Datganiad i'r wasg

Y cloc yn cychwyn i ymgeisio am gyllid i fyfyrwyr yng Nghymru

Mae SLC yn atgoffa myfyrwyr israddedig amser llawn newydd yng Nghymru bod ganddynt ychydig dros bythefnos i fynd er mwyn ymgeisio am gyllid i fyfyrwyr cyn y dyddiad cau ar 4 Mehefin.

Mae SLC yn atgoffa myfyrwyr israddedig amser llawn newydd yng Nghymru bod ganddynt ychydig dros bythefnos i fynd er mwyn ymgeisio am gyllid i fyfyrwyr cyn y dyddiad cau ar 4 Mehefin. Y dyddiad cau ar gyfer myfyrwyr sy鈥檔 dychwelyd yw 25 Mehefin.

Ymgeisio cyn y dyddiad cau yw鈥檙 ffordd orau i fyfyrwyr sicrhau bod ganddynt eu harian yn ei le ar gyfer dechrau鈥檙 flwyddyn academaidd. Gall myfyrwyr newydd ymgeisio nawr hyd yn oed os nad ydynt yn si诺r pa gwrs fyddant yn ei astudio, neu pa brifysgol fyddant yn ei mynychu.

Meddai Derek Ross, Cyfarwyddwyr Gweithredol Gweithrediadau SLC: 鈥淗yd yma eleni, rydym eisoes wedi gweld cynnydd arwyddocaol mewn myfyrwyr yn ymgeisio am gyllid. Mae ceisiadau wedi cynyddu dros 10% blwyddyn ar flwyddyn, ac rydym yn rhagweld mai dyma fydd y flwyddyn academaidd brysuraf erioed. Rydym yn annog myfyrwyr i gyflwyno eu ceisiadau cyn y dyddiadau cau sydd ar ddod. Trwy wneud hynny, gallant fod yn hyderus y bydd eu cyllid i fyfyrwyr yn ei le cyn cychwyn eu hastudiaethau yn yr Hydref.

鈥淚 gefnogi myfyrwyr a鈥檜 rhieni a phartneriaid (noddwyr) gyda鈥檜 ceisiadau, rydym wedi darparu gwybodaeth gyda鈥檙 nod o helpu ateb rhai o鈥檙 cwestiynau mwyaf cyffredin ynghylch ymgeisio am gyllid i fyfyrwyr. Trwy gydol y flwyddyn, byddwn yn darparu hyd yn oed mwy o adnoddau ar-lein i gefnogi myfyrwyr wrth i鈥檙 daith cyllid i fyfyrwyr barhau. Gallant hefyd wylio ein ffilm fer a chadw鈥檔 gyfredol ynghylch yr wybodaeth ddiweddaraf trwy ddilyn Cyllid Myfyrwyr Cymru ar Facebook a Twitter.鈥

Dylai myfyrwyr ymgeisio ar-lein ar a chofio:

  • Gall Myfyrwyr yng Nghymru ymgeisio am Fenthyciad Ffioedd Dysgu i dalu am ffioedd dysgu a Benthyciad Cynhaliaeth i helpu gyda chostau byw. Gallant hefyd ymgeisio am Grant Dysgu Llywodraeth Cymru nad oes angen ei dalu鈥檔 么l.
  • Gall gymryd chwech i wyth wythnos i brosesu ceisiadau. Does dim angen i fyfyrwyr gysylltu 芒 SLC yn ystod y cyfnod hwn i wirio statws eu cais. Fe gysylltir 芒 nhw os bydd angen unrhyw wybodaeth atodol. *Gall myfyrwyr hefyd wirio cynnydd eu cais yn eu cyfrif ar-lein a gweld rhestr 鈥榯asgau i鈥檞 cwblhau鈥 i weld beth sydd angen iddynt ei wneud.
  • Efallai y bydd angen i rieni a phartneriaid (noddwyr) hefyd ddarparu manylion incwm eu haelwyd os ydynt yn cefnogi cais myfyriwr. Unwaith y bydd myfyriwr yn ymgeisio, bydd y noddwr (neu noddwyr) a enwir yn derbyn e-bost i esbonio鈥檙 camau mae angen eu cymryd. Ceir rhagor o wybodaeth ar gefnogi cais am gyllid i fyfyrwyr ar

DIWEDD

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch 芒 swyddfa鈥檙 wasg y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr ar 0141 306 2120 / press_office@slc.co.uk

Nodiadau Golygyddol

Terfynau Amser

  • Y dyddiad cau ar gyfer myfyrwyr newydd yw 4 Mehefin ac ar gyfer myfyrwyr sy鈥檔 parhau, y dyddiad yw 25 Mehefin. Bydd myfyrwyr yn dal i allu ymgeisio wedi鈥檙 dyddiadau cau, ond nid oes sicrwydd y c芒nt eu talu mewn pryd ar gyfer dechrau鈥檙 tymor.

Awgrymau wrth wneud cais am gyllid i fyfyrwyr

  • Ymgeisiwch hyd yn oed os nad oes gennych chi le wedi ei gadarnhau mewn prifysgol - Hyd yn oed os nad ydych chi鈥檔 gwybod pa gwrs fyddwch chi鈥檔 ei wneud neu i ba brifysgol fyddwch chi鈥檔 mynd, dylech ymgeisio ar-lein nawr ar [https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/darganfod-cyllid-myfyrwyr] (https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/darganfod-cyllid-myfyrwyr) Dewiswch y cwrs y mae鈥檔 fwyaf tebygol y byddwch yn ei astudio a gallwch ddiweddaru鈥檙 cais yn hwyrach os bydd angen.
  • Cadwch eich dogfennau pwysig wrth law wrth ymgeisio - Cadwch eich rhif Yswiriant Gwladol, manylion pasbort a banc wrth law cyn i chi gychwyn eich cais gan y gofynnir i chi ddarparu鈥檙 wybodaeth yma wrth i chi ymgeisio. Os nad oes gennych gyfrif banc yn eich enw, dylech agor un. Byddwn ei angen er mwyn gallu talu eich arian i chi.
  • Darparu eich tystiolaeth ategol ar-lein - I wneud cais, bydd angen i chi greu cyfrif ar-lein ac efallai y gofynnir i chi ddarparu tystiolaeth i gefnogi eich cais, felly cofiwch gyflwyno unrhyw dystiolaeth pan ofynnir i chi ei darparu. Gellir cyflwyno鈥檙 holl dystiolaeth ar wah芒n i rai mathau o brawf hunaniaeth neu breswylio yn ddigidol trwy鈥檆h cyfrif ar-lein. Ni allwn brosesu eich cais nes ein bod wedi cael yr holl dystiolaeth angenrheidiol.
  • Dywedwch wrthym os yw incwm eich aelwyd wedi newid 鈥 Os ydych chi wedi ymgeisio am Fenthyciad Cynhaliaeth yn seiliedig ar incwm eich aelwyd, yna bydd angen i鈥檆h noddwr - fel arfer eich rhieni neu bartner - ddarparu manylion incwm eu haelwyd ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol. Ar gyfer ceisiadau blwyddyn academaidd 21/22, mae hynny鈥檔 golygu blwyddyn dreth 19-20. Os yw鈥檆h noddwr yn disgwyl y bydd ei incwm yn gostwng o 15% neu fwy, mae modd gofyn am asesiad Incwm Blwyddyn Gyfredol (CYI). Dim ond wedi i chi gyflwyno eich cais y gellir gofyn am CYI a phan fydd eich noddwr hefyd wedi cyflwyno incwm yr aelwyd ar gyfer blwyddyn dreth 19-20 i gefnogi eich cais yn ogystal. I wneud hyn, ewch i i lawrlwytho fersiwn ddigidol o鈥檙 ffurflen. Unwaith y byddwch wedi ei llenwi, gallwch ei lanlwytho yn syth o鈥檆h cyfrif ar-lein.
  • y gallech fod 芒 hawl i鈥檞 gael - Gall myfyrwyr yng Nghymru ymgeisio am Fenthyciad Ffioedd Dysgu i dalu am ffioedd dysgu a Benthyciad Cynhaliaeth i helpu gyda chostau byw. Gallant hefyd ymgeisio am Grant Dysgu Llywodraeth Cymru nad oes angen ei dalu鈥檔 么l. Gwyliwch y ffilm Darganfod Cyllid i Fyfyrwyr i gael gwybod mwy..

  • Gwiriwch os gallech fod yn gymwys i gael cefnogaeth ychwanegol - Efallai y bydd cyllid ychwanegol ar gael os oes gennych chi anabledd neu blentyn neu oedolyn dibynnol sy鈥檔 ddibynnol arnoch chi鈥檔 ariannol.
  • Cadwch eich manylion cyswllt yn gyfredol 鈥 efallai y bydd angen i ni gysylltu 芒 chi trwy gydol y flwyddyn gyda gwybodaeth bwysig, felly sicrhewch fod eich manylion cyswllt yn gyfredol ar eich cyfrif ar-lein.
  • Dilynwch Gyllid Myfyrwyr Cymru (CMC) ar gyfryngau cymdeithasol Gall myfyrwyr gadw鈥檔 gyfredol gyda鈥檙 holl wybodaeth ddiweddaraf am gyllid i fyfyrwyr trwy ddilyn Cyllid Myfyrwyr Cymru ar a .

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 20 Mai 2021