Newidiadau i sut rydym yn trin ceisiadau cynhennus
Er mwyn osgoi anghydfodau hir, heb eu datrys, rydym yn newid y ffordd rydym yn trin ceisiadau cynhennus.

O fis Ionawr 2016 byddwn yn caniat谩u chwe mis ar gyfer datrys cais cynhennus cyn ei gyfeirio at y Tribiwnlys Haen Gyntaf. Ar hyn o bryd nid ydym yn nodi faint o amser a ganiateir.
O dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002 (DCT 2002), os cawn wrthwynebiad cyfiawnadwy, rhaid i ni gyflwyno rhybudd am y gwrthwynebiad i鈥檙 ceisydd.
Os bydd anghydfod yn codi o ganlyniad i wrthwynebiad ac ni ellir dod i gytundeb, rhaid i ni ei gyfeirio at y Tribiwnlys Haen Gyntaf.
Gwybodaeth ar gyfer gweithwyr cyfraith proffesiynol
Mae鈥檙 broses y mae鈥檙 Gofrestrfa Tir yn ei dilyn i ddelio 芒 cheisiadau cynhennus cyn eu cyfeirio at adran Cofrestru Tir y Siambr Eiddo, Tribiwnlys Haen Gyntaf (y Tribiwnlys) wedi bod yn destun adolygiad mewnol ac o ganlyniad cyflwynir rhai newidiadau ym mis Ionawr 2016.
Mae鈥檙 prif newidiadau fel a ganlyn:
Cyfyngir y cyfnod ar gyfer cyd-drafodaethau er mwyn gweld a all y part茂on i gais cynhennus ddod i gytundeb cyn ei gyfeirio at y Tribiwnlys i chwe mis. Bydd cyfreithwyr y Gofrestrfa Tir yn gallu ymestyn y cyfnod hwn yn 么l eu disgresiwn o dan amodau eithriadol na ellir eu hosgoi pan roddir rhesymau grymus dros yr angen am amser ychwanegol.
Yn ystod y cyfnod chwe mis hwnnw, dim ond dwywaith y bydd y Gofrestrfa Tir yn cysylltu 芒鈥檙 part茂on: pan fydd tri mis o鈥檙 chwech wedi mynd heibio, ac ar 么l pum mis. Bydd y Gofrestrfa Tir yn holi a yw cyd-drafodaethau鈥檔 parhau. Os bydd un parti, neu鈥檙 holl bart茂on, yn dweud nad ydynt, neu os na fyddant yn ymateb, caiff yr anghydfod ei gyfeirio at y Tribiwnlys.
Yn ychwanegol, anfonir talfyriad achos drafft at y part茂on ar gyfer eu sylwadau ar 么l pum mis, cyn cyfeirio at y Tribiwnlys unwaith y bydd y cyfnod chwe mis wedi dod i ben.
Caiff Gwrthwynebiadau ac anghydfodau: ymarferiad a threfniadaeth y Gofrestrfa Tir, cyfarwyddyd ymarfer 37 ei ddiweddaru.
Cefndir
O dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002 (DCT 2002) ni all y Gofrestrfa Tir benderfynu ar gais lle y ceir gwrthwynebiad, gan dybio bod y Gofrestrfa Tir yn fodlon nad yw鈥檙 gwrthwynebiad yn ddi-sail. Rhaid rhoi rhybudd am y gwrthwynebiad i鈥檙 ceisydd. Mae鈥檔 ofynnol i鈥檙 Gofrestrfa Tir gyfeirio unrhyw anghydfod sy鈥檔 codi o ganlyniad i wrthwynebiad mewn perthynas 芒 chais (oni bai fod y gwrthwynebiad yn ddi-sail) i鈥檙 Tribiwnlys os nad yw鈥檔 bosibl cael gwared ar y gwrthwynebiad trwy gytundeb.
Bydd y Gofrestrfa Tir yn gohirio cyfeirio at y Tribiwnlys er mwyn gweld a yw鈥檔 bosibl i鈥檙 part茂on gael gwared ar y gwrthwynebiad trwy gytundeb, a rhoddir cyfnod ar gyfer cyd-drafodaethau i鈥檙 perwyl hwn. Caiff y cyfnod hwn ei bennu i chwe mis nawr, yn hytrach na bod yn fwy pen agored fel o鈥檙 blaen. Teimlir nad yw anghydfod hir heb ei ddatrys o fudd i unrhyw un.
Mae adran 73 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn darparu:
(1) Yn ddarostyngedig i isadrannau (2) a (3), gall unrhyw un wrthwynebu cais i鈥檙 cofrestrydd.
(2) Yn achos cais o dan adran 18, dim ond yr unigolyn a gyflwynodd y rhybuddiad y mae鈥檙 cais yn ymwneud ag ef, neu unrhyw berson arall y mae鈥檙 rheolau鈥檔 darparu ar ei gyfer, sy鈥檔 gallu gwrthwynebu.
(3) Yn achos cais o dan adran 36, dim ond yr unigolyn a ddangosir yn y gofrestr fel buddiolwr y rhybudd y mae鈥檙 cais yn ymwneud ag ef, neu unrhyw berson arall y mae鈥檙 rheolau鈥檔 darparu ar ei gyfer, sy鈥檔 gallu gwrthwynebu.
(4) Mae鈥檙 hawl i wrthwynebu o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i reolau.
(5) Lle y gwneir gwrthwynebiad o dan yr adran hon, rhaid i鈥檙 cofrestrydd: (a) roi rhybudd am y gwrthwynebiad i鈥檙 ceisydd, a (b) ni all benderfynu ar y cais hyd nes y bydd y gwrthwynebiad wedi鈥檌 waredu.
(6) Nid yw isadran (5) yn berthnasol os yw鈥檙 gwrthwynebiad yn un y mae鈥檙 cofrestrydd yn fodlon y mae鈥檔 ddi-sail.
(7) Os nad yw鈥檔 bosibl cael gwared ar wrthwynebiad y mae isadran (5) yn berthnasol iddo trwy gytundeb, rhaid i鈥檙 cofrestrydd gyfeirio鈥檙 mater at y [Tribiwnlys].
(8) Mae鈥檔 bosibl y gall rheolau ddarparu ar gyfer cyfeirnodau o dan isadran (7).