Datganiad i'r wasg

Y Canghellor yn addo o leiaf £445 miliwn o fuddsoddiad rheilffyrdd fel rhan o hwb cyllid mwyaf erioed i Gymru

Uwchraddiad trafnidiaeth mawr i sbarduno twf a datgloi potensial economaidd ar draws Cymru, wrth i Lywodraeth y DU gyflawni’r Cynllun ar gyfer Newid.

Spending Review: Investing in Wales' future.

  • Mae buddsoddiad yn rhan o becyn gwariant cynhwysfawr i fuddsoddi mewn adnewyddu’r DU, gan greu miloedd o swyddi mewn ynni glân, gweithgynhyrchu ac amddiffyn.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn y setliad termau real mwyaf ers i ddatganoli ddechrau yn 1999, gyda setliad o £22.4 biliwn y flwyddyn ar gyfartaledd, gan alluogi Llywodraeth Cymru i ddarparu ar gyfer pobl sy’n gweithio yng Nghymru.

Bydd pobl sy’n gweithio ar draws Cymru yn cael budd o fynediad gwell i swyddi a chyfleoedd diolch i fuddsoddiad rheilffyrdd Cymru gwerth o leiaf £445 miliwn a gyhoeddwyd gan y Canghellor Rachel Reeves heddiw fel rhan o Adolygiad Gwariant Llywodraeth y DU fydd yn buddsoddi mewn adnewyddu’r DU.

Bydd y pecyn rheilffyrdd trawsnewidiol yn ailgysylltu perfeddwlad diwydiannol Cymru, gwella siwrneiau teithwyr ac yn sbarduno twf economaidd mewn cymunedau sydd wedi dioddef cysylltiadau trafnidiaeth gwael ers amser maith.   

Bydd y pecyn yn buddsoddi yng ngogledd a de Cymru, yn trwsio croesfannau, adeiladu gorsafoedd newydd ac yn uwchraddio llinellau presennol.  

Mae’r buddsoddiad strategol hwn mewn rheilffyrdd yn ffurfio conglfaen cynllun Llywodraeth y DU i ailgysylltu, ailddiwydiannu ac adnewyddu Cymru – mynd i’r afael â degawdau o danfuddsoddiad mewn isadeiledd hanfodol sydd wedi dal economi Cymru yn ôl.  

Bydd uwchraddio’r rheilffyrdd yn cysylltu canolfannau rhagoriaeth gweithgynhyrchu uwch yng Ngogledd Cymru ac yn gwella cysylltiadau hanfodol rhwng Caerdydd a Bryste, gan ei gwneud yn haws i fusnesau fuddsoddi ac i weithwyr gael mynediad i gyfleoedd cyflogaeth.  

Ochr yn ochr â’r buddsoddiad mawr hwn mewn trafnidiaeth, mae’r Adolygiad Gwariant yn darparu cefnogaeth sylweddol i sectorau diwydiannol allweddol Cymru.   

Ym Mhort Talbot, bydd buddsoddiad cyfunol o hyd at £580 miliwn yn sicrhau dyfodol cynhyrchu dur tra’n trawsnewid y porthladd i ganolfan ynni glân. O fewn hyn, bydd £500 miliwn ar gyfer Ffwrnais Bwa Trydan newydd Dur Tata yn amddiffyn 5,000 o swyddi tra’n lleihau allyriadau carbon.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens:  

Mae Llywodraeth y DU yn buddsoddi yn nyfodol Cymru ac yn sbarduno twf economaidd ar draws y wlad.    

Gwnaethom addo y byddem yn delio gyda’r diffyg buddsoddi hanesyddol yn rhwydwaith rheilffyrdd Cymru ac mae’r cyllid a gyhoeddwyd heddiw yn yr Adolygiad Gwariant hwn yn dangos ein bod yn cyflawni’r addewid hwnnw.   

Ynghyd â setliad ariannol mwyaf erioed i Lywodraeth Cymru wella gwasanaethau cyhoeddus, £118 miliwn yn fwy i helpu i gadw tomenni glo yn ddiogel a buddsoddi mewn diwydiannau sy’n tyfu fel awyrofod, rydym yn cefnogi potensial Cymru ac yn darparu ar gyfer pobl sy’n gweithio.

Datblygu diwydiannau amddiffyn ac awyrofod domestig Cymru  

Yn siarad yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw, ailgadarnhaodd y Canghellor ymrwymiad y Llywodraeth i gynyddu gwariant amddiffyn i 2.6% o GDP erbyn Ebrill 2027, cefnogi ein Lluoedd Arfog, creu swyddi Prydeinig mewn diwydiannau Prydeinig a blaenoriaethu diogelwch Prydain pan mae ei angen fwyaf.   

Cefnogwyd diwydiant Cymru gan yr Adolygiad Gwariant hefyd drwy barhau i fuddsoddi yn y diwydiant amddiffyn ar draws y DU, gan gynnwys Cymru.    

Bydd diwydiannau awyrofod a cherbydau Cymru, eisoes yn cyflogi dros 15,000 o bobl, hefyd yn elwa drwy gyllid y DU cyfan a gyhoeddwyd ar gyfer y sector gweithgynhyrchu uwch, gan alluogi datblygu a darparu cerbydau ac awyrennau allyriadau di-garbon ac isel iawn.   

Diogelwch tomenni glo   

Mae’r Adolygiad Gwariant hefyd yn cadarnhau £118 miliwn pellach rhwng 2026-27 a 2028-29 i Lywodraeth Cymru gynnal diogelwch tomenni glo nas defnyddir, yn fuan ar ôl £25 miliwn a ymrwymwyd yn barod yn 2025-26 yn ystod Cyllideb yr Hydref 2024.  Bydd yr arian yn sicrhau diogelwch tomenni, cartrefi yn cael eu diogelu a thir yn cael ei ddatgloi ar gyfer tai, diwydiant a hamdden.    

Roedd Llywodraeth y DU hefyd yn addo cefnogaeth barhaus i Barthau Buddsoddi yng Nghymru yn Rhanbarth Dinas Caerdydd a Wrecsam a Sir y Fflint, fydd yn derbyn £160 miliwn yr un dros 10 mlynedd, gan sbarduno twf a swyddi.   

Cefnogi Busnesau yng Nghymru   

Bydd y Sefydliadau Cyllid Cyhoeddus a Strategaeth Ddiwydiannol newydd yn cydweithio gyda’r llywodraethau datganoledig a rhanddeiliaid lleol i sbarduno twf ar draws y DU.  Trwy’r rhaglen Buddsoddi Cenhedloedd a Rhanbarthau mae Banc Busnes Prydain yn darparu £130 miliwn ar draws Cymru i dorri lawr y rhwystrau i fynediad at gyllid a sbarduno twf economaidd.    

Cyllid twf lleol  

Bydd cronfa dwf leol newydd a buddsoddiadau mewn hyd at 350 o gymunedau difreintiedig ar draws y DU yn cynnal yr un lefel o arian ag yn 2025-26 o dan y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Bydd y Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol a Swyddfa Cymru yn gweithio gyda phartneriaid lleol i sicrhau bod arian yn mynd i brosiectau sydd o bwys i bobl leol.  Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i sbarduno twf a gwella cymunedau ar draws pob rhan o Gymru.   

Setliad ariannol mwyaf erioed i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru   

Bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn y setliad mwyaf mewn termau real ers datganoli yn 1999, gyda setliad o £22.4 biliwn y flwyddyn ar gyfartaledd i ddarparu ar gyfer blaenoriaethau pobl sy’n gweithio yng Nghymru.    

Mae’r pecyn buddsoddiad cynhwysfawr hwn yn cyflawni addewid Llywodraeth y DU ymhellach i fuddsoddi mewn adnewyddu Prydain a sicrhau bod twf economaidd o fudd i bob rhan o’r Deyrnas Unedig. 

DIWEDD

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 11 Mehefin 2025