Datganiad i'r wasg

3,000 o brentisiaethau newydd wedi'u creu yn Ninas-Ranbarth Bae Abertawe

Mae Gweinidog Llywodraeth y Deyrnas Unedig dros Gymru David TC Davies wedi cyfarfod 芒 phobl ifanc a fydd yn elwa o gynllun 拢30m newydd i ddarparu cyfleoedd hyfforddiant a datblygu

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2019 to 2022 Johnson Conservative government

Minister David TC Davies speaking to pupils from Ysgol Bro Myrddin taking part in Skills and Talent programme pilot scheme

Ar 么l i Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru gymeradwyo rhaglen Sgiliau a Thalentau Bargen Ddinesig Bae Abertawe, cyfarfu鈥檙 Gweinidog Davies 芒 myfyrwyr ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Choleg G诺yr Abertawe i glywed sut bydd pobl ifanc yn elwa ar draws Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Sir Abertawe a Castell-nedd Port Talbot.

Bydd y rhaglen yn rhoi cyfleoedd i filoedd o bobl a busnesau ar draws Rhanbarth Bae Abertawe gael hyfforddiant a sgiliau, gan ganolbwyntio ar ddiwydiannau lle ceir galw mawr am weithwyr. Gan gweithio mewn partneriaeth 芒 darparwyr hyfforddiant megis awdurdodau lleol, ysgolion, colegau, prifysgolion a busnesau, bydd y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol yn arwain y rhaglen i nodi鈥檙 sgiliau, canfod atebion hyfforddiant a datblygu prosiectau addysg a hyfforddiant i fodloni鈥檙 gofynion hyn.

Cyngor Sir Caerfyrddin yw鈥檙 Awdurdod Lleol arweiniol sy鈥檔 gyfrifol am y rhaglen a fydd yn rhoi mantais i Ddinas-ranbarth Bae Abertawe gyfan. Bydd y rhaglen yn creu o leiaf 3,000 o brentisiaethau newydd ac yn darparu 2,200 o gyfleoedd datblygu ychwanegol yn ogystal ag yn creu canolfannau rhagoriaeth mewn sectorau gan gynnwys digidol, ynni, adeiladu, a lles.

Yn ystod yr ymweliad 芒 Choleg G诺yr Abertawe, cyfarfu鈥檙 Gweinidog Davies 芒 phrentisiaid sy鈥檔 gweithio gydag EV Wales i ddysgu i osod mannau gwefru ceir trydan. Treuliodd amser hefyd yn dysgu am waith Elite Aerial 天美影院 ac yn siarad 芒鈥檜 prentisiaid am weithio 芒 robotau ym maes cyfathrebiadau a seilwaith ffibr.

Ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, cyfarfu鈥檙 Gweinidog Davies hefyd 芒 myfyrwyr o Ysgol Bro Myrddin ac Ysgol Gyfun Maes y Gwendraeth sydd eisoes yn elwa o brosiect peilot a gaiff ei gyflwyno鈥檔 ehangach i鈥檙 dyfodol. Bu鈥檙 myfyrwyr, sydd ar hyn o bryd yn gwneud cwrs BTEC Lefel 2 a 3 mewn Peirianneg, yn dangos eu sgiliau gan ddefnyddio鈥檙 cyfleusterau yn y brifysgol. Sefydlwyd y cynllun peilot i annog darparwyr hyfforddiant y rhanbarth i gyfnewid arbenigedd ac adnoddau.

Meddai Gweinidog Llywodraeth y Deyrnas Unedig dros Gymru David TC Davies:

Rwy鈥檔 falch iawn o gael cyfarfod y bobl ifanc a fydd yn elwa o鈥檙 rhaglen Sgiliau a Thalentau gwerth 拢30 miliwn a chlywed am eu cynlluniau cyffrous i鈥檙 dyfodol.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i roi cyfleoedd datblygu ardderchog i bobl yng Nghymru a helpu cwmn茂au i gadw doniau lleol. Edrychaf ymlaen i weld pobl ar draws de orllewin Cymru yn achub ar y cyfleoedd hyn i feithrin eu sgiliau a symud i swyddi sy鈥檔 talu鈥檔 dda mewn sectorau twf megis peirianneg, ynni adnewyddadwy a datblygiadau digidol arloesol.

Meddai Barry Liles OBE, Uwch Berchennog Cyfrifol y rhaglen Sgiliau a Thalentau a鈥檙 Dirprwy Is-ganghellor (Sgiliau a Dysgu Gydol Oes) ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant:

Bydd llwyddo i sicrhau鈥檙 cyllid ar gyfer y fenter sgiliau a thalentau yn wyrdroadol i鈥檙 rhanbarth a bydd yn gadael etifeddiaeth fawr o alwedigaethau sgiliau uwch a llwybrau gyrfa clir i bobl ifanc. Mae鈥檙 RLSP yn gydweithrediad aeddfed a llwyddiannus o ddarparwyr a fydd yn cefnogi anghenion prosiectau鈥檙 fargen ddinesig gan gyfeirio unigolion hefyd i gyflogaeth gynaliadwy.

Ychwanegodd Dr Llinos Jones, Pennaeth yn Ysgol Bro Myrddin, a Wyn Evans, Pennaeth yn Ysgol Maes y Gwendraeth y bu eu disgyblion yn cymryd rhan mewn cynllun peilot prentisiaethau:

Rydyn ni, fel dwy ysgol yn y rhanbarth, yn falch dros ben o fod yn rhan o Raglen Sgiliau a Thalentau Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Nod y rhaglen yw darparu ateb rhanbarthol i nodi a chyflenwi鈥檙 sgiliau a鈥檙 hyfforddiant sy鈥檔 ofynnol ar gyfer prosiectau鈥檙 Fargen Ddinesig. Bydd y buddsoddiad hwn yn caniat谩u i ysgolion fel rhai ni i ddatblygu cyrsiau a fydd yn y pendraw yn helpu prosiectau a phobl ar draws y rhanbarth. Drwy鈥檙 rhaglen rydym wedi sefydlu llwybr dysgu cyfrwng Cymraeg mewn Peirianneg a TG ar gyfer dros 120 o ddisgyblion ym mlwyddyn un.

Meddai鈥檙 Cyng Emlyn Dole, arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin:

Rydyn ni wrth ein bodd yn croesawu鈥檙 Gweinidog i鈥檙 rhanbarth ac edrychwn ymlaen at gyflwyno鈥檙 rhaglen Sgiliau a Thalentau yn dilyn llwyddiant ein cynllun peilot. Mae鈥檙 gymeradwyaeth hon yn bwysig iawn inni fel y gallwn ddarparu atebion addysg a hyfforddiant er mwyn i bobl ifanc ddysgu a chael gwaith yn lleol.

Bydd y rhaglen hon, ynghyd 芒 rhannau eraill o bortffolio鈥檙 Fargen Ddinesig yn helpu i godi proffil y rhanbarth cyfan drwy ddenu mewn-fuddsoddiad a, drwy feithrin unigolion medrus iawn hefyd, bydd yn sicrhau mai de Cymru yw鈥檙 lle perffaith i fyw a gweithio am genedlaethau lawer.

Ychwanegodd y Cyng Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe:

Bydd ymweliad y Gweinidog Davies yn helpu i godi proffil rhaglen Sgiliau a Thalentau鈥檙 Fargen Ddinesig ymhellach. Mae鈥檙 rhaglen hon yn allweddol i bortffolio buddsoddi鈥檙 Fargen Ddinesig yn gyffredinol oherwydd fe fydd yn rhoi i filoedd o bobl leol y sgiliau y bydd arnynt eu hangen i gael swyddi sy鈥檔 talu鈥檔 dda a gr毛ir gan brosiectau eraill y Fargen Ddinesig yn y blynyddoedd nesaf.

Mae llawer o brosiectau eraill y Fargen Ddinesig eisoes yn cael eu cyflenwi, gyda鈥檙 buddsoddiad yn sicr o chwarae r么l bwysig i gyflymu ein hadferiad economaidd rhanbarthol yn dilyn y pandemig.

Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe, gydag wyth o鈥檌 naw o raglenni a phrosiectau yn awr wedi鈥檜 cymeradwyo, mewn sefyllfa gadarn iawn i roi budd pellach i gynifer o drigolion a busnesau rhanbarthol 芒 phosibl yn y dyfodol agos.

Meddai Mark Jones, Prifathro Coleg G诺yr Abertawe:

Pleser mawr inni yw croesawu鈥檙 Gweinidog Davies a swyddogion y Fargen Ddinesig i鈥檙 Coleg heddiw. Ers nifer o flynyddoedd buom yn paratoi am y Fargen Ddinesig drwy fuddsoddi mewn datblygu cwricwlwm arloesol i fodloni gofynion allweddol y Fargen Ddinesig. Mewn partneriaeth 芒鈥檙 diwydiant rydym wedi llunio rhaglenni newydd yn y maes digidol, ynni gwyrdd, gweithgynhyrchu uwch ac iechyd a gofal cymdeithasol, ac mae hyn wedi arwain at gynnydd o 25% yn nifer y prentisiaid rydyn ni鈥檔 eu cefnogi yn y meysydd hyn. Yn 2021-22 rydym yn bwriadu cefnogi dros 3,500 o brentisiaid gan gynnwys 2,200 o brentisiaid a fydd yn datblygu eu sgiliau yn sectorau allweddol y Fargen Ddinesig.

Y diwedd

Nodiadau i Olygyddion: * Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn fuddsoddiad o hyd at 拢1.3 biliwn mewn portffolio o naw o raglenni a phrosiectau ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe; gyda鈥檌 gilydd mae鈥檙 rhain yn werth dros 拢1.8 biliwn a 9,000 o swyddi i economi鈥檙 rhanbarth dros y blynyddoedd nesaf. * Ariennir y Fargen Ddinesig gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a鈥檙 sector preifat, ac fe鈥檌 harweinir gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Benfro a Chyngor Abertawe, mewn partneriaeth 芒 Phrifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. * Mae鈥檙 rhaglen Sgiliau a Thalentau yn gweithio ag ystod eang o randdeiliaid gan gynnwys: * Coleg Sir Gar; Coleg G诺yr; Coleg Castell-nedd a Phort Talbot a Choleg Sir Benfro * Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant; Prifysgol Abertawe a鈥檙 Brifysgol Agored. * Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a darparwyr hyfforddiant preifat, Arweinyddion Ysgolion ac Adrannau Addysg Awdurdodau Lleol * Adrannau Adfywio Awdurdodau Lleol * Grwpiau Clwstwr o鈥檙 Sector Preifat sydd 芒 chysylltiadau 芒 2000 o fusnesau ar draws y rhanbarth

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 9 Tachwedd 2021