Datganiad i'r wasg

Twf a swyddi lleol ar frig yr agenda wrth i Barth Buddsoddi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ddatblygu

Parth Buddsoddi i sbarduno twf ac arloesi mewn sectorau uwch weithgynhyrchu, digidol a thechnoleg

Welsh Secretary Jo Stevens talking with a CSA Catapult employee in Newport.

  • Bydd y Parth yn datblygu canolfan lled-ddargludydd yng Nghasnewydd a pharc gwyddoniaeth a thechnoleg yng Nghaerdydd fel rhan o Strategaeth Ddiwydiannol drawsnewidiol y llywodraeth a gyhoeddwyd heddiw
  • Disgwylir denu 拢500m o fuddsoddiad sector preifat a chreu 4000 o swyddi newydd fel rhan o Gynllun ar gyfer Newid y llywodraeth

Mae Parth Buddsoddi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi cymryd cam mawr ymlaen drwy gyhoeddi ei safleoedd diwydiannol ac allweddol, gan roi hwb anferth i fuddsoddiad rhanbarthol a chreu swyddi.

Bydd y Parth Buddsoddi - cydfenter rhwng Llywodraethau Cymru a鈥檙 DU - yn sbarduno arloesi a thwf ar draws y sectorau uwch weithgynhyrchu a digidol a thechnoleg, gyda鈥檙 ffocws ar glwstwr lled-ddargludydd cyfansawdd o safon byd-eang y rhanbarth. 聽

Gyda chefnogaeth 拢160miliwn o gyllid Llywodraeth y DU, bydd y Parth yn datblygu鈥檙 ganolfan lled-ddargludydd yng Nghasnewydd, ble lleolir busnesau allweddol yn cynnwys KLA, IQE a Vishay, a datblygu parc gwyddoniaeth a thechnoleg i fod yn bwynt ffocws ar gyfer gweithgaredd Ymchwil a Datblygu a buddsoddiad yng Nghaerdydd. 聽

Disgwylir i鈥檙 Parth Buddsoddi - un o ddau wedi eu cynllunio ar gyfer Cymru - ddenu 拢500miliwn o fuddsoddiad sector preifat, creu 4000 o swyddi newydd a datgloi 3m troedfedd sgw芒r o gapasiti gweithgynhyrchu, Ymchwil a Datblygu ac arloesi. 聽

Dywedodd Alex Norris, Gweinidog dros Ddiogelwch Adeiladau, T芒n a Thwf Lleol: 聽

Mae rhyddhau potensial ein dinasoedd a鈥檔 rhanbarthau yn ganolog i鈥檙 Strategaeth Ddiwydiannol a鈥檙 Cynllun ar gyfer Newid. 聽

Bydd Parth Buddsoddi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a gefnogir gennym gyda 拢160miliwn o gyllid, yn adeiladu ar gryfderau diwydiannol y rhanbarth i ddatblygu dyfodol cyffrous i bobl leol - creu swyddi medrus newydd a sbarduno twf economaidd yn lleol ac ar draws Cymru.

Dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Llywodraeth Cymru:聽

Mae Parth Buddsoddi Caerdydd a Chasnewydd yn nodi cam ymlaen trawsnewidiol ar gyfer De Ddwyrain Cymru ac yn dangos ein hymrwymiad cadarn i sefydlu鈥檙 rhanbarth fel p诺er byd-eang ym maes lled-ddargludyddion cyfansawdd.

Byddwn yn parhau i weithio鈥檔 agos gyda Chydbwyllgor Corfforaethol De Ddwyrain Cymru a Llywodraeth y DU i adeiladu ar gryfderau鈥檙 rhanbarth, denu buddsoddiad preifat sylweddol, cryfhau partneriaethau rhanbarthol a chyflawni buddion gwirioneddol a deimlir gan bobl ar draws Cymru yn eu bywydau bob dydd.

Meddai Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae鈥檙 cam hwn ymlaen ar gyfer Parth Buddsoddi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn hwb enfawr i鈥檙 busnes a diwydiant o safon byd-eang o fewn yr ardal.

Bydd yn sbarduno twf, yn creu 4,000 o swyddi ac yn adeiladu ar y talent a鈥檙 arbenigedd sy鈥檔 bodoli eisoes o fewn y rhan hon o Gymru.

Drwy weithio ochr yn ochr 芒 Llywodraeth Cymru rydym yn datblygu economi鈥檙 dyfodol ac yn darparu ar gyfer pobl sy鈥檔 gweithio ar draws y wlad.

Dywedodd y Cyng. Mary Ann Brocklesby, Arweinydd, Cyngor Sir Fynwy a Chadeirydd, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd: 聽

Dyma gam enfawr ymlaen ar gyfer y Parth Buddsoddi. Edrychwn ymlaen at ddatblygu ein sylfaen ddiwydiannol gadarn ac ymchwil o safon byd-eang mewn lled-ddargludyddion i sbarduno arloesi mewn technolegau sy鈥檔 dod i鈥檙 amlwg a marchnadoedd sy鈥檔 tyfu鈥檔 gyflym, tra鈥檔 cydweithio gyda Llywodraethau Cymru a鈥檙 DU.

Drwy alinio ein hymdrechion gydag asedau unigryw鈥檙 rhanbarth a hybu cydweithio ar draws sectorau, rydym yn anelu i greu amgylchedd dynamig ble mae syniadau newydd yn ffynnu, denu buddsoddiad a chyflawni effaith ystyrlon i bobl a lleoedd ar draws y rhanbarth.

Daw鈥檙 newyddion fel rhan o gyhoeddiad y Strategaeth Ddiwydiannol heddiw (dydd Llun).

Fel y nodwyd yn y strategaeth, mae sectorau uwch weithgynhyrchu a digidol a thechnoleg yn ddau sector allweddol sy鈥檔 sbarduno twf.

Daw鈥檙 newyddion yn dilyn cadarnhad am ganolbwynt diwydiannol a daearyddol dau Barth Buddsoddi yn yr Alban yn gynharach y mis hwn a Pharth Buddsoddi Wrecsam a Sir y Fflint yn gynharach eleni.

DIWEDD

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 26 Mehefin 2025