Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar ei ymweliad cyntaf 芒 gogledd Cymru
Ar ei ymweliad swyddogol cyntaf 芒 gogledd Cymru, bydd Stephen Crabb AS yn ymweld ag Airbus ym Mrychdyn a Magellan Aerospace (UK) Limited yn Wrecsam.
Wrth siarad cyn ei ymweliad, meddai:
Mae鈥檙 Llywodraeth hon yn deall cyfraniad allweddol gogledd Cymru at economi Cymru a鈥檌 r么l bwysig wrth sicrhau llwyddiant ein cynllun economaidd hirdymor.
Fel yr Ysgrifennydd newydd dros Gymru, byddaf yn manteisio ar bob cyfle i hyrwyddo gogledd Cymru; boed hynny drwy wneud gwelliannau parhaus i seilwaith y rhanbarth, sicrhau buddsoddiad newydd, neu hybu diwydiannau amrywiol gogledd Cymru a鈥檙 gweithlu hynod fedrus yno.
Dywedodd fod y cyhoeddiad diweddar am wario 拢10.4 miliwn i uwchraddio rheilffordd Halton Curve a鈥檙 cytundeb gwerth 拢1.2 miliwn i roi hwb i wasanaethau Arriva Trains yn rhai o鈥檙 enghreifftiau diweddaraf o gydnabyddiaeth y Llywodraeth i bwysigrwydd economaidd gogledd Cymru.
Mae Mr Crabb hefyd yn manteisio ar ei ymweliad swyddogol cyntaf 芒 gogledd Cymru i dynnu sylw at y ffaith bod y rhanbarth yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer y meysydd awyrofod a pheirianneg amddiffyn, gan gymeradwyo sgiliau, talentau a galluoedd y gweithlu yn y sector hwn.
Meddai:
Y diwydiant awyrofod yng ngogledd Cymru yw鈥檙 bluen yn het economi Cymru. Yn dilyn cyhoeddiad ddoe bod Airbus Brychdyn yn bwrw ymlaen ag archebion ar gyfer yr awyren A330neo, mae hyn yn ategu鈥檙 swyddogaeth allweddol y mae鈥檙 diwydiant hwn yn ei chwarae yn economi Cymru ac economi鈥檙 DU yn ehangach.
Bydd adenydd yr awyren A330neo yn cael eu cynhyrchu yn ffatri Airbus ym Mrychdyn, gogledd Cymru, sy鈥檔 cyflogi 6,000 o bobl.
Meddai:
Rydw i hefyd yn edrych ymlaen at gyfarfod 芒 rhai o鈥檙 bobl ifanc sy鈥檔 cymryd rhan yn rhaglen brentisiaeth newydd Airbus Brychdyn, i weld 芒鈥檓 llygaid fy hun sut mae鈥檙 rhaglen hon yn datblygu gweithlu medrus a chynaliadwy i鈥檙 dyfodol.
Dywedodd Steve Crawford, Pennaeth Adenydd Awyrennau Teithiau Hir yn Airbus:
Mae llwyddiant diweddar Airbus yn Farnborough, yn cynnwys lansio鈥檙 A330neo yr wythnos diwethaf gyda dros 120 o ymrwymiadau gan gwmn茂au awyrennau, yn nodi cychwyn pennod gyffrous arall yn hanes ffatri Brychdyn a gweithgynhyrchu yn y DU.
Rydym wrth ein bodd o groesawu Ysgrifennydd Gwladol Cymru i鈥檔 cyfleuster o鈥檙 radd flaenaf er mwyn iddo weld 芒鈥檌 lygaid ei hun pa mor bwysig yw鈥檙 sector awyrofod yng Nghymru.
Er mwyn tynnu sylw at bwysigrwydd y gadwyn gyflenwi yn y diwydiant awyrennau yng ngogledd Cymru, bydd Mr Crabb hefyd yn ymweld 芒 Magellan Aerospace (UK) yn Wrecsam, sy鈥檔 cyflenwi cydrannau strwythurol awyrofod i Airbus.
Meddai Adrian Young, Rheolwr Gweithrediadau Magellan Aerospace (UK) Limited:
Rydw i wrth fy modd bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi gweld yn dda i ddod draw i鈥檔 gweld yn Wrecsam. Mae鈥檙 busnes hwn yn Wrecsam wedi ehangu鈥檔 sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf ac rydym nawr yn cyflogi dros 400 o bobl.
Rwy鈥檔 falch o gael y cyfle i ddangos i Ysgrifennydd Gwladol Cymru beth allwn ni ei wneud a chael ei gefnogaeth ar gyfer ein cynlluniau i fuddsoddi mewn pobl ac offer yn y dyfodol.
Mae鈥檙 diwydiant awyrofod yn cyflogi dros 23,000 o bobl mewn 130 o gwmn茂au yng Nghymru. Disgwylir y bydd y diwydiant, ledled y DU, yn tyfu ar gyfradd o 6.8% dros y blynyddoedd nesaf. Dywedodd Mr Crabb fod y Llywodraeth yn ymroddedig i sicrhau bod y DU yn parhau i fod yn geffyl blaen ym maes gweithgynhyrchu ar gyfer y diwydiant awyrofod yn Ewrop. Pwysleisiodd y byddai Llywodraeth y DU yn ymladd am bob contract ar bob cyfle posib, gan weithio ar y cyd 芒鈥檙 diwydiant i fanteisio i鈥檙 eithaf ar y potensial anferth am dwf.