Y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn galw ar fyfyrwyr i baratoi ar gyfer taliad
Y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn galw ar fyfyrwyr i baratoi ar gyfer taliad

Yn yr wythnosau i ddod, bydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn dosbarthu oddeutu 拢2filiwn o gyllid cynhaliaeth i tua 1 miliwn o fyfyrwyr ar draws y Deyrnas Unedig 鈥 yn eu cefnogi i gael mynediad at gyfleoedd mewn addysg uwch a phellach.
Gyda鈥檙 flwyddyn academaidd nesaf ar fin cychwyn, mae SLC yn annog myfyrwyr i fod yn barod ar gyfer y taliad cyntaf trwy ddilyn ein hawgrymau da.
-
Cofrestrwch yn eich coleg neu brifysgol 鈥 gyda rhai prifysgolion neu golegau, gall myfyrwyr gofrestru o flaen llaw i dderbyn taliadau ar ddiwrnod swyddogol cyntaf eu cwrs. Fodd bynnag, dylai myfyrwyr ddilyn y canllawiau cofrestru a ddarparwyd gan eu darparwr addysg. Nes bydd myfyrwyr yn cofrestru, ni fyddant yn derbyn unrhyw daliad a gall gymryd tri i bum niwrnod i daliadau gyrraedd cyfrif myfyriwr unwaith y bydd wedi cofrestru. Dylai myfyrwyr sicrhau bod ganddynt arian i dalu am unrhyw gostau cychwynnol.
-
Peidiwch 芒 phoeni os ydych chi鈥檔 mynd i fod yn astudio ar-lein i gychwyn oherwydd y pandemig COVID-19 鈥 bydd rhai myfyrwyr yn astudio gartref yn hytrach nag mewn dosbarthiadau. Byddant yn dal i gael eu talu fel arfer ar yr amod eu bod wedi cofrestru ar gyfer eu cwrs. Gweler awgrym 1.
-
Dywedwch wrthym os yw鈥檆h trefniadau byw yn ystod y tymor wedi newid 鈥 Os yw myfyrwyr wedi newid eu cynlluniau o ran ble byddant yn byw yn ystod y tymor 鈥 er enghraifft, byddant yn byw gyda rhieni yn hytrach na symud i ffwrdd 鈥 rhaid iddynt ddiweddaru eu cais yn eu . Mae hyn hefyd yn berthnasol i fyfyrwyr oedd yn bwriadu astudio dramor ond a fydd nawr yn dysgu ar-lein. Gallai methiant i wneud hyn achosi i鈥檙 myfyriwr dderbyn gordaliadau. Bydd yn rhaid i fyfyrwyr ad-dalu unrhyw gyllid sydd wedi ei ordalu a gallai effeithio ar eu cyllid mewn blynyddoedd i ddod.
-
Gwiriwch gyda鈥檆h darparwr i sicrhau nad yw dyddiad cychwyn eich cwrs wedi newid 鈥 Mae eich taliad Benthyciad Cynhaliaeth yn seiliedig ar ddyddiad cychwyn eich cwrs, felly os bydd hynny鈥檔 newid bydd dyddiad eich taliad cyntaf yn newid hefyd. Os oes amheuon gennych, gwiriwch gyda鈥檆h prifysgol neu goleg.
-
Sicrhewch eich bod wedi darparu manylion banc cyfredol 鈥 yn aml pan fydd myfyriwr yn mynd i鈥檙 coleg neu brifysgol bydd yn agor cyfrif banc newydd. Mae鈥檔 bwysig bod y myfyriwr yn diweddaru ei gyda鈥檙 manylion newydd i sicrhau bod ei arian yn mynd i鈥檙 man cywir.
-
Darparwch unrhyw dystiolaeth y gofynnwyd amdani cyn gynted 芒 phosibl 鈥 efallai y gofynnir i rieni, gofalwyr a phartneriaid i ddarparu gwybodaeth a thystiolaeth ariannol hefyd. Dylent wneud hyn trwy eu cyfrif ar-lein eu hunain y gellir ei sefydlu ar . Mae modd lanlwytho鈥檙 rhan fwyaf o dystiolaeth ar-lein trwy wasanaeth lanlwytho digidol newydd SLC sydd hefyd ar gael trwy eu cyfrif ar-lein.
-
Gwiriwch statws eich taliadau. Gall myfyrwyr weld eu hamserlen taliadau a gwirio statws eu taliadau trwy eu cyfrifon ar-lein. Cymrwch olwg ar i weld esboniad o beth mae pob un o鈥檙 statysau taliadau yn ei olygu.
-
Dywedwch wrthym os yw incwm eich rhiant, gofalwr neu bartner wedi newid. Os yw myfyriwr wedi gwneud cais am Fenthyciad Cynhaliaeth yn seiliedig ar incwm y cartref, byddai wedi gorfod darparu manylion ar gyfer blwyddyn dreth 2018-19. Os yw incwm blynyddol y cartref wedi gostwng o fwy na 15%, gall wneud cais i ddefnyddio ei incwm a amcangyfrifir ar gyfer y flwyddyn dreth gyfredol yn hytrach. Dysgwch fwy am gefnogi cais eich plentyn neu bartner
-
Rhowch wybod i ni cyn gynted 芒 phosibl os ydych chi鈥檔 bwriadu atal neu dynnu allan o鈥檆h astudiaethau Os bydd myfyriwr yn bwriadu gadael neu atal ei gwrs, mae鈥檔 bwysig ystyried yr effaith ar eu hanghenion cyllid. Dylai siarad gyda鈥檌 brifysgol neu goleg a rhoi gwybod i SLC am unrhyw newidiadau cyn gynted 芒 phosibl. Cewch ragor o wybodaeth yma
Gallwn helpu gydag ymholiadau trwy gyfryngau cymdeithasol, felly dilynwch Gyllid Myfyrwyr Cymru ar Twitter @SF_Wales a Facebook
Meddai Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau SLC Derek Ross: 鈥淢ae hyn yn gyfnod prysur i fyfyrwyr wrth iddynt baratoi i gychwyn neu ddychwelyd i鈥檞 prifysgol neu goleg. Rydyn ni鈥檔 gwneud popeth posibl i sicrhau bod y broses taliadau mor esmwyth 芒 phosibl i fyfyrwyr, a gallant wneud eu rhan trwy ddilyn ein cyngor. Rydym yn gwerthfawrogi y bydd gan rai myfyrwyr newidiadau i鈥檞 gwneud i鈥檞 cwrs, prifysgol neu goleg o hyd, ac mae鈥檔 allweddol eu bod yn diweddaru eu gwybodaeth ar-lein cyn gynted 芒 phosibl i sicrhau bod eu cyllid yn ei le ar ddechrau鈥檙 tymor.
鈥淢ae ein canolfannau cyswllt ar agor yn ddyddiol ac mae yna hefyd lawer o wybodaeth ar gael ar ac ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i helpu myfyrwyr, a鈥檜 rhieni a phartneriaid, i baratoi ar gyfer taliad yn yr hydref.鈥
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch 芒 swyddfa鈥檙 wasg y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr ar 0141 306 2120 / press_office@slc.co.uk