Datganiad i'r wasg

Stephen Crabb AS yn cael ei benodi yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Mr Crabb: "Mae'n fraint ymuno 芒'r Cabinet fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru."

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Secretary of State for Wales Stephen Crabb

Mae鈥檙 Prif Weinidog wedi cyhoeddi heddiw (15 Gorffennaf) bod Stephen Crabb AS wedi cael ei benodi yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Yn ei swydd newydd, bydd Mr Crabb yn gyfrifol am gynrychioli buddiannau Cymru yn San Steffan.

Mr Crabb fydd 17fed Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ac yntau wedi bod yn Is-ysgrifennydd Seneddol ar gyfer Swyddfa Cymru.

Dywedodd Mr Crabb:

Mae鈥檔 fraint enfawr ymuno 芒鈥檙 Cabinet fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Fel llywodraeth rydym yn uchelgeisiol ar gyfer Cymru ac yn benderfynol y dylai Cymru fod ar y blaen yn adferiad economaidd y DU.

Byddaf yn gweithio鈥檔 agos gyda fy nghydweithwyr yn llywodraethau鈥檙 DU a Chymru i weld cyfleoedd newydd yn cael eu creu i Gymru. Mae ar bobl a busnesau ledled Cymru eisiau gweld y ddwy lywodraeth yn cydweithio鈥檔 effeithiol ac yn sicrhau鈥檙 buddsoddiad sydd ei angen ar ein cenedl. Crefaf fod Cymru鈥檔 haeddu鈥檙 gorau ac rwyf yn edrych ymlaen at ddarparu llais cryf i Gymru o amgylch bwrdd y Cabinet.

Byddaf yn adeiladu ar waith rhagorol fy rhagflaenydd, David Jones, a gyflawnodd cymaint yn ystod ei gyfnod fel Ysgrifennydd Cymru. Mae鈥檔 gadael etifeddiaeth gryf i Gymru, gan gynnwys torri tir newydd yn y setliad datganoli drwy ddatganoli pwerau treth i Gymru.

Bu hefyd yn gweithio鈥檔 galed i sicrhau buddsoddiad newydd i鈥檙 orsaf b诺er niwclear newydd yn Wylfa, y carchar newydd yn Wrecsam ac ailagor rheilffordd Halton Curve rhwng Lerpwl a Gogledd Cymru.

Mae鈥檔 anrhydedd enfawr gan mai fi yw Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru o sir Benfro ers Nick Edwards yn yr 1980au. Mae gennyf gyfle nawr i weithio鈥檔 galed dros Gymru gyfan yn yr un ffordd ag rwyf wedi ceisio ei wneud ar gyfer sir Benfro.

Blaenoriaeth gyntaf unrhyw AS, ni waeth beth yw ei sefyllfa yn y llywodraeth, yw rhoi anghenion eu hetholwyr yn gyntaf a byddaf yn gwneud hyn bob tro ar gyfer Preseli Sir Benfro.

Cefndir:

  • Cafodd Mr Crabb ei ethol yn AS yn etholaeth ei gartref Preseli Sir Benfro yn 2005.
  • Cafodd ei benodi i鈥檙 fainc flaen fel Chwip yr Wrthblaid yn 2009 ac wedyn yn Chwip Llywodraeth Cynorthwyol yn 2011. Mae wedi gwasanaethu ar y Pwyllgorau Materion Cymreig, Datblygu Rhyngwladol a Phwyllgor Dethol y Trysorlys.
  • Cyn cael ei ethol i鈥檙 Senedd, bu Mr Crabb yn gweithio fel ymgynghorydd marchnata. Mae hefyd wedi gweithio i Gyngor Cenedlaethol Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol, ac i Siambr Fasnach a Diwydiant Llundain.
  • Bu Mr Crabb yn Ysgol Tasker Milward yn Sir Benfro ac mae ganddo raddfeydd o Brifysgol Bryste (BSc) ac Ysgol Fusnes Llundain (MBA).
  • Cafodd ei fagu yn Hwlffordd, sir Benfro. Mae鈥檔 briod 芒 B茅atrice, ac mae ganddo ddau o blant ifanc.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 15 Gorffennaf 2014