Byddwch yn Barod i Ymgeisio am Gyllid i Fyfyrwyr
Chris Larmer, Cyfarwyddwr Gweithredol SLC, Gweithrediadau yn cynghori myfyrwyr o baratoi i ymgeisio am gyllid i fyfyrwyr

Yn ystod yr wythnosau i ddod, bydd y gwasanaeth i ymgeisio am gyllid i fyfyrwyr ar gyfer blwyddyn academaidd 22/23 yn agor i fyfyrwyr israddedig amser llawn newydd ac sy鈥檔 dychwelyd yng Nghymru a Lloegr.
Y llynedd, fe alluogom fwy o fyfyrwyr nag erioed i fuddsoddi yn eu dyfodol trwy fynediad at addysg uwch ac rydym y rhagweld blwyddyn brysur arall o鈥檔 blaenau. Ar gyfer myfyrwyr newydd yn benodol, mae yna lawer i鈥檞 ystyried. Bydd nifer eisoes wedi cwblhau eu ceisiadau UCAS a heb os yn llawn cyffro, os ychydig yn betrus, am beth sydd o鈥檜 blaenau.
Hoffem annog pob myfyriwr newydd i gael y cychwyn gorau posib i鈥檞 taith addysg uwch trwy sicrhau bod eu cyllid i fyfyrwyr yn ei le erbyn i鈥檙 tymor gychwyn. I鈥檞 cefnogi gyda hyn, rydyn ni wedi lansio adnoddau ar-lein newydd i fyfyrwyr yng a i鈥檞 helpu i baratoi ar gyfer pan fydd y gwasanaeth ymgeisio yn agor.
Gall myfyrwyr newydd hefyd gofrestru ar gyfer ein rhestrau postio Student Finance England (SFE) a Chyllid Myfyrwyr Cymru (SFW) i fod ymhlith y cyntaf i wybod pan fydd eu gwasanaeth ymgeisio yn agor. Mae鈥檔 bwysig cofio nad oes rhaid i fyfyrwyr gael lle wedi鈥檌 gadarnhau mewn prifysgol neu goleg i wneud cais am gyllid myfyrwyr, gallant wneud cais pan fydd y gwasanaeth yn agor gan ddefnyddio鈥檙 dewis a ffefrir ganddynt a diweddaru eu cais yn ddiweddarach os bydd amgylchiadau鈥檔 newid.
Dylai myfyrwyr sy鈥檔 dychwelyd gofio bod yn rhaid iddynt ailymgeisio am eu cyllid i fyfyrwyr pob blwyddyn academaidd a byddwn mewn cysylltiad 芒 nhw pan fydd yn amser iddynt wneud hyn.
Rydym yn ymdrechu i ddarparu profiad rhagorol i gwsmeriaid, gan gynnig mynediad i wasanaeth greddfol, dibynadwy a chefnogol ar bob cam o daith cyllid myfyriwr. I鈥檞 helpu i baratoi ar gyfer agor y cyfnod ymgeisio, dwi wedi darparu rhestr o awgrymau da i wneud y broses mor llyfn 芒 phosibl.
-
Cofrestrwch ar gyfer ein rhestrau postio (SFE) a (CMC) i fod ymysg y cyntaf i wybod pan fydd y gwasanaeth ymgeisio yn agor
-
Dysgwch pa gyllid y gallech fod 芒 hawl i鈥檞 gael trwy wirio ein tudalennau penodol ar gyfer SFE a
-
Gwiriwch ein hadnoddau Paratoi i Ymgeisio ar-lein: o Student Finance England: o Cyllid Myfyrwyr Cymru:
-
Dilynwch ffrydiau cyfryngau cymdeithasol SFE a CMC i gael y diweddaraf ar gyllid i fyfyrwyr o Dilynwch SFE ar , , ac o Dilynwch CMC ar a