Stori newyddion

Cyhoeddiadau Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr am Ddeunydd Pacio

Ffioedd sylfaenol 2025, datganiad polisi modiwleiddio ffioedd, datganiad sefyllfa rheoleiddiol a strategaeth dros dro bellach ar gael.

Mewn cam sylweddol ymlaen i ddiwydiant, ar 27 Mehefin 2025 rhyddhaodd PackUK sawl cyhoeddiad sy鈥檔 ganolog i gyflawni cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr am Ddeunydd Pacio (pEPR) y DU:

Ffioedd Sylfaenol 2025 wedi鈥檜 Cadarnhau

Mae PackUK wedi cyhoeddi ffioedd sylfaenol 2025 ar gyfer y cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr am Ddeunydd Pacio (pEPR), gan roi sicrwydd hanfodol i gynhyrchwyr cyn yr anfonebau cyntaf ym mis Hydref 2025.

Yn dilyn tri o ffioedd enghreifftiol blaenorol a amcangyfrifwyd, mae鈥檙 ffioedd sylfaenol hyn sydd wedi鈥檜 cadarnhau yn garreg filltir bwysig wrth weithredu鈥檙 trawsnewid hwn yn economi cylchol y DU.

Mae bron pob un o鈥檙 ffioedd wedi gostwng o鈥檌 gymharu 芒鈥檙 ffioedd sylfaenol enghreifftiol a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr, gyda gwydr i lawr 20 y cant. Mae鈥檙 gostyngiadau yn deillio o lefelau uchel o gydymffurfiaeth gan y diwydiant 芒 rhwymedigaethau adrodd a gwaith helaeth ar draws y rheoleiddwyr a PackUK i sicrhau a dilysu鈥檙 data a ddarparwyd. Mae ffioedd sylfaenol 2025 yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio adroddiadau ar dunelli o ddeunydd gan gynhyrchwyr ar gyfer 2024 a chostau rheoli gwastraff awdurdodau lleol. Mae鈥檙 fethodoleg wedi鈥檌 phrofi鈥檔 drylwyr gyda rhanddeiliaid gan gynnwys cynhyrchwyr, cynlluniau cydymffurfio, ac awdurdodau lleol.

Ochr yn ochr 芒鈥檙 ffioedd sylfaenol a gadarnhawyd, mae PackUK hefyd wedi cyhoeddi鈥檙 Datganiad Polisi Modiwleiddio sy鈥檔 amlinellu sut y bydd ffioedd yn cael eu haddasu o 2026 ymlaen i ysgogi鈥檙 defnydd o ddeunydd pacio mwy ailgylchadwy.

Mae鈥檙 cynllun pEPR yn gonglfaen ar gyfer gwneud newidiadau i ddeunydd pacio鈥檙 DU. Mae arweinwyr cwmn茂au rheoli gwastraff mwyaf y DU wedi dweud y bydd hyn yn cefnogi 25,000 o swyddi, yn denu buddsoddiad o fwy na 拢10 biliwn mewn capasiti ailgylchu dros y degawd nesaf ac yn ariannu gwelliannau i wasanaethau ailgylchu cartrefi ledled y DU.

Mae canllawiau pellach ar wefan gov.uk i gynhyrchwyr sy鈥檔 egluro sut y bydd y ffioedd hyn yn effeithio ar eu busnesau.

Bydd PackUK yn cynnal gweminar ar thema Ffioedd Sylfaenol ddydd Iau 10 Gorffennaf 2025 鈥 Gallwch eich presenoldeb.

Datganiad Polisi Modiwleiddio Ffioedd

Mae PackUK wedi cyhoeddi ei Ddatganiad Polisi Modiwleiddio Ffioedd Cynhyrchwyr cyntaf听 ar gyfer y cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr am Ddeunydd Pacio (pEPR). Mae鈥檙 polisi hwn yn gam pwysig ymlaen i gymell cwmn茂au i ddefnyddio deunydd pacio amgylcheddol gynaliadwy ledled y DU.

Mae鈥檙 polisi modiwleiddio newydd yn sefydlu fframwaith tair blynedd clir a fydd yn addasu ffioedd cynhyrchwyr yn seiliedig ar asesiadau o ailgylchadwyedd yn unol 芒 Methodoleg Asesu Ailgylchadwyedd (RAM). Gan ddechrau o flwyddyn ariannol 2026/27, bydd y polisi yn cymhwyso ffactorau modiwleiddio cynyddol o 1.2x, 1.6x, a 2.0x dros flynyddoedd yn olynol.

Beth mae hyn yn ei olygu yn ymarferol:

  • bydd cynhyrchwyr deunydd pacio Gwyrdd RAM (mwyaf ailgylchadwy) yn elwa o ffioedd sy鈥檔 gostwng yn raddol
  • bydd cynhyrchwyr deunydd pacio Coch RAM (lleiaf ailgylchadwy) yn talu ffioedd cynyddol uwch
  • bydd darpariaethau arbennig yn berthnasol ar gyfer deunydd pacio meddygol lle mae gofynion rheoleiddiol yn cyfyngu ar opsiynau ailgylchadwyedd

Mae鈥檙 dull hwn yn cynnal cyfanswm y refeniw a gynhyrchir gan ffioedd pEPR gan greu cymhellion ariannol ystyrlon i gynhyrchwyr newid i opsiynau pacio mwy ailgylchadwy. Trwy osod cynllun tair blynedd, mae鈥檙 polisi yn rhoi鈥檙 sicrwydd sydd ei angen ar ddiwydiant i wneud penderfyniadau buddsoddi ar sail gwybodaeth a newidiadau gweithredol.

Mae鈥檙 polisi modiwleiddio yn cefnogi鈥檔 uniongyrchol yr egwyddorion craidd sy鈥檔 sail i鈥檙 cynllun pEPR - 鈥榶 llygrwr sy鈥檔 talu鈥, cywiro yn y ffynhonnell, ac atal. Mae鈥檔 sicrhau bod cynhyrchwyr sy鈥檔 creu deunydd pacio sy鈥檔 llai cynaliadwy o safbwynt yr amgylchedd yn ysgwyddo cyfrifoldeb ariannol priodol, gan wobrwyo鈥檙 rhai sy鈥檔 gwneud dewisiadau cadarnhaol.

Mae PackUK wedi ymrwymo i ymchwil bellach i gynnwys ffactorau cynaliadwyedd amgylcheddol ychwanegol mewn diweddariadau polisi yn y dyfodol, gan barhau i hybu arloesedd a gwelliant wrth ddylunio deunydd pacio ledled y DU.

Datganiad Sefyllfa Rheoleiddiol

Mewn ymateb i adborth gan y diwydiant yngl欧n 芒鈥檙 amser a鈥檙 adnoddau sydd eu hangen i fodloni eu rhwymedigaethau asesu ailgylchadwyedd 2025, mae rheoleiddwyr amgylcheddol y pedair gwlad wedi cyhoeddi Datganiad Sefyllfa Rheoleiddiol (Penderfyniad Rheoleiddio yng Nghymru) sy鈥檔 rhoi hyblygrwydd ychwanegol i gynhyrchwyr yn ystod y trawsnewid hwn.

Nod hyn yw lleddfu鈥檙 baich wrth gynnal yr ymrwymiad i gyflwyno ffioedd pEPR wedi鈥檜 modiwleiddio o flwyddyn asesu 2026鈥2027. Er bod yn rhaid i gynhyrchwyr barhau i gyflwyno adroddiadau am dunelli o ddeunydd ar gyfer hanner cyntaf 2025 gan gynnwys plastigau ystwyth ac anystwyth ar wah芒n, gellir canfod eu rhwymedigaethau asesu ailgylchadwyedd ar gyfer y cyfnod hwn o ddata ail-hanner.

Mae鈥檙 datganiad polisi modiwleiddio cychwynnol yn cwmpasu鈥檙 tair blynedd o flwyddyn asesu 2026/27 hyd at 2028/29. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd y drefn modiwleiddio ffioedd yn seiliedig i ddechrau ar ailgylchadwyedd yn unig trwy鈥檙 Fethodoleg Asesu Ailgylchadwyedd (RAM).

Yn dilyn hyn ac yn unol 芒鈥檙 gofyniad i adolygu鈥檙 drefn fodiwleiddio ar 么l tair blynedd, bydd PackUK yn ymchwilio i sut y gallai modiwleiddio ymgorffori ffactorau cynaliadwyedd ychwanegol, gyda鈥檙 posibilrwydd o gynnwys y rhain yn y drefn fodiwleiddio ar 么l y cyfnod hwn.

Strategaeth dros dro PackUK

Wrth sefydlu鈥檙 cynllun pEPR, mae鈥檔 ofynnol i PackUK, fel Gweinyddwr y Cynllun, gyhoeddi strategaeth sy鈥檔 bodloni鈥檙 gofynion a nodir ym Mharagraff 11 o Atodlen 7 i Reoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Pecynwaith a Gwastraff Pecynwaith) 2024.

Mae hon yn strategaeth dros dro, sydd wedi鈥檌 chymeradwyo gan swyddogion o鈥檙 pedair cenedl a gweinidogion llywodraethau datganoledig ar yr un pryd i gael eu s锚l bendith.

Bydd strategaeth hirdymor yn cael ei lansio yn ddiweddarach yn 2025 i gynnwys:

  • strwythurau a threfniadau tymor hir (Prif Weithredwr a Phrif Swyddog Strategaeth i鈥檞 penodi鈥檔 fuan)
  • datblygiadau i amcanion polisi ledled y DU dros y misoedd nesaf e.e. gwaith ynghylch ailddefnyddio, Fframwaith Canlyniadau Llywodraeth Leol ar gyfer Lloegr
  • y bwriad i benodi Sefydliad Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr erbyn mis Mawrth 2026.

Gyda鈥檌 gilydd, mae鈥檙 mesurau hyn a amlinellir uchod yn gonglfaen ar gyfer cynlluniau deunydd pacio ehangach y llywodraeth, sydd gyda鈥檌 gilydd yn anelu at gefnogi 25,000 o swyddi ac ysgogi mwy na 拢10 biliwn o fuddsoddiad mewn seilwaith ailgylchu dros y degawd nesaf.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 27 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 Awst 2025 show all updates
  1. Added a summary of policy updates from the 27 June 2025 letter sent by the 4 UK governments to key stakeholders about the extended producer responsibility (pEPR) scheme, and published the letter.

  2. Added Welsh translation.

  3. First published.