Stori newyddion

Penodi Cadeirydd y Fforwm Galluedd Meddyliol Cenedlaethol

Mae鈥檙 Weinyddiaeth Gyfiawnder (MOJ) a鈥檙 Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC) yn falch o gyhoeddi bod Dr Margaret Flynn wedi鈥檌 phenodi鈥檔 Gadeirydd y Fforwm Galluedd Meddyliol Cenedlaethol.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2019 to 2022 Johnson Conservative government

Mae鈥檙 Ysgrifenyddion Gwladol dros Gyfiawnder a dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi penodi Dr Margaret Flynn yn Gadeirydd newydd y Fforwm Galluedd Meddyliol Cenedlaethol am gyfnod o dair blynedd. Bydd penodiad Dr Flynn yn rhedeg rhwng 7 Mawrth 2022 a 6 Mawrth 2025.

Sefydlwyd y Fforwm Galluedd Meddyliol Cenedlaethol gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder a鈥檙 Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn 2015, mewn ymateb i adroddiad craffu 么l-ddeddfwriaethol yn 2014 gan Bwyllgor Dethol T欧鈥檙 Arglwyddi ar Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005.

Nod y Fforwm Galluedd Meddyliol Cenedlaethol yw codi ymwybyddiaeth o鈥檙 Ddeddf Galluedd Meddyliol a gwella ei gweithrediad drwy gysylltu rhanddeiliaid o amrywiaeth eang o sectorau lle mae鈥檙 Ddeddf Galluedd Meddyliol yn berthnasol, fel iechyd a gofal cymdeithasol, bancio, sefydliadau cyfreithiol a thrydydd sector.

Penodir Cadeirydd y Fforwm Cenedlaethol gan yr Ysgrifenyddion Gwladol dros Gyfiawnder a dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae鈥檙 penodiadau yn cael eu rheoleiddio gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus.

Dr Margaret Flynn

Ers 2019, mae Dr Flynn wedi bod yn Ymddiriedolwr yn Anheddau Cyf, elusen nid-er-elw sy鈥檔 cefnogi oedolion ag anableddau dysgu, awtistiaeth a heriau iechyd meddwl ledled Gogledd Cymru. Penodwyd Dr Flynn hefyd yn Gyfarwyddwr Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan yn 2018. Mae wedi bod yn Gyfarwyddwr Flynn and Eley Associates Ltd ers 2009 ac mae wedi dal nifer o rolau golygyddol ar gyfer y Journal of Adult Protection ers 1999.

Mae Dr Flynn wedi cadeirio ac ysgrifennu sawl adolygiad yn ymwneud 芒 phobl sydd 芒 nam ar eu gallu meddyliol, yn arbennig adolygiad o Ysbyty Winterbourne View yn ystod 2011. Yn 2013, fe鈥檌 comisiynwyd gan Brif Weinidog Cymru i gynnal adolygiad o esgeulustod pobl h欧n sy鈥檔 byw mewn cartrefi gofal fel rhan o Ymgyrch Jasmine. Yn fwy diweddar, cadeiriodd Dr Flynn Fwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol cyntaf Cymru ac ysgrifennodd yr adolygiad ynghylch Ysbyty Cawston Park.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 8 Ebrill 2022