Anogir cwmn茂au i ffeilio cyfrifon yn gynnar er mwyn osgoi cosbau
Os ydych i fod i ffeilio eich cyfrifon gyda Th欧'r Cwmn茂au erbyn diwedd mis Medi, caniatewch ddigon o amser cyn eich dyddiad cau.

Rhaid i bob cwmni cyfyngedig, os ydynt yn masnachu ai peidio, gyflwyno cyfrifon blynyddol i ni bob blwyddyn. Mae hyn yn cynnwys cwmn茂au segur.
Deall eich cyfrifoldebau
Gall rhedeg eich cwmni eich hun fod yn gyffrous ond hefyd yn heriol. Mae gan gyfarwyddwyr lawer o gyfrifoldebau, gan gynnwys diweddaru cofnodion cwmni a sicrhau eu bod yn cael eu ffeilio ar amser. Mae angen i chi ddeall eich r么l fel cyfarwyddwr, pwysigrwydd parhau i gydymffurfio a sut y gallai ffeilio hwyr effeithio ar eich cwmni.
Gallai methu eich dyddiad cau ffeilio effeithio ar eich sg么r credyd neu fynediad at gyllid. Gall effeithio ar sut mae eraill yn edrych ar eich cwmni ac a ydynt am wneud busnes gyda chi. Mae cosbau ariannol a chanlyniadau cyfreithiol hefyd - gallech gael cofnod troseddol, dirwy neu anghymhwyster.
Hyd yn oed os yw cyfrifydd yn ffeilio cyfrifon eich cwmni ar eich rhan, eich cyfrifoldeb chi o hyd, fel cyfarwyddwr, yw sicrhau eu bod yn cael eu ffeilio ar amser.
Ffeilio ar-lein
Os ydych yn ffeilio gan ddefnyddio ein gwasanaethau ar-lein, byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau ein bod wedi derbyn eich cyfrifon. Byddwn yn anfon e-bost arall atoch pan fyddwn wedi cofrestru eich cyfrifon.
Ffeilio cyfrifon eich cwmni ar-lein cyn eich dyddiad cau.
I ffeilio ar-lein, efallai y bydd angen cod dilysu eich cwmni arnoch. Os oes angen i chi gwneud cais am god newydd, dylech ganiat谩u hyd at 5 diwrnod i hyn gyrraedd swyddfa gofrestredig y cwmni.
Ffeilio trwy feddalwedd
Mae dros 65% o gwmn茂au鈥檔 defnyddio ffeilio meddalwedd fel eu dull dewisol. Mae amrywiaeth o ddarparwyr meddalwedd sy鈥檔 cynnig ystod o becynnau cyfrifyddu i baratoi a ffeilio cyfrifon. Gellir ffeilio鈥檙 rhan fwyaf o fathau o gyfrifon gan ddefnyddio meddalwedd, yn dibynnu ar ymarferoldeb y pecyn meddalwedd rydych chi鈥檔 ei ddefnyddio.
Yn y dyfodol, fel rhan o ddeddfwriaeth newydd a gyflwynwyd gan y , dim ond gan ddefnyddio meddalwedd y byddwch yn gallu ffeilio eich cyfrifon. Mae hyn yn golygu na fyddwch bellach yn gallu ffeilio cyfrifon ar bapur neu ddefnyddio ein gwasanaethau ar-lein. .
Ar 么l i鈥檙 Bil ennill Cydsyniad Brenhinol a dod yn Ddeddf, byddwn yn rhoi gwybod i chi am yr amserlen ar gyfer cyflwyno鈥檙 newid i ffeilio trwy feddalwedd yn unig yn raddol. Byddwn yn sicrhau os nad ydych eisoes yn ffeilio gan ddefnyddio meddalwedd, mae gennych amser i wneud y newid cyn ei fod yn ofyniad cyfreithiol.
Osgoi gwrthodiad
Dylech anfon cyfrifon papur dim ond os na all eich cwmni ffeilio ar-lein neu drwy feddalwedd. Mae angen gwirio cyfrifon a ffeiliwyd ar bapur 芒 llaw. Dim ond yn ystod oriau agor y swyddfa gallwn eu gwirio, a gallant gymryd dros wythnos i鈥檞 prosesu.
Os oes angen i chi ffeilio eich cyfrifon ar bapur, dylech eu hanfon atom ymhell cyn y dyddiad cau. Bydd hyn yn rhoi digon o amser i chi gywiro鈥檆h cyfrifon a鈥檜 hail-anfon os c芒nt eu gwrthod.
Mae hefyd yn bwysig sicrhau eich bod yn anfon yr holl ddogfennau i swyddfa gywir T欧鈥檙 Cwmn茂au. Bydd hyn yn helpu i osgoi unrhyw oedi, gan y gellir ailgyfeirio eich dogfennau a byddant yn cymryd mwy o amser i鈥檔 cyrraedd.
Ni allwn dderbyn oedi drwy鈥檙 post fel rheswm i apelio yn erbyn cosb ffeilio hwyr.
Cyfarwyddyd a chefnogaeth
Cofrestrwch ar gyfer negeseuon atgoffa trwy e-bost i wybod pryd mae eich cyfrifon yn ddyledus. Gallwch hefyd wirio eich dyddiad cau ffeilio ar ein .
Gwyliwch ein fideos YouTube am gyfarwyddyd ar sut i ddefnyddio ein gwasanaethau ar-lein.
Rhagor o wybodaeth am: