Datganiad i'r wasg

Stephen Crabb: Y Llywodraeth yn cefnogi 35,000 o gyflogwyr yng Nghymru gan ddefnyddio鈥檙 cynllun Lwfans Cyflogaeth

Mae 35,000 o gyflogwyr yng Nghymru yn elwa o Lwfans Cyflogaeth Llywodraeth y DU; yn 么l y ffigurau swyddogol a gyhoeddwyd heddiw (7 Tachwedd).

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Ers i鈥檙 cynllun gael ei gyflwyno fis Ebrill eleni, mae 72% o鈥檙 cyflogwyr cymwys yng Nghymru yn manteisio ar y cyfle; yn y pedwerydd safle ymhlith yr 11 o weinyddiaethau a rhanbarthau datganoledig sydd yn y DU. Roedd cyfradd hawlio Cymru o 72% hyd yn oed yn fwy na chymedr cenedlaethol y DU o 68%

Mae鈥檙 Lwfans Cyflogaeth yn cynnig cyfle i鈥檙 cyflogwyr leihau eu bil Yswiriant Cenedlaethol i鈥檞 cyflogeion o bron i 拢2,000.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb:

Mae鈥檙 Llywodraeth hon yn cefnogi busnesau Cymru ac mae鈥檙 lwfans cyflogaeth yn gymhelliant enfawr iddynt gyflogi mwy o bobl, gwella eu swyddfeydd ac elwa o amrywiaeth o gyfleoedd eraill na fyddant yn gallu eu fforddio fel arall efallai.

Mae鈥檙 Lwfans Cyflogaeth yn gwobrwyo pobl sy鈥檔 berchen ar fusnesau bychain ac sy鈥檔 gweithio鈥檔 galed drwy leihau eu bil yswiriant cenedlaethol ac yn galluogi iddynt ehangu. Mae hyn i gyd yn rhan o鈥檔 cynllun economaidd tymor hir i greu swyddi, cael gwaith i fwy o bobl a helpu pobl sy鈥檔 gweithio鈥檔 galed i ofalu am eu teuluoedd

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 7 Tachwedd 2014