Adroddiad interim ar y grant Cymorth Cyfreithiol i Ymgyfreithwyr Drostynt eu Hunain
Mae adroddiad newydd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn rhoi diweddariad interim ar y cynnydd a wnaed gan y Grant LSLIP.

Ym mis Ebrill 2020, lansiodd y Sefydliad Mynediad at Gyfiawnder a鈥檙 Weinyddiaeth Gyfiawnder y Grant LSLIP, sef rhaglen ddwy flynedd sy鈥檔 ariannu ystod o wasanaethau ymyrryd cynharach ar gyfer ymgyfreithwyr drostynt eu hunain. Mae LSLIP yn ariannu 11 o brosiectau grant ledled Cymru a Lloegr sy鈥檔 darparu cyngor ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol, i ymgyfreithwyr drostynt eu hunain ar wahanol gamau o鈥檜 problem o fewn sawl maes cyfraith sifil a theuluol. Mae gweithio mewn partneriaeth ac ymyriadau cynharach wrth wraidd yr holl weithgareddau hyn, er mwyn sicrhau gwell canlyniadau i gleientiaid.
Er mwyn datblygu sylfaen dystiolaeth gyfunol o鈥檙 manteision y mae鈥檙 rhaglen yn eu darparu, mae pob derbynnydd grant wedi casglu ac adrodd ar amrywiaeth o ddata ansoddol a meintiol ynghylch y cyngor y maent wedi鈥檌 roi, y cleientiaid a gafodd y cyngor hwn a鈥檙 effaith y mae鈥檙 cyngor hwn wedi鈥檌 chael ar wella canlyniadau cleientiaid.
惭补别鈥檙 adroddiad interim hwn yn dwyn ynghyd y data a鈥檙 dystiolaeth a gasglwyd hyd yma, er mwyn adrodd ar gynnydd tuag at amcanion y grant. 惭补别鈥檙 canfyddiadau hyn yn seiliedig ar ddadansoddiad cychwynnol ac felly nid ydynt o reidrwydd yn ddangosydd cywir o berfformiad ar hyn o bryd nac yn adlewyrchu鈥檙 safbwyntiau a gyrhaeddir yn yr adroddiad terfynol.
Prif ganfyddiadau鈥檙 adroddiad yw:
- Mae derbynwyr y grant LSLIP wedi darparu ystod o gyngor cyfreithiol, cefnogaeth ymarferol a gwybodaeth am weithdrefnau i filoedd o bobl ledled Cymru a Lloegr sydd 芒 phroblemau sifil a theuluol. 惭补别鈥檙 grantiau wedi galluogi oddeutu 10,000 o bobl i gael cymorth personol un-i-un ar eu problemau sifil a theuluol, a niferoedd sylweddol uwch i gael gafael ar wybodaeth ac arweiniad cyfreithiol cyhoeddus.
- 惭补别鈥檙 rhan fwyaf o鈥檙 cyngor a ddarparwyd gan y derbynwyr grant lleol a rhanbarthol wedi bod yn gyngor cyffredinol cychwynnol (68% o鈥檙 cyngor) ar broblemau teuluol, cyflogaeth a thai (bron i 75% o鈥檙 problemau). Fodd bynnag, darparwyd llawer iawn o waith achos a chyngor cyn-llys.
- Yn fras, mae鈥檔 ymddangos bod y rhai sy鈥檔 derbyn grant yn lleol ac yn rhanbarthol yn cyrraedd carfan debyg o ddefnyddwyr i wasanaethau cynghori eraill. 惭补别鈥檙 rhan fwyaf o gleientiaid yn fenywod (62%), rhwng 25 a 55 (65%), a gwyn (91%). Mae gan o leiaf chwarter y cleientiaid anabledd, ond mae tystiolaeth i awgrymu bod hyn yn amcangyfrif rhy isel a bod gan nifer fawr o gleientiaid iechyd corfforol a meddyliol gwael ochr yn ochr 芒 dangosyddion eraill o fod yn agored i niwed.
- Mae gweithio mewn partneriaeth wedi bod yn allweddol i LSLIP a鈥檙 gefnogaeth ychwanegol sydd ar gael i ymgyfreithwyr drostynt eu hunain. Mae ffurfioli llwybrau atgyfeirio rhwng gwasanaethau a rhannu adnoddau arbenigol wedi galluogi sefydliadau i ehangu cyngor ar draws ardaloedd daearyddol ehangach a meysydd cyfreithiol, er mwyn darparu gwasanaeth mwy cyfannol sy鈥檔 gallu mynd i鈥檙 afael 芒 holl broblemau鈥檙 cleient.
- Mae tystiolaeth gynnar yn awgrymu bod y cyngor a鈥檙 gefnogaeth a ddarperir yn gwella canlyniadau鈥檙 cleientiaid, gan gynnwys cynyddu dealltwriaeth cleientiaid o sut i ddatrys eu problem a chynyddu hyder cleientiaid i weithredu鈥檔 brydlon. Mae hyn yn helpu i ddatrys problemau yn gynharach, cyn iddynt gyrraedd y llys neu鈥檙 tribiwnlys.
Bydd rhagor o ddata鈥檔 cael ei gasglu drwy gydol oes LSLIP ac adroddir ar y tueddiadau hyn yn y gwerthusiad terfynol.
Nodiadau:
Ym mis Chwefror 2019, cyhoeddodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder y Cynllun Gweithredu Cymorth Cyfreithiol a oedd yn amlinellu ymrwymiad y Llywodraeth i weledigaeth newydd ar gyfer cymorth cyfreithiol, ar sail ymyriadau cynharach. Er mwyn gwireddu鈥檙 weledigaeth hon, roedd y Cynllun Gweithredu Cymorth Cyfreithiol yn cynnwys sawl ymrwymiad i dreialu a gwerthuso gwahanol fathau o gymorth cyfreithiol cynnar, er mwyn deall yn well pa ymyriadau sy鈥檔 gweithio orau, pryd, ac i bwy. Ymysg yr ymrwymiadau hyn yr oedd yr addewid i gynyddu cyllid y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar gyfer y Strategaeth Cymorth i Ymgyfreithwyr Drostynt eu Hunain o 拢1.45 miliwn y flwyddyn i 拢3 miliwn am ddwy flynedd.
Darperir y cyllid ychwanegol hwn, sef y grant Cymorth Cyfreithiol i Ymgyfreithwyr Drostynt eu Hunain, gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder mewn partneriaeth 芒鈥檙 Sefydliad Mynediad at Gyfiawnder. 惭补别鈥檙 Sefydliad Mynediad at Gyfiawnder yn fudiad elusennol sydd 芒 chyfoeth o wybodaeth a phrofiad yn y maes cymorth cyfreithiol, a phrofiad sylweddol o reoli grantiau ar draws y sector cynghori.
Bu鈥檙 Weinyddiaeth Cyfiawnder a鈥檙 Sefydliad Mynediad at Gyfiawnder yn cydweithio鈥檔 agos i ddatblygu鈥檙 grant Cymorth Cyfreithiol i Ymgyfreithwyr Drostynt eu Hunain (LSLIP), sy鈥檔 gwella鈥檙 cymorth cyfreithiol sydd ar gael ledled Cymru a Lloegr drwy ariannu gwasanaethau sydd wedi鈥檜 ehangu, uwchraddio neu rai newydd sy鈥檔 cefnogi鈥檙 ymyriadau cynharaf posibl ar gyfer ymgyfreithwyr drostynt eu hunain.