Datganiad i'r wasg

Lefel cyflogaeth yng Nghymru yn parhau i fod y gorau erioed

Penawdau Ystadegau'r Farchnad Lafur yng Nghymru

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government

Mae鈥檙 set ddiweddaraf o ffigurau swyddi yn dangos bod Cymru yn cryfhau ei henillion economaidd gyda lefel cyflogaeth yn parhau i fod y gorau erioed.

Penawdau Ystadegau鈥檙 Farchnad Lafur yng Nghymru:

Mae lefel cyflogaeth yng Nghymru wedi cynyddu 19,000 dros y chwarter i 1.459 miliwn ac mae鈥檙 gyfradd wedi cynyddu 0.9 pwynt canran i 73.1 y cant. Dros y flwyddyn, cynyddodd y lefel 41,000 ac mae鈥檙 gyfradd wedi cynyddu 2.2 pwynt canran. Mae lefel cyflogaeth yn uwch nag erioed.

Mae lefel diweithdra wedi cynyddu 3,000 dros y chwarter i 67,000 a鈥檙 gyfradd wedi cynyddu 0.1 pwynt canran i 4.4 y cant. Dros y flwyddyn, gostyngodd y lefel 23,000 a gostyngodd y gyfradd 1.6 pwynt canran. Mae鈥檙 gyfradd yng Nghymru erbyn hyn 0.4 pwynt canran yn is na chyfradd diweithdra ar gyfer y DU drwyddi draw, sef 4.8 y cant.

Ni newidiodd y nifer sy鈥檔 hawlio budd-daliadau rhwng mis Medi a mis Hydref, ac roedd 1,900 (4.3 y cant) yn llai dros y flwyddyn. Mae鈥檙 gyfradd yn 2.9 y cant ar hyn o bryd. Ar gyfer y DU, cafwyd 9800 o gynnydd yn y nifer sy鈥檔 hawlio budd-daliadau (1.2 y cant) dros y mis ond gostyngodd 9,900 (1.2 pwynt canran) dros y flwyddyn ac mae nawr yn 803,300. Cyfradd y DU yw 2.3 y cant.

Mae lefel anweithgarwch economaidd wedi gostwng 20,000 dros y chwarter i 446,000 a鈥檙 gyfradd wedi gostwng 1.0 pwynt canran i 23.4 y cant. Dros y flwyddyn, gostyngodd y lefel 19,000 a gostyngodd y gyfradd 1.0 pwynt canran.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae鈥檙 set hon o ffigurau - y chwarter llawn cyntaf ers refferendwm yr Undeb Ewropeaidd - yn dangos ein bod yn cryfhau ein henillion economaidd dros y misoedd diwethaf yng Nghymru, gyda lefel cyflogaeth yn parhau i fod y gorau erioed.

Mae economi sy鈥檔 gwella ynghyd 芒 chanlyniadau鈥檙 broses diwygio lles yn golygu bod sefyllfa鈥檙 farchnad swyddi yn fwy disglair nag y bu ers tro. Mae鈥檙 cynnydd gorau i鈥檞 weld mewn ardaloedd fel Caerffili, Merthyr Tudful a Blaenau Gwent; rhannau o Gymru sydd, yn draddodiadol, wedi dioddef o ddiweithdra cynhenid.

Rydyn ni鈥檔 cau鈥檙 bwlch yn y farchnad swyddi rhyngom ni a gweddill y DU, ac yn adeiladu economi i Gymru sy鈥檔 gweithio i bawb.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 16 Tachwedd 2016