Stori newyddion

ADN yn addo 拢495,000 i gynorthwyo Cynllun Adfywio Economaidd Gogledd Ynys M么n

Y Prif Weithredwr, David Peattie, yn gwneud ymrwymiad yn ystod uwchgynhadledd y diwydiant niwclear yn Llangefni.

Anglesey: view of the harbour with boats and houses in the background

Anglesey

Mae鈥檙 ADN wedi cyhoeddi cymorth o 拢495,000 i helpu i gefnogi Cynllun Adfywio Economaidd Gogledd Ynys M么n y Cyngor Sir a chreu cyfleoedd economaidd newydd ar yr ynys.

Ymgasglodd tua 200 o ymwelwyr o bob rhan o鈥檙 DU a thramor yng Nghanolfan Adeiladu Coleg Menai yn Llangefni ar gyfer 3edd Uwchgynhadledd Rhanddeiliaid flynyddol yr ADN (Gorffennaf 9/10fed), ac yno rhannodd y Prif Weithredwr David Peattie ei ymrwymiad i gefnogi cymunedau sy鈥檔 byw yn agos at ei safleoedd.

Bydd y cyllid yn cyfrannu at becyn o fesurau i geisio rhoi hwb i weithgarwch busnes, y gadwyn gyflenwi a chyflogaeth, gan gynyddu twristiaeth, gwella trafnidiaeth a seilwaith ac adfywio鈥檙 Stryd Fawr.

Dywedodd Mr Peattie:

Rydyn ni鈥檔 hynod falch o gefnogi Cynllun Adfywio Economaidd Gogledd Ynys M么n y Cyngor Sir ac yn edrych ymlaen at weithio gyda鈥檙 Cyngor a phartneriaid eraill wrth i鈥檙 mentrau gael eu llunio, gan ddenu buddsoddiad i鈥檙 ynys a chreu cyfleoedd cyflogaeth. Fel cyflogwr mawr yng Ngogledd Cymru, rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi鈥檙 cymunedau cyfagos, y mae eu cefnogaeth mor hanfodol i鈥檔 gwaith ni.

Ar 么l siom y gymuned wedi鈥檙 newyddion am ddyfodol Wylfa Newydd, a ffatri Rehau yn Amlwch, ac o ystyried yr effeithiau disgwyliedig o ganlyniad i ddatgomisiynu Gorsaf B诺er Wylfa, mae鈥檙 angen am greu Cynllun Adfywio Economaidd cadarn ar gyfer Gogledd Ynys M么n yn flaenoriaeth ar gyfer yr ynys. Datblygwyd y Cynllun i adnabod cryfderau, gwendidau a chyfleoedd lleol, ac i nodi blaenoriaethau, anghenion a dyheadau Gogledd Ynys M么n.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ynys M么n Llinos Medi:

Fel Awdurdod, rydyn ni wedi gweithio gyda鈥檙 cymunedau lleol a鈥檙 rhanddeiliaid i ymateb i鈥檙 heriau sy鈥檔 wynebu Gogledd Ynys M么n ac i ganolbwyntio ein hymdrechion ar gefnogi鈥檙 rhai sydd wedi鈥檜 heffeithio. Lluniwyd y cynllun gan drigolion a busnesau lleol fel rhan o broses ymgynghori fawr.

Mae croeso i鈥檙 cyllid sylweddol sydd wedi鈥檌 roi gan yr ADN a bydd yn galluogi i ni wneud cynnydd gyda rhai o鈥檙 blaenoriaethau allweddol sydd wedi cael eu datgan yn lleol er mwyn helpu i adfywio Gogledd Ynys M么n. Cynhaliwyd y digwyddiad deuddydd i randdeiliaid ychydig filltiroedd o safle Wylfa鈥檙 ADN, hen orsaf b诺er a roddodd y gorau i gynhyrchu trydan bedair blynedd yn 么l ac sydd bellach wrthi鈥檔 cael gwared yn raddol ar ei gweddillion tanwydd cyn symud i鈥檙 cam datgomisiynu llawn.

Ychwanegodd Mr Peattie:

Does dim posib meddwl am leoliad mwy addas i gynnal ein digwyddiad nag yn y Ganolfan Beirianneg fodern yma. Drws nesaf mae鈥檙 Ganolfan Ynni newydd, sy鈥檔 gartref i rai o鈥檙 cyfleusterau hyfforddi egni carbon isel gorau yn unrhyw le yn y DU. Gyda鈥檌 gilydd, maen nhw鈥檔 darparu hyfforddiant ar gyfer pobl ifanc o bob rhan o Ogledd Cymru ar gyfer gyrfaoedd yn y dyfodol mewn ynni adnewyddadwy a sectorau technegol eraill.

Roedden ni鈥檔 hynod falch o allu cefnogi ei datblygiad dros nifer o flynyddoedd gyda bron i 拢4 miliwn o gyllid.

Ychwanegodd bod Wylfa yn awr yn agos at gwblhau ei rhaglen o gael gwared ar danwydd, a ddechreuodd ar 么l i gynhyrchu trydan ddod i ben yno yn 2015 a bydd yn cael gwared ar 99% o鈥檙 peryglon ymbelydrol o鈥檙 safle. Byddai鈥檙 datgomisiynu鈥檔 parhau am flynyddoedd i ddod, a byddai angen sgiliau, nwyddau a gwasanaethau.

Ymhlith yr ymwelwyr roedd cynrychiolwyr o gymunedau ar 17 o safleoedd yr ADN, undebau llafur, rheoleiddwyr a grwpiau ymgyrchu. Roedd them芒u cyflwyniadau鈥檙 diwrnod cyntaf yn cynnwys cynnydd gyda glanhau gwaddol dyddiau cynharaf y diwydiant niwclear yn y DU a chwilio yn y DU am gymuned a fyddai鈥檔 fodlon derbyn safle gwaredu daearegol ar gyfer gwastraff ymbelydrol uwch ei actifedd.

Canolbwyntiodd yr 2il ddiwrnod ar y sgiliau gofynnol i sicrhau bod posib cwblhau鈥檙 gwaith glanhau yn ystod yr amserlen ddisgwyliedig o fwy na 100 mlynedd.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 9 Gorffennaf 2019