Cyhoeddi Canlyniadau Cynllun Peilot Gwrandawiadau A Gynhelir Yn Gyfan Gwbl Drwy Gyswllt Fideo
Roedd defnyddwyr y llys a gymerodd ran yn y gwrandawiadau cyntaf erioed i gael eu cynnal yn gyfan gwbl drwy gyswllt fideo o鈥檙 farn eu bod yn gyfleus ac yn hawdd i鈥檞 deall, yn 么l adroddiad annibynnol a gyhoeddwyd heddiw.

- Profi gwrandawiadau trwy gyswllt fideo am y tro cyntaf fel rhan o raglen 拢1bn diwygio鈥檙 llysoedd
- Nododd y gwerthusiad eu bod yn hawdd i鈥檞 deall a鈥檜 bod wedi cael eu croesawu gan ddefnyddwyr y llys
- Bydd gwelliannau technolegol yn cael eu cyflwyno wrth symud ymlaen
Gan weithio鈥檔 agos 芒鈥檙 farnwriaeth, mi wnaeth y cynllun peilot a oedd yn cynnwys wyth achos, sicrhau bod y gwrandawiadau yn cael eu cynnal fel petaent mewn ystafell llys draddodiadol ac roeddynt yn anelu at brofi profiadau unigolion a鈥檙 gefnogaeth ofynnol fyddai ei hangen yn y dyddiau cynnar.
Cynhaliwyd y cynllun peilot hwn ar raddfa fach yn y tribiwnlys treth haen gyntaf a dyma鈥檙 tro cyntaf i bob parti allu mynychu trwy gyswllt fideo. Cynhaliwyd y gwrandawiadau dros y rhyngrwyd, gyda phob cyfrannwr yn mewngofnodi o leoliad o鈥檜 dewis nhw gan ddefnyddio eu hoffer eu hunain, ac at ddiben y peilot, roedd y barnwr wedi ei leoli yn yr ystafell llys.
Mae gwerthusiad annibynnol a gyhoeddwyd heddiw gan yr Ysgol Economeg yn Llundain, yn dangos bod y peilot yn llwyddiannus ymysg apelyddion a oedd yn croesawu鈥檙 cyfle i beidio 芒 gorfod teithio i ystafell llys - gydag un person sy鈥檔 byw dramor yn nodi ei fod wedi osgoi鈥檙 angen iddynt hedfan i鈥檙 DU ac roedd mam newydd yn croesawu鈥檙 cyfle i allu bod yn bresennol o鈥檌 chartref. Dangosodd yr ymchwil bod unigolion o鈥檙 farn bod y gwrandawiadau yn glir, yn hawdd i鈥檞 dilyn ac yn hawdd i鈥檙 defnyddwyr eu deall.
Dywedodd Lucy Frazer, y Gweinidog Cyfiawnder:
Mae gan wrandawiadau a gynhelir yn gyfan gwbl drwy gyswllt fideo botensial enfawr i鈥檙 rhai hynny sy鈥檔 ei chael hi鈥檔 anodd teithio i ystafell llys ac mae鈥檙 cynllun peilot hwn yn gam cyntaf a groesawir.
Wrth gwrs, rydym o hyd ar gamau cychwynnol profi鈥檙 dechnoleg, ond fe fydd y canfyddiadau yn yr adroddiad hwn yn ein helpu i arwain yr arloesedd angenrheidiol i wneud gwrandawiadau trwy gyswllt fideo yn llwyddiant.
Bydd gwersi nawr yn cael eu dysgu o鈥檙 cynllun peilot yn cynnwys gwneud gwrandawiadau sy鈥檔 gyfan gwbl drwy gyswllt fideo ar gael i fwy o ddefnyddwyr drwy wella鈥檙 cynnyrch technegol; sicrhau bod y dechnoleg yn gadarn a dibynadwy; a sicrhau bod y lefel o gefnogaeth cyn-gwrandawiad yn addas ar gyfer pob cam.
Mae hyn yn rhan o fuddsoddiad 拢1 biliwn y Llywodraeth i foderneiddio鈥檙 gwasanaeth llysoedd, i鈥檞 wneud yn gyflymach, yn fwy syml ac yn haws i bawb gael mynediad ato.
Mae technoleg fideo yn cael ei ddefnyddio yn barod mewn llysoedd troseddol i ganiat谩u rhai dioddefwyr a thystion roi tystiolaeth heb orfod dod wyneb yn wyneb gyda鈥檙 diffynnydd.
Yn dilyn yr adroddiad, bydd GLlTEM yn parhau i weithio gyda鈥檙 farnwriaeth a chynnal cynlluniau peilot eraill yn hwyrach yn y flwyddyn.