Datganiad i'r wasg

Y cloc yn cychwyn i fyfyrwyr sy'n dychwelyd ymgeisio am gyllid i fyfyrwyr yng Nghymru

Mae SLC yn annog myfyrwyr israddedig amser llawn sy'n dychwelyd yng Nghymru i gyflwyno eu ceisiadau am gyllid i fyfyrwyr cyn y dyddiad cau ar 25 Mehefin.

Mae SLC yn annog myfyrwyr israddedig amser llawn sy鈥檔 dychwelyd yng Nghymru i gyflwyno eu ceisiadau am gyllid i fyfyrwyr cyn y dyddiad cau ar 25 Mehefin.

Rhaid i fyfyrwyr ymgeisio am gyllid i fyfyrwyr ar gyfer pob blwyddyn academaidd a dylent wneud hynny cyn y dyddiad cau i sicrhau bod eu cyllid yn ei le ar ddechrau鈥檙 flwyddyn academaidd newydd. I ymgeisio, mae angen i fyfyrwyr fewngofnodi i鈥檞 cyfrif ar-lein i gadarnhau eu manylion ar y cais ar-lein ac yna cyflwyno eu cais. Meddai Chris Larmer, Cyfarwyddwyr Gweithredol, Gweithrediadau SLC: 鈥淵n 么l y disgwyl, rydym wedi gweld galw mawr am ein gwasanaeth israddedig llawn amser eleni gyda lefelau ceisiadau yn uwch nag erioed. Ein cyngor i fyfyrwyr sy鈥檔 dychwelyd yw i ymgeisio nawr, fel y gallant fod yn hyderus y bydd eu cyllid i fyfyrwyr yn ei le cyn pan fydd eu hastudiaethau parhau yn yr Hydref.鈥

Fe basiodd y dyddiad cau ar gyfer myfyrwyr israddedig llawn amser newydd yng Nghymru i ymgeisio am gyllid i fyfyrwyr yn gynharach yn y mis. Dylai ymgeiswyr sydd wedi colli鈥檙 dyddiad cau ymgeisio ar-lein nawr, ac os ydynt yn gymwys byddant yn derbyn pecyn cyllid sylfaenol pan fydd eu hastudiaethau鈥檔 cychwyn. Fe wneir taliad ychwanegol cyn gynted ag y bydd eu cais llawn wedi ei brosesu.

I gefnogi pob myfyriwr gyda鈥檜 ceisiadau, mae SLC wedi darparu gwybodaeth i helpu ateb rhai o鈥檙 cwestiynau mwyaf cyffredin ynghylch ymgeisio am gyllid i fyfyrwyr. Gall myfyrwyr hefyd gadw鈥檔 gyfredol ynghylch yr wybodaeth ddiweddaraf trwy ddilyn Cyllid Myfyrwyr Cymru ar , a .

Dylai myfyrwyr sy鈥檔 dychwelyd ymgeisio ar-lein ar https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/darganfod-cyllid-myfyrwyr a chofio:

  • Gall Myfyrwyr yng Nghymru ymgeisio am Fenthyciad Ffioedd Dysgu i dalu am ffioedd dysgu a Benthyciad Cynhaliaeth i helpu gyda chostau byw. Gallant hefyd ymgeisio am Grant Dysgu Llywodraeth Cymru nad oes angen ei dalu鈥檔 么l.
  • Gall gymryd chwech i wyth wythnos i brosesu ceisiadau. Does dim angen i fyfyrwyr gysylltu 芒 SLC yn ystod y cyfnod hwn i wirio statws eu cais. Fe gysylltir 芒 nhw os bydd angen unrhyw wybodaeth atodol.
  • Unwaith y bydd myfyriwr wedi ymgeisio, fe brosesir eu cais a byddant yn derbyn hysbysiad o鈥檜 hawl i gyllid. Fe gysylltir 芒 nhw eto yn nes at ddechrau鈥檙 tymor i roi gwybod iddynt fod eu taliad ar ei ffordd.
  • Gall myfyrwyr hefyd wirio cynnydd eu cais yn eu cyfrif ar-lein a gweld rhestr 鈥榯asgau i鈥檞 cwblhau鈥 i weld beth sydd angen iddynt ei wneud.
  • Efallai y bydd angen i rieni a phartneriaid (noddwyr) hefyd diweddaru eu gwybodaeth os ydynt yn cefnogi cais myfyriwr sy鈥檔 dychwelyd. Unwaith y bydd myfyriwr yn cyflwyno ei gais, bydd y noddwr (neu noddwyr) a enwir yn derbyn e-bost i esbonio鈥檙 camau mae angen eu cymryd. Ceir rhagor o wybodaeth ar gefnogi cais am gyllid i fyfyrwyr ar

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 17 Mehefin 2021