Cronfa gwerth 拢11.7 miliwn i sbarduno buddsoddiad mewn busnes a swyddi ym Mhort Talbot
Cronfa Twf Economaidd a Buddsoddi wedi鈥檌 chyhoeddi gan Fwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot

Over 拢11.7 million to boost business investment and jobs in Port Talbot from newly announced Economic Growth and Investment Fund
- Wedi鈥檌 gefnogi gan 拢11.78 miliwn - gan gynnwys 拢6.78 miliwn gan Lywodraeth y DU a 拢5 miliwn gan Tata Steel UK.聽
- Rhan o 拢80 miliwn a gyhoeddwyd gan y Bwrdd Pontio dim ond 10 mis yn 么l
Bydd cronfa newydd gwerth 拢11.78 miliwn ar gael yn fuan i fusnesau ym Mhort Talbot a鈥檙 cyffiniau i鈥檞 helpu i dyfu, creu swyddi o ansawdd uchel, a denu buddsoddiad hir dymor.聽
Mae鈥檙 Gronfa Twf Economaidd a Buddsoddi wedi鈥檌 dylunio i gefnogi cwmn茂au sy鈥檔 cynnig cyfleoedd cyflogaeth medrus gyda chyflogau da sy鈥檔 cyd-fynd 芒 thalentau鈥檙 gweithlu lleol.
Mae鈥檙 gronfa yn cynnwys 拢6.78 miliwn gan Lywodraeth y DU a 拢5 miliwn gan Tata Steel UK a bydd yn ategu gwaith Llywodraeth Cymru a Chyngor Castell Nedd a Phort Talbot i gryfhau鈥檙 economi lleol.
I sicrhau bod y gronfa yn cael yr effaith mwyaf posib, bydd cyfnod o ymgysylltu gyda busnesau yn cychwyn cyn i鈥檙 gronfa agor ar gyfer cynigion yn yr hydref. Bydd hyn yn siapio dyluniad y gronfa - gan sicrhau ei fod yn bodloni anghenion busnesau ac yn datgloi鈥檙 amodau ar gyfer twf economaidd hir dymor, creu swyddi, a denu buddsoddiad gan y sector preifat. Unwaith y mae鈥檙 ymgysylltu wedi鈥檌 gwblhau, yna bydd y gronfa yn destun cymeradwyaeth achos busnes gan Lywodraeth y DU.聽
Y cyhoeddiad cyllid hwn yw鈥檙 diweddaraf gan Fwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot, dan gadeiryddiaeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru Jo Stevens ac sy鈥檔 cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraethau鈥檙 DU a Chymru, awdurdodau lleol, undebau a busnesau.
Ers rhyddhau鈥檙 cyllid cyntaf ym mis Awst 2024, mae wedi cyhoeddi 拢80 miliwn i ariannu hyfforddiant sgiliau i weithwyr a phrosiectau adfywio wrth i Tata Steel gyflawni ei gyfnod pontio i gynhyrchu dur 芒 ffwrnais arc trydan.
Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens:聽聽
Mae鈥檙 gronfa newydd hon yn enghraifft bwerus o鈥檙 hyn y gellir ei chyflawni pan fydd y llywodraeth a busnes yn gweithio gyda鈥檌 gilydd i gyflawni ar gyfer cymunedau. Gyda chefnogaeth dros 拢11.7 miliwn, bydd yn helpu busnesau lleol i dyfu, creu swyddi o ansawdd uchel a denu mwy o fuddsoddiad newydd i Bort Talbot.
Mae鈥檙 cyhoeddiad hwn yn nodi dyraniad llawn cyfraniad Llywodraeth y DU o 拢80 miliwn i鈥檙 Bwrdd Pontio - a hynny i gyd wedi鈥檌 gyflawni mewn llai na blwyddyn. Mae鈥檔 arddangos yn glir penderfyniad y llywodraeth hon i weithredu鈥檔 gyflym ac yn bendant i gefnogi Port Talbot a鈥檌 gymuned cynhyrchu dur, gan sicrhau cyllid ar gyfer y bobl a鈥檙 busnesau sydd ei angen fwyaf.
Dywedon ni y bydden ni鈥檔 cefnogi gweithwyr dur Port Talbot, eu teuluoedd a鈥檜 busnesau sy鈥檔 ddibynnol ar Tata Steel, ac rydym wedi gwireddu鈥檙 addewid hynny.
Dywedodd Pennaeth Cysylltiadau Cyhoeddus Tata Steel UK Tim Rutter:
Rydym yn hynod o falch i cefnogi鈥檙 Gronfa Twf Economaidd a Buddsoddiad newydd hon o鈥檔 hymrwymiad o 拢20 miliwn i鈥檙 Bwrdd Pontio. Mae busnesau lleol yn chwarae rhan hanfodol yn nhwf a ffyniant economaidd y rhanbarth, ac rydym yn hyderus y bydd y gronfa hon yn denu buddsoddiad pellach, gan ddarparu swyddi a chyfleoedd i bobl ledled yr ardal.
Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi鈥檙 unigolion hynny yr effeithir arnynt gan drawsnewidiad ein busnes, a bydd y gronfa hon yn ategu鈥檙 gwasanaethau cymorth yr ydym yn barod wedi鈥檜 rhoi ar waith, yn ogystal 芒鈥檙 pecyn diswyddo gwirfoddol mwyaf hael yn hanes y cwmni.
Edrychwn ymlaen at weithio gyda鈥檔 partneriaid ar y Bwrdd Pontio, undebau llafur, busnesau lleol, a鈥檙 gymuned i sicrhau bod y gronfa hon yn cael effaith gadarnhaol.
Dywedodd Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio:
Ryn ni鈥檔 croesawu鈥檙 Gronfa Buddsoddi a Thwf Economaidd newydd a gyhoeddwyd heddiw.
Mae cyflawni yn air allweddol i Lywodraeth Cymru. Drwy gydweithio 芒 Llywodraeth y DU, awdurdodau lleol, undebau masnach a busnesau, rydyn ni鈥檔 cefnogi twf economaidd heddiw ac yn mynd ati i lywio ei gyfeiriad ar gyfer yfory.
Rydyn ni hefyd yn sicrhau bod buddsoddiadau trawslywodraethol fel Porthladdoedd Rhydd a Pharthau Buddsoddi yn cyd-fynd 芒 blaenoriaethau Cymru gan greu manteision gwirioneddol a pharhaol a chyfleoedd swyddi lleol mewn cymunedau fel Port Talbot.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Steve Hunt:
Mae鈥檙 cyhoeddiad hwn yn nodi carreg filltir bwysig arall yn ein hymateb i gyfnod o newid sylweddol i economi leol ardal Port Talbot.
Un amcan allweddol i ni fel cyngor yw creu mwy o swyddi sefydlog, gwyrdd, sy鈥檔 talu鈥檔 dda, a datblygu鈥檙 sgiliau sy鈥檔 ofynnol ar gyfer y swyddi hyn. Yn hynny o beth, rydyn ni鈥檔 gweithio鈥檔 galed i ateb yr heriau presennol ac i symud y tu hwnt iddynt i gyfnod o dwf economaidd i鈥檙 dyfodol,.
Gan weithio law yn llaw 芒鈥檔 partneriaid yn y Bwrdd Pontio, byddwn ni cyn bo hir yn ymgysylltu 芒鈥檙 gymuned fusnes leol i sicrhau ein bod ni鈥檔 gwneud yn fawr o鈥檙 cyfle y mae鈥檙 cyllid hwn yn ei gyflwyno.鈥澛
Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo 拢2.5 biliwn o fuddsoddiad i ailadeiladu diwydiant dur y DU am ddegawdau i ddod wrth iddo ddatgarboneiddio.
Mae hyn yn ychwanegol at y 拢500 miliwn a ddyrannwyd i Tata Steel ym Mhort Talbot ar gyfer ffwrnais arc trydan, a gafodd gymeradwyaeth cynllunio yn ddiweddar. Bydd y gwaith adeiladu yn cychwyn yn y misoedd i ddod.
Bydd y gronfa newydd yn adeiladu ar y momentwm hwn - gan helpu pobl leol trwy gefnogi鈥檙 broses o greu swyddi o ansawdd da, annog twf busnes, a denu buddsoddiad newydd i sicrhau dyfodol economaidd cryf i Bort Talbot.