Nifer yr aelwydydd heb waith yng Nghymru yn gostwng
Gwelwyd gostyngiad yn nifer yr aelwydydd heb neb yn gweithio ym mhob un ond pedwar o鈥檙 22 awdurdod lleol yng Nghymru rhwng 2012 a 2013.
Yn 么l dadansoddiad a gyhoeddwyd yr wythnos hon gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, gwelwyd y gostyngiadau mwyaf yng nghanran yr aelwydydd heb waith yng Nghaerdydd, Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot; a Chasnewydd, Ynys M么n, Blaenau Gwent a Thorfaen oedd yr unig ardaloedd lle gwelwyd cynnydd.
Mae鈥檙 dadansoddiad hwn yn ymwneud 芒 chyfnod lle鈥檙 oedd 188,000 o aelwydydd heb waith yng Nghymru; fodd bynnag, roedd ystadegau diweddarach a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf yn dangos bod nifer yr 鈥渁elwydydd heb waith鈥 yng Nghymru wedi gostwng 43,000 er Mehefin 2010, i 183,000 erbyn mis Mehefin eleni.
Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae creu swyddi a rhoi boddhad i bobl o ennill cyflog rheolaidd yn rhan o鈥檔 cynllun economaidd hirdymor ar gyfer Cymru. Mae ffigurau鈥檙 wythnos diwethaf yn dangos bod ein cynllun yn gweithio, ond yr hyn sy鈥檔 wir fesur o lwyddiant yw鈥檙 ffaith fod hyn yn digwydd ar hyd a lled y wlad. Er bod rhai ardaloedd lle mae鈥檔 rhaid i ni wneud mwy, mae鈥檙 dadansoddiad o 2013 yn galonogol iawn.
Darllenwch yr ystadegau diweddaraf