Datganiad i'r wasg

Hydro Industries, enillydd gwobr Fast Growth 50, yn cyhoeddi contract 拢20 miliwn

Mae Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi llongyfarch Hydro Industries heddiw ar gontract newydd gwerth miliynau

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
Photograph

Secretary of State for Wales Stephen Crabb with Hydro Industries CEO Wayne Preece and Director David Pickering (L to R)

Mae Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi llongyfarch Hydro Industries heddiw ar gontract newydd gwerth miliynau o bunnoedd a gyhoeddwyd yn ystod ei ymweliad 芒 safle鈥檙 cwmni yn Llangennech.

Mae鈥檙 cwmni, sy鈥檔 arbenigo mewn puro d诺r gan ddefnyddio technoleg electro, wedi cyhoeddi cyd-fenter newydd gwerth 拢20 miliwn yn yr Emiradau Arabaidd Unedig i gynorthwyo鈥檙 wlad i ddod o hyd i atebion trin d诺r mwy effeithiol. Mae ei gytundeb busnes newydd yn gyd-fenter ag M Partners, gr诺p busnes yr Emiradau Arabaidd Unedig sydd 芒鈥檌 bencadlys yn Abu Dhabi.

Dywedodd Stephen Crabb:

Mae hyn yn newyddion gwych i Hydro Industries sy鈥檔 ategu ei lwyddiant yng ngwobrau diweddar Fast Growth 50. Mae鈥檙 posibilrwydd y bydd Hydro Industries yn recriwtio hyd at 40 aelod o staff medrus yn ystod y tair blynedd nesaf, a鈥檙 effaith gadarnhaol y rhagwelir y bydd ei dwf yn ei chael ar y diwydiannau cadwyn gyflenwi, yn newyddion ardderchog i economi Cymru. Rwyf ar ben fy nigon yn cael ymweld 芒鈥檌 safle yn Llangennech wrth iddo gyhoeddi鈥檙 cytundeb busnes newydd pwysig hwn ac o glywed ei gynlluniau ar gyfer ehangu yn y dyfodol.

Dywedodd Wayne Preece, Prif Swyddog Gweithredol Hydro Industries:

Mae鈥檙 cytundeb hwn yn dod ar 么l dros flwyddyn o waith yn yr Emiradau i sicrhau bod Hydro yn ymwneud 芒鈥檙 sefydliad gorau posibl i ddatblygu ei fusnes a鈥檌 frand. Disgwylir i鈥檙 cytundeb fod werth mwy nag 拢20m mewn archebion dros y tair blynedd nesaf, sy鈥檔 golygu mwy o swyddi medrus yng Nghymru i gefnogi鈥檙 archebion allforio newydd yn ardal yr Emiradau Arabaidd Unedig.

Yn ystod ei ymweliad 芒 Hydro Industries, dywedodd Stephen Crabb hefyd sut mae arloesedd ac entrepreneuriaeth Cymru yn ennill enw da yn fyd-eang, rhywbeth y bydd Uwchgynhadledd Fuddsoddi鈥檙 DU yng Nghymru yn gobeithio manteisio arno fis nesaf.

Mae Hydro Industries yn enghraifft wych o arloesi yng Cymru ar ei orau. Byddwn yn adeiladu ar enw da cynyddol ein cenedl ar draws y byd, yn enwedig yn y sector uwch-dechnoleg, yn Uwchgynhadledd Buddsoddi鈥檙 DU fis nesaf yng Nghymru. Mae鈥檙 gynhadledd ryngwladol hon, sy鈥檔 rhan o鈥檔 cynllun economaidd tymor hir i hybu economi Cymru, yn ymwneud 芒 dangos i fusnesau pam y dylai Cymru fod ar ben y rhestr fel man ar gyfer buddsoddi.

Cefndir:

  • Gall technoleg Hydro Industries lanhau d诺r yn gyflym y tu hwnt i safonau d诺r yfed Ewropeaidd. Mae proses buro draddodiadol yn golygu trin gan ddefnyddio cemegau, neu bwmpio d诺r ychwanegol i mewn i wanhau鈥檙 amhureddau. Fodd bynnag, mae Hydro yn defnyddio trydan, sy鈥檔 golygu nad oes angen ychwanegu cemegau a all achosi problemau amgylcheddol eraill. Mae鈥檙 busnes wedi tyfu鈥檔 sylweddol ers iddo lansio yn 2011 gan helpu cwmn茂au sglodyn glas yn cynnwys Shell, Tata, D诺r Cymru a Morgan Crucible i ddod o hyd i atebion d诺r gl芒n.

  • Cyhoeddwyd mai Hydro Industries oedd enillydd cyffredinol unfed seremoni wobrwyo flynyddol ar bymtheg Fast Growth 50 mewn seremoni a fynychwyd gan Mr Crabb ddydd Gwener 17eg Hydref yng Nghaerdydd. Mae Hydro Industries, a sefydlwyd bedair blynedd yn 么l wedi gweld cyfradd twf trosiant o dros 750% yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, o 拢258,000 i dros 拢2 filiwn.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am Uwchgynhadledd Fuddsoddi鈥檙 DU.

Cliciwch yma i weld datganiad i鈥檙 wasg a gyhoeddwyd gan Swyddfa Cymru ddechrau鈥檙 wythnos am Fast Growth 50.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 23 Hydref 2014