Dathlu cyflogwyr Arian y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn (ERS) 2025
Mae un deg saith o gyflogwyr mwyaf cyfeillgar i luoedd arfog Cymru wedi cael eu cydnabod 芒 gwobr fawreddog.

ERS Silver Award winners 2025. Copyright: RFCA for Wales.
Ddoe, cyflwynwyd Gwobr Arian y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn (ERS) 2025 i un deg saith sefydliad o bob cwr o Gymru.
Cafodd cynrychiolwyr o鈥檙 sefydliadau eu gwobrwyo mewn digwyddiad arbennig a gynhaliwyd yn Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd, lle cawsant eu hanrhydeddu gan Sal铆wt 21 o Ynnau i ddathlu pen-blwydd Ei Mawrhydi y Frenhines.
Llongyfarchiadau Croesawyd y gwesteion gan Sian Lloyd, cyflwynydd y seremoni wobrwyo a rhoddwyd yr anerchiad agoriadol gan Swyddog Awyr Cymru, y Comodor Awyr Rob Woods OBE. Traddodwyd yr araith gloi gan y Brigadydd Russ Wardle OBE DL, cadeirydd RFCA dros Gymru.
Y derbynwyr oedd:
- Active4Blood
- Andy Swan Driver 天美影院 Ltd
- Bulldogs Boxing and Community Activities
- Cobra Life Martial Arts Ltd
- Events Medical Team - Saltney Ltd
- Henry Williams and Son (Roads) Ltd
- Platts Group
- Riverside Retreat Veterans Camp CIC
- Shadow Response Security & Medical Ltd
- The Royal Welch Fusiliers Museum Trust
- Business in Focus Limited
- IG Doors Limited
- MPH Construction
- Powys Teaching Health Board
- R&M Williams Limited
- V3 Group (UK) Ltd
- Coleg Penybont
Cyflwynwyd y gwobrau ar y cyd gan y Brigadydd Mark Davis CBE, Cadlywydd y 160ain Brig芒d (Cymru), Pennaeth y Fyddin yng Nghymru, y Comodor Tristram Kirkwood OBE ADC, Cadlywydd Rhanbarthol Llynges Cymru, Gorllewin Lloegr ac Ynysoedd y Sianel a鈥檙 Comodor Awyr Rob Woods OBE.
O dan y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn, mae鈥檙 Wobr Arian ERS yn cydnabod cyflogwyr sydd wedi dangos eu cefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog drwy weithredu polis茂au ymarferol yn y gweithle.
Er mwyn cyflawni鈥檙 wobr Arian, rhaid i sefydliadau ddangos yn rhagweithiol nad yw cymuned y Lluoedd Arfog dan anfantais annheg fel rhan o鈥檜 polis茂au recriwtio. Rhaid iddyn nhw hefyd sicrhau bod eu gweithlu yn ymwybodol o鈥檜 polis茂au cadarnhaol mewn perthynas 芒 materion pobl Amddiffyn sy鈥檔 berthnasol i Filwyr Wrth Gefn, Cyn-filwyr, Oedolion sy鈥檔 Wirfoddolwyr gyda Llu鈥檙 Cadetiaid a phriod a phartneriaid y rhai sy鈥檔 gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog.
Cafodd y cyflogwyr eu cydnabod am y gefnogaeth maen nhw鈥檔 ei rhoi i Gymuned y Lluoedd Arfog yn y digwyddiad ddydd Iau 17 Gorffennaf.
Dywedodd Gareth Jones, Rheolwr y Prosiect Cyn-filwyr, Bulldogs Boxing and Community Activities:
Mae Bulldogs BCA yn hynod falch ac mae鈥檔 anrhydedd fawr derbyn y Wobr Arian fel rhan o Gynllun Cydnabod Cyflogwyr Cyfamod y Lluoedd Arfog. Mae鈥檙 gydnabyddiaeth hon yn adlewyrchu ein hymrwymiad diwyro i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog, gan gynnwys cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, a鈥檜 teuluoedd.
Rydyn ni wrth ein bodd bod ein hymdrechion i ddarparu cyfleoedd, dealltwriaeth a chymorth ymarferol wedi cael eu cydnabod ar lefel mor fawreddog. Mae鈥檙 wobr hon nid yn unig yn tynnu sylw at y gwerthoedd sydd wrth wraidd Bulldogs BCA ond hefyd yn cryfhau ein penderfyniad i barhau i hyrwyddo鈥檙 rhai sydd wedi gwasanaethu ein gwlad gydag ymroddiad a pharch.
Dywedodd Mr Craig Middle, DRM y Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer De Cymru:
Mae ennill gwobr Arian ERS wedi bod yn daith i鈥檔 holl enillwyr haeddiannol. Mae鈥檙 daith hon wedi cynnwys archwilio鈥檙 hyn y gall pob agwedd ar y gymuned Amddiffyn ei wneud i鈥檞 timau. Llongyfarchiadau mawr i holl enillwyr eleni, edrychwn ymlaen at ddathlu gyda nhw yn y cnawd fis nesaf.