Datganiad i'r wasg

Hwb gwerth miliynau o bunnoedd i ddiwydiant bwyd Prydain

Bydd llywodraeth ganolog yn ymrwymo i brynu bwyd tymhorol, ffres yn lleol er budd ffermwyr a busnesau bach ym Mhrydain.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
"Royal Welsh Show"

Royal Welsh Show

Heddiw (21 Gorffennaf), cyhoeddodd y Prif Weinidog David Cameron ac Elizabeth Truss, yr Ysgrifennydd dros yr Amgylchedd fod 拢400 miliwn o fusnes newydd posibl ar gael i ddiwydiant bwyd Prydain, fel rhan o gynllun economaidd hirdymor y llywodraeth i gefnogi busnesau Prydain.

Cyhoeddodd y Prif Weinidog, a fydd heddiw yn cwrdd 芒 ffermwyr a busnesau yn Sioe Frenhinol Cymru, y bydd y llywodraeth ganolog gyfan, o 2017 ymlaen, yn ymrwymo i brynu bwyd tymhorol, ffres yn lleol, fel bod yr holl fwyd sy鈥檔 gallu cael ei brynu鈥檔 lleol, yn cael ei brynu鈥檔 lleol. Gwneir hyn drwy safon newydd a symlach ar gyfer prynu bwyd a diod, 鈥榊 Cynllun ar gyfer Caffael Cyhoeddus鈥, a lansiwyd heddiw er budd miloedd o ffermwyr, busnesau bach, econom茂au gwledig a鈥檙 cyhoedd ym Mhrydain.

Mae鈥檙 sector cyhoeddus yn Lloegr yn gwario 拢1.2 biliwn bob blwyddyn ar fwyd a diod. Caiff hyd at 拢600 miliwn o hynny ei wario ar gynnyrch wedi鈥檌 fewnforio, y gellid cael gwerth 拢400 miliwn ohono o鈥檙 DU. Mae鈥檙 ymrwymiad gan lywodraeth ganolog i ddefnyddio鈥檙 safon newydd hon ar gyfer prynu yn golygu y bydd ychydig dros hanner y 拢400 miliwn ar gael i ffermwyr Prydain.

Yn ogystal 芒 hyn, bydd y sector cyhoeddus ehangach yn cael ei annog a鈥檌 gefnogi i ddefnyddio鈥檙 fframwaith newydd hwn gan ddisgwyl y bydd yr holl ysgolion ac ysbytai, yn y dyfodol, yn cynnig cigoedd mwy lleol a llysiau a ffrwythau wedi鈥檜 casglu鈥檔 ffres.

Dywedodd y Prif Weinidog David Cameron:

Mae ein cynllun economaidd hirdymor yn ymwneud 芒 chefnogi pobl ragweithiol sy鈥檔 bwrw iddi ac yn gweithio鈥檔 galed - ac nid oes neb yn gweithio鈥檔 fwy diwyd yng Nghymru a gweddill Prydain heddiw na鈥檔 ffermwyr.

Drwy agor y contractau hyn, gallwn eu helpu i greu mwy o swyddi, buddsoddi yn eu busnes a sicrhau bod pobl yng Nghymru yn byw鈥檔 iachach. Mae tair elfen lwyddiannus i hyn - a bydd yn golygu dyfodol mwy disglair i鈥檔 gwlad.

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae cyhoeddiad y Prif Weinidog heddiw yn atgyfnerthu ymhellach ein hymrwymiad i鈥檔 ffermwyr.

Fel Ysgrifennydd newydd Cymru rwy鈥檔 hollol sicr ei bod hi鈥檔 hanfodol cefnogi cymunedau lleol yng Nghymru wledig. Dyna pam bod y llywodraeth hon yn cefnogi busnesau a theuluoedd sy鈥檔 gweithio鈥檔 galed ledled Cymru drwy leihau costau ynni, gostwng trethi swyddi a rhewi tollau tanwydd i annog swyddi i gael eu creu, hybu twf a chodi safonau byw yn economi wledig Cymru.

Wrth gwrs mae mwy i鈥檞 wneud o hyd. Ond dim ond drwy ddilyn ein cynllun economaidd hirdymor y byddwn yn adeiladu economi wytnach ledled Cymru a鈥檙 DU gyfan.

Dywedodd Elizabeth Truss, yr Ysgrifennydd dros yr Amgylchedd:

Bydd y symud hwn yn golygu bod bwyd a gaiff ei weini mewn ffreuturau ar draws y sector cyhoeddus yn gallu bod yn fwy lleol, yn fwy tymhorol ac yn fwy blasus.

Bydd yn helpu i lywio twf yn niwydiant bwyd a diod rhagorol Prydain a bydd yn fuddiol i鈥檙 amgylchedd drwy greu llai o wastraff, bydd nifer fwy o bobl yn bwyta鈥檙 prydau bwyd a bydd llai o fwyd diflas yn cael ei adael ar 么l ar blatiau.

Mae hyn yn hwb enfawr i ffermwyr a chynhyrchwyr ym Mhrydain ac i fyfyrwyr, cleifion a chyflogeion sydd am fwynhau bwyd arbennig.

Bydd prynwyr yn y sector cyhoeddus bellach yn barnu darpar gyflenwyr ar sail pum maen prawf allweddol:

  • sut y caiff bwyd ei gynhyrchu a pha un a gaiff y bwyd ei gynhyrchu鈥檔 lleol
  • pa mor iach a maethlon yw鈥檙 bwyd a brynir
  • effeithlonrwydd y broses o gynhyrchu鈥檙 bwyd o safbwynt adnoddau, fel y defnydd o dd诺r ac ynni a chynhyrchu gwastraff
  • I ba raddau y mae鈥檙 bwyd a brynir yn cyflawni blaenoriaethau economaidd-gymdeithasol y Llywodraeth fel cyfranogiad busnesau bach a chanolig
  • ansawdd y gwasanaeth a gwerth am arian

Disgwylir i ffermwyr Prydain elwa o鈥檙 cynllun yn sylweddol am fod ffermwyr Prydain yn y sefyllfa orau i gyrraedd y safonau newydd llym hyn.

Yn ogystal 芒 chefnogi bwyd lleol a chynaliadwy, mae鈥檙 safonau newydd yn blaenoriaethu caffael gan gynhyrchwyr llai o faint, a thrwy hynny yn helpu busnesau bach a chanolig i gyrraedd y farchnad sector cyhoeddus fuddiol.

Er mwyn cefnogi鈥檙 busnesau bach hyn ymhellach, bydd y Llywodraeth hefyd yn rhoi proses newydd ar waith ar gyfer prynu o fis Medi ymlaen, a fydd yn canolbwyntio ar borthol ar-lein. Bydd cwmn茂au sy鈥檔 cofrestru ar y porthol hwn ac sy鈥檔 bodloni meini prawf y cynllun yn cael eu hysbysu鈥檔 awtomatig pan fydd contractau cymwys yn codi er mwyn tendro amdanynt. Byddan nhw wedyn yn gallu gwneud cais amdanynt drwy bwyso botwm.

Cynllun ar gyfer Caffael Cyhoeddus

Mae鈥檙 鈥楥ynllun ar gyfer Caffael Cyhoeddus鈥 wedi鈥檌 gyhoeddi yn dilyn Adolygiad Dr Peter Bonfield o gaffael cynnyrch cyhoeddus, a gomisiynwyd gan Defra y llynedd. Mae鈥檙 cynllun eisoes wedi cael cefnogaeth ar draws y llywodraeth a鈥檙 sector ffermio a bwyd, yn cynnwys Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, y Ffederasiwn Bwyd a Diod a chwmn茂au arlwyo mawr fel Compass a Baxton Storey sy鈥檔 cyflenwi bwyd ar draws y sector cyhoeddus.

Dywedodd Dr Bonfield:

Hoffwn i鈥檙 gwaith hwn newid sut mae pob sefydliad cyhoeddus yn ystyried y bwyd mae鈥檔 ei brynu 鈥 rydyn ni wedi cael cryn dipyn o gefnogaeth gan ysgolion, ysbytai, busnesau, arlwywyr a ffermwyr, sydd oll yn awyddus i fod yn rhan o鈥檙 dull newydd a chyffrous hwn o weithredu.

Mae鈥檙 awydd yno i newid - drwy greu鈥檙 amgylchedd iawn a rhoi鈥檙 adnoddau iawn i sefydliadau, bydd busnesau bach yn gallu gwerthu bwyd maethlon o鈥檙 safon uchaf i鈥檙 farchnad sector cyhoeddus. Dyma鈥檙 ffordd iawn o weithredu ar gyfer ein hiechyd, ein hamgylchedd a hefyd i fusnesau Prydain.

Enillwyr Technoleg Amaethyddol

Daw鈥檙 cyhoeddiad hwn wrth i 15 o brosiectau technoleg amaethyddol glywed y byddant yn cael cyfran o 拢18 miliwn o arian gan y llywodraeth a鈥檙 diwydiant i helpu i gyflymu cyfradd eu harloesedd amaethyddol a鈥檜 hyfywedd masnachol.

Bydd yr arian hwn yn helpu i gefnogi twf y sectorau technoleg a gwyddoniaeth amaethyddol yn y DU, sydd eisoes yn cyflogi bron 4 miliwn o bobl ac sy鈥檔 un o鈥檙 marchnadoedd sy鈥檔 tyfu gyflymaf yn y byd.

Bydd y 15 prosiect yn cael 拢12.1 miliwn o arian gan y llywodraeth gyda 拢5.7 miliwn o gyd-fuddsoddiad gan y diwydiant. Mae cwmn茂au yn y DU yn eu harwain i gyd ac maent yn cwmpasu tri maes allweddol o鈥檙 sector amaethyddol - cnydau, da byw a dyframaeth.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 21 Gorffennaf 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 21 Gorffennaf 2014 show all updates
  1. Added links to Report and other published documents.

  2. First published.