Ffeilio eich cyfrifon yn gynnar ym mis Rhagfyr i osgoi cosb
Rhaid i bob cwmni cyfyngedig, os ydynt yn masnachu ai peidio, gyflwyno cyfrifon i D欧'r Cwmn茂au bob blwyddyn. Mae hyn yn cynnwys cwmn茂au segur.

Deall eich cyfrifoldebau
Cyfrifoldeb y cyfarwyddwyr yw ffeilio cyfrifon eu cwmni, a sicrhau eu bod yn cael eu ffeilio ar amser. Mae鈥檔 bwysig deall eich r么l a sut y gallai ffeilio hwyr effeithio ar eich cwmni.
Gallai methu eich dyddiad cau ffeilio effeithio ar eich sg么r credyd neu fynediad at gyllid. Gall effeithio ar sut mae eraill yn edrych ar eich cwmni ac os ydynt am wneud busnes gyda chi. Mae cosbau ariannol a chanlyniadau cyfreithiol hefyd - gallech gael cofnod troseddol, dirwy neu anghymhwyso.
Os ydych chi鈥檔 cyflogi cyfrifydd i ffeilio cyfrifon eich cwmni, eich cyfrifoldeb chi o hyd, fel cyfarwyddwr, yw sicrhau eu bod yn cael eu ffeilio ar amser.
Defnyddio llwybrau ffeilio digidol
Mae dros 65% o gwmn茂au鈥檔 defnyddio ffeilio meddalwedd fel eu dull dewisol.
Mae amrywiaeth o ddarparwyr meddalwedd sy鈥檔 cynnig ystod o becynnau cyfrifyddu i baratoi a ffeilio cyfrifon. Gellir ffeilio鈥檙 rhan fwyaf o fathau o gyfrifon gan ddefnyddio meddalwedd, yn dibynnu ar ymarferoldeb y pecyn meddalwedd rydych chi鈥檔 ei ddefnyddio.
Os ydych yn ffeilio gan ddefnyddio ein gwasanaethau ar-lein, byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau ein bod wedi derbyn eich cyfrifon. Byddwn yn anfon e-bost arall atoch pan fyddwn wedi cofrestru鈥檆h cyfrifon.
Ffeilio cyfrifon eich cwmni ar-lein cyn eich dyddiad cau.
I ffeilio ar-lein, efallai y bydd angen cod dilysu eich cwmni arnoch. Os oes angen i chi ofyn am god newydd, dylech ganiat谩u hyd at 5 diwrnod i hyn gyrraedd swyddfa gofrestredig y cwmni.
Osgoi gwrthod
Dylech anfon cyfrifon papur dim ond os na all eich cwmni ffeilio ar-lein neu drwy feddalwedd.
Mae angen gwirio cyfrifon a ffeiliwyd ar bapur 芒 llaw. Dim ond yn ystod oriau agor y swyddfa y gallwn eu gwirio, a gallant gymryd dros wythnos i鈥檞 prosesu.
Os oes angen i chi ffeilio eich cyfrifon ar bapur, dylech eu hanfon atom ymhell cyn y dyddiad cau. Bydd hyn yn rhoi digon o amser i chi gywiro鈥檆h cyfrifon a鈥檜 hail-anfon os c芒nt eu gwrthod.
Mae hefyd yn bwysig sicrhau eich bod yn anfon yr holl ddogfennau i swyddfa gywir T欧鈥檙 Cwmn茂au. Bydd hyn yn helpu i osgoi unrhyw oedi, gan y gellir ailgyfeirio eich dogfennau a byddant yn cymryd mwy o amser i鈥檔 cyrraedd.
Dylech ystyried defnyddio dosbarthiad gwarantedig y diwrnod nesaf a nodi unrhyw neu ffactorau eraill, a allai ei gwneud hi鈥檔 anodd i gludwr gyflawni ar amser.
Ni allwn dderbyn oedi drwy鈥檙 post fel rheswm i apelio yn erbyn cosb ffeilio hwyr.
Newidiadau i gyfraith cwmn茂au鈥檙 DU
Ar 26 Hydref 2023, cafodd y Bil Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol Gydsyniad Brenhinol a daeth yn gyfraith. Dyma un o鈥檙 adegau mwyaf arwyddocaol i D欧鈥檙 Cwmn茂au yn ein hanes hir.
Fel cyfarwyddwr, mae鈥檔 bwysig eich bod yn deall sut y bydd y newidiadau hyn yn effeithio arnoch chi a鈥檆h cwmni. Mae rheolau newydd ar gyfer pob cwmni, gan gynnwys newidiadau i鈥檙 ffordd rydych chi鈥檔 ffeilio eich cyfrifon blynyddol.
Ewch i聽 .
Arweiniad a chefnogaeth
Cofrestrwch ar gyfer negeseuon atgoffa trwy e-bost i wybod pryd mae鈥檆h cyfrifon yn ddyledus. Gallwch hefyd wirio eich dyddiad cau ffeilio ar ein gwasanaeth .
am arweiniad ar sut i ddefnyddio ein gwasanaethau ar-lein.
Mwy o wybodaeth am: