Stephen Crabb: Cymru wledig yn elwa o鈥檙 twf economaidd hefyd
Heddiw (11 Rhagfyr 2014), bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb, yn ymweld 芒 dau fusnes yng nghefn gwlad canolbarth Cymru, yn Aberhonddu a Chrucywel, i ddangos sut mae鈥檙 gwelliant economaidd yn buddio pobol a busnesau鈥檙 ardal.

Dywedodd Mr Crabb:
Ni ddylai twf economaidd yng Nghymru gael ei gyfyngu i鈥檔 trefi a鈥檔 dinasoedd, yn enwedig pan mae gennym gymaint o fusnesau gwych yng nghanolbarth Cymru yn creu swyddi ac yn cefnogi鈥檜 cymunedau.
Rwy鈥檔 benderfynol o weld ein gwlad i gyd yn rhan o鈥檙 adferiad economaidd. Felly, rwy鈥檔 cefnogi busnesau sy鈥檔 awyddus i fuddsoddi yn y canolbarth a chreu cyfleoedd i鈥檙 bobl sy鈥檔 byw yno.
Bydd Mr Crabb yn ymweld 芒 Sharp Clinical 天美影院 yng Nghrucywel, un o is-adrannau Sharp Packaging 天美影院, arweinydd byd-eang mewn gwaith pecynnu contract i鈥檙 diwydiant fferyllol a biotechnoleg. Mae ganddynt sylfaen cleientiaid gadarn o sefydliadau fferyllol mawr ac maent yn cefnogi sawl sefydliad bychan a chanolig nad oes ganddynt fawr o brofiad yn y gadwyn gyflenwi glinigol.
Bydd hefyd yn mynd i T欧-Mawr Lime Limited yn Aberhonddu, cwmni sy鈥檔 arbenigo yn y gwaith o gynhyrchu a dosbarthu deunyddiau adeiladu traddodiadol. Maent hefyd yn darparu cyrsiau hyfforddi mewn sgiliau adeiladu traddodiadol. Ymysg yr adeiladau, sefydliadau a phrosiectau sydd wedi elwa ar gynnyrch ac arbenigedd T欧-Mawr y mae T欧 Aberglasne, Yr Ardd Fotaneg Genedlaethol, Yr Ymddiriedolaeth Tirnodau, Dolbelydr, Eglwys Teilo Sant, Amgueddfa Genedlaethol Cymru ac Eglwys Gadeiriol Caerwrangon.