Adfywio Ymddiriedolaethau Cymru yn annog ymddiriedolwyr i roi 拢12 miliwn o arian elusennol segur i waith
Mae'r Comisiwn Elusennau a Sefydliad Cymunedol Cymru yn galw ar ymddiriedolwyr i estyn allan am gefnogaeth i ddatgloi asedau segur.

Mae鈥檙 Comisiwn Elusennau, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, wedi lansio Rhaglen Adfywio Ymddiriedolaethau yng Nghymru i ddatgloi hyd at 拢12 miliwn o gronfeydd elusennol segur yng Nghymru. Mae鈥檙 rhaglen yn annog ymddiriedolwyr elusennau segur i ddod ymlaen am gymorth i roi eu cronfeydd elusennol i ddefnydd da.
Bydd y Comisiwn Elusennau a Sefydliad Cymunedol Cymru yn cefnogi ymddiriedolwyr i ryddhau cronfeydd segur, gan ail-ddosbarthu鈥檙 rhain at achosion da ar draws y wlad drwy Sefydliad Cymunedol Cymru. Fel arall, bydd y Comisiwn yn cefnogi ymddiriedolwyr i roi bywyd newydd i鈥檙 elusen, er enghraifft drwy newid eu pwrpas elusennol.
Dylai ymddiriedolwyr elusen sy鈥檔 ei chael hi鈥檔 anodd recriwtio ymddiriedolwyr newydd, defnyddio incwm neu asedau鈥檙 elusen, nodi buddiolwyr, neu ddod o hyd i amser i redeg yr elusen gysylltu 芒鈥檙 t卯m Adfywio Ymddiriedolaethau am gefnogaeth. Mae hyn yn cynnwys elusennau sydd heb wario unrhyw arian yn y pum mlynedd ddiwethaf, neu sydd wedi gwario llai na 30% o鈥檌 hincwm yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf.
Mae鈥檔 bosib bod ymddiriedolwyr eisoes wedi derbyn llythyr gan y Comisiwn yn eu hannog i ofyn am gymorth i wario arian segur. Mae鈥檙 rhaglen yn annog pob ymddiriedolwr i ystyried a allai rhaglen Adfywio Ymddiriedolaethau helpu eu helusen i wireddu ei photensial.
Yn 么l Tracy Howarth, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwaith Achos yn y Comisiwn Elusennau:
Yn yr hinsawdd economaidd bresennol, yn dilyn y pandemig ac yn ystod argyfwng costau byw, mae鈥檔 bwysicach nag erioed bod cronfeydd elusennol yn cael eu defnyddio i鈥檞 llawn botensial, i helpu gwella bywydau ac i gryfhau cymunedau.
Rydym yn gwybod fod gan ymddiriedolwyr y bwriadau gorau, ond weithiau mae鈥檔 anoddach trawsnewid y momentwm hwn i weithredu yn y tymor hir, neu mae elusennau鈥檔 gweld eu bod wedi rhedeg eu cwrs. Drwy Adfywio Ymddiriedolaethau Cymru, rydym am helpu ymddiriedolwyr i roi鈥檙 arian sy鈥檔 cael ei godi i ddefnydd da, i wneud gwahaniaeth gwirioneddol a chadarnhaol i鈥檙 rhai sydd ei angen fwyaf.
Os ydych chi鈥檔 meddwl y gallai eich elusen chi elwa o gefnogaeth i wario ei chronfeydd, cysylltwch 芒 ni a byddwn yn eich helpu i gyfrifo鈥檙 camau nesaf gorau i鈥檆h elusen.
Dywedodd Richard Williams, Prif Weithredwr Sefydliad Cymunedol Cymru:
Rydym yn sylweddoli y gallai derbyn llythyr gan y rheoleiddiwr elusennau achosi pryder i ymddiriedolwyr, ond dyma le gall Sefydliad Cymunedol Cymru helpu a chefnogi. Nid oes unrhyw reswm i hyn fod yn straen, gall fod yn brofiad cadarnhaol iawn i鈥檙 ymddiriedolwyr a鈥檜 cymuned. Gallwn helpu鈥檙 Ymddiriedolwyr i newid pwrpas elusennol yr ymddiriedolaeth neu trwy ryddhau arian segur a鈥檜 hailddosbarthu i gymunedau ledled Cymru. Rydym yn gwybod bod Ymddiriedolwyr yn poeni am gronfeydd segur. Gallwn eu helpu drwy鈥檙 rhaglen hon i sicrhau eu bod yn gweithredu o fewn y gyfraith Elusennau a bod eu cymunedau yn elwa fel yr oedd bwriad gwreiddiol i鈥檞 cronfeydd.
Fel rhan o raglen Adfywio Ymddiriedolaethau, mae Sefydliad Cymunedol Cymru a鈥檙 Comisiwn Elusennau yn cefnogi Ymddiriedolwyr elusen T D Jones (Llanfair Clydogau), sy鈥檔 rheoli cronfa addysg ger Llanbedr Pont Steffan.
Cefnogwyd yr Ymddiriedolwyr i ehangu cwmpas y gronfa a鈥檌 throsglwyddo i Sefydliad Cymunedol Cymru. Mae鈥檙 arian hwn bellach yn cael ei roi at ddefnydd elusennol.
Dywedodd Paula Barker, Ymddiriedolwr T D Jones (Llanfair Clydogau):
Fel llawer o eglwysi pentref bach, mae cynulleidfa ein un ni wedi lleihau. Fel ysgrifennydd a warden yr eglwys, ymhlith y problemau niferus oedd swm o arian elusennol wedi ei adael i ddarparu llyfrau i blant yr ysgol Sul. Roedd y gwrthrychau wedi eu newid er mwyn caniat谩u cymorth i blant yr ysgol leol, ond nid oedd ymddiriedolwyr yr elusen bellach mewn sefyllfa i weithredu ac nid oedd unrhyw arian wedi鈥檌 ddosbarthu.
Gyda rhywfaint o ryddhad y cawsom wybodaeth am Raglen Adfywio Ymddiriedolaethau. Roedd yn ymddangos yn eithaf brawychus i ddechrau a鈥檙 broblem gyntaf oedd olrhain y llofnodwyr cywir ar gyfer y gwaith papur. Fodd bynnag, fe wnaeth Laura Cameron Long, Rheolwr y Rhaglen yn UKCF, fy arwain drwy bob cam o鈥檙 ffordd. Profwyd nad oedd anhawster o gwbl ac fe aeth yr holl broses o drosglwyddo鈥檙 arian i Sefydliad Cymunedol Cymru heb broblem.
Yr agwedd fwyaf foddhaol o hyn yw bod yr arian bellach o gymorth gwirioneddol lle bo angen ac rydym yn teimlo鈥檔 sicr y byddai鈥檙 rhoddwr gwreiddiol yn cymeradwyo hynny.
Mae Adfywio Ymddiriedolaethau Cymru yn dilyn llwyddiant ymgyrch debyg yn Lloegr, lle mae bron i 拢80 miliwn wedi cael ei ailddosbarthu i brosiectau lleol, er mwyn sicrhau ei fod yn llwyddo i gael y budd cyhoeddus mwyaf posib.
ENDS
Nodiadau i Olygyddion
- Y Comisiwn Elusennau yw鈥檙 adran annibynnol, llywodraeth anweinidogol sy鈥檔 cofrestru ac yn rheoleiddio elusennau yng Nghymru a Lloegr. Ei bwrpas yw sicrhau bod elusen yn gallu ffynnu ac ysbrydoli ymddiriedaeth fel y gall pobl wella bywydau a chryfhau cymdeithas.
- Mae Sefydliad Cymunedol Cymru yn ysbrydoli pobl i roi, yn helpu cymunedau Cymru i ffynnu ac i newid bywydau gyda鈥檌 gilydd. Ers dros ugain mlynedd, mae Sefydliad Cymunedol Cymru wedi bod yn cefnogi elusennau a grwpiau cymunedol gydag arian i gryfhau cymunedau ar draws Cymru. Drwy gydweithio gyda鈥檔 rhoddwyr a鈥檔 partneriaid, rydym yn defnyddio ein gwybodaeth arbenigol am anghenion cymunedau yng Nghymru i ddod o hyd i brosiectau sy鈥檔 creu newid cadarnhaol a鈥檜 hariannu.
- Mae mwy o wybodaeth am Raglen Adfywio Ymddiriedolaethau ar gov.uk.