddewig rhag bygythiadau terfysgol credadwy. Cychwynnodd y cynllun hwn yn 2010 pan wnaeth yr Adran Addysg gydnabod baich ariannol diogelwch ar grwpiau Iddewig - oedd eisoes wedi bod yn cyflogi gwarcheidwaid diogelwch masnachol ac yn datblygu strwythurau diogelwch gwirfoddol mewn ysgolion, ac a oedd hefyd wedi ymrwymo i dalu am warcheidwaid diogelwch mewn ysgolion a Gynhelir 芒 Grant.

Yn 2015, cynyddwyd y cyllid ar gyfer diogelwch gwarchodol mewn ysgolion Iddewig a lleoliadau Iddewig sensitif gan y Swyddfa Gartref ar 么l sawl ymosodiad angheuol yn erbyn lleoliadau Iddewig (gan gynnwys yn Toulouse, Brwsel, Paris a Copenhagen), cynnydd sylweddol mewn digwyddiadau gwrth-semitig yn y Deyrnas Unedig, ac o ganlyniad i weld yr heddlu yn cynyddu鈥檙 asesiad bygythiad ar gyfer grwpiau Iddewig y Deyrnas Unedig.

Bwriad yr ymgynghoriad hwn yw gwella鈥檙 cynlluniau hyn, yn ogystal 芒 rhoi tystiolaeth i鈥檙 llywodraeth am beth yn fwy sydd angen ei wneud i roi mwy o ddiogelwch i鈥檔 mannau addoli 鈥 pob un ohonynt 芒鈥檌 hunaniaeth a鈥檌 broblemau ei hun. Ei nod yw casglu barn gan aelodau amrywiol o grwpiau ffydd gan gynnwys arweinwyr crefyddol, cynrychiolwyr cyrff llywodraethol, addolwyr ac unigolion 芒 ffydd nad ydyn nhw鈥檔 defnyddio man addoli ar hyn o bryd. Rydym yn awyddus iawn i glywed gan grwpiau sy鈥檔 cael eu tangynrychioli (fel menywod) yn ogystal 芒 defnyddio syniadau newydd a blaengar ar sut y gallwn ddeall y problemau a wynebir gan grwpiau ffydd a thaclo troseddau casineb yn fwy effeithiol.

Cwestiynau am Ddemograffeg

Bydd yr ychydig gwestiynau cyntaf yma yn yr ymgynghoriad yn holi yn rhinwedd beth yr ydych yn ymateb i鈥檙 ymgynghoriad a hefyd am rai nodweddion personol. Defnyddir y wybodaeth hon i gefnogi dadansoddi ac i鈥檔 helpu i ddeall pwy sy鈥檔 ymateb i鈥檙 ymgynghoriad hwn a chyd-destun eu hatebion.

Ni fydd yn bosibl adnabod unrhyw unigolion mewn unrhyw ddadansoddiad a gynhyrchir. Cyfeiriwch at y 鈥楧dogfen Gwybodaeth Data鈥 am ragor o wybodaeth am sut y bydd eich data yn cael ei ddefnyddio.

C1. Dewiswch yn rhinwedd beth yr ydych yn ymateb i鈥檙 ymgynghoriad hwn. Dewiswch unrhyw un sy鈥檔 berthnasol.

C2. Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, dywedwch wrthym pa sefydliad yr ydych yn ei gynrychioli.

C3. Os ydych yn ymateb yn rhinwedd swydd broffesiynol, pa ffydd ydych chi鈥檔 ymwneud 芒 hi fel rhan o鈥檙 r么l hon?

C4. Faint yw eich oedran?

C5. Pa ryw ydych chi?

C6. Ym mha ranbarth ydych chi鈥檔 byw?

C7. Pa un o鈥檙 canlynol sy鈥檔 disgrifio eich gr诺p ethnig orau?

C8. a. A oes gennych unrhyw gyflyrau iechyd corfforol neu feddyliol neu salwch sydd yn parhau, neu y disgwylir iddo barhau, 12 mis neu fwy? b. (os oes i gwestiwn 8a) A yw eich cyflwr neu salwch/ a yw unrhyw un o鈥檆h cyflyrau neu salwch yn lleihau eich gallu i gyflawni gweithgareddau o ddydd i ddydd?

C9. Beth yw eich crefydd? Ar gyfer diben yr ymgynghoriad hwn, diffinnir man addoli fel lleoliad a ddefnyddir yn benodol naill ai dros dro neu yn barhaol, i gynnal defosiwn, gwedd茂o, neu i gynnal astudiaeth grefyddol.

C10. a. Os ydych chi yn bersonol yn mynd i fan addoli, ar gyfartaledd, pa mor aml ydych chi鈥檔 mynychu b. (os nodir yn mynychu man addoli yng nghwestiwn 10a) Beth sy鈥檔 disgrifio lleoliad eich man addoli orau? c. (os nodir yn mynychu man addoli yng nghwestiwn 10a) Pa grefydd y mae鈥檆h man addoli yn perthyn iddi? d. (os nodir yn mynychu man addoli yng nghwestiwn 10a) Amcangyfrifwch y nifer o unigolion sy鈥檔 mynychu eich man addoli neu ganolfan gymunedol gysylltiedig 芒 ffydd mewn wythnos arferol.

Adran 1: Graddfa a Pha Mor Gyffredin

Dyluniwyd y cwestiynau yn yr adran hon i ddeall rhagor pa mor gyffredin yw profiadau personol yn gysylltiedig 芒 throseddau casineb, eu graddfa a phrofiadau personol ohonynt. Bydd hyn yn gadael i ni adeiladu ar ein dealltwriaeth o鈥檙 broblem ar hyn o bryd, a鈥檙 bylchau presennol yn y dystiolaeth, fel yr amlinellir isod.

Mae mannau addoli yn lleoliadau cyhoeddus canolog y mae grwpiau ffydd yn ymgynnull o鈥檜 cwmpas. Mae鈥檔 bwysig i鈥檙 bobl sy鈥檔 eu defnyddio deimlo bod ganddynt yr offer priodol i atal ac ymateb i droseddau a all gael eu cyflawni yn erbyn y sefydliad neu鈥檙 rhai sy鈥檔 ei fynychu. Mae hyn yn cynnwys y ffyrdd priodol o atal troseddau (er enghraifft, camau diogelu addas), a gwybod pryd i roi adroddiad ac i bwy.

Mae鈥檙 heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron yn diffinio a chofnodi troseddau casineb fel 鈥渦nrhyw drosedd a ddehonglir gan y dioddefydd neu unrhyw unigolyn arall i fod wedi ei hysgogi gan elyniaeth neu ragfarn yn seiliedig ar hil neu hil dybiedig rhywun; crefydd neu grefydd dybiedig; cyfeiriadedd rhywiol neu gyfeiriadedd rhywiol tybiedig; anabledd neu anabledd tybiedig ac unrhyw drosedd a ysgogir gan elyniaeth neu ragfarn yn erbyn rhywun sy鈥檔 drawsryweddol neu y tybir ei fod yn drawsryweddol.鈥

Tueddiadau Cyffredinol

Wrth ddefnyddio鈥檙 dystiolaeth sydd ar gael, rydym yn deall bod y tueddiadau tymor hir yn ymwneud 芒 phob ffurf ar droseddau casineb yn gwella 鈥 mae erlid wedi lleihau, ac mae鈥檙 nifer y ceir adroddiadau amdanyn nhw wedi codi dros y degawd diwethaf. Amcangyfrifodd Arolwg Trosedd i Gymru a Lloegr (CSEW) bod cyfartaledd o 184,000 o ddigwyddiadau o drais casineb y flwyddyn rhwng 2015/16 a 2017/18. Mae鈥檙 amcangyfrif 40% yn is na鈥檙 amcangyfrifon blynyddol ar gyfer 2007/08 hyd 2008/09.

Yn 2018/19, roedd 103,379 o droseddau casineb wedi eu cofnodi gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr, cynnydd o 10% mewn cymhariaeth 芒鈥檙 flwyddyn flaenorol. Roedd cynnydd yn y pum ffrwd o droseddau casineb sy鈥檔 cael eu monitro yn fewnol gan yr heddlu. Cynyddodd troseddau casineb crefyddol o 3% (i 8,566 o droseddau).

Mae hyn yn parhau tuedd yn y tymor hwy yr ystyrir ei bod o ganlyniad i welliannau cyffredinol yn arferion cofnodi鈥檙 heddlu, mwy o ddioddefwyr yn dod ymlaen i roi adroddiad a gwell dealltwriaeth gan yr heddlu o droseddau casineb - ond hefyd oherwydd cynnydd sydyn mewn troseddau casineb yn dilyn digwyddiadau fel ymosodiadau terfysgol.

Pa mor Gyffredin yn 么l Dioddefwr

Yn 2018/19, cofnododd yr heddlu grefydd y dioddefwr a dargedwyd mewn 87% o droseddau casineb crefyddol. O鈥檙 rhain, roedd 47% o鈥檙 troseddau casineb crefyddol wedi eu hanelu at Fwslemiaid (3,530 o droseddau). Roedd 18% arall wedi eu hanelu at Iddewon (1,326 o droseddau). Mewn 17% o droseddau, cofnodwyd nad oedd y grefydd yn hysbys.

Ar sail data o鈥檙 CSEW ar gyfer 2015/16 hyd 2017/18, amcangyfrifir bod 39,000 o ddigwyddiadau troseddau casineb wedi eu hysgogi gan grefydd y flwyddyn (Atodiad Tabl 3.01). Roedd y cyfanswm hwn wedi ei rannu yn deg rhwng troseddau personol (23,000 o ddigwyddiadau) a throseddau aelwyd (16,000).

O鈥檙 arolygon cyfun yma, amcangyfrifir bod 0.1% o oedolion yn ddioddefwyr troseddau casineb wedi eu hysgogi gan grefydd yn y 12 mis cyn y cyfweliad. Dangosodd CSEW 2015/16 i 2017/18 bod oedolion Mwslimaidd yn fwyaf tebygol o ddioddef troseddau casineb wedi eu hysgogi gan grefydd (0.8%).

Roedd oedolion gyda gr诺p ethnig Asiaidd yn fwy tebygol o fod yn ddioddefwyr troseddau casineb wedi eu hysgogi gan grefydd nag oedolion o gr诺p ethnig Gwyn (0.5% a llai na 0.1% yn eu tro, CSEW 2015/16 hyd 2017/18).

Lleoliadau

Dan y Cynllun Ariannu Diogelwch Amddiffynol Mannau Addoli, mae鈥檙 Swyddfa Gartref wedi rhoi camau diogelu i fannau addoli yn unig. Ond yn 2019/20 mae鈥檙 cynllun wedi cael ei ymestyn i wahodd ceisiadau o ganolfannau ffydd cymunedol cysylltiedig (diffinnir hyn fel canolfan gymunedol sy鈥檔 cael ei rhedeg gan fan addoli neu yn agos at fan addoli sydd yn seiliedig ar ffydd, a lle mae addoli yn digwydd yn gyson). Gwnaed y penderfyniad hwn i gydnabod y ffaith bod canolfannau cymuned hefyd yn cael eu defnyddio fel mannau addoli, ac y gallant fod yr un mor agored i niwed.

Yn ystod y drafodaeth hon mae arnom angen ystyried pa fannau addoli eraill sydd yn fwy agored i niwed ac a all gael eu targedu oherwydd eu cyswllt 芒 ffydd a pha lefel o ddiogelwch a chefnogaeth a ddymunir.

Mae rhanddeiliaid wedi trafod amrywiaeth eang o safleoedd gyda chysylltiadau 芒 grwpiau ffydd fel rhai all fod yn agored i niwed. Mae鈥檙 rhain yn cynnwys ysgolion, canolfannau gofal plant, cartrefi henoed, canolfannau chwaraeon a chanolfannau cymunedol nad ydynt yn cael eu defnyddio i addoli ond ar gyfer ymgysylltu 芒鈥檙 gymuned ehangach. Codwyd pryder yn neilltuol am ysgolion ffydd yn dod yn darged oherwydd y crynhoad mawr o bobl agoredi niwed ar unrhyw un adeg.

Ond, oherwydd mai cyfyngedig yw鈥檙 ymchwil mae鈥檔 anodd dweud a yw sefydliadau fel clybiau ieuenctid, cartrefi henoed ac ysgolion yn fwy agored i niwed os ydyn nhw yn gysylltiedig 芒 ffydd benodol mewn cymhariaeth 芒 sefydliadau seciwlar.

Tu allan i adeiladau

Rydym yn cydnabod y byddai鈥檔 amhosibl diogelu鈥檙 holl addolwyr yn llwyr ar eu ffordd i鈥檞 man addoli ac oddi yno. Ond, mae pryder bod unigolion yn fwy agored i niwed ar yr adegau hyn, yn arbennig os ydyn nhw鈥檔 cerdded mewn gwisg draddodiadol neu yn cario eitemau sy鈥檔 ei gwneud yn fwy amlwg beth yw eu hunaniaeth grefyddol. Gall hyn gynnwys Iddewon yn cerdded i鈥檙 synagog ac oddi yno ar y Sabath pan na fyddant yn gallu gyrru, neu grwpiau Sikh yn cludo鈥檙 ysgrythurau sanctaidd o Gurdwara ar gyfer gwasanaethau arbennig yng nghartrefi pobl.

Mae camau amrywiol y gall mannau addoli eu cymryd yn barod i ddiogelu eu haddolwyr hyd yn oed pan na fyddant mewn man addoli, gan gynnwys hyfforddiant ymwybyddiaeth a gwell ymgysylltu 芒 gwasanaethau gorfodi鈥檙 gyfraith yn lleol.

Yn ychwanegol mae sawl ffydd yn cynnal dathliadau mawr yn yr awyr agored. Gall bod y tu allan i fan addoli wneud iddyn nhw deimlo yn fwy agored i niwed heb gael yr amddiffynfa y mae strwythur ffisegol yn ei roi.

Rhoi adroddiadau am droseddau casineb

Mae鈥檔 bwysig i bob aelod o fannau addoli a鈥檙 cyhoedd yn gyffredinol deimlo wedi eu grymuso a chael digon o wybodaeth i roi adroddiad am droseddau casineb. Mae鈥檔 anodd datblygu dealltwriaeth lawn o natur, dosbarthiad a pha mor gyffredin yw troseddau casineb gyda鈥檙 data cyfyngedig sydd ar gael. Mae hefyd yn anodd creu darlun clir o鈥檙 hyn sy鈥檔 ysgogi pobl i droseddu. Er bod yr Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr yn rhoi dealltwriaeth i ni o鈥檙 tueddiadau o ran dioddefwyr troseddau casineb, nid yw鈥檙 data y mae鈥檔 ei roi yn ymdrin 芒 gwahaniaethau manwl yn y profiadau rhwng grwpiau.

Mae diffyg rhoi adroddiadau am droseddau casineb yn golygu nad yw data鈥檙 heddlu yn cynrychioli maint y broblem yn llawn. Yn fwy penodol, nid yw鈥檙 data yn gadael i ni ddynodi troseddau sydd wedi eu hanelu yn benodol at y man addoli ei hun yn rhwydd; er enghraifft, gall difrod troseddol fel graffiti gael ei alw yn ymddygiad gwrthgymdeithasol 鈥 gan ei gwneud yn anodd amcangyfrif yn union pa mor fregus yw鈥檙 lleoliadau yma.

Mae nifer o elusennau sy鈥檔 cynnig cefnogaeth arbenigol os na fydd unigolyn am roi adroddiad am drosedd yn uniongyrchol i鈥檙 heddlu. Gall y gefnogaeth yma gynnwys gwasanaethau cyfieithu neu hyd yn oed gefnogaeth emosiynol os byddant yn teimlo鈥檔 anesmwyth yn rhoi adroddiad i鈥檙 heddlu. Gallant roi adroddiad am droseddau ar ran unigolyn neu roi cyngor i unigolion am ymateb i ddigwyddiadau na fydd efallai yn cyrraedd trothwy鈥檙 heddlu ar gyfer trosedd. Yn ychwanegol, gall rhywfaint o adroddiadau gan drydydd part茂on gasglu ystadegau unigol ar gyfer eu crefydd benodol hwy.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am sut i roi adroddiad am Droseddau Casineb.

Cwestiynau

Mae鈥檙 cwestiynau canlynol yn holi am amgyffrediad a phrofiadau o bryderon am ddiogelwch mewn ac o gwmpas mannau addoli. Sylwer, ni fyddwn yn gallu gweithredu ar adroddiadau am droseddau a gofnodir yn yr ymgynghoriad hwn. Rydym yn eich annog i roi adroddiad am bob trosedd i naill ai鈥檙 heddlu lleol neu sefydliad trydydd parti sy鈥檔 derbyn adroddiadau. Am ragor o wybodaeth sut y bydd eich data yn cael ei ddefnyddio edrychwch ar y 鈥楧dogfen Gwybodaeth Data鈥.

C11. a. Disgrifiwch pa mor ddiogel y mae mynd i鈥檆h man addoli yn teimlo. Ar gyfer diben yr ymgynghoriad hwn, diffinnir man addoli fel lleoliad a ddefnyddir yn benodol naill ai dros dro neu yn barhaol, i gynnal defosiwn, gwedd茂o, neu i gynnal astudiaeth grefyddol. b. (os dewisir dewis ar raddfa yn nghwestiwn 11a) Hoffem ddeall y rhesymau pam y gall pobl fod yn teimlo鈥檔 ddiogel neu beidio wrth fynychu eu man addoli. Wrth feddwl am yr ateb a roddwyd gennych i鈥檙 cwestiwn blaenorol, a allwch esbonio pam eich bod wedi ei ddewis?

Mae鈥檙 ychydig gwestiynau nesaf am droseddau casineb a gyflawnir yn erbyn mannau addoli.

Diffinnir Troseddau Casineb fel 鈥渦nrhyw drosedd a ddehonglir gan y dioddefydd neu unrhyw unigolyn arall i fod wedi ei hysgogi gan elyniaeth neu ragfarn yn seiliedig ar hil neu hil dybiedig rhywun; crefydd neu grefydd dybiedig; cyfeiriadedd rhywiol neu gyfeiriadedd rhywiol tybiedig; anabledd neu anabledd tybiedig ac unrhyw drosedd a ysgogir gan elyniaeth neu ragfarn yn erbyn rhywun sy鈥檔 drawsryweddol neu y tybir ei fod yn drawsryweddol.鈥

Sylwer, ni fyddwn yn gallu gweithredu ar adroddiadau am droseddau a gofnodir yn yr ymgynghoriad hwn. Rydym yn eich annog i roi adroddiad am bob trosedd i naill ai鈥檙 heddlu lleol neu sefydliad trydydd parti sy鈥檔 derbyn adroddiadau. Am ragor o wybodaeth sut y bydd eich data yn cael ei ddefnyddio edrychwch ar y 鈥楧dogfen Gwybodaeth Data鈥.

C12. a. Wrth feddwl am y man addoli yr ydych yn ei fynychu fel arfer, a ydych yn ymwybodol o unrhyw droseddau casineb sydd wedi ei dargedu yn y pum mlynedd diwethaf? b. (os ydw yng nghwestiwn 12a) Dywedwch ragor wrthym am y digwyddiadau hyn, gan gynnwys pam eich bod yn ystyried eu bod yn droseddau casineb, beth ddigwyddodd, ble, pryd, ac unrhyw fanylion eraill yr ydych yn meddwl eu bod yn berthnasol.

C13. a. Wrth feddwl am fannau addoli eraill yr ydych yn gyfarwydd 芒 nhw ond nad ydych yn eu mynychu fel arfer, a ydych yn ymwybodol o unrhyw droseddau casineb sydd wedi eu targedu yn y pum mlynedd diwethaf? Gall hyn gynnwys mannau addoli yn eich ardal leol, rhai yr ydych wedi ymweld 芒 nhw yn y gorffennol, neu rai y mae ffrindiau neu deulu yn eu mynychu. b. (os ydw yng nghwestiwn 13a) Dywedwch ragor wrthym am y digwyddiadau hyn, gan gynnwys pam eich bod yn eu hystyried i fod yn droseddau casineb, beth ddigwyddodd, ble, pryd, ac unrhyw fanylion eraill yr ydych yn meddwl eu bod yn berthnasol.

C14. a. Yn eich barn chi, a yw patrymau troseddau casineb mewn ac o gwmpas mannau addoli wedi newid o gwbl dros y pum mlynedd diwethaf? Gall hyn gynnwys newidiadau yn eu hamlder neu鈥檙 math o droseddau casineb a brofwyd, neu newidiadau yn lefel y pryder am droseddau casineb. b. (os ydyn i gwestiwn 14a) Disgrifiwch sut yr ydych yn meddwl y mae patrymau troseddau casineb wedi newid ac unrhyw dystiolaeth yr ydych wedi ei gweld o hyn. Gall yr enghreifftiau o dystiolaeth gynnwys profiadau personol, profiadau pobl yr ydych yn eu hadnabod, gwybodaeth ar y cyfryngau, neu ymchwil.

Yn awr fe fyddem yn hoffi i chi feddwl am bryderon diogelwch a all effeithio ar sefydliadau ffydd yn fwy eang.

C15. a. Yn eich barn chi, a oes sefydliadau ffydd heblaw mannau addoli (er enghraifft, canolfannau cymunedol, cartrefi henoed, ysgolion), lle mae pobl yn gallu teimlo yn anniogel? b. (Os oes i ateb 15a) Amlinellwch y sefydliadau ffydd yma a pham y gall pobl deimlo yn anniogel yno.

C16. Wrth feddwl am unrhyw bryderon am ddiogelwch a/neu ddigwyddiadau troseddau casineb y gallwch fod wedi eu trafod yn barod, a allwch chi ddisgrifio鈥檙 effaith y maen nhw wedi ei gael, os o gwbl? Gall yr effeithiau gynnwys, er enghraifft, rhai emosiynol, ariannol, neu newidiadau mewn ymddygiad, a gallant gynnwys effeithiau arnoch chi, y man addoli/sefydliad ffydd, neu鈥檙 gymuned yn ehangach.

Adran 2: Anghenion Penodol i Ffydd

Nod yr adran hon a鈥檌 chwestiynau yw rhoi dealltwriaeth lawn o ofynion gwahanol pob ffydd wahanol a鈥檙 ffyrdd y maen nhw鈥檔 agored i niwed. Yn ychwanegol at hyn fe fyddem yn hoffi deall pwy o鈥檙 grwpiau ffydd sy鈥檔 teimlo鈥檔 fwyaf agored i niwed a phryd. Er enghraifft, mae arnom angen ystyried mannau eraill sy鈥檔 gysylltiedig 芒 grwpiau ffydd sy鈥檔 fwy agored i niwed ac a all gael eu targedu. Mae arnom angen edrych ar sut i flaenoriaethu diogelwch a chefnogaeth ar draws y lleoliadau agored i niwed yma.

Un enghraifft o鈥檙 gwahaniaethau o fewn grwpiau ffydd yw, yn hanesyddol, mae llawer o grwpiau ffydd wedi gweithredu polisi drws agored 鈥 gan groesawu unigolion sy鈥檔 ymarfer y ffydd a newydd-ddyfodiaid i鈥檞 man addoli heb rwystrau tra bydd eraill yn defnyddio camau diogelwch ychwanegol gan gynnwys gwirio bagiau, gwarcheidwaid neu gamer芒u mynediad. Mae llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dal i ailadrodd ei bod yn bwysig cael y cydbwysedd cywir rhwng darparu diogelwch a gadael i fannau addoli fod ar agor i鈥檙 gymuned fel y byddant yn gweld yn briodol.

Anghenion Grwpiau Ffydd Gwahanol

Wrth ddylunio unrhyw gamau ar gyfer grwpiau ffydd, rydym yn awyddus i ddeall anghenion gwahanol grwpiau gwahanol yn fwy clir.

Mae鈥檙 canlynol yn rhoi enghreifftiau o ystyriaethau diogelwch a phryderon penodol yr ydym wedi eu clywed gan grwpiau ffydd Mwslimaidd, Iddewig, Sikh, Hind诺, a Christnogion. Ond, rydym yn cydnabod na fydd hyn yn holl gynhwysol, ac efallai na fydd hyn yn wir am bob man addoli mewn gr诺p ffydd penodol. Yn ychwanegol y mae llawer ffydd leiafrifol a all fod yn agored i droseddau casineb yn eu man addoli ac o鈥檌 gwmpas, gan gynnwys addolwyr Jain a Bwdhaidd yr ydym am gael clywed am eu hanghenion. Nod yr ymgynghoriad hwn yw annog ymatebwyr i roi tystiolaeth o anghenion penodol eu ffydd i roi darlun mor llawn 芒 phosibl.

Grwpiau Mwslimaidd

Disgrifiodd grwpiau Mwslimaidd (sy鈥檔 ffurfio鈥檙 lleiafrif crefyddol mwyaf gyda 3 miliwn o aelodau yn y Deyrnas Unedig), bryderon difrifol am eu diogelwch. Gwaethygwyd hyn gan ddigwyddiadau, gan gynnwys yr ymosodiad terfysgol ger mosg Finsbury Park yn 2017. Ond dengys data鈥檙 heddlu hefyd mai Mwslimiaid sydd fwyaf tebygol o roi adroddiad am gael eu targedu o ran troseddau casineb wedi eu hysgogi gan grefydd (roedd tua 47% o droseddau casineb y rhoddwyd adroddiad amdanynt wedi targedu Mwslimiaid yn 2018/2019).

O ganlyniad, dynododd rhai rhanddeiliaid bod rhai mannau addoli Mwslimaidd wedi cynyddu eu diogelwch dros y blynyddoedd diwethaf, gyda rhai yn datblygu cynlluniau diogelwch gan gynnwys defnyddio camer芒u cylch cyfyng, giatiau, a gweithdrefnau gwagu a chyfyngiadau symud.

Mae nifer o arferion mewn sefydliadau ffydd Mwslimaidd sydd angen ystyriaeth benodol yng nghyswllt diogelu addolwyr. Mae鈥檙 enghreifftiau sydd wedi eu codi yn cynnwys: * yr arferiad bod addolwyr yn tynnu eu hesgidiau wrth fynd i mewn i fosg, gydag oblygiadau o ran cynlluniau gwagu ac ymatebion argyfwng; * y ffaith bod dynion a menywod yn aml yn cael eu gwahanu mewn ystafelloedd gwahanol ac felly dylai diogelwch a chyfathrebu priodol gael eu rhoi yn y ddwy ardal, ac; * yn ystod deg diwrnod olaf mis sanctaidd y Ramadan, mae鈥檔 beth cyffredin i bobl gysgu yn y mosg er mwyn rhoi eu hamser i addoli. Mae hyn yn golygu bod pobl yn y mosg 24 awr y dydd, gan godi ystyriaethau diogelwch ychwanegol.

Grwpiau Iddewig

Mae grwpiau Iddewig yn amlwg yn wahanol yn eu hagwedd at ddiogelwch mewn cymhariaeth 芒 chrefyddau eraill. Dros sawl degawd mae grwpiau Iddewig a鈥檙 Community Security Trust (CST) wedi buddsoddi yn drwm mewn diogelwch cymunedol Iddewig, o ran yr arian a wariwyd ac amser staff.

Bydd y rhan fwyaf o synagogau ac adeiladau cymunedol Iddewig yn ystyried gweithdrefnau diogelwch allanol ac yn cau eu drysau ar amseroedd sensitif, ynghyd 芒 sicrhau bod camau diogelu digonol fel ffensys uchel, giatiau diogel, a chamera cylch cyfyng i atal pobl o鈥檙 tu allan rhag mynd i mewn ac i atal ymosodiadau.

Elusen yw CST sy鈥檔 arwain ar ddiogelu grwpiau Iddewig. Maent yn rhedeg cynllun diogelwch gwirfoddol lle mae unigolion yn cael eu hyfforddi i gymryd cyfrifoldeb eu hunain am ddiogelu eu cymuned leol. Mae ganddynt fwy na 2,500 o wirfoddolwyr sy鈥檔 helpu i roi diogelwch i tua 300,000 o bobl Iddewig ar draws y Deyrnas Unedig.

Mae grwpiau Iddewig hefyd yn cael cyllid (拢14 miliwn yn 2018-19) gan y llywodraeth i ddarparu diogelwch ychwanegol ar gyfer ysgolion ac adeiladau cymunedol, ac mae cyfran fach o hwn yn cael ei wario ar synagogau. Gweinyddir hwn trwy CST ac fe鈥檌 cr毛wyd i sicrhau diogelwch grwpiau Iddewig rhag bygythiadau terfysgol credadwy. Cychwynnodd y cynllun hwn yn 2010 pan wnaeth yr Adran Addysg gydnabod baich ariannol diogelwch ar grwpiau Iddewig - oedd eisoes wedi bod yn cyflogi gwarcheidwaid diogelwch masnachol ac yn datblygu strwythurau diogelwch gwirfoddol mewn ysgolion, ac a oedd hefyd wedi ymrwymo i dalu am warcheidwaid diogelwch mewn ysgolion a Gynhelir 芒 Grant.

Yn 2015, cynyddwyd y cyllid ar gyfer diogelwch gwarchodol mewn ysgolion Iddewig a lleoliadau Iddewig sensitif gan y Swyddfa Gartref ar 么l sawl ymosodiad angheuol yn erbyn lleoliadau Iddewig (gan gynnwys yn Toulouse, Brwsel, Paris a Copenhagen), cynnydd sylweddol mewn digwyddiadau gwrth-semitig yn y Deyrnas Unedig, ac o ganlyniad i weld yr heddlu yn cynyddu鈥檙 asesiad bygythiad ar gyfer grwpiau Iddewig y Deyrnas Unedig.

Grwpiau Sikh

Roedd tua 430,000 o Sikhiaid yn y Deyrnas Unedig yn 么l cyfrifiad 2011. Fel rhan o鈥檜 haddoliad, maent yn gweithredu ceginau cymunedol neu 鈥淟angars鈥 i roi bwyd i鈥檙 addolwyr yn ogystal 芒 phobl o bob cefndir all fod yn dymuno ei gael. Mae鈥檙 Langar yn cael ei ddarparu am ddim gan wirfoddolwyr bob dydd. Mae hyn yn golygu, fel rhan o鈥檜 haddoliad, bod nifer fawr o unigolion nad ydynt yn eu hadnabod yn aml yn cael mynediad i鈥檙 Gurdwara ac yn ei ddefnyddio. Dywedodd cynrychiolwyr y ffydd wrthym nad ydyn nhw鈥檔 credu mewn troi pobl i ffwrdd o鈥檙 Gurdwara oni bai eu bod yn creu perygl neu yn torri rheolau鈥檙 Gurdwara yn benodol (er enghraifft dod i mewn yn feddw neu yn cario tybaco neu alcohol).

Mae llawer o Gurdwara yn gweithredu polisi drws agored o ychydig cyn toriad gwawr hyd yn hwyr y nos, sy鈥檔 codi ei heriau ei hun. Mae gan lawer gamer芒u cylch cyfyng a chamau diogelwch yn eu lle yn barod ac mae gan leiafrif warcheidwaid diogelwch cyflogedig neu wirfoddol yn ystod cyfnodau prysur iawn. Yn ychwanegol, mae llawer o Gurdwara hefyd yn ganolfannau cymunedol gydag aelodau h欧n neu agored i niwed, yn eu defnyddio yn aml yn ystod y dydd. Adroddodd sawl Gurdwara bod eu ffenestri wedi cael eu torri neu bod unigolion wedi dioddef sarhad hiliol wrth fynd i mewn neu adael, a all gael effaith sylweddol ar yr unigolion agored i niwed yma.

Yn yr un modd 芒 phob ffurf ar droseddau casineb, rydym yn asesu nad yw adroddiadau yn cael eu rhoi am bob trosedd gasineb yn erbyn grwpiau Sikh. Ond, mae rhanddeiliaid hefyd wedi mynegi pryder y gall erlid ar grwpiau Sikh fod yn llai amlwg oherwydd cymysgu rhwng grwpiau ffydd, gan arwain at weld pobl Sikh yn cael eu targedu gan droseddau wedi eu hysgogi gan deimladau gwrth-Fwslimaidd. Ni fydd troseddau o鈥檙 fath yn cael eu cofnodi o angenrheidrwydd fel rhai gwrth-Sikh gan yr heddlu, gan ei gwneud yn anos i ddynodi鈥檙 erlid arnynt.

Grwpiau Hind诺

Disgrifiodd grwpiau Hind诺 sut y mae angen i鈥檞 camau diogelwch, nid yn unig ddiogelu鈥檙 bobl a鈥檙 adeiladau, ond hefyd y duwiau o鈥檜 mewn. Oherwydd y gred bod y duwiau yn byw yn eu temlau, gall dinistrio a difrodi eu mannau addoli gael effaith negyddol ychwanegol.

Mae rhai temlau Hind诺 wedi dioddef ymosodiadau o gwmpas adegau gwyliau, Diwali yn arbennig, pan fydd yn hysbys bod y blychau rhoddion yn llawn. Bu digwyddiadau lle mae duwiau wedi cael eu dwyn oherwydd eu bod yn cynnwys metelau gwerthfawr a gemau.

Er y gall y troseddau mewn achosion o鈥檙 fath fod wedi eu hysgogi gan fudd ariannol yn hytrach na chasineb, gall y troseddau hyn fod yn rhai sy鈥檔 peri gofid mawr i grwpiau Hind诺 oherwydd sancteiddrwydd y duwiau.

Grwpiau Cristnogol

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Daesh, a sefydliadau eithafol eraill wedi bod yn targedu Cristnogion o gwmpas y byd, gan gynnwys y Cristnogion yn y gymuned Yazidi. Anelwyd ymosodiadau Pasg 2019 yn Sri Lanka at eglwysi pan oedden nhw ar eu prysuraf ac felly ar eu mwyaf agored i niwed.

Yn Ebrill 2019, cyhoeddodd Esgob Truro adroddiad dros dro 鈥淚ndependent Review for the Foreign Secretary of FCO Support for Persecuted Christians鈥. Mae鈥檔 datgan mai Cristnogaeth yw鈥檙 grefydd sy鈥檔 cael ei herlid fwyaf yn y byd. Daeth yr adroddiad i鈥檙 casgliad, yn 2016, bod Cristnogion wedi eu targedu mewn 144 o wledydd 鈥 cynnydd o 125 yn 2015 yn 么l y Pew Research Centre. Daw鈥檙 erlid ar sawl ffurf ac mae鈥檔 cynnwys gorfodi i newid crefydd, ymosodiadau, arweinwyr yn diflannu, bomio eglwysi a thrais rhywiol, yn erbyn menywod yn arbennig.

Gan beidio ag anghofio鈥檙 bygythiad rhyngwladol, wrth siarad 芒 grwpiau Cristnogol amrywiol, rydym wedi clywed bod y pryderon diogelwch yn y Deyrnas Unedig yn parhau yn gymharol fychan. Rydym wedi clywed bod gan y cadeirlannau mwyaf gynlluniau diogelwch ond mai pryder mwyaf eglwysi llai yw dwyn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Anghenion Unigolion mewn Grwpiau Ffydd

Trwy ymgysylltu 芒 grwpiau ffydd rydym yn deall bod gan aelodau gwahanol anghenion penodol yn aml. Gall hyn fod oherwydd eu bod yn bresennol ar adegau gwahanol o鈥檙 dydd neu eu bod yn defnyddio rhannau gwahanol o鈥檙 sefydliad. Mae鈥檙 ystyriaethau eraill yn cynnwys ffactorau personol fel oedran, rhyw, iechyd neu iaith.

Gall rhai o鈥檙 ffactorau hyn olygu bod angen cymryd camau mewn sefydliadau ffydd i sicrhau bod y grwpiau hyn yn cael eu diogelu鈥檔 addas. Mae鈥檙 enghreifftiau yn cynnwys sicrhau bod camau diogelwch ar gael ar oriau addas ac ym mhob ardal sy鈥檔 agored i niwed, bod gwybodaeth ar gael ar ffurf hygyrch, a bod yr holl unigolion yn gallu mynd allan yn ddiogel a chyflym.

Os yw鈥檙 man addoli yn cael ei ddefnyddio gan bobl h欧n yn bennaf, yna efallai y bydd angen cefnogaeth ychwanegol i ymdrin 芒 phroblemau symudedd. Ar wah芒n i hynny, gall presenoldeb gwarcheidwaid diogelwch greu problemau ychwanegol; er enghraifft, atal pobl gyda rhai mathau o salwch meddwl rhag cael hyder i fynd i fan addoli rhag ofn cael eu holi.

Yn yr un modd, gall menywod fod 芒 phryderon ychwanegol am ddiogelwch mewn cymhariaeth 芒 dynion. Mewn sawl crefydd mae dynion a menywod yn eistedd ar wah芒n yn y mannau addoli, boed hynny mewn ystafell ar wah芒n neu ar ddwy ochr wahanol i鈥檙 un ystafell. Mewn rhai grwpiau gall fod gweithgareddau cymdeithasol ar wah芒n i fenywod ar adegau y tu allan i oriau agor arferol ar gyfer y man addoli. Gall menywod hefyd fod yn fwy tebygol o ddefnyddio canolfannau cymunedol am resymau heblaw addoli, er enghraifft ar gyfer canolfannau plant a meithrinfeydd.

Rydym wedi clywed pryderon gan rai grwpiau nad yw rhannau menywod wedi eu diogelu cystal 芒 rhannau鈥檙 dynion bob tro. Mae鈥檙 problemau cyffredin yn aml yn cynnwys golau annigonol yn ystod y nos a llwybr cyflym at allanfeydd argyfwng neu lwybrau ffoi, yn arbennig os byddant mewn ystafelloedd ar wah芒n neu i fyny鈥檙 grisiau. Yn y grwpiau Mwslimaidd amlygwyd hefyd y gall menywod gael eu targedu yn fwy cyffredin gan droseddwyr troseddau casineb oherwydd bod eu ffydd yn weladwy trwy eu gwisg, gan ychwanegu at eu hymdeimlad o fod yn agored i niwed.

Cwestiynau

Nod yr adran hon yw deall ffactorau penodol sydd angen eu hystyried wrth ymdrin ag anghenion diogelwch mewn mannau addoli ac o鈥檜 cwmpas i wahanol grwpiau ffydd. Yn ychwanegol at hyn, fe fyddem yn hoffi deall pa grwpiau mewn gr诺p ffydd sy鈥檔 teimlo鈥檔 fwyaf bregus, a pham.

C17. a. A oes unrhyw anghenion penodol i ffydd yr ydych yn gwybod amdanynt sydd angen eu hystyried wrth ddiogelu mannau addoli? Gall y rhain gynnwys arferion crefyddol neu ddiwylliannol neu rai agweddau ffisegol ar gyfer y mannau addoli fel tynnu esgidiau, nifer o fynedfeydd i addolwyr, neu fannau ar wah芒n i ddynion a menywod. b. (os dewisir dewis ar y raddfa yng nghwestiwn 17a) Dywedwch ragor wrthym am anghenion penodol i ffydd y dylid eu hystyried wrth ddiogelu mannau addoli.

Gall rhai grwpiau mewn ffydd fod yn fwy bregus nag eraill pan fyddant mewn man addoli neu o鈥檌 gwmpas. Gall hyn gynnwys y rhai sy鈥檔 cael anhawster defnyddio cyfleusterau neu wahanol rannau o鈥檙 adeilad neu a all fod yn darged mwy gweladwy ar gyfer troseddau casineb.

C18. Isod mae nifer o grwpiau y gall rhai pobl eu hystyried yn fwy agored i niwed nag eraill pan fyddan nhw mewn mannau addoli neu o鈥檜 cwmpas. Wrth feddwl am y grwpiau hyn mewn gr诺p ffydd, nodwch pa mor agored i niwed yr ydych yn meddwl y mae pob gr诺p. Gallai hyn fod yn eich gr诺p ffydd chi neu un yr ydych yn gyfarwydd ag o.

  • Menywod
  • Dynion
  • Pobl h欧n
  • Arweinyddion crefyddol/ffydd
  • Pobl 芒 chyflyrau iechyd corfforol neu feddyliol neu salwchYMGYNGHORIAD DIOGELU MANNAU ADDOLI 18
  • Grwpiau lleiafrifol o ran hunaniaeth ryweddol neu gyfeiriadedd rhywiol
  • Grwpiau o leiafrifoedd ethnig

C19. A oes unrhyw grwpiau eraill yr ydych yn meddwl eu bod yn agored i niwed? Rhestrwch y grwpiau hyn. C20. Os ydych yn meddwl bod rhai grwpiau yn fwy agored i niwed nag eraill, esboniwch pam yr ydych yn meddwl eu bod yn arbennig o agored i niwed ac unrhyw anghenion penodol sydd ganddynt. Os yw eich ymateb yn ymwneud 芒 gr诺p o ffydd benodol, dywedwch yn glir pa ffydd yr ydych yn cyfeirio ati.

Adran 3: Hyfforddiant a Rhannu Arfer Da

Trwy鈥檙 ymgynghoriad hwn rydym yn croesawu barn ar sut i ddarparu hyfforddiant diogelwch, gan gynnwys sicrhau bod mynediad at gyfarwyddyd yn gyson ac ar safon addas. Yn ychwanegol, rydym yn awyddus i glywed barn grwpiau ffydd am y ffordd fwyaf effeithiol o rannu eu gwybodaeth eu hunain a鈥檜 harfer da, yn ogystal 芒 dysgu o brofiad eraill.

Mae nifer o sefydliadau yn cynnal rhyw ffurf ar hyfforddiant diogelwch ar hyn o bryd. Er enghraifft, mae CST yn rhoi hyfforddiant, nid i grwpiau Iddewig yn unig, ond mae hefyd wedi rhoi sgyrsiau i gynrychiolwyr dros 500 o fannau addoli a hefyd wedi cefnogi grwpiau eraill i ddatblygu hyfforddiant ar gyfer eu grwpiau ffydd eu hunain. Yn gynharach eleni, cefnogodd y Swyddfa Gartref Faith Associates i redeg 22 o weithdai hyfforddiant diogelwch i grwpiau Mwslimaidd cyn ac yn ystod y cyfnod Ramadan. Roedd hyn yn ymateb i鈥檙 pryderon cynyddol i Fwslimiaid yn dilyn Christchurch. Mae Strengthening Faith Institutions, Tell MAMA a Faith in Action hefyd yn cynnal sesiynau hyfforddi yn ymdrin yn bennaf 芒 grwpiau Mwslimaidd, Hind诺 a Sikh.

Yn dilyn yr ymosodiadau yn Christchurch a Sri Lanka, awgrymodd adborth gan rai grwpiau ffydd eu bod wedi profi mwy o ymwybyddiaeth o broblemau diogelwch a diffyg hyder, gwybodaeth a phrofiad i wybod at bwy i droi i gael cyngor. Gall cwmn茂au diogelwch preifat roi cyngor o鈥檙 fath; ond, gall hyn godi cymhlethdodau fel costau sy鈥檔 rhy uchel i sefydliadau ffydd a diffyg cysondeb o ran ansawdd a鈥檙 hyn sy鈥檔 cael ei gynnwys yn y cyngor a roddir.

Ym Mawrth 2019, cyhoeddodd y cyn Ysgrifennydd Cartref y byddai鈥檙 Swyddfa Gartref yn lansio cronfa newydd 拢5 miliwn (dros dair blynedd) ar gyfer hyfforddiant diogelwch ar draws pob ffydd. Rydym yn croesawu mewnbwn ar fodelau newydd neu wahanol i roi cyngor, cynnal asesiadau safle, a rhannu arfer da rhwng sefydliadau. Gallai hyn amrywio o fodelau lleol iawn, fel sefydlu rhwydwaith o 鈥榟wyluswyr diogelwch鈥 mewn grwpiau ffydd, neu ddulliau mwy traddodiadol ac wedi eu canoli, fel rhoi hyfforddiant trwy un sefydliad.

Dynododd ymgysylltu 芒 rhanddeiliaid bod rhai grwpiau ffydd wedi datblygu systemau cyfathrebu i鈥檞 galluogi i rannu gwybodaeth bwysig yn gyflym, fel hysbysu ei gilydd am ddigwyddiadau diogelwch. Er enghraifft, mae llawer o sefydliadau wedi sefydlu eu rhwydweithiau anffurfiol eu hunain, gan gynnwys grwpiau cyfryngau cymdeithasol rhwng arweinwyr gwahanol fannau addoli o fewn yr un ffydd ac ardal leol. Mae gan systemau o鈥檙 fath y potensial i fod yn werthfawr iawn, fel rhoi mwy o rybudd i fannau addoli gerllaw i weithredu cynlluniau argyfwng pan fydd digwyddiad yn yr ardal. Gall rhwydweithiau hefyd fod 芒鈥檙 potensial i hwyluso rhannu arfer da. Rydym yn awyddus i ddeall beth fyddai鈥檙 ffordd orau o ddefnyddio rhwydweithiau o鈥檙 fath.

Cyfathrebu a hyfforddiant i addolwyr

Mae angen i arweinwyr ffydd fod yn ymwybodol o ddiogelwch a chymryd cyfrifoldeb am ddiogelwch eu haelodau, gan gynnwys yr ymrwymiad cyfreithiol i sicrhau diogelwch unigolion yn eu safleoedd. Ond, mae hefyd yn bwysig i unigolion mewn grwpiau ffydd ddeall y r么l y maent hwythau yn ei chwarae i sicrhau bod mannau addoli a鈥檜 haddolwyr yn ddiogel. Gall ymwybyddiaeth well o ddiogelwch ymhlith y mynychwyr, nid yn unig helpu i ddiogelu safleoedd pan fyddant yn cael eu defnyddio, ond hefyd gall baratoi aelodau yn well i sicrhau eu diogelwch mewn bywyd bob dydd tu allan i鈥檙 sefydliad.

Mae nifer o sefydliadau yn barod i roi hyfforddiant ac rydym yn ystyried bod hyn yn beth positif, ond, rydym yn cydnabod na all unrhyw system hyfforddi gael ei hailadrodd yn union yr un fath ar draws gwahanol grwpiau ffydd, a byddai angen i bob man addoli ystyried ei amgylchiadau ei hun. Yn ychwanegol, mae nifer o faterion y mae angen eu hystyried. Er enghraifft, rydym wedi clywed cwestiynau yn cael eu codi yngl欧n ag a yw adnoddau yn cael eu cyfeirio at y rhai mwyaf agored i niwed, a all yr hyfforddiant fod yn anghyson rhwng sefydliadau, a phryderon bod rhannu gwybodaeth yn eu plith yn gyfyngedig.

Yn ychwanegol, er bod hyfforddiant am ddiogelwch personol yn ymddangos yn boblogaidd ar y dechrau, rydym wedi clywed pryderon am yr angen i ddod o hyd i asiantau cyflawni priodol a all ennyn diddordeb uwch arweinwyr ar draws unrhyw gr诺p ffydd. Mae pryder hefyd, yn absenoldeb y gallu i roi hyfforddiant mwy manwl a chyson a chefnogaeth i weithredu鈥檙 hyn a ddysgir, y gall manteision tymor hir hyfforddiant fod yn gyfyngedig. Felly, mae gennym ddiddordeb mewn deall gwerth rhaglenni hyfforddi manwl a thymor hwy i helpu i ateb rhai o鈥檙 problemau a amlinellwyd.

Gall hyfforddiant gael ei gyflawni gan ddefnyddio nifer o fodelau gwahanol, yn amrywio o gyflwyno yn ganolog mewn gweithdy i 鈥榟yfforddi hyfforddwr鈥 neu fodelau dysgu o bell, y cyfan 芒 manteision ac anfanteision amrywiol. Er enghraifft, gall gweithdai wyneb yn wyneb yn cael eu cyflwyno yn ganolog sicrhau cysondeb o ran ansawdd a chynnwys, gan gynnal cyfleoedd i ymateb i gwestiynau a phryderon penodol. Ond, mae hyn yn drwm o ran adnoddau, gall fod yn sensitif i oedi petai鈥檙 galw yn fwy na鈥檙 gallu, ac mae鈥檔 dibynnu ar ymgysylltu cyson gydag oblygiadau posibl o ran cyrraedd. Ar y llaw arall, gall darparu deunyddiau dysgu i gefnogi arweinwyr ffydd i hyfforddi eu grwpiau ffydd fod yn gost effeithiol, cyflym, a manteisio ar adeiladu ar yr ymddiriedaeth mewn cynrychiolwyr ffydd, ond gall arwain at anghysondeb o ran y nifer sy鈥檔 ei ddilyn ac ansawdd yr hyn a ddarperir.

Fel y trafodwyd yn yr adran flaenorol, ar draws yr holl ddewisiadau efallai bod ystyriaethau ychwanegol ar gyfer rhai aelodau o grwpiau ffydd. Mae鈥檙 enghreifftiau yn cynnwys darparu cefnogaeth dysgu ychwanegol i鈥檙 rhai nad ydyn nhw鈥檔 siarad Saesneg fel iaith gyntaf er mwyn gwella cydlyniad cymunedol, a sicrhau bod y wybodaeth yn hawdd ei deall i blant.

Cwestiynau

Mae llawer o fannau addoli a sefydliadau ffydd ehangach yn cymryd camau i warchod eu safleoedd a鈥檙 bobl sy鈥檔 eu defnyddio. Er enghraifft, gall hyn gynnwys sefydliadau yn rhoi cyngor neu hyfforddiant, rhannu gwybodaeth rhwng sefydliadau, gosod camau diogelwch, a phrosesau i roi adroddiadau am ddigwyddiadau. Yn ychwanegol, mae nifer o gynlluniau yn cael eu rhedeg gan y llywodraeth ganolog, gan gynnwys y Cynllun Diogelwch Mannau Addoli a gyflwynwyd i leihau pa mor agored ydyn nhw i droseddau casineb, a chynlluniau ehangach i leihau bygythiadau terfysgol i fannau lle mae tyrfaoedd (er enghraifft, mae 鈥楢ction Counters Terrorism鈥 (ACT) yn rhoi cyngor ac e-ddysgu a鈥檙 ymgyrch 鈥楻hed, Cuddia, Dyweda鈥).

C21. a. Wrth feddwl am y pum mlynedd diwethaf, a ydych yn ymwybodol o unrhyw gamau a gymerwyd neu weithgareddau a drefnwyd gyda鈥檙 nod o ddiogelu eich man addoli, neu fan addoli yr ydych yn gyfarwydd ag o, a鈥檙 bobl sy鈥檔 ei ddefnyddio? Gall hyn gynnwys hyfforddiant penodol, cyngor neu osod mesurau diogelwch ffisegol. b. (os ydw i gwestiwn 21a) Amlinellwch beth oedd y camau neu weithgareddau hyn ac unrhyw fanylion pam eu bod wedi eu cyflawni, a gan bwy. c. (os ydw i gwestiwn 21a) A oedd unrhyw un o鈥檙 camau neu weithgareddau hyn wedi eu cyflawni gyda鈥檙 nod o ddiogelu grwpiau penodol yn y grwpiau ffydd yn well? Gall yr enghreifftiau gynnwys hyfforddiant wedi ei deilwrio i blant neu鈥檙 henoed, neu oleuadau diogelwch ar gyfer mynedfeydd penodol. d. (os oedd i gwestiwn 21c) Amlinellwch ar gyfer pwy yr oedd y camau neu weithgareddau hynny, beth oedden nhw鈥檔 ei gynnwys, ac unrhyw fanylion pellach pam eu bod wedi eu cyflawni, sut, a gan bwy.

C22. Beth arall fyddech chi鈥檔 hoffi ei weld yn y dyfodol i fannau addoli ymdrin 芒 phryderon diogelwch a diogelu鈥檙 bobl sy鈥檔 eu defnyddio? Er enghraifft, gall hyn gynnwys sefydliadau yn rhoi cyngor neu hyfforddiant, rhannu gwybodaeth rhwng sefydliadau, gosod camau diogelwch ffisegol, a phrosesau i roi adroddiadau am ddigwyddiadau. Mae gennym ddiddordeb mewn unrhyw syniadau sydd gennych. Rhowch gymaint o fanylion ag sy鈥檔 bosibl am beth, pwy a sut y byddai hyn yn cael ei gyflawni.

C23. Wrth feddwl am gynlluniau cyfredol a鈥檙 dewisiadau ar gyfer darpariaeth yn y dyfodol, a oes unrhyw fathau o gefnogaeth neu weithgareddau nad ydych yn meddwl bod eu hangen neu na fyddent o gymorth wrth ymdrin 芒 phryderon am ddiogelwch a diogelu mannau addoli a鈥檙 bobl sy鈥檔 eu defnyddio? Esboniwch beth a pham.

C24. Wrth feddwl am anghenion unrhyw grwpiau agored i niwed y cyfeirir atyn nhw yn gynharach yn yr ymgynghoriad (er enghraifft, menywod, dynion, plant, yr henoed), beth yn fwy ellid ei wneud i leihau鈥檙 graddau y maent yn agored i niwed a diwallu eu hanghenion penodol? Er enghraifft, gall hyn gynnwys hyfforddiant, cyngor neu gyfleusterau wedi eu teilwrio. Mae gennym ddiddordeb mewn unrhyw syniadau sydd gennych. Rhowch gymaint o fanylion ag sy鈥檔 bosibl.

Adran 4: Rolau a Chyfrifoldebau

Yn yr adran hon rydym yn bwriadu ystyried pwy a beth sydd 芒 chyfrifoldeb am ddiogelwch mannau addoli a鈥檙 addolwyr sy鈥檔 eu defnyddio. Wrth drafod diogelwch ffydd, mae鈥檔 bwysig cofio bod gan bawb ei ran i鈥檞 chwarae i gadw addolwyr yn ddiogel. Mae nifer yn rhan o鈥檙 broses hon, yn amrywio o鈥檙 sefydliadau eu hunain i lywodraeth ganolog, awdurdodau lleol, heddlu, elusennau lleol a chenedlaethol, byrddau mannau addoli, arweinwyr crefyddol ac addolwyr unigol yn ogystal 芒鈥檙 cyhoedd yn gyffredinol.

Mae鈥檙 berthynas rhwng yr heddlu a鈥檙 gymuned yn un hanfodol i sicrhau bod mannau addoli yn parhau yn ddiogel. Mae鈥檙 berthynas hon wedi bod yn gyfyngedig mewn rhai grwpiau ffydd. Ond mae鈥檙 adborth gan fannau addoli wedi dangos y gall perthynas gadarnhaol wneud gwahaniaeth sylweddol. Er enghraifft, gall perthynas gref helpu鈥檙 heddlu i ddeall achlysuron sensitif pan fydd yn fwy tebygol y bydd angen eu presenoldeb, fel yn ystod gwyliau pwysig pan fydd mwy o addolwyr o gwmpas. Yn ychwanegol, gall y berthynas hefyd roi gwybodaeth a鈥檙 hyder i鈥檙 man addoli i roi adroddiad am droseddau sy鈥檔 galluogi鈥檙 heddlu a鈥檙 llywodraethau lleol a chenedlaethol i ddyrannu adnoddau yn well.

Mae鈥檙 llywodraeth eisoes yn rhoi cefnogaeth sylweddol i fannau addoli. Mae hyn yn cynnwys y cynlluniau a amlinellir yn y cyflwyniad. Mae鈥檙 llywodraeth hefyd yn sicrhau bod deddfwriaeth a pholis茂au yn eu lle i ddiogelu pobl sydd 芒 ffydd, gan gynnwys Deddf Cydraddoldeb 2010 sy鈥檔 nodi hawliau pobl i beidio dioddef gwahaniaethu dan saith o nodweddion gwarchodedig gan gynnwys ffydd a chred (neu ddim ffydd na chred).

Cwestiynau

Mae gan lawer o sefydliadau r么l i鈥檞 chwarae wrth ddiogelu mannau addoli a sefydliadau ffydd, ac mae angen iddynt weithio gyda鈥檌 gilydd i sicrhau bod y safleoedd yma a鈥檙 rhai sydd yn eu defnyddio yn ddiogel. C25. Yn eich barn chi, beth ydych chi鈥檔 ei feddwl ddylai r么l y sefydliadau canlynol fod? Ystyriwch beth yr ydych yn ei feddwl y mae鈥檙 sefydliadau yma yn ei wneud yn dda ar hyn o bryd a beth allen nhw ei wneud yn wahanol.

  • Mannau addoli a sefydliadau neu rwydweithiau ffydd eraill
  • Llywodraeth Ganolog, gan gynnwys y Swyddfa Gartref a/neu鈥檙 Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol
  • Elusennau, yr heddlu, llywodraeth leol, cynghorau a sefydliadau lleol eraill

Adran 5: Dulliau Eraill o Wella Diogelwch

Rydym yn awyddus iawn i鈥檙 ymgynghoriad gasglu amrywiaeth eang o safbwyntiau gan grwpiau ffydd a鈥檜 cynrychiolwyr ar beth yn fwy y gellid ei wneud i wella diogelwch mewn sefydliadau ffydd ac o鈥檜 cwmpas. Yn y rhan olaf hon o鈥檙 ymgynghoriad, gofynnir i ymatebwyr gynnwys unrhyw gynigion creadigol i wella diogelwch sefydliadau ffydd a鈥檜 haddolwyr nad ydyn nhw wedi cael eu mynegi yn barod.

Cwestiynau

C26. Rhowch unrhyw syniadau neu sylwadau ychwanegol ar sut i ddiogelu mannau addoli a sefydliadau ffydd ymhellach ar unrhyw anghenion penodol all fod gan grwpiau ffydd.