Neges Blwyddyn Newydd 2015
Ysgrifennydd Gwladol Cymru Stephen Crabb AS yn edrych yn 么l ar 2014 ac ymlaen i 2015.

Bu 2014 yn flwyddyn ardderchog i Gymru 鈥 blwyddyn pryd y dangosodd ein gwlad ei huchelgais, ei hymrwymiad i ragoriaeth a鈥檌 phenderfyniad i lwyddo.
Y llynedd disgleiriodd Cymru ar lwyfan y byd.
Ym mis Gorffennaf, dangosodd ein hathletwyr i鈥檙 byd y doniau rhyfeddol sydd gan Gymru ym maes chwaraeon 鈥 ein llwyddiant mwyaf erioed o ran medalau yng Ngemau鈥檙 Gymanwlad.
Ym mis Medi, rhoddodd uwchgynhadledd Nato gyfle i ni ddangos i arweinwyr byd yr hyn y gallwn ei gyflawni 鈥 a gwnaeth hynny argraff arnynt oll.
A rhoddodd yr uwchgynhadledd fuddsoddi ym mis Tachwedd gyfle i鈥檔 busnesau arloesol ddangos i fuddsoddwyr byd-eang pam fod Cymru鈥檔 lle mor atyniadol i greu swyddi.
Yn 2014, tyfodd economi鈥檙 DU yn gyflymach nag unrhyw economi fawr ddatblygedig arall 鈥 ac mae Cymru wedi bod yn tyfu鈥檔 gyflymach nag unrhyw ran arall o鈥檙 DU.
Ym mhob rhan o Gymru mae busnesau gwych sy鈥檔 cynhyrchu mwy, yn masnachu mwy ac yn creu swyddi i鈥檙 rhai sydd eisiau datblygu eu doniau.
Yn 2015 mae angen i ni adeiladu ar y llwyddiannau hyn, edrych ymlaen at y sialensiau nesaf a chodi鈥檙 bar hyd yn oed yn uwch 鈥 mwy o dwf economaidd, mwy o swyddi a mwy o arian ym mhocedi pobl sy鈥檔 gweithio鈥檔 galed yng Nghymru.
Blwyddyn newydd dda.