Proses symlach newydd ar gyfer gohirio arwystlon
Byddwn bellach yn derbyn llythyr gohirio ar gyfer unrhyw fath o ohiriad arwystl.

Rydym wedi adolygu a symleiddio ein gweithdrefnau ar gyfer cofrestru gohirio arwystl.
Cyn hyn, roedd y drefn fel a ganlyn:
- roedd yn bosibl gohirio un arwystl syml i un arall trwy lythyr
- roedd rhaid gwneud gohiriad mwy cymhleth, er enghraifft gohiriad wedi鈥檌 gyfyngu i werth penodol, trwy weithred
- yn ogystal, roedd gwahanol gofnodion y gofrestr ar gyfer pob math o ohiriad
Gyda鈥檙 drefn newydd, byddwn yn derbyn llythyr gohirio ar gyfer unrhyw fath o ohiriad. Rydym wedi newid cofnodion y gofrestr hefyd. Bydd y rhain yn union yr un fath p鈥檜n ai yw鈥檙 gohiriad yn syml neu鈥檔 gymhleth.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler cyfarwyddyd ymarfer 29: cofrestru arwystlon cyfreithiol a gweithredoedd amrywio arwystl sydd wedi鈥檌 ddiweddaru.
Mae鈥檙 drefn newydd yn berthnasol i bob cais sy鈥檔 cael ei brosesu ar neu ar 么l 10 Awst 2015, beth bynnag oedd dyddiad cyflwyno鈥檙 cais