Anfonwch eich ceisiadau post a gohebiaeth i'r cyfeiriad cywir
Os ydych yn defnyddio'r cyfeiriad anghywir gall effeithio ar flaenoriaeth eich cais.

O 1 Medi, bydd unrhyw bost a anfonwch i鈥檔 cyn ganolfan sganio yn Coventry yn cael ei ddychwelyd atoch. Gall hyn effeithio ar flaenoriaeth eich ceisiadau.
Yn Ebrill, cyhoeddwyd ein bod yn symud ein canolfan sganio o Coventry i Gaerloyw a rhoddwyd manylion am y cyfeiriadau newydd. Rydym wedi bod yn sganio post yn ein canolfan sganio yng Nghaerloyw er 27 Mai.
O 1 Medi, bydd ein cyn ganolfan sganio yn Coventry yn troi鈥檔 ysgol leol felly ni fyddwn yn gallu ailgyfeirio unrhyw bost a anfonir yno mwyach.
Gwnewch yn siwr eich bod yn defnyddio鈥檙 cyfeiriad cywir i anfon eich post i鈥檔 canolfan sganio yng Nghaerloyw, oni bai ei fod wedi鈥檌 gynnwys o fewn un o鈥檙 categor茂au hyn o eithriadau:
- ceisiadau ar gyfer Pridiannau Tir, Credydau Amaethyddol, cofrestru Methdaliad, neu os ydych yn dwyn achos cyfreithiol yn erbyn y Gofrestrfa Tir. Rhaid anfon y rhain i鈥檙 cyfeiriad eithriadau perthnasol
- os ydym wedi cytuno i dderbyn eich Cofrestriadau Cyntaf mewn cyfeiriad penodedig arall, dylech barhau i anfon y Cofrestriadau Cyntaf i鈥檙 cyfeiriad hwnnw
Rhag ofn nad ydych wedi diweddaru鈥檙 cofnodion cyfeiriadau sydd gennych ar ein cyfer eto, dyma鈥檙 manylion cyfeiriad ar gyfer y ganolfan sganio yng Nghaerloyw:
Cyfeiriad DX cwsmeriaid busnes:
Land Registry
(nodwch enw swyddfa eich t卯m cwsmeriaid. Os nad oes gennych d卯m cwsmeriaid, nodwch enw eich swyddfa agosaf)
DX 321601
Gloucester 33
Cyfeiriad Post Brenhinol cwsmeriaid busnes:
Land Registry
(nodwch enw swyddfa eich t卯m cwsmeriaid. Os nad oes gennych d卯m cwsmeriaid, nodwch enw eich swyddfa agosaf)
PO Box 75
Gloucester
GL14 9BD
Cyfeiriad cwsmeriaid sy鈥檔 ddinasyddion:
Land Registry Citizen Centre
PO Box 74
Gloucester
GL14 9BB
Rydym wedi bod yn sganio ceisiadau o safle canolog er Ionawr 2015 a newidiwyd ein cyfeiriad canolog ar ddiwedd Mai 2016.
Erbyn hyn rydym yn prosesu鈥檙 rhan fwyaf o鈥檔 gwaith yn electronig felly gallwn ei gyfeirio鈥檔 hawdd i鈥檙 lle gorau i鈥檞 brosesu a pharatoi鈥檔 well ar gyfer y gwasanaethau digidol newydd rydym yn eu datblygu.
Mae ein E-wasanaethau busnes yn cynnig dewis ar-lein i gwsmeriaid busnes ar gyfer bron pob peth a wneir ganddynt trwy鈥檙 post. Rydym yn argymell eu bod yn anfon ceisiadau atom ar-lein pan fo鈥檔 bwysig cael blaenoriaeth ar ein rhestr ddydd.