Datganiad ar ran Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot
Cynhaliwyd cyfarfod o Fwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot ar 26 Mehefin 2025.

Yn ei r么l fel Cadeirydd y Bwrdd Pontio ceisiodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Gwir Anrhydeddus Jo Stevens AS gymeradwyaeth y Bwrdd ar gyfer datblygu Cronfa Twf Economaidd a Buddsoddiad 拢11.67 miliwn. Darperir 拢6.67 miliwn gan Lywodraeth y DU a 拢5 miliwn gan Tata Steel UK. Mae鈥檙 cyllid ar y cyd hwn yn anelu i roi hwb i fuddsoddiad busnes mewnol yn y rhanbarth ac i gefnogi twf hirdymor drwy gefnogi busnesau a helpu i greu swyddi newydd.聽 Cynhelir cyfnod o ymgysylltu i lunio鈥檙 gronfa yn ystod yr wythnosau nesaf, gyda鈥檙 gronfa鈥檔 mynd yn fyw yn yr hydref.聽聽
Mae rhyddhau鈥檙 arian heddiw yn nodi dyraniad llawn o gyfraniad 拢80 miliwn Llywodraeth y DU o gronfa Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot. Mae鈥檙 cyllid hwn wedi鈥檌 ddarparu o fewn blwyddyn, gan ddangos ymrwymiad clir y Llywodraeth hon i鈥檙 gymuned yr effeithiwyd arni drwy Tata Steel UK yn symud i gynhyrchu dur mwy gwyrdd. Rydym eisoes yn gweld effaith gadarnhaol y buddsoddiad hwn ar y sawl yr effeithiwyd arnynt.聽 Bydd y Bwrdd yn parhau i fonitro cynnydd y cronfeydd ac yn sicrhau bod y gefnogaeth gywir yn parhau i gael ei gweinyddu i鈥檙 rhanbarth.聽聽
Derbyniodd y Bwrdd ddiweddariadau hefyd ar:
- Raglen ddatgarboneiddio Tata Steel UK;
- Cynlluniau鈥檙 Adran Busnes a Masnach ar gyfer strategaeth ddur;
- Iechyd meddwl a lles;
- Cronfeydd y Bwrdd Pontio a gyhoeddwyd eisoes.
Roedd y sawl oedd yn bresennol yn cynnwys: Y Gwir Anrhydeddus Jo Stevens AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru; Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a聽 Chynllunio yn Llywodraeth Cymru; Alex Norris AS, Is-ysgrifennydd Seneddol MHCLG; Cyng Steven Hunt, Arweinydd Cyngor Nedd Port Talbot; Frances O鈥橞rien, Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Nedd Port Talbot; Rajesh Nair, Prif Swyddog Gweithredol Tata Steel UK; Chris Jaques, Prif Swyddog AD, Tata Steel UK; Stephen Kinnock, AS Aberafan Maesteg; David Rees, AS Aberafan; Tom Giffard, AS a Luke Fletcher AS ar gyfer rhanbarth De Orllewin Cymru; Anne Jessopp CBE, Sarah Williams-Gardener a Katherine Bennett CBE, aelodau annibynnol o鈥檙 Bwrdd; Alun Davies, Swyddog Cenedlaethol Dur a Metel, Undeb Community; Tom Hoyles, Swyddog Gwleidyddiaeth, y Wasg ac Ymchwil, GMB Cymru a Jason Bartlett, Swyddog Rhanbarthol Unite the Union Cymru.