Datganiad i'r wasg

Cyfleusterau ar lawr gwlad ledled Cymru yn rhannu buddsoddiad o 拢1.2 miliwn

Mae'r cyllid yn rhan o fuddsoddiad parhaus mewn cyfleusterau aml-chwaraeon mewn cydweithrediad 芒 Cymru Football Foundation

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2022 to 2024 Sunak Conservative government

Ysgol Y Grango students in football practice, using the 3G pitch delivered with the grassroots sport funding.

  • Mae 43 o safleoedd yn derbyn cyfran o 拢1.2 miliwn fel rhan o fuddsoddiad parhaus y Llywodraeth mewn cyfleusterau aml-chwaraeon ar y cyd 芒 Sefydliad P锚l-droed Cymru
  • Llywodraeth y DU yn ailddatgan ei hymrwymiad i wella mynediad at gyfleusterau o ansawdd uchel a chynyddu鈥檙 nifer sy鈥檔 cymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru
  • Mae buddsoddiad cyfalaf parhaus o 拢300 miliwn ledled y DU yn parhau i feithrin capasiti ar gyfer ardaloedd nad ydynt yn cael eu gwasanaethu鈥檔 ddigonol a grwpiau sy鈥檔 cael eu tangynrychioli

Bydd pobl sy鈥檔 cymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn elwa鈥檔 uniongyrchol o fuddsoddiad diweddaraf Llywodraeth y DU o 拢1.2 miliwn mewn cyfleusterau aml-chwaraeon o ansawdd uchel, mewn partneriaeth 芒 Sefydliad P锚l-droed Cymru a Chymdeithas B锚l-droed Cymru.

Fel rhan o ymrwymiad y Llywodraeth ar gyfer 2022/23, bydd mwy o gyfranogwyr ar lawr gwlad yng Nghymru yn gweld eu cyfleusterau鈥檔 gwella. Bydd y cyfleusterau sydd ar gael yn cynyddu a bydd gwell mynediad at gyfleusterau o ansawdd uchel ar gyfer p锚l-droed, hoci a chwaraeon eraill ar lawr gwlad. Dewiswyd 43 o safleoedd ar gyfer cyllid ledled Cymru fel rhan o ddyraniad cyllid 2022/23.

Un o brif flaenoriaethau鈥檙 Llywodraeth yw gwella mynediad at gyfleusterau chwaraeon cymunedol ym mhob rhan o鈥檙 DU, i helpu cynifer o bobl 芒 phosibl i gymryd rhan mewn chwaraeon a mwynhau鈥檙 holl fanteision iechyd meddwl a chorfforol sy鈥檔 gysylltiedig 芒 ffyrdd egn茂ol ac iach o fyw.

Mae鈥檙 buddsoddiad diweddaraf yn rhan o fuddsoddiad parhaus dros sawl blwyddyn y Llywodraeth o 拢300 miliwn mewn meysydd aml-chwaraeon ar lawr gwlad ledled y DU erbyn 2025 鈥 bydd dros 拢13 miliwn o hyn yn cael ei fuddsoddi yng Nghymru.

Dywedodd Lucy Frazer, yr Ysgrifennydd Diwylliant:

Rydyn ni wedi ymrwymo i wella mynediad at chwaraeon, sydd mor bwysig i iechyd corfforol a meddwl y genedl.

Heddiw, rydyn ni鈥檔 darparu 43 o gyfleusterau chwaraeon newydd, gwell ar lawr gwlad ledled Cymru er mwyn parhau i gefnogi, cynnal a thyfu chwaraeon cymunedol a chwaraeon ar lawr gwlad 鈥 fel bod gweithgareddau corfforol ar gael i bawb, beth bynnag fo鈥檜 cefndir a ble bynnag y maen nhw.

Byddwn yn parhau i weithio gyda Chymdeithas B锚l-droed Cymru i feithrin talent y dyfodol gan wneud yn si诺r ar yr un pryd bod gan gymunedau lleol y cyfleusterau chwaraeon sydd eu hangen arnyn nhw.

Un o nodau canolog y rhaglen yw gwella mynediad at gyfleusterau chwaraeon cymunedol a buddsoddi yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig y DU, er mwyn rhoi cyfle i gynifer o bobl 芒 phosibl gymryd rhan mewn chwaraeon. Er mwyn cyflawni hyn, ac er mwyn sicrhau mynediad sydd ei angen ar bob cymuned, bydd o leiaf 50% o鈥檙 buddsoddiad yn cael ei wario mewn ardaloedd difreintiedig.

Dywedodd David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae Llywodraeth y DU yn parhau i fuddsoddi鈥檔 sylweddol mewn cyfleusterau ar lawr gwlad, gan helpu clybiau a grwpiau i sicrhau鈥檙 manteision iechyd a chymdeithasol enfawr a ddaw yn sgil chwaraeon.

Rwyf wrth fy modd bod y cyllid hwn yn cael ei ddosbarthu i gymunedau ar hyd a lled Cymru, gan alluogi cenedlaethau鈥檙 dyfodol i ddatblygu eu sgiliau yn y byd chwaraeon. Drwy weithio 芒 Chymdeithas B锚l-droed Cymru ac eraill, rydyn ni eisiau gwneud yn si诺r bod llwyddiant gwych diweddar chwaraeon Cymru yn parhau am flynyddoedd i ddod.

Dyma rai o鈥檙 cyfleusterau a fydd yn elwa o fuddsoddiad yng Nghymru yn 2022/23:

  • Mae Parc Darran yng Nglynrhedynnog wedi cael dros 拢170,000 i uwchraddio eu maes 3G;
  • Mae Stadiwm Essity yn y Fflint wedi cael dros 拢40,000 ar gyfer llifoleuadau;
  • Mae Maes Chwaraeon Hamdden Tredegar yn Park Hill wedi cael dros 拢18,000 ar gyfer llifoleuadau, storfa, pyst g么l a lloches;
  • Mae Parc Underhill yn y Mwmbwls, Abertawe wedi cael 拢190,000 ar gyfer cae glaswellt artiffisial newydd;
  • Mae Caeau Chwarae Evans Bevans ym Mhort Talbot wedi cael dros 拢27,000 ar gyfer uwchraddio caeau glaswellt.

Mae rhestr lawn o鈥檙 cyfleusterau a fydd yn elwa o fuddsoddiad yng Nghymru yn 2022/23 ar gael yma.

Bydd 40% y cant o鈥檙 cyllid yn cael ei ddefnyddio i gefnogi cyfleusterau aml-chwaraeon, gan sicrhau bod amrywiaeth eang o chwaraeon yn cael eu cefnogi a helpu i sicrhau manteision y tu hwnt i b锚l-droed. Mae鈥檙 rhaglen yn canolbwyntio鈥檔 benodol ar gynyddu cyfranogiad ymysg grwpiau sy鈥檔 cael eu tangynrychioli fel menywod a merched, ac unigolion sydd ag anabledd.

Dywedodd Noel Mooney, Prif Weithredwr, Cymdeithas B锚l-droed Cymru:

Mae Cymdeithas B锚l-droed Cymru yn canolbwyntio ar wella safon cyfleusterau p锚l-droed ar lawr gwlad ledled Cymru ac ar gefnogi clybiau p锚l-droed i fod yn ganolfannau cymunedol sy鈥檔 dod 芒 manteision cymdeithasol, iechyd ac economaidd i鈥檙 ardaloedd maen nhw鈥檔 eu gwasanaethu. Mae鈥檙 buddsoddiad mewn cyfleusterau newydd drwy Sefydliad P锚l-droed Cymru, sydd wedi bod yn bosibl drwy gyllid gan yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, yn enghraifft berffaith o hyn.

Mae Llywodraeth y DU, mewn partneriaeth 芒 Sefydliad P锚l-droed Cymru a Chymdeithas B锚l-droed Cymru, yn parhau i adeiladu ar ei buddsoddiad o 拢1.3 miliwn yn 2021/22, gyda chyfanswm o 拢1.2 miliwn arall wedi鈥檌 gadarnhau heddiw a 60 o safleoedd yng Nghymru wedi elwa hyd yma.

Drwy gydol cylch bywyd y rhaglen buddsoddi mewn cyfleusterau aml-chwaraeon ar lawr gwlad, a fydd yn rhedeg tan 2025, bydd Cymru鈥檔 cael cyfanswm o dros 拢13 miliwn i helpu i feithrin talent y dyfodol.

DIWEDD

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 20 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 Mai 2023 show all updates
  1. Added translation

  2. Added translation