Consultation Options Assessment (Welsh accessible version)
Updated 29 April 2025
Teitl: Mesurau atebolrwydd personol ar uwch weithredwyr cwmn茂au ar-lein sy鈥檔 torri鈥檙 gyfraith ar gyllyll.
Math o fesur: Deddfwriaeth Sylfaenol
Adran neu asiantaeth: Y Swyddfa Gartref
Rhif OY: HOCOA1006
Cyswllt ar gyfer ymholiadau: Owen Hanson
Dyddiad: 11 Tachwedd 2024
1. Crynodeb o鈥檙 cynnig
1. Mae鈥檙 llywodraeth yn gweithredu ei hymrwymiad maniffesto i osod mesurau atebolrwydd personol ar swyddogion gweithredol sy鈥檔 torri鈥檙 deddfau ar werthu cyllyll trwy ei gwneud yn ofynnol i farchnadoedd ar-lein a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol gael gwared yn gyflym ar gynnwys anghyfreithlon ynghylch cyllyll.
2. Byddai鈥檙 cynnwys anghyfreithlon hwn yn cael ei ddiffinio fel cynnwys sy鈥檔 ymwneud 芒 gwerthu arfau gwaharddedig o dan adran 141 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988[footnote 1], gwerthu cyllyll fflicio a chyllyll disgyrchiant o dan adran 1 o Ddeddf Cyfyngu Arfau Ymosodol 1959[footnote 2] a marchnata cyllell sy鈥檔 awgrymu ei bod yn addas ar gyfer ymryson yn erbyn neu鈥檔 annog/efelychu ymddygiad treisgar fel o dan adrannau 1[footnote 3] a 2[footnote 4] o Ddeddf Cyllyll 1997.
3. Mae鈥檙 llywodraeth eisiau rhoi鈥檙 p诺er i鈥檙 heddlu allu rhoi 鈥渉ysbysiadau dileu cynnwys鈥 i lwyfannau a marchnadoedd ar-lein a鈥檜 huwch swyddogion gweithredol.
4. Bydd yr hysbysiadau yn galw ar i farchnadoedd a llwyfannau ar-lein dynnu i lawr darnau penodol o gynnwys anghyfreithlon a bostiwyd gan unigolion sy鈥檔 cynnwys arfau ymosodol anghyfreithlon i鈥檞 gwerthu neu sy鈥檔 marchnata cyllyll yn anghyfreithlon mewn ffyrdd sy鈥檔 awgrymu eu haddasrwydd ar gyfer ymryson neu sy鈥檔 annog trais drwy ddefnyddio鈥檙 gyllell fel arf.
5. Byddai鈥檙 hysbysiad cais dileu cynnwys yn cael ei anfon i鈥檙 llwyfan ar-lein neu鈥檙 farchnad yn gyntaf ac yn ei gwneud yn ofynnol iddo dynnu鈥檙 cynnwys i lawr o fewn 2 ddiwrnod. Os bydd y cwmni鈥檔 methu 芒 gweithredu ar hyn bydd yr heddlu鈥檔 rhoi ail gais dileu cynnwys i uwch weithredwr yn y cwmni hwnnw. Os bydd yr uwch weithredwr ym methu 芒 sicrhau bod y cynnwys yn cael ei dynnu i lawr o fewn 2 ddiwrnod, byddai鈥檔 agored i gamau sifil. Bydd gan y cwmni a鈥檙 uwch weithredwr yr hawl i adolygu a yw鈥檙 cynnwys yn anghyfreithlon ar 么l cael hysbysebiad dileu cynnwys priodol, a byddai gan yr uwch weithredwr yr hawl i wrthwynebu ar 么l iddo gael gwybod ei fod yn cael ei ddwyn i鈥檙 llys sifil.
6.听Rydym yn cynnig y byddai鈥檙 ddirwy am beidio 芒 chydymffurfio 芒鈥檙 hysbysiad i ddileu cynnwys yn o leiaf 拢10,000, a bennir gan y llys. Credwn fod dirwy ar y lefel hon yn ddigon i weithredu fel rhwystr ac y byddai鈥檔 newid ymddygiad, tra鈥檔 cadw cymesuredd.
2. Achos strategol dros y rheoleiddio arfaethedig
Beth yw鈥檙 broblem dan ystyriaeth?
7.听Mae鈥檙 heddlu wedi adrodd mai un o鈥檙 problemau mwyaf wrth fynd i鈥檙 afael 芒 throseddau cyllyll yw gwerthwyr preifat neu ailwerthwyr sy鈥檔 defnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol i werthu cyllyll yn anghyfreithlon. Mae unigolyn yn gwerthu cyllell yn anghyfreithlon lle mae鈥檔 gwerthu arfau bygythiol gwaharddedig, yn gwerthu neu鈥檔 cynnig cyllyll ar werth i bobl o dan 18 oed ac yn marchnata cyllyll mewn ffyrdd sy鈥檔 annog trais neu鈥檔 hybu eu haddasrwydd i鈥檞 defnyddio mewn ymosodiadau treisgar.
8.听Mae鈥檙 gwerthwyr neu鈥檙 ailwerthwyr preifat hyn yn gwerthu arfau ymosodol gwaharddedig a chyllyll er elw, mae鈥檙 llywodraeth wedi cael gwybod drwy blismona am ddigwyddiadau lle gwerthwyd y cyllyll hyn i bobl o dan 18 oed ac wedi鈥檜 defnyddio鈥檔 ddiweddarach mewn ymosodiadau cyllyll a lladdiadau.
9.听Mae鈥檙 gwerthwyr hyn yn cyflawni troseddau o dan adrannau 141 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988, adran 1 o Ddeddf Cyfyngu ar Arfau Ymosodol 1959 ac adrannau 1 a 2 o Ddeddf Cyllyll 1997.
10.听Fodd bynnag, mae angen i gwmn茂au ar-lein weithredu鈥檔 gyflymach i dynnu i lawr y cynnwys penodol a bostiwyd gan y gwerthwyr hyn er mwyn atal pobl, gan gynnwys pobl dan 18 oed, rhag gallu prynu arf neu gyllell ymosodol waharddedig.
11. Mae鈥檙 llywodraeth wedi ymrwymo i wneud y strydoedd yn fwy diogel, ac i leihau troseddau cyllyll 50 y cant yn y degawd nesaf. Mae鈥檙 addewid hwn yn cynnwys dal swyddogion gweithredol cwmn茂au ar-lein sy鈥檔 torri鈥檙 gyfraith ar werthu cyllyll i gyfrif trwy sancsiynau llym.
Pa dystiolaeth sydd i gefnogi鈥檙 datganiad problemus?
12. Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2024, cofnododd yr heddlu gyfanswm o 50,973 o droseddau ym ymwneud ag offeryn miniog. Roedd hyn yn gynnydd o bedwar y cant o gymharu 芒鈥檙 flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2023 (49,187 o droseddau). Gwelwyd cynnydd nodedig hefyd yn nifer y lladdiadau yn ymwneud 芒 chyllell neu offeryn miniog, a oedd i fyny 11 y cant o gymharu 芒鈥檙 flwyddyn flaenorol. O鈥檙 holl lladdiadau a gofnodwyd yn yr un flwyddyn, roedd cyfran y lladdiadau lle defnyddiwyd cyllell neu offeryn miniog fel y dull o ladd yn 44 y cant, cynnydd bychan o鈥檜 gymharu 芒 42 y cant y flwyddyn flaenorol.[footnote 5]
13. Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024, gwnaed dros 18,000 o rybuddiadau ac euogfarnau am feddu ar gyllell neu arf ymosodol, gan gyfrif am 29 y cant o gyfanswm y troseddau. Roedd hyn yn ostyngiad bychan o ddau y cant o鈥檌 gymharu 芒鈥檙 flwyddyn flaenorol.
14. Mae dull cynhwysfawr y llywodraeth o wella mesurau ataliol yn anelu at leihau nifer y troseddau sy鈥檔 ymwneud ag offeryn miniog, a nifer y bobl sy鈥檔 cario arfau ymosodol. Mae鈥檙 dull hwn yn cynnwys y rhaglen 10 mlynedd newydd Dyfodol Ifanc a chamau llymach a gymerwyd yn erbyn troseddwyr.
15. Rhwng Ebrill 2023 ac Ebrill 2024, bu cynnydd o dri y cant yn nifer y derbyniadau i鈥榬 ysbyty oherwydd ymosodiad gyda gwrthrych miniog. Mae achos i鈥檙 llywodraeth ymyrryd fel bod llai o bobl yn cael eu derbyn i鈥檙 ysbyty oherwydd anafiadau sy鈥檔 gysylltiedig 芒 chyllyll. Bydd lleihau鈥檙 cyflenwad o gyllyll sydd wedi鈥檜 marchnata鈥檔 anghyfreithlon neu sy鈥檔 waharddedig drwy wneud i lwyfannau cyfryngau cymdeithasol a marchnadoedd ar-lein wneud mwy i ddileu cynnwys yn gyflym yn helpu i gyflawni hyn.
Pam mae angen gweithredu neu ymyrryd gan y llywodraeth?
16.听Mae troseddau cyllyll yn fater cymhleth, sy鈥檔 gofyn am atebion amlochrog, ac mae鈥檙 llywodraeth yn benderfynol o roi mesurau ar waith i leihau trais sy鈥檔 ymwneud 芒 chyllyll.
17. Mae鈥檙 llywodraeth yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus i fesur barn yr ymatebwyr ar osod sancsiynau sifil ar weithredwyr llwyfannau cyfryngau cymdeithasol neu farchnadoedd ar-lein. Yn benodol, y rhai nad ydynt yn tynnu i lawr yn gyflym cynnwys anghyfreithlon pan hysbysir iddyn nhw gan yr heddlu.
18. Mae鈥檙 llywodraeth o鈥檙 farn y bydd y mesurau hyn yn annog llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a marchnadoedd ar-lein i wneud mwy i darfu ar weithgareddau o鈥檙 fath. Gweithio i atal cofrestriad gwerthwyr cyllell trydydd parti sy鈥檔 ceisio gwerthu arfau neu gyllyll gwaharddedig i bersonau o dan 18 oed, neu farchnata cyllyll mewn ffordd anghyfreithlon trwy sicrhau bod y swyddog gweithredol yn atebol.
19. Mae鈥檙 llywodraeth yn awyddus i gael dealltwriaeth fwy manwl gywir o raddfa ailwerthu cyllyll ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol mawr a marchnadoedd ar-lein. Yn enwedig i ba raddau y mae llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a marchnadoedd ar-lein eisoes yn mynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 broblem, er enghraifft drwy dimau cymedroli cynnwys a thynnu i lawr cynnwys o鈥檙 fath.
20. Mae鈥檙 llywodraeth yn cydnabod y dylai fod darpariaeth ar gyfer rhai amddiffyniadau i gwmn茂au cyfryngau cymdeithasol a marchnadoedd ar-lein mewn perthynas 芒 diffyg cydymffurfio gyda hysbysiadau dileu cynnwys. Efallai mai dyma lle gallai鈥檙 cwmni ddod ar draws materion technegol a allai achosi oedi cyn cymryd y cynnwys i lawr o fewn y cyfnod penodol o amser.
21. Mae鈥檙 llywodraeth hefyd yn ymwybodol bod angen rhywfaint o amddiffyniad i uwch weithredwyr ar gyfer achlusuron pan yw鈥檙 uwch weithredwyr yn rhy newydd yn y swydd i gael eu hystyried yn gyfrifol am fethu 芒 chydymffurfio 芒 hysbysiadau dileu cynnwys neu pan nad oedd ganddynt unrhyw wybodaeth am gael eu henwi fel uwch weithredwyr 芒 chyfrifoldeb am sicrhau bod yr hysbysiad dileu cynnwys yn cael ei weithredu.
Pa fylchau neu niwed fyddai鈥檔 digwydd pe na bai鈥檙 llywodraeth yn ymyrryd?
22. Mae troseddau cyllyll yn effeithio ar ddioddefwyr trwy niwed emosiynol a chorfforol, yn ogystal ag achosi costau i鈥檙 economi a鈥檙 gymdeithas yn ehangach (er enghraifft trwy golli allbwn, a chostau i wasanaethau iechyd a dioddefwyr, yr heddlu, a鈥檙 system cyfiawnder troseddol ehangach). Bydd y graddau y mae atebolrwydd personol ar weithredwyr ar-lein yn lleihau troseddau a alluogir gan gyllyll yn pennu i ba raddau y caiff y costau hyn eu lleihau.
3. Amcanion SMART ar gyfer ymyrraeth
23.听Fel rhan o addewid y llywodraeth i wneud y strydoedd yn fwy diogel, ac i anrhydeddu ymrwymiad y maniffesto i gyflwyno sancsiynau llym ar swyddogion gweithredol cwmn茂au ar-lein sy鈥檔 torri鈥檙 gyfraith ar gyllyll, mae鈥檙 llywodraeth yn archwilio gosod atebolrwydd personol ar swyddogion gweithredol cwmn茂au ar- lein sy鈥檔 torri鈥檙 gyfraith ar werthu cyllyll. Y canlyniad a fwriedir yw tarfu ar weithgareddau gwerthwyr preifat neu ailwerthwyr, gan leihau troseddau a alluogir gan gyllyll trwy ddefnyddio鈥檙 ataliad lle bydd uwch swyddogion gweithredol yn bersonol atebol i wneud i lwyfannu cyfryngau cymdeithasol a marchnadoedd ar- lein wneud mwy yn gyflym i gael gwared ar gynnwys anghyfreithlon sy鈥檔 cael ei amlygu iddynt.
24. Y prif amcan yw sicrhau bod llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a marchnadoedd ar-lein yn cael gwared ar gynnwys anghyfreithlon a amlygwyd iddynt o fewn cyfnod byr o amser. Mae hyn yn cynnwys deunydd o dan adran 141 o鈥檙 Deddf Cyfiawnder Troseddol 1988, adran 1 o鈥檙 Ddeddf Cyfyngu ar Arfau Ymosodol 1959 ac adrannau 1 a 2 o Ddeddf Cyllyll 1997.
25.听Ar yr un pryd mae鈥檙 llywodraeth am sicrhau nad yw cynnwys cyfreithiol yn cael ei dynnu i lawr yn anfwriadol ac nad yw cwmn茂au a swyddogion gweithredol yn cael eu cosbi鈥檔 annheg am fethu 芒 chael gwared ar gynnwys anghyfreithlon mewn pryd oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i鈥檞 rheolaeth.
4. Disgrifiad o鈥檙 opsiynau ymyrraeth arfaethedig ac esboniad o鈥檙 broses newid rhesymegol lle mae hyn yn cyflawni amcanion SMART
Opsiwn 0 鈥 Gwneud Dim
26. Nid yw鈥檙 Swyddfa Gartref yn cyflwyno rheoliadau newydd i ategu鈥檙 rhai a nodir yn Neddf Diogelwch Ar-lein 2023 (OSA 2023)[footnote 6] i gynnwys sancsiynau sifil neu sancsiynau ar gyfer swyddogion gweithredol. Mae hyn yn peryglu y bydd y llywodraeth yn methu 芒 chyflawni ei hamcan o gwtogi 50 y cant ar droseddau cyllyll yn y degawd nesaf a鈥檌 hymrwymiadau maniffesto i ddal swyddogion gweithredol yn bersonol atebol am dorri rheolau ynghylch gwerthu cyllyll ar-lein.
Opsiwn 1 鈥 Sancsiynau Sifil
27.听Mae鈥檙 Swyddfa Gartref wedi cynnal ymchwil ar ddichonoldeb cynnig i osod cyfundrefn sancsiynau sifil gan sicrhau atebolrwydd personol uwch weithredwyr llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a marchnadoedd ar-lein nad ydynt yn tynnu i lawr cynnwys yn ddigon cyflym pan hysbysir nhw gan yr heddlu. Bydd hyn yn cael ei brofi yn yr ymgynghoriad cyhoeddus.
28. Bydd yr ymgynghoriad yn ceisio barn ar yr opsiwn arfaethedig, sut y bydd yn gweithredu鈥檔 ymarferol ac amddiffyniadau.
29.听Bydd y Swyddfa Gartref hefyd yn defnyddio鈥檙 ymgynghoriad cyhoeddus i ddatblygu amcangyfrif o faint y farchnad ar-lein a鈥檙 raddfa y mae gwerthwyr preifat ac ailwerthwyr yn gweithredu o fewn y farchnad ar-lein ar gyfer cyllyll. Bydd y Swyddfa Gartref hefyd yn ymgysylltu鈥檔 rhagweithiol 芒 digwyddiadau ar- lein i sicrhau eu bod yn cael y cyfle i gyfrannu at yr ymgynghoriad a bwydo i mewn i ddatblygiad pellach yr asesiad effaith.
30. Bydd y cynnig hwn yn dilyn dulliau profedig. Mae llysoedd sifil sy鈥檔 rhoi dirwyon am dorri dyletswydd statudol yn rhan dderbyniol o dirwedd gyfreithiol y DU.
31. Mae fframwaith deddfwriaethol ar waith eisoes mewn perthynas 芒 diogelwch ar- lein. Mae鈥檙 OSA 2023 hefyd yn gosod dyletswydd ar farchnadoedd ar-lein a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol i gael systemau cymesur ar waith i, ymhlith dyletswyddau eraill, ddileu cynnwys anghyfreithlon yn gyflym pan dd么nt yn ymwybodol ohono. Os bydd methiant systemig gan gwmn茂au i ddileu cynnwys anghyfreithlon, gallant gael dirwy o hyd at 18 milliwn neu 10 y cant o鈥檜 refeniw byd-eang cymwys, pa un bynnag sydd fwyaf. Mae鈥檙 cynnwys y mae鈥檙 llywodraeth eisiau i reolwyr ei dynnu i lawr yn gynnwys sydd eisoes yn torri鈥檙 gyfraith bresennol.
32.听Byddai鈥檙 llywodraeth yn cyflwyno鈥檙 cynnig hwn fel deddfwriaeth sylfaenol fel rhan o鈥檙 Bil Troseddu a Phlismona sydd ar ddod.
5. Crynodeb o鈥檙 rhestr hir a dewisiadau eraill
33. Mae dal i gyfrif y gweithredwyr cwmn茂au ar-lein sy鈥檔 torri鈥檙 gyfraith ar werthu cyllyll yn ymrwymiad maniffesto y llywodraeth.
34. Mae鈥檙 Swyddfa Gartref yn ymgynghori ar sut i gyflawni鈥檙 ymrwymiad hwn drwy geisio barn am ein sancsiwn sifil arfaethedig sy鈥檔 gosod atebolrwydd personol ar uwch swyddogion gweithredol. Yn ogystal, gweithio i ddatblygu amcangyfrif o faint y farchnad ar-lein a鈥檙 raddfa y mae gwerthwyr ac ailwerthwyr preifat yn gweithredu o fewn y farchnad ar-lein ar gyfer cyllyll, yn ogystal ag ymgynghori鈥檔 benodol 芒鈥檙 cwmn茂au ar-lein ar y cynigion.
35.听Nid oedd rhestr hir o opsiynau gan mai ymrwymiad maniffesto yw hwn. Nid oedd yn bosibl eithrio busnesau bach a micro / busnesau canolig o gwmpas y polisi gan y byddai hyn yn tanseilio pwrpas yr atebolrwydd personol arfaethedig ar gyfer sancsiynau sifil (i ddiogelu diogelwch y cyhoedd). Yn ogystal, mae鈥檙 heddlu yn debygol o ganolbwyntio ar y busnesau mawr, (er enghraifft marchnadoedd ar- lein megis Amazon, eBay a Meta) a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol mawr (er enghraifft SnapChat, TikTok, Instagram) gan y bydd cynnwys anghyfreithlon ar y llwyfannau hyn yn cael y cyrhaeddiad mwyaf.
6. Disgrifiad o鈥檙 opsiynau polisi ar y rhestr fer a gariwyd ymlaen
36. Mae dau opsiwn wedi鈥檜 cario ymlaen:
- Opsiwn 0 鈥 Gwneud Dim
- Opsiwn 1 鈥 Sancsiynau Sifil ar swyddogion gweithredol y mae eu cwmn茂au yn mynd yn groes i hysbysiadau dileu cynnwys yn gyson.
37. Pwrpas yr ymgynghoriad:
- a) Mesur y gefnogaeth i ddull arfaethedig y llywodraeth o osod sancsiynau sifil a鈥檙 effeithiau tebygol o gymharu 芒 senario busnes-fel-arfer.
- b)听Darparu mwy o wybodaeth am yr hyn y mae rhanddeiliaid a鈥檙 cyhoedd yn ei ystyried yn gyfnod teg o amser i roi i gwmn茂au i ddileu cynnwys anghyfreithlon. Bydd hyn yn dilyn unwaith yr hysbysir nhw gan yr heddlu drwy hysbysiad dileu cynnwys.
- c)听Helpu鈥檙 llywodraeth ddatblygu amcangyfrif o faint y farchnad ar-lein ar gyfer cyllyll, a鈥檙 raddfa y mae gwerthwyr ac ailwerthwyr yn gweithredu arni o fewn y farchnad ar-lein ar gyfer cyllyll.
- d)听Casglu tystiolaeth o unrhyw gostau posibl sy鈥檔 gysylltiedig 芒 rhoi鈥檙 mesur hwn ar waith i fusnesau, er enghraifft y gost bosibl i lwyfannau cyfryngau cymdeithasol a marchnadoedd ar-lein o logi unrhyw gymedrolwyr newydd.
- e) Casglu mewnbwn ar ba amddiffyniadau ddylai fodoli ar gyfer diffyg cydymffurfio.
7. Monitro a gwerthuso
38. Bydd effaith gosod atebolrwydd personol ar uwch swyddogion gweithredol llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a marchnadoedd ar-lein sy鈥檔 methu 芒 chymryd camau i atal gwerthiant anghyfreithlon cyllyll ac arfau eraill yn cael ei fonitro gan ddefnyddio adborth/tystiolaeth gan yr heddlu ar ba mor gyflym mae cwmn茂au yn dileu cynnwys anghyfreithlon a thrwy ystadegau鈥檙 Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ymwneud ag erlyn troseddau perthnasol. Bydd y Swyddfa Gartref hefyd yn cadw dan adolygiad effaith y mesurau ar fusnes, yn enwedig unrhyw gost ychwanegol i gwmn茂au yn sgil llogi cymedrolwyr cynnwys ychwanegol.
8. Lleihau costau gweinyddol a chydymffurfio
39.听Bydd cost weinyddol i lwyfannau cyfryngau cymdeithasol a marchnadoedd ar- lein am gydymffurfio 芒 hysbysiadau dileu cynnwys a gyhoeddir gan yr heddlu. Ni all y Swyddfa Gartref wneud amcangyfrif ar hyn o bryd ond bydd yr ymgynghoriad yn casglu gwybodaeth ar faint o lwyfannau ar-lein fydd yn gorfod newid eu prosesau. Bydd y llywodraeth yn sicrhau bod y broses hon mor syml 芒 phosibl ac yn cynhyrchu canllawiau i helpu busnesau i ddeall y broses.
Datganiad
Adran: Home Office 鈥 Public Safety Group
Y Gweinidog sy鈥檔 Gyfrifol: Minister for Crime, Policing and Fire
Rwyf wedi darllen yr Asesiad Opsiynau Ymgynghori ac rwy鈥檔 fodlon, o ystyried y dystiolaeth sydd ar gael, ei fod yn cynrychioli barn resymol o gostau, buddion ac effaith tebygol yr opsiynau arweiniol.
Llofnodwyd:
Dyddiad:听11 Tachwedd 2024
Crynodeb: Dadansoddiad a thystiolaeth
Ar gyfer AO Ymgynghori, nid yw鈥檔 ofynnol cwblhau pob un o鈥檙 isod, ond cwblhewch gymaint ag y gallwch lle bo modd. Ar gyfer pob dewis ar y rhestr fer, cynhwyswch golofn yn y tabl isod.
Blwyddyn sylfaen pris:
Blwyddyn sylfaen PV:
Gellir ail-fformatio鈥檙 tabl hwn ar yr amod y cedwir y gymhariaeth o opsiynau ochr-yn- ochr | 0. Busnes fel arfer (gwaelodlin) | 1. Rhestr fer Opsiwn 1 Sancsiwn sifil i swyddogion gweithredol y mae eu cwmn茂au yn torri hysbysiadau dileu cynnwys yn gyson |
---|---|---|
Gwerth cymdeithasol presennol net (gyda disgrifiad byr, gan gynnwys ystodau, o gostau a buddion unigol) | 听 | Ar hyn o bryd nid yw dadansoddwyr y Swyddfa Gartref yn gallu darparu amcangyfrif NPSV dibynadwy. Bydd yr ymgynghoriad hwn sydd ar ddod yn ein helpu i gasglu gwybodaeth ychwanegol y gellir ei defnyddio i feintioli effeithiau鈥檙 mesur hwn drwy lenwi鈥檙 bylchau presennol yn y dystiolaeth i ddatblygu amcangyfrif arfarnu mwy cywir. Gallai鈥檙 costau sylfaenol sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檙 mesur hwn gynnwys newidiadau posibl yn y staffio ar gyfer llwyfannau cyfryngau cymdeithasol, costau hyfforddi a chynefino, ac effeithiau posibl ar y system CPS, megis achosion llys cynyddol a dyraniad adnoddau鈥檙 heddlu. Y brif fantais a ragwelir yw鈥檙 buddion diogelwch cyhoeddus a enillir trwy ostyngiad posibl mewn troseddau cyllyll. |
Costau ariannol y sector cyhoeddus (gyda disgrifiad byr, gan gynnwys ystodau) | 听 | Er nad yw costau CJS penodol ar gyfer yr opsiwn hwn ar gael ar hyn o bryd, mae Prawf Effaith Cyfiawnder blaenorol ar gyfer y Bil Diogewlch Ar-lein yn gyfeiriad defnyddiol o ystyried natur debyg y mesur. Barnwyd mai ychydig iawn o effaith a gafodd y Bil hwn, gyda chostau鈥檔 ymwneud yn bennaf 芒鈥檙 corff apeliadau. Amcangyfrifwyd y byddai鈥檙 rhain yn 拢3,500 fesul achos, a disgwylir tua 10 achos bob blwyddyn a chost cychwyn chwanegol o 拢7,000. Bydd yr ymgynghoriad sydd i ddod yn helpu鈥檙 Swyddfa Gartref i ddeall y nifer disgwyliedig o achosion y gallai hyn arwain ato mewn blwyddyn. Mae鈥檙 Swyddfa Gartref yn cydnabod y gallai fod costau cyfle yn gysylltiedig ag ailffocysu adnoddau鈥檙 heddlu. Fodd bynnag, nid yw union faint yr effaith hon yn hysbys ar hyn o bryd a bydd yn brif ffocws i鈥檙 broses ymgynghori. |
Manteision a chostau buddion sylweddol heb eu meintioli (disgrifiad, gyda graddfa lle bo modd)) | 听 | Mae鈥檙 Swyddfa Gartref yn rhagweld y bydd y mesur yn cyfrannu at wella diogelwch y cyhoedd drwy leihau trais difrifol. Fodd bynnag, oherwydd diffyg tystiolaeth ddigonol, ni allwn fesur union faint y gostyngiad hwn ar hyn o bryd. Mae鈥檔 debygol y bydd asesiadau yn y dyfodol yn defnyddio dadansoddiad adennill costau, gan ddefnyddio鈥檙 adroddiad 鈥榗ostau economaidd a chymdeithasol troseddu鈥 i bennu nifer y lladdiadau, lladradau, a鈥檙 anafiadau treisgar y byddai angen eu hatal er mwyn cyfiawnhau costau鈥檙 polisi. |
Risgiau allweddol (a chostau risg, a thuedd optimistiaeth, lle bo鈥檔 berthnasol) | 听 | Un o鈥檙 prif heriau yw鈥檙 diffyg data gronynnog ar union darddiad y cyllyll a ddefnyddir mewn troseddau. Tra bod y Swyddfa Gartref yn gallu olrhain tueddiadau mewn troseddau cyllyll, nid yw鈥檙 data cyfredol yn nodi ffynonellau penodol o gyllyll, megis marchnadoedd ar-lein neu siopau. Yn ogystal, gallai effeithiolrwydd y mesur gael ei effeithio gan effeithiau dadleoli posibl, lle bydd troseddwyr yn prynu neu鈥檔 cael cyllyll o leoliadau eraill. |
Canlyniadau鈥檙 dadansoddiad sensitifrwydd | 听 | 听 |
Atodiad
Sylfaen Tystiolaeth
Effeithiau 芒 gwerth ariannol
1.听Ar hyn o bryd ni all dadansoddwyr y Swyddfa Gartref roi amcangyfrif dibynadwy o鈥檙 costau a鈥檙 buddion ariannol. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn helpu dadansoddwyr y Swyddfa Gartref i gasglu gwybodaeth ychwanegol y gellir ei defnyddio i feintioli goblygiadau cost a budd y mesur hwn ac felly datblygu amcangyfrif arfarnu mwy cywir. Mae鈥檙 costau a鈥檙 buddion y mae鈥檙 Swyddfa Gartref yn disgwyl eu creu a鈥檜 hariannu mewn dadansoddiad yn y dyfodol wedi鈥檜 hamlinellu yn yr effeithiau anariannol.
Effeithiau anariannol
Costau
Costau Ymgyfarwyddo
2.听Bydd yr opsiwn arfaethedig yn gofyn am gostau sefydlu trwy ymgyfarwyddo, wrth i staff o lwyfannau ar-lein a鈥檙 heddlu ddod i arfer 芒鈥檙 mesur newydd. O鈥檙 ymatebion i鈥檙 ymgynghoriad, bydd y Swyddfa Gartref yn datblygu amcangyfrif o nifer y cyflogeion o lwyfannau ar-lein a鈥檙 heddlu y bydd angen iddynt ymgyfarwyddo 芒鈥檙 mesur newydd.
Costau Staffio
3. Gall y mesur hwn greu costau staffio ar gyfer y llwyfannau ar-lein a鈥檙 heddlu. Gall llwyfannau ar-lein gyflogi mwy o gymedrolwyr cynnwys i nodi a chael gwared ar gynnwys niweidiol, tra bydd yr heddlu angen adnoddau ychwanegol i fonitro cydymffurfiaeth ac o bosibl ymchwilio i droseddau cysylltiedig. Gall yr effaith hon amrywio o ran maint a chwmpas ar draws lluoedd a鈥檙 llwyfannau eu hunain. Er nad yw鈥檙 mesur yn darparu cyllid ychwanegol i鈥檙 heddlu o ran staff, byddai鈥檙 posibilrwydd o ailddyrannu adnoddau presennol yn golygu costau cyfle. Nid yw union faint hyn yn hysbys ar hyn o bryd. Mae ceisio barn ar yr hyn y dylai鈥檙 heddlu fod ac a fydd yn brif ffocws y broses ymgynghori. Unwaith y bydd y llywodraeth yn gwybod beth yw鈥檙 heddlu bydd y Swyddfa Gartref yn ymgysylltu 芒 nhw i ganfod y costau.
4. Gall y costau hyn fod yn fach iawn gan fod y mesur hwn ond yn ychwanegu ataliad a chanlyniad ychwanegol i ddeddfwriaeth sydd eisoes ar waith. Mae鈥檔 bosibl na fydd niferoedd staffio鈥檔 newid naill ai鈥檙 yn yr heddlu na鈥檙 cwmn茂au, cyfryngau ar-lein; fodd bynnag gallai鈥檙 effaith amrywio ar draws cyrff gorfodi a chwmn茂au posibl. Trwy鈥檙 ymatebion i鈥檙 ymgynghoriad mae鈥檙 Swyddfa Gartref yn gobeithio cael effaith FTE ar gyfer y cwmn茂au ar-lein a鈥檙 heddlu a鈥檙 ysgogwyr posibl i hyn.
Costau鈥檙 System Cyfiawnder Troseddol (CJS)
5. Mae鈥檙 Swyddfa Gartref yn rhagweld costau sy鈥檔 gysylltiedig ag erlyniadau ac apeliadau posibl. Fodd bynnag, o ystyried lefelau incwm tebygol swyddogion gweithredol ar-lein, ni ragwelir costau cymorth cyfreithiol.
6.听Er nad yw costau CJS penodol ar gyfer yr opsiwn hwn ar gael ar hyn o bryd, mae Asesiad Effaith blaenorol ar gyfer OSA 2023 yn rhoi cyfeiriad defnyddiol o ystyried natur debyg y mesur. Ystyriwyd mai ychydig iawn o effaith y byddai CJS 2023 yn ei chael, gyda chostau鈥檔 ymwneud yn bennaf 芒鈥檙 corff apeliadau. Amcangyfrifwyd y byddai鈥檙 rhain yn 拢3,500 fesul achos, a disgwylir tua 10 achos bob blwyddyn, a chost cychwyn ychwanegol o 拢7,000. Bydd yr ymgynghoriad sydd ar ddod yn helpu鈥檙 Swyddfa Gartref i ddeall y nifer disgwyliedig o achosion newydd y gallai鈥檙 mesur hwn arwain atynt mewn blwyddyn.
Buddion
Diogelwch y cyhoedd
7.听Nod y polisi hwn yw cyflwyno atebolrwydd personol ar gyfer uwch weithredwyr cwmn茂au ar-lein sy鈥檔 methu 芒 nodi a thynnu i lawr cynnwys sy鈥檔 ymwneud 芒 gwerthu arfau a waherddir, gwerthu cyllyll i bersonau dan 18 oed, a marchnata cyllyll mewn ffordd sy鈥檔 awgrymu eu bod yn addas ar gyfer ymryson neu鈥檔 annog/efelychu ymddygiad treisgar.
8.听Mae鈥檙 Swyddfa Gartref yn rhagweld y gallai鈥檙 mesur gyfrannu at wella diogelwch y cyhoedd drwy leihau trais difrifol. Fodd bynnag, oherwydd diffyg tystiolaeth ddigonol, nid yw鈥檙 Swyddfa Gartref yn gallu meintioli union faint y gostyngiad ar hyn o bryd. Un o鈥檙 prif heriau yw absenoldeb data gronynnog ar union darddiad y cyllyll a ddefnyddir mewn troseddau. Tra bod y Swyddfa Gartref yn gallu olrhain tueddiadau cyffredinol mewn troseddau cyllyll, nid yw鈥檙 data yn caniat谩u iddi nodi ffynonellau penodol o gyllyll, megis marchnadoedd ar-lein neu siopau. Ymhellach, gallai effeithiolrwydd y mesur gael ei effeithio gan effeithiau dadleoli posibl, lle gall troseddwyr brynu neu gael cyllyll o leoliadau eraill.
9. Gallai鈥檙 cynnig hefyd arwain at gynnydd yn hyder y cyhoedd. Ni fydd y budd hwn yn cael ei roi mewn gwerth ariannol ar gyfer yr Asesiad Effaith terfynol oherwydd diffyg tystiolaeth ar y ffactorau penodol sy鈥檔 ysgogi ofn troseddau cyllyll, ac i ba raddau y bydd y cynigion yn effeithio ar hyn.
Effeithiau cyffredinol disgwyliedig
10.听Ar hyn o bryd, nid oes tystiolaeth i鈥檙 Swyddfa Gartref amcangyfrif yn gywir effaith gyffredinol y mesur. Mae鈥檙 Swyddfa Gartref yn rhagweld mai costau staffio fydd y gost gysylltiedig fwyaf. Yn dilyn ymgynghoriad y Swyddfa Gartref dylai fod gan ddadansoddwyr y wybodaeth berthnasol i allu ystyried y gostyngiad troseddu angenrheidiol i adennill costau. Bydd dadansoddwyr yn defnyddio costau economaidd a chymdeithasol riportio troseddau i bennu nifer yr achosion o laddiadau, lladrata ac anafiadau treisgar y byddai angen eu hatal er mwyn cyfiawnhau costau鈥檙 polisi.
11. Bydd yr ymgynghoriad yn helpu i gasglu data a thystiolaeth hanfodol i lenwi bylchau presennol a galluogi asesiad mwy cywir.
Effeithiau Dosbarthiadol
12.听Mae鈥檙 buddion sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檙 mesur yn debygol o fod yn fwy dwys mewn ardaloedd lle mae troseddau cyllyll wedi鈥檜 canolbwyntio鈥檔 fwy daearyddol, megis Gorllewin Canolbarth Lloegr a Llundain.
Effeithau ar flaenoriaethau pellach llywodraeth
Amgylchedd Busnes
13.听Nid yw鈥檙 mesur hwn yn debygol o gael effaith ar ba mor ddeniadol yw marchnad y DU i lwyfannau ar-lein, gan fod hyn yn ychwanegu ataliad atodol ar gyfer deddfwriaeth gyfredol (OSA 2023)[footnote 7]. Mae gwerthwyr preifat neu ailwerthwyr ar y llwyfannau yr effeithir arnynt yn annhebygol o fod yn fusnesau cofrestredig neu gyfreithlon. Bydd hyn yn ychwanegu mwy o amddiffyniad i werthwyr cyllyll ar- lein cyfreithlon.
Ystyriaethau Rhyngwladol
14. Nid oes disgwyl i鈥檙 mesur hwn gael urhyw effeithiau rhyngwladol.
Cyfalaf naturiol a Datgarboneiddio
15. Nid oes disgwyl i鈥檙 ddeddfwriaeth gael effaith amgylcheddol.
Dyletswydd Cydraddoldeb Statudol
Mae鈥檔 ofynnol i bob OA Ymgynghori sicrhau bod y Ddyletswydd Cydraddoldeb Statudol yn cael ei hadolygu gan yr SRO cyn ei chymeradwyo.
Prawf effaith penodol gorfodol - Dyletswyddau Cydraddoldeb Statudol | Cyflawn |
---|---|
Dyletswyddau Cydraddoldebau Statudol Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus roi sylw dyledus i鈥檙 angen i ddileu gwahaniaethau, hyrwyddo cyfle cyfartal, a meithrin cysylltiadau da wrth ddatblygu polis茂au a darparu gwasanaethau. Equality Duty Toolkit. Ein barn ni yw na fydd y polisi鈥檔 effeithio ar unrhyw un o鈥檙 nodweddion gwarchodedig. Rydym yn ymgynghori ar y polisi a byddwn yn ymgysylltu 芒鈥檙 cwmn茂au ar-lein i ddeall eu strwythur gweithredol a鈥檜 cyfansoddiad er mwyn nodi a oes unrhyw dystiolaeth sy鈥檔 awgrymu unrhyw effeithiau. Mae鈥檙 SRO wedi cytuno ar y canfyddiadau cryno hyn. (Rhaid i chi gael cytundeb SRO yma) |
Ydy |