Datganiad i'r wasg

Lansio cronfa cychwyn busnes ar gyfer gweithwyr dur Port Talbot

Gall gweithwyr dur o Gymru a鈥檜 teuluoedd gael mynediad at gronfa o 拢13 miliwn sydd newydd ei dyrannu gan Fwrdd Pontio Tata Steel/Port Talbot.

  • Cronfa grant newydd i helpu gweithwyr a鈥檜 teuluoedd i sefydlu eu busnesau eu hunain.
  • Bydd yr 拢13m a neilltuwyd gan y Bwrdd Pontio hefyd ar gael i gefnogi busnesau lleol i dyfu ac arallgyfeirio.
  • Mae鈥檙 ymrwymiad yn rhan o鈥檙 拢26.5m a gyhoeddwyd o fewn pedwar mis gan y Llywodraeth sy鈥檔 rhan o鈥檙 拢80 miliwn yn y Gyllideb i ariannu鈥檙 Bwrdd Pontio鈥檔 llawn ac i gefnogi gweithwyr.

Bydd gweithwyr dur a鈥檜 teuluoedd yn ardal Port Talbot yn cael cymorth i ddechrau busnesau newydd drwy gronfa newydd gwerth miliynau o bunnoedd a lansiwyd gan Lywodraeth y DU.

Mae Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens, wedi cyhoeddi cronfa arall gwerth 拢13m gan Fwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot i ddarparu grantiau nad oes rhaid eu had-dalu gwerth hyd at 拢10,000 i weithwyr, teuluoedd a busnesau sydd wedi鈥檜 heffeithio ar 么l i鈥檙 ffwrneisi chwyth gau.

Yn ogystal 芒鈥檙 gronfa dechrau busnes, bydd dau gynllun cymorth newydd arall yn cael eu hariannu gan yr 拢13m nesaf, sy鈥檔 targedu cwmn茂au yn ardal Port Talbot a busnesau yng nghadwyn gyflenwi Tata, gyda grantiau nad oes rhaid eu had-dalu o 拢2,500-拢250,000.

Dyma鈥檙 ail gyhoeddiad am gyllid ac mae鈥檔 dilyn yr 拢13.5 miliwn a gyhoeddwyd ym mis Awst i gefnogi busnesau yn y gadwyn gyflenwi i chwilio am farchnadoedd newydd ac i roi cyfle i weithwyr yr effeithir arnynt i ail-hyfforddi.聽

Gwnaeth Ysgrifennydd Cymru y cyhoeddiad ar 么l cadeirio ei thrydydd cyfarfod fel cadeirydd y Bwrdd Pontio yn gynharach yr wythnos hon (dydd Iau 14 Tachwedd).聽聽

Mae tair elfen i鈥檙 gronfa newydd a lansiwyd gan Ysgrifennydd Cymru:

  • Cronfa dechrau busnes聽a fydd yn galluogi gweithwyr Tata Steel, aelodau agos o鈥檜 teuluoedd, a phobl yn y gadwyn gyflenwi i dderbyn cymorth ac arweiniad, ac i gael gafael ar grant. Bydd pobl sy鈥檔 awyddus i sefydlu cwmn茂au newydd, megis cwmn茂au plymio, trydanol neu dechnoleg, yn gallu cael grantiau nad oes rhaid iddynt eu had-dalu o hyd at聽拢10,000.聽聽

  • Cronfa tyfu busnes聽i gefnogi cwmn茂au sydd eisoes wedi鈥檜 sefydlu ac sy鈥檔 ceisio tyfu yn yr economi leol. Bydd grantiau ar gael rhwng聽拢25,001聽a聽拢250,000聽wedi鈥檜 teilwra i anghenion penodol pob busnes.聽

  • Cronfa cadernid busnes聽sy鈥檔 darparu cymorth wedi鈥檌 dargedu i fusnesau lleol y mae鈥檙 newidiadau parhaus yn Tata Steel yn effeithio arnynt er mwyn arallgyfeirio i farchnadoedd newydd, creu swyddi newydd a dod o hyd i gyfleoedd mewn sectorau newydd, fel ynni carbon isel. Mae鈥檙 gronfa ar gael i fusnesau bach, fel caffis neu siopau lleol, neu i gwmn茂au mwy fel cwmn茂au adeiladu sydd wedi cael eu taro gan y newidiadau yn Tata Steel, gyda grantiau鈥檔 amrywio o聽拢2,500聽i聽拢25,000.

Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Cymru:聽聽

Fel llywodraeth, rydyn ni鈥檔 benderfynol bod y Bwrdd Trawsnewid yn darparu ar gyfer gweithwyr dur Port Talbot, ar gyfer busnesau鈥檙 rhanbarth ac ar gyfer y gymuned. 聽

Mae鈥檔 gyfnod anodd iawn o hyd i weithwyr ym Mhort Talbot a鈥檜 teuluoedd. Bydd gan lawer ohonynt ddyheadau i sefydlu eu busnesau eu hunain neu ddod yn hunangyflogedig a bydd yr 拢13m a ryddhawyd heddiw yn eu helpu i wireddu eu cynlluniau.

Fe wnaethon ni ddweud y bydden ni鈥檔 cefnogi gweithwyr a busnesau y mae鈥檙 newidiadau ym Mhort Talbot wedi effeithio arnyn nhw, ac rydyn ni wedi rhyddhau dros 拢26m ers mis Gorffennaf er mwyn gwneud hynny.鈥澛犅

Dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Economi, Ynni a Chynllunio:

Rydyn ni鈥檔 parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU a phartneriaid lleol i sicrhau bod ein cymorth sydd wedi鈥檌 dargedu yn cael yr effaith gadarnhaol fwyaf a dwysaf ar y rheini sydd wedi cael eu taro gan y symudiad i ffwrnais arc drydan ym Mhort Talbot.

Wrth siarad 芒 llawer o bobl yn y gymuned leol, rwy鈥檔 gwybod faint o wahaniaeth y bydd ymestyn y cyllid sydd ar gael i deuluoedd yn ei wneud. Mae hyn yn rhan o鈥檔 hymrwymiad i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi busnesau, aelwydydd a chymunedau i gael eu traed tanynt unwaith eto a sicrhau bod Port Talbot a鈥檙 ardal gyfagos yn parhau 芒鈥檌 hanes balch fel elfen allweddol o economi Cymru.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Steve Hunt:聽

Rwy鈥檔 croesawu鈥檔 fawr y cyhoeddiad am y pecynnau ariannu hyn i gefnogi busnesau newydd a busnesau sy鈥檔 bodoli eisoes ar draws ein cymuned. Mae鈥檙 gwaith dur wedi bod yn gonglfaen i鈥檔 heconomi ers dros ganrif ac felly mae newidiadau ar y raddfa hon yn effeithio nid yn unig ar weithwyr Tata Steel yn uniongyrchol ond ar lawer o gwmn茂au eraill sydd 芒 chysylltiad agos.聽

Bydd dur yn parhau i fod yn bwysig iawn i Port Talbot yn y dyfodol, ond mae hefyd yn hanfodol ein bod ni, fel Bwrdd Pontio, yn galluogi mentrau ar draws amrywiaeth o sectorau i ymateb i鈥檙 amgylchiadau presennol ac i gyfleoedd fel y Porthladd Rhydd Celtaidd

Yn ogystal 芒 chyhoeddi鈥檙 ddau floc cyntaf o gyllid, cadarnhaodd Llywodraeth y DU yng Nghyllideb yr Hydref ei bod wedi gwarchod 拢80 miliwn i ariannu鈥檙 Bwrdd Pontio.聽

Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi ail-sefydlu鈥檙 berthynas gyda Llywodraeth Cymru, yn ogystal 芒鈥檙 berthynas gydag undebau a phartneriaid lleol eraill, i weithio gyda鈥檌 gilydd i gyflawni ar gyfer y gweithwyr y mae hyn yn effeithio arnynt.聽聽聽聽

DIWEDD

NODIADAU I OLYGYDDION

  • Mae Llywodraeth y DU yn darparu cronfa gymorth gwerth 拢80 miliwn drwy鈥檙 Bwrdd Pontio trawslywodraethol i gefnogi gweithwyr a busnesau sydd wedi鈥檜 heffeithio gan benderfyniad Tata Steel i gynhyrchu dur yn fwy gwyrdd.

  • Mae鈥檙 hwb gwybodaeth digidol, sy鈥檔 cyfeirio gweithwyr a busnesau yr effeithiwyd arnynt at gymorth, ar gael yn聽

  • Gall busnesau ac unigolion gofrestru diddordeb yn y cronfeydd neu anfon unrhyw ymholiadau i鈥檙 cyfeiriad e-bost canlynol:聽tsukqueries@npt.gov.uk

  • Bydd rhagor o fanylion am gymhwysedd a sut i wneud cais am yr arian newydd yn cael eu cyhoeddi maes o law.

  • Ym mis Medi 2023, cyhoeddodd Tata Steel gynigion i fuddsoddi 拢1.25 biliwn, gan gynnwys grant gan Lywodraeth y DU gwerth hyd at 拢500 miliwn, i alluogi cynhyrchu dur yn fwy gwyrdd ym Mhort Talbot.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 16 Tachwedd 2024