Ysgrifennydd Gwladol Cymru: Rhoi busnesau wrth wraidd ein cynllun economaidd hirdymor
Bydd Stephen Crabb yn dweud wrth arweinwyr busnes sut mae llywodraeth y DU yn helpu economi Cymru i ddenu buddsoddiadau a chreu swyddi.

Cyn Uwchgynhadledd Fuddsoddi鈥檙 DU yr wythnos hon, bydd Stephen Crabb yn annerch cynulleidfa sy鈥檔 cynnwys arweinwyr busnes o amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys gweithgynhyrchu, peirianneg ac awyrofod, yng nghinio鈥檙 CBI yn Llundain heno (17 Tachwedd).
Bydd Stephen Crabb yn dweud:
Rydyn ni wedi gwneud busnesau鈥檔 rhan greiddiol o鈥檔 cynllun economaidd hirdymor ar gyfer Cymru.
Gan fod 23,000 o swyddi newydd wedi鈥檜 creu yn y sector preifat yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf, mae鈥檔 amlwg fod y cynllun yn gweithio.
Rwy鈥檔 credu mai鈥檙 ffordd orau i gefnogi busnesau yw drwy wneud y DU yn fwy cystadleuol. Bydd y gostyngiad yn y dreth gorfforaeth i 20 y cant y flwyddyn nesaf yn golygu mai cyfradd y DU fydd yr isaf yn y G20.
Rydyn ni wedi rhoi Lwfans Cyflogaeth o 拢2,000 i bob cwmni, sy鈥檔 golygu bod 35,000 o fusnesau yng Nghymru wedi elwa, ac rydyn ni鈥檔 eithrio 20,000 rhag talu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn gyfan gwbl.
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddileu neu wella dros 3,000 o reoliadau, gan arbed dros 拢850 miliwn i fusnesau bob blwyddyn.
Byddaf yn dal ati i gefnogi mesurau sy鈥檔 annog busnesau i fuddsoddi a thyfu er mwyn iddyn nhw allu creu rhagor o swyddi a rhoi sicrwydd cyflog rheolaidd i ragor o bobl yng Nghymru.
Mae gen i uchelgais i Gymru, ac rwy鈥檔 benderfynol o roi cyfle i bobl Cymru lwyddo, fel y maen nhw鈥檔 ei haeddu.
Bydd dros 150 o arweinwyr busnes yn dod i Uwchgynhadledd Fuddsoddi鈥檙 DU yng Nghasnewydd, Cymru ar 20-21 Tachwedd 2014.
Bydd yr Uwchgynhadledd yn cyflwyno Cymru fel canolfan ragoriaeth yn y DU o ran technolegau arloesol, a bydd yn cryfhau sefyllfa Cymru fel cyrchfan bwysig ar gyfer buddsoddiadau o dramor yn y DU.
Rhagor o wybodaeth;